Braf iawn oedd cael bod yn bresennol yn lansiad y nofel Hiraeth Neifion gan Simon Chandler yn Siop Lyfrau’r Hen Bost, ar y 24ain o Fehefin, a diolch iddyn nhw am ddarparu gofod hyfryd ar gyfer noson hamddenol.
Wrth gyrraedd y siop roedd cerddoriaeth jazz i’w glywed ar y stryd a hwnnw’n dod oddi ar drac sain arbennig a grëwyd gan yr awdur i gyd-fynd â’r nofel ar blatfform Spotify. Mae’n cynnwys caneuon sy’n berthnasol i fywyd a magwraeth y prif gymeriad, ym Mlaenau Ffestiniog, yn ogystal â chaneuon jazz y 1920au sy’n ymddangos yn y nofel. Gosododd hyn y naws ar gyfer y noson.
Roedd hen Siop Esi yn llawn i’r ymylon wrth i’r gynulleidfa luosog fwynhau clywed Simon Chandler yn cael ei holi’n ddeheuig gan Nia Roberts, Golygydd Creadigol Gwasg Carreg Gwalch am y profiad o ysgrifennu’r nofel hon a’r holl ymchwil a fu’n rhan o’r broses.
Dechreuodd Simon drwy sôn am sut y mae wedi syrthio mewn cariad â Blaenau Ffestiniog, a sut y bu i ymweliad â Chwarel Llechwedd ei ysbrydoli i ddysgu’r Gymraeg.
Roedd pawb yn rhyfeddu at ei Gymraeg coeth a’i gystrawen gywrain wrth iddo esbonio mai Ifan Williams, hogyn o Flaenau Ffestiniog yw prif gymeriad y nofel hon, ac wrth iddo ddianc o ddyfodol diflas a pheryglus yn Chwarel Llechwedd daw’n bianydd jazz proffesiynol yn ninas Berlin.
Er mai nofel ffuglennol yw hon, mae rhai cymeriadau, megis y Natsïaid Hitler a Goebbels, a’r cerddor jazz enwog, Louis Armstrong, yn bobol go iawn.
Aeth Simon ymlaen i sôn am sut y bu iddo gynnwys rhai o’i deulu ei hun yn y stori: mae landlord y prif gymeriad, Ifan Williams, yn Llundain yn daid iddo!
Eglurodd Simon, ‘A finnau'n gwybod y byddai'n rhaid i Ifan ddod o hyd i lety yn ystod ei gyfnod yn Llundain pan oedd yn hogi'i grefft yn bianydd jazz, roedd hi'n ddewis amlwg iddo aros yn y tŷ lle y cafodd fy nhad ei fagu, sef 20 Kirkstall Avenue, Tottenham. Oddi yno gallai seiclo i’r Kit-Kat Club ( y clwb go iawn lle bu’n gweithio am sbel) a Soho’ (lleoliad y clwb jazz ffuglennol Chicago Red).
Wrth i Nia ei holi am y llinyn stori garu yn y nofel, dywedodd ei fod yn angenrheidiol iddo gynnwys y thema hon, gan y byddai nofel heb rywfaint o ramant fel pryd o fwyd heb halen!
Wrth drafod yn ystod y noson cafwyd cyfraniadau awduron a chyfeillion eraill yn y gynulleidfa wrth iddyn nhw sôn am y broses ysgrifennu a dechrau nofel yn arbennig, a’r ysbrydoliaeth sydd angen i ddysgu Cymraeg. [Gweler er enghraifft erthygl Martin Coleman -gol.]
Cafwyd darlleniadau o’r nofel gan Simon Chandler ei hun a phawb wrth eu boddau yn gwrando arno.
Profiad arbennig iawn oedd cael treulio amser yng nghwmni’r gŵr bonheddig o awdur hwn sydd drwy ysgrifennu’r nofel hon, a’i nofel flaenorol Llygad Dieithryn, wedi rhoi sylw cadarnhaol i Flaenau Ffestiniog, sy’n destun balchder i’r trigolion. Mae nofel arall ar y gweill ganddo eto, ac edrychwn ymlaen at ei groesawu’n ôl i’r ardal pan ddaw’r amser.
Yn y cyfamser mae Hiraeth Neifion gan Simon Chandler ar gael yn Siop Lyfrau’r Hen Bost: £9.99
Delyth Medi Jones
- - - - -
Mae’n werth rhannu englyn Simon i’r Blaenau eto yn nhudalennau Llafar Bro. Diolch iddo am roi enw da i Stiniog am am gefnogi ein papur bro yn gyson. Gol.
Fy ’Stiniog i
Rhyw dynfa sydd ar donfedd – fy enaid,
yn faner i’r gogledd
a maen addurna fy medd:
taenwch fy llwch yn LlechweddSimon Chandler
- - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2025
Erthygl gan Simon yn cyflwyno'i nofel
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon