Hen bennod o gyfres boblogaidd Steffan ab Owain
Un o’r pethau yr ymddiddoraf ynddynt ar hyn o bryd ydi cerrig ysgrifen, h.y. cerrig (a chreigiau) gyda hen graffiti yn dyddio o’r blynyddoedd c. 1600-1900 ac yn cynnwys enwau, dyddiadau, enwau cartrefi a brasluniau diddorol.
Mae’n bosib eich bod yn gyfarwydd a rhai yn nalgylch Llafar Bro oherwydd nid ydynt mor anghyffredin yn yr ardaloedd hyn. Sylwais yn ddiweddar pan oeddwn allan am dro ... rhwng cawodydd ... fod llawer o enwau a dyddiadau ar fur-ganllawiau’r grisiau sy’n arwain at y Bont-ddu ger Rhaeadr Cynfal. Wrth edrych ar y gwahanol enwau gwelais fod enw ‘Derfel, Llandderfel, 1880’ yn un o’r rhai amlycaf yn eu plith.
Tybed ai’r un Derfel yw hwn a’r un a fyddai’n cerfio ar gerrig beddau (saer cerrig beddau) ac y gwelir ei enw ar lawer beddfaen yn ein mynwentydd? Pwy all ddweud mwy andano wrthym? A chofiwch, os gwyddoch chi am ambell enghraifft dda o gerrig ysgrifen yn rhywle, gadewch i ni gael clywed amdanynt.
![]() |
Grisiau Rhaeadr Gynfal- llun Jeremy Bolwell CC BY-SA 2.0 |
Cerrig terfyn a cherrig milltir.
Ar un adeg byddai amrywiaeth o gerrig terfyn a cherrig milltir yn ein bro, oni byddai? Bellach, mae nifer o hen gerrig terfyn ein chwareli wedi syrthio yn wastad â’r llawr ac yn brysur ddiflannu o dan dyfiant a mwsog. Sut bynnag, ar y Migneint gwelir gerrig terfyn gyda ‘T.M.C. 1864’ arnynt.
Bum am rai blynyddoedd yn methu a dirnad beth a olyga’r llythrennau hyn arnynt, ond ar ôl eistedd a meddwl am funud, cofiais fod un o’r enw T.M. Carter wedi bod yn berchennog ar Chwarel y Foelgron, a phan gefais gadarnhad mai yn ystod y flwyddyn uchod y dechreuodd ef ei gweithio ... syrthiodd pethau i’w lle yn weddol daclus. Eto i gyd, hoffwn wbod beth oedd enwau cyntaf Mr Carter.
Darllenais mewn cylchgrawn fod cymaint a 46 (os nad 50) o gerrig milltir wedi eu gwneud ar gyfer y rheilffordd gul pan agorwyd hi gyntaf yn 1836. Golyga hyn iddynt osod y cerrig pob rhyw chwarter milltir oddi wrth eu gilydd ... ac ar y ddwy ochr i’r rheilffordd, h.y. bob yn ail.
Wrth gwrs, son yr wyf am oes y ceffylau a phan oedd trafnidiaeth y byd yn bwyllog, a byddai teithwyr yn sylwi ar y cerrig milltir. Wedi i mi ddarllen am hyn, meddyliais mewn difrif, i ble’r aeth yr holl gerrig hyn ar ddiwedd eu hoes? Deallaf i un ohonynt gael ei hail-gylchu a’i defnyddio fel carreg llawr ym mhlasdy’r Dduallt mewn cyfnod diweddarach.
-----------------------------
Rhan o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf 1998.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen STOLPIA.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon