Erthygl o lyfr 'Pigion Llafar 1975-1999'
Mehefin 1881
Cwympiad y viaduct fawr ym mlaen Cwm Prysor ydoedd prif destun siarad y boblogaeth. Roedd y bont fawr hon yn cael ei hadeiladu er mwyn i’r trên o’r Bala i Ffestiniog fyned trosti uwchben pant lle y rhed afon Nant y Lladron. Yr oedd yma naw o golofnau anferth o gerrig yn cael eu hadeiladu. Ceir y meini o ffriddoedd Blaen y Cwm.
Fore’r Sulgwyn, tua wyth o’r gloch clywai rhai o’r bobl a drigai yn yr hut, gerllaw i’r afon, sŵn clecian, a rhoddwyd rhybudd yn ddi-oed i symud, ac felly y bu, rhai heb ymwisgo, ac ar eiliad wele dair colofn a phedwar bwa, yn dymchwel yn un pentwr i’r ceunant oddi tanodd. Bydd y golled yn rhai miloedd o bunnau.
![]() |
Pont Fawr Cwm Prysor yn 2025. Llun Paul W |
Dywedir fod y meini yn rhy fregus o drawsdoriad i feddwl byth iddynt ddal pwysau y fath golofnau anferth a’r bwáu. Diau nas gwelwyd yn aml y fath waith yn cael ei godi a meini mor fân heb rai digon o hyd i glymu’r gwaith yn briodol, bob llathen ohono. Fel y sylwai gweithwyr ar y lle yn briodol, fe ymddibynnai yn llawer gormod ar y mortar. Mynnai y gweithiwr celfydd a gonest, Mr John Williams, saer maen o Landderfel, gael meini llawer gwell a brasach. Ac wedi rhyw flwyddyn a hanner, wele ddymchweliad ar eiliad fore Sulgwyn 1881.
Cyfryngodd rhagluniaeth mewn modd trugarog, rhag bod y gweithwyr yn cael eu dymchwel, a’u lladd. Gallasai y gyflafan fod yn un erchyll. Diau y bydd i’r anffawd hon daflu dydd gorffeniad y llinell ymhellach eto o ddeuddeng mis o leiaf.
-------------------------------------------
Mae'n debyg ei fod wedi'i godi o hen bapur, o bosib Y Rhedegydd, ond ymddangosodd yn y ffurf uchod yn rhifyn Medi 1983 Llafar Bro, ac yna yn llyfr 'Pigion Llafar 1975-1999' a gyhoeddwyd yn 2000 i ddathlu'r milflwydd.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon