27.2.23

Bwrlwm Y Dref Werdd

Mae 2022 wedi bod yn flwyddyn hynod o brysur gyda sawl prosiect newydd wedi ei sefydlu i gefnogi pobl y gymuned, yn enwedig yn sgîl yr argyfwng costau byw.

 

 

Warden Ynni Cymunedol
Yn swyddfa’r Dref Werdd mae Tanya, ein Warden Ynni Cymunedol. Mae Tanya wedi cael ei chyflogi ers mis Awst 2022. Dyma rhai o ddyletswyddau Tanya:

•    rhoi cyngor a chefnogaeth i drigolion er mwyn lleihau eu defnydd ynni
•    helpu gyda biliau, dyledion a gwneud ceisiadau
•    cyfeirio pobl i gael gratiau ECO4 neu Nyth
•    rhoi mesuriadau arbed ynni fel bylbiau LED a rhoi deunyddiau atal drafftiau i drigolion
Yn ddiweddar mae Tanya wedi cymhwyso fel Aseswr Ynni Domestig Lefel 3. Mae ei swydd hefyd yn parhau ac mae hi nawr yn cynghori trigolion Gwynedd ar effeithiolrwydd cael synwyryddion Carbon Monocsid a hefyd iddynt fod yn ymwybodol o’r peryglon.

Canolfan Galw Mewn
Cofiwch biciad mewn i’n Canolfan Galw Mewn yn 5 Stryd Fawr i weld Rhian neu Marged ar Ddyddiau Llun, Mercher neu Gwener rhwng 10yb a 4yp i gael gwybodaeth a chefnogaeth ar bob math o faterion llesiant. Bydd apwyntiadau ar gael gyda gweithiwr Cyngor Ar Bopeth bob yn ail Ddydd Mercher, rhwng 10yb a 12yp – mae gwneud apwyntiad yn hanfodol. Cysylltwch ar 01766 830082.

HWB: Cefnogi Cymuned
Bu 2022 yn flwyddyn digon prysur yn yr HWB gyda phrosiectau ‘Dod yn ôl at dy Goed’, ‘Cynefin Chymuned i Blant' a ‘Sgwrs’ yn parhau’n llwyddiannus.

Trefnwyd taith dywys i fyny’r Moelwyn Mawr, sesiynau cerddoriaeth, celf a Tai Chi, teithiau natur, meddylgarwch a dysgu am fadarch gwyllt. Cawsom ymweld â’r Ysgwrn a Gweilch Glaslyn, sesiynau dan do yn gwnïo nadroedd atal-drafftiau a chwarae gemau bwrdd, a chawsom ddigonedd o baneidiau yn y coed! 

Mae’r cynllun am ddim, ar agor i unrhyw un, ac yn rhoi cyfle i bobl gymdeithasu, bod yn actif a dysgu sgiliau newydd. Bydd llawer mwy o weithgareddau yn cael eu trefnu eleni. Os oes gennych chi ddiddordeb ymuno, cysylltwch â Non ar 07385 783340 neu non@drefwerdd.cymru

Sesiwn grefftau y Dref Werdd
Bu i 12 o ddisgyblion ysgolion dalgylch Bro Ffestiniog gychwyn cwrs Cynefin a Chymuned i Blant yn ystod gwyliau’r haf. Trefnwyd 6 sesiwn yn ein coedlan dros y gwyliau a sesiynau misol wedyn. 

Hyd yn hyn rydym wedi bod ar daith hanes i Domen y Mur gydag Elfed Wyn ap Elwyn, taith natur Calan Gaeaf yng nghwmni Catrin Roberts a Gai Toms, taith hanes Cwmorthin gyda Pred Hughes, ac wedi bod i lanhau traeth Cricieth a dysgu am fywyd gwyllt yr arfordir gydag Eurig Joniver. 

Mae’r criw yn mwynhau’n arw. Diolch i’r arweinwyr am eu cyfraniad i addysg y bobl ifanc.

Mae gwirfoddolwyr prysur ein cynllun cyfeillio dros y ffôn, Sgwrs, yn parhau i gefnogi eu ffrindiau ffôn. I ddangos ein diolch iddynt, ac i ddathlu dwy flynedd o’r prosiect, trefnwyd te prynhawn iddynt yn Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth ym mis Tachwedd. Roedd yn braf i’r rhai oedd yn sgwrsio â’i gilydd allu cyfarfod wyneb i wyneb am y tro cyntaf ar ôl bod yn sgwrsio ar y ffôn am gyfnod hir. Diolch iddyn nhw, maen nhw’n gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau’r rhai maent yn eu helpu. Os oes gennych chi ddiddordeb bod yn rhan o’r cynllun, cysylltwch.

Gardd Fywyd Gwyllt Hafan Deg

Gwyddom oll fod natur ar drai, a bywyd gwyllt dan fygythiad. Gan weithio ochr yn ochr â chymuned Bro Ffestiniog, mae’r Dref Werdd wedi ymrwymo i greu, adfer a gwella byd natur ‘ar eich stepen drws’.

Felly, yn dilyn llwyddiant yr Ardd Lysiau Gymunedol yn Hafan Deg, mae prosiect cyffrous newydd ar y gweill sef Gardd Fywyd Gwyllt Gymunedol yn Nhanygrisiau.

Mewn partneriaeth ag Adra a Cadw Cymru’n Daclus, byddwn yn troi darn o dir nad yw’n cael ei ddefnyddio yn hafan i fywyd gwyllt i bawb ei fwynhau. Bydd perllan, wedi'i phlannu â choed ffrwythau treftadaeth Gymreig, coedlan ffrwythau a chnau gwyllt (collen, criafolen, draenen ayyb), gwrychoedd, dôl blodau gwyllt, a 'gardd gors' i annog pob math o fywyd gwyllt. Bydd gwelyau uchel i greu 'gardd synhwyraidd' yn cynnwys perlysiau, ffrwythau meddal, blodau, a bwydydd bwytadwy fel garlleg gwyllt.

Bydd angen gwneud LLAWER o waith! Ond bydd yr ardd hon yn perthyn i’r gymuned gyfan, ac edrychwn ymlaen at groesawu pawb sydd eisiau dod i helpu a dod â’r ardd hon yn fyw!

Am fwy o fanylion, ebostiwch meg@drefwerdd.cymru

Dros fisoedd yr haf bu’r criw amgylcheddol yn brysur yn datblygu pwll bywyd gwyllt ger ein coedlan ddim ymhell o’r dref. Mae pyllau yn hanfodol er mwyn cynnal bywyd gwyllt ac roeddem wedi meddwl y byddai’n rhaid disgwyl am gyfnod cyn gweld llawer yno ond o fewn ychydig fisoedd, rydym wedi gweld llyffant, yn ogystal ag amryw o bryfetach dyfrol. Edrychwn ymlaen at weld bywyd gwyllt yn ffynnu yn y pwll eleni.

Mae Megan Elin, ein Cynorthwyydd Amgylcheddol, wedi cychwyn prosiect ‘Casglu a Chysylltu’, sef ymgyrch i gynnal gweithgareddau casglu sbwriel gan gymdeithasu ag eraill. Mae ambell i sesiwn wedi ei chynnal yn nhraeth Morfa Bychan gyda 12 bag sbwriel wedi eu hel. Os oes gennych ymholiadau am y prosiect yma, cysylltwch â Megan Elin ar meganelin@drefwerdd.cymru
- - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2023



23.2.23

Saint Bro Ffestiniog

“Nyd oes wlad yn holl Gred o gymaint o dir a chymaint o saint ynddei ag oedd gynt ymhlith Cymbry.” 

Daw’r frawddeg hynod hon o un o lyfrau godidocaf ein cenedl annwyl – Y Drych Cristionogawl – sef y llyfr Cymraeg cyntaf erioed i’w hargraffu ar dir Cymru, a hynny yn anghyfreithlon, mewn ogof ger Llandudno yn 1587. 

Mae gan ardal Llafar Bro ei saint hefyd. Dyma ddisgrifiad byr o hanes bywyd anhygoel rhai ohonynt - gŵyr a gwragedd digon cyffredin a fu’n byw bywydau anghyffredin, yn aml mewn amgylchiadau eithafol iawn. Cyraeddasant sancteiddrwydd mawr yn yr ardal hon yr ydym yn byw ynddi heddiw, a hyn yng nghyfnod ffurfiant y genedl Gymreig, yn y bumed a’r chweched ganrif. 

Trafodir yma hefyd yn fras ambell sant o’r dalgylch ehangach sy’n ymddangos ar yr eicon hynod ‘Saint Bro Ffestiniog’ a geir yn Eglwys Holl Saint Cymru yn y Manod. 


Copi o eicon ‘Saint Bro Ffestiniog’ sydd yn Eglwys Uniongred Holl Saint Cymru yn y Manod

Twrog Sant
Nawddsant Maentwrog, yr enwir y pentref ar ei ôl. Ei ddydd gŵyl yw 26 Mehefin. Credir ei fod yn fab i Ithel Hael o Lydaw, a daeth i Gymru gyda Chadfan Sant yn y chweched ganrif. Roedd Twrog yn ddisgybl i Beuno Sant, ac ef, mae’n debyg a sgrifennodd y llyfr hynod ‘Llyfr Beuno Sant’ a elwid hefyd wrth yr enw ‘Tiboeth.’ Beth oedd y llyfr hwn, ni wyddir yn iawn, ond roedd carreg ddu solet ynddo. Copi o’r Efengylau neu Lyfr Offeren ydoedd mae’n debyg, ac fe gafodd ei achub o eglwys Clynnog Fawr pan aeth y lle ar dân. Credir mai dyna sut cafodd y llyfr ei enw Tiboeth (hynny yw, di-boeth - llyfr a ddihangodd yn ddianaf o’r tân). Diflannodd y llyfr rywbryd yn yr unfed ganrif ar bymtheg, sy’n golygu y goroesodd am fil o flynyddoedd. 

Cododd Twrog gell iddo’i hun gan ddefnyddio gwiail o dir corslyd dyffryn Ffestiniog. Yma bu’n byw bywyd o galedi, unigrwydd, gweddi, a thawelwch, yn ymladd â’i natur ei hun. Yn ôl yr hanes, taflodd faen enfawr o gopa’r Moelwyn Mawr ar ben allor paganaidd a’i chwalu’n chwilfriw. Hwn yw Maen Twrog – y garreg dywodfaen metr o uchder a saif ger wal yr eglwys, a rydd ei henw i’r pentref. Yn wir – mae ôl bysedd y sant i’w gweld arni hyd heddiw. 

Cysylltir y garreg hon hefyd â bedd Pryderi o bedwaredd gainc y Mabinogi:

“Ac oherwydd nerth, grym a chryfder, a hyd a lledrith, Gwydion a drechodd a lladdwyd Pryderi, ac ym Maen Twrog uwchben y Felenrhyd y’i claddwyd ac yno mae ei fedd.”
Yn niwloedd hanes, mae’r stori am Twrog Sant a’i garreg wedi ei gysylltu â hanes ‘Twrog Gawr’. Ond mae un peth yn sicr – mai cawr ysbrydol oedd Twrog Sant.

Y Santesau Madryn ac Anhun
Nawddsantesau Trawsfynydd. Tywysoges oedd Madryn, a’i morwyn oedd Anhun. Roedd Madryn yn wyres i Gwrtheyrn Gwrthenau, a wahoddodd yr Eingl Sacosoniad i Brydain. Oherwydd y weithred hon, trodd y brodorion Celtaidd ar y teulu, a gorfu iddynt ffoi o Sir Fynwy i Ben Llŷn, cyn gorfod ffoi o’r fan honno hefyd am eu bywydau. Byw fel ffoaduriaid fu eu hanes. Yna, wrth gyd-deithio un diwrnod, ar bererindod i Enlli o bosib, cysgodd y ddwy y nos yn Nhrawsfynydd. Y bore canlynol, canfuasant iddynt glywed yr un llais yn union yn llefaru wrthynt yn y nos – llais a ddywedodd wrthynt yn glir

Adeiladwch eglwys yma.” 

Gan gymryd hynny’n arwydd gan Dduw, dyna a wnaethant, gan fyw yno fywyd o ddiweirdeb. Aethant maes o law i Gernyw a sefydlu cymuned o leianod yn y fan honno. 

Brothen Sant
Nawddsant Llanfrothen. Un o feibion niferus Helig ap Glanawg, y boddwyd ei dir gan y môr oddi ar arfordir Penmaenmawr. Dyma dir ‘Llys Helyg’. Wedi’r drychineb hon, a cholli popeth, daeth y tad a’r meibion hwythau yn fynaich. 

Gwyddelan Sant
Nawddsant Dolwyddelan. Gwyddel a ddaeth i Gymru yn gennad Cristnogol yn y bumed ganrif. Ei wylmabsant yw Awst 16. Mae ei ffynnon sanctaidd y tu ôl i westy Castell Elen ac eid â phlant gwantan yno i gael iachâd. Dywedir fod cloch law o’i eiddo ar gadw yn y Gwydir yn Llanrwst. 

Tecwyn Sant
Nawddsant Llandecwyn, a brawd i Twrog Sant – nawddsant Maentwrog. Roedd yn byw yn y chweched ganrif -  a threuliodd gyfnod ar Ynys Enlli. 

Cledwyn Sant a Tudclud Sant
Nawddsaint Penmachno. Brenin oedd Cledwyn, a mab hynaf Brychan Brycheiniog. Arferai hen eglwys fod ym Mhenmachno wedi ei chysegru i ‘Sant Enclydwyn’. Mae’n bosib iawn ei bod yn eglwys fynachaidd. Mae’r eglwys bresennol wedi ei chysegru i Tudclud Sant – un o saith mab yr enwog Seithennyn, y boddwyd Cantre’r Gwaelod drwy ei esgeulustod. Dethlir gwylmabsant Tudclud Sant ar Fai 30. 

GLJ

- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Ionawr 2022




19.2.23

Y Gymraeg yn ardal Llafar Bro

Canlyniadau Cyfrifiad 2021

Ym mis Rhagfyr 2022, rhyddhawyd y ffigyrau am y Gymraeg o’r cyfrifiad a gynhaliwyd yn 2021. Siom oedd gweld fod y nifer sy’n siarad Cymraeg yng Nghymru wedi syrthio eto, o 562 mil yn 2011 i 538 mil yn 2021. Dyna i chi golled o bron iawn i bedair mil ar hugain o siaradwyr mewn degawd. 

Cwympodd y ganran o 19 y cant i 17.2. Ond os oedd y cwymp yn destun siom, yn sicr nid oedd yn destun syndod. Mae’r diffyg buddsoddi yn ein broydd Cymraeg yn arbennig yn dal i orfodi pobl ifanc i adael eu hardaloedd am borfeydd brasach. At hyn, mae’r hyrwyddo mawr ar dwristiaeth yn dod â phobl yma yn eu heidiau, ac o ganlyniad, ail dai a thai gwyliau dirifedi yn eu sgil, sy’n gwthio prisiau cartrefi ymhellach o afael pobl leol. 

Ychwaneger at hyn y ‘ras am le’ a welwyd ar ôl y cyfnod clo, lle gwelwyd miloedd o dai yn y Gymru wledig yn cael eu prynu gan bobl o swbwrbia’r dinasoedd mawrion a oedd yn ysu am gael byw yn y wlad, ac a allent wneud hynny, nawr eu bod yn gweithio o gartref. 

Ac ar ben hynny, mae poblogaeth naturiol Cymru yn syrthio. Syrthiodd y nifer o bobl a anwyd yng Nghymru o 11,000 rhwng y ddau gyfrifiad diwethaf. Mae’r twf o 44,000 a welwyd ym mhoblogaeth Cymru dros y degawd diwethaf i gyd felly oherwydd mewnlifiad. Ac fel y cyfaddefa Llywodraeth Cymru: “Rydym yn gwybod o gyfrifiadau blaenorol bod pobl a gafodd eu geni y tu allan i Gymru yn llai tebygol o lawer o ddweud eu bod yn siarad Cymraeg na phobl a gafodd eu geni yng Nghymru.” 

Mae sawl rheswm am hyn wrth gwrs, gan gynnwys diffyg cyfleoedd ac anogaeth ac ysgogiad gwirioneddol i ddysgu’r iaith. 

Yma yn ardal Llafar Bro, gwelwyd cwymp yn y niferoedd sy’n medru’r iaith dros y ddau ddegawd diwethaf. 

Sylwer ar y seren fach (*) ar ôl ffigyrau 2021. Mae hyn oherwydd nad yw’r ffigyrau swyddogol ar gyfer cymunedau ar gael eto. Cyfrifwyd y ffigyrau hyn drwy wneud cryn dipyn o waith syms, a ni allaf ond gobeithio felly nad ydynt yn rhy bell o’u lle.

Serch y dirywiad, mae’r iaith yn dal ei thir yn o lew yma. O edrych ar yr hyn a elwir wrth yr enw trwsgl iawn ‘Ardal Cynnyrch Ehangach Haen Ganol’ Blaenau Ffestiniog a Thrawsfynydd – sef ardal Llafar Bro i gyd yn gyfleus iawn, gwelwn fod y ganran sy’n medru’r iaith yma yn 77.1%.

O fewn yr ardal hon, mae ardaloedd llai, ac mae rhai o’r rhain dros 80%. Mae Glanypwll a dwy ran o ganol tref y Blaenau, er enghraifft, yn yr wythdegau uchel o ran canran siaradwyr Cymraeg. Mae rhan o’r Manod dros 80% hefyd, a’r rhan helaethaf o Danygrisiau a phlwyf Trawsfynydd. Mae Rhyd-y-sarn a Llan ill dau dros y 70%. Nid yw’r sefyllfa gystal mewn rhai rhannau eraill o’r fro. Y ganran yng ngwaelod Tanygrisiau a Dolrhedyn yw 67%. Ac mae Gellilydan, Maentwrog a dalgylch Tan y Bwlch o dan y 70% hefyd.  

Ystyrir y trothwy o 70% yn allweddol ym myd ieithyddiaeth. 

Fe’i gwelir fel rhyw fath o glorian – pan fo canran siaradwyr iaith wannach mewn cymuned yn mynd o dan 70%, yna dyna pryd mae iaith y gymuned yn dechrau troi i’r iaith gryfaf. Mae 70% yn swnio’n uchel iawn i hyn ddigwydd. Ond ystyriwch hyn - os oes grŵp o ddeg wrth fwrdd bwyd dyweder, neu ar gyngor plwy, a bod tri yn ddi-Gymraeg, yna buan y try’r sgwrs i’r Saesneg. 

Mae sylweddoliad hefyd ym maes ieithyddiaeth mai ar lawr gwlad, yn yr ymwneud cymunedol rhwng pobl â’i gilydd, yr enillir neu y collir y frwydr dros ddyfodol iaith fel iaith gymunedol. 

Dyma ddeg peth bach y gall bob un ohonom eu gwneud y flwyddyn hon i helpu cynnal y Gymraeg yn ein bro:

1.    Dechrau a gorffen bob sgwrs yn Gymraeg
2.    Siarad Cymraeg efo pawb sy’n medru’r iaith
3.    Pwyso’r botwm ‘Cymraeg’ ar beiriannu twll yn y wal a pheiriannau hunan wasanaeth mewn archfarchnadoedd
4.    Prynu cynnyrch efo’r Gymraeg arno – fel llefrith, menyn, caws, wyau, iogwrt ac ati.
5.    Os oes grŵp ardal ar y cyfryngau cymdeithasol – ysgrifennu yn Gymraeg bob tro.
6.    Siarad Cymraeg efo dysgwyr, a’u canmol.
7.    Os oes gennych gwmni neu fusnes, rhoi enw Cymraeg arno, a defnyddio cymaint o’r Gymraeg â phosib – arwyddion, biliau, ateb y ffôn ac ati.
8.    Dewis gwasanaethau a chwmnïau sy’n defnyddio’r Gymraeg os yn bosib.
9.    Gofyn yn gwrtais am ddeunydd marchnata a gwasanaethau yn Gymraeg os nad oes rhai ar gael. 10.    Cefnogi mudiadau a chymdeithasau lleol.
Glyn Lasarus Jones
- - - - - - - - - - -- - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol ar dudalen flaen rhifyn Ionawr 2023




15.2.23

Hanes Rygbi. 1977-80

Parhau cyfres Gwynne Williams

Gorffennaf 1977
Paswyd Cyfansoddiad swyddogol Cyntaf Clwb Rygbi Bro FFestiniog
Pwyllgor Merched yn Bwrlwm Blaenau. Elw £290

Awst 1977     Gwaith adnewyddu yn y Pafiliwn ym Mhont y Pant
Medi 1977    Ffurfio ail dîm Bro II (Capten Jon Heath/Eryl Owain)
Noson Dafydd Iwan yn Gloddfa Ganol Elw o + £100

11 Tachwedd Ennill y gêm gyntaf i Bro II o dan Eryl Owain
Bro II 13 v Porthmadog 4 (Cais Meirion Jones/Cais, trosiad, cic cosb Bryn C Roberts)

Tîm 1af       CH 12      E 4         C8
2il dîm        CH 2        E 1         C 1
Cyfethol Michael Jones ar y Pwyllgor
Disco Gloddfa Ganol £3/Noson Ganolfan Port £212 o elw
Aelodaeth 42 Cyffredin 12 Chwaraewyr

1978
Ionawr. Prynu CRYSAU newydd -gwyrdd a gwyn £117.00 am 15
Porthmadog v Bro -Tony Coleman dal i chwarae y gêm er ei fod wedi torri ei goes!

25 Ebrill -Is lywydd Anrhydeddus -Gerald Davies, Asgellwr Cymru
Chwaraewr y Flwyddyn    Graham Thomas
Chwaraewr Mwyaf Addawol    Dafydd James
Clwbddyn     Dei Griff Roberts
29 Ebrill -Cystadleuaeth 7 bob ochr, Dolawel

16 Fai 1978      Cyfarfod Blynyddol (Gwesty North Western) (Presennol 26)
Ethol 1978/1979    Cad Dr Boyns/Ysg Merfyn C Williams /Trys Glyn E Jones
Gemau Trefor Humphreys/Aelodaeth Bryn C Roberts/Cae Gwynne/Gwasg Bryan Davies
Hyff Huw Joshua/Capt tîm 1af Elfed Roberts/Capt 2il dîm Jon Heath. arall Michael Jones
Gwariant £6 206, Dau gawod a bath ym Mhont y Pant a £245 am ffenestri
29 Fedi -Ras Bram -15 Pram/ 7 Tŷ Tafarn 

1979
Mai 1979 Cyfarfod Blynyddol (Gwesty’r North Western)
Tony Coleman –Tlws Chwaraewr y Flwyddyn 2ail Dim

1979/1980
Newid swyddogion- Gemau Michael Jones /Aelodaeth Raymond Cunnington/Gwasg Jon Heath/Hyffordwr 2il dîm Bryn C Roberts/arall Gareth Davies
Llywydd Dafydd Elis Thomas/Llywydd Anrhydeddus am Oes Cyngh R H Roberts

Mehefin 1979        Cinio Blynyddol
Chwaraewr y Flwyddyn Gareth Davies
Mwyaf Addawol Gwilym James; Mwyaf Addawol II Ken Roberts/Clwbddyn Jon Heath 

22 Rhagfyr.  Bro 30 - Nant Conwy 6 (gêm gyntaf clwb Nant Conwy)
Cais Myrddin ap Dafydd (Archdderwydd Cymru erbyn hyn)

1980
Ionawr     Cwyno am dyllau twrch daear fel mynyddoedd ym Mhont y Pant!
Chwefror  Bath NEWYDD wedi ei osod

12 Fai 1980 Cyfarfod Blynyddol(Gwesty Queens) (Presennol 20)
Capten 2ail oedd R A Davies (Popeye) 1979/1980  Ond bu’n rhaid canslo 12 gêm
Capten 1af Elfed     Ch 24        C 18        E 6

Swyddogion newydd 1980/1981  Capt 1af Gwilym James Capt 2il Michael Jones/Hyff WAG
Aelodau Pwyllgor cynnar y Clwb -Glyn E Jones, Alun Jones, Gwynne Williams, Elfed O Jones, Merfyn C Williams, Tony Coleman, Nigel Bloor,Trefor Wood, Dr Arthur Boyns, Bryn Calvin Roberts, Ieuan Evans, Huw Joshua, Michael Jones, Trefor Humphreys, Keith Harrison,Tim Goodwin, Ron Morgan, R H Roberts, Bob Jones,Tony Coleman, Dafydd G Roberts a dau Gynyrchiolydd Pwyllgor Merched, 

Aelodau cynnar Pwyllgor y Merched y Clwb -Meinir Boyns, Shirley Williams, Lilian Roberts, Glesni Evans,(Joshua) Theresa Nebbs, Irene Roberts, Beryl Coleman a Olive Hughes,Audrey ac Ann Jones, Morfydd Roberts 

Penderfyniad y Pwyllgor oedd cynhyrchu cylchlythyr misol -uniaith Gymraeg i hysbysu aelodau beth oedd yn mynd ymlaen gyda chynlluniau Clwb Rygbi Bro Ffestiniog 

Bu llawer o fwrlwm a hel pres yn ystod y tymorau – raffl Grand National bob blwyddyn, (Trefor Wood) Debenturon Undeb Rygbi Cymru, Pwyllgor Merched, Aelodaeth, Is Lywyddion a Llywydd, cystadleuthau Darts,Cinio Blynyddol a Dolig,Teithiau Cerdded Nawddedig a Nosweithiau Ffilmiau
Rhoddwyd Cwpanau,Tancard, Placiau gan Mr Nebbs,Tim Goodwin a’r Clwb i ennillwyr yn flynyddol megis -Clwbddyn y Flwyddyn,Chwaraewr Mwyfaf Addawol, Chwaraewr y Flwyddyn
- - - - - -  -

Ymddangosodd -fel rhan o erthygl hirach- yn rhifyn Rhagfyr 2022

Y gyfres yn parhau trwy 2023


11.2.23

Blwyddyn o eithafion tywydd

Crynodeb o dywydd Stiniog yn 2022 gan Dorothy Williams

Bu 2022 yn flwyddyn o eithafion tywydd: gwres a sychder eithriadol misoedd yr haf, stormydd fis Chwefror a thymheredd is na’r rhewbwynt ar nifer o ddyddiau yn hanner cynta’ mis Rhagfyr. 

Efallai mai nodwedd penna’r flwyddyn ar ei hyd oedd bod pob mis, ar wahân i fis Rhagfyr, â thymheredd uwch na’r cyfartaledd arferol. Yn wir, cychwynnodd y flwyddyn gyda thymheredd anarferol o uchel ar ddydd Calan 2022 gyda thymheredd o 13.6°C.

Bysedd haul. Llun- Paul W

Er y glypder yn ail hanner mis Rhagfyr, bu y flwyddyn ar ei hyd yn sychach na’r blynyddoedd diweddar. Cafwyd cyfanswm o 87.5 modfedd (2222.5mm) o law yn ystod y flwyddyn sydd yn is o gryn dipyn na’r cyfartaledd diweddar.

Yn ystod y 37 mlynedd ers imi gadw cofnod yng Nghae Clyd, ddwy flynedd yn ôl yn 2020 y cafwyd y glawiad blynyddol uchaf o ddigon, 136.8 modfedd (3,475mm). Yn wir, mae’r ffigwr ar gyfer 2022 yn torri ar dueddiad ers tua diwedd yr 1990au o lawiad cynyddol uchel.

Bu Chwefror yn fis arbennig o stormus pan gafwyd tair storm a enwyd sef Eunice, Dudley a Franklin i gyd o fewn cyfnod o wythnos. Er i Blaenau osgoi’r gwaetha o’r effeithiau, cafwyd llifogydd, colli trydan a difrod i adeiladau mewn llawer ardal. Dywed gwyddonwyr, gan fod y tymheredd byd eang yn codi, gallwn ddisgwyl i stormydd o’r fath fod y norm yn y dyfodol. 

Un o nodweddion pennaf y flwyddyn ddiwethaf oedd y sychder a gafwyd rhwng mis Mawrth a mis Awst pan gafwyd 25 modfedd (628mm) o law yma yn ystod y 6 mis, hanner y flwyddyn. 

Tybed faint ohonoch aeth i olwg Tryweryn yn ystod y cyfnod a gweld olion pentref Capel Celyn? Bûm yno eleni a chofio inni ymweld â’r lle yn ystod sychder haf poeth 1989.

Llyn Celyn, 29ain Awst 2022. Llun -Paul W

Nodwedd arall o’r flwyddyn yw’r cyfartaledd tymheredd uchel a gafwyd yn ystod Mehefin, Gorffennaf ac Awst. Ym Mhenarlâg, ar Orffennaf 17eg, cafwyd y tymheredd uchaf erioed i’w gofnodi yng Nghymru sef 37°C. Ar yr un diwrnod, cawsom ninnau 31°C. Cawsom 2 ddiwrnod ym mis Mehefin lle ’roedd y tymheredd dros 25°C a 5 o ddyddiau ym mis Gorffennaf, a 5 eto ym mis Awst. 

Daeth Rhagfyr i mewn yn wrthgyferbyniad llwyr â gweddill y flwyddyn gyda rhew ac eira yn hanner cynta’r mis. Cawsom eira ar 9fed a'r 10fed a dangosodd Rhagfyr ei ddannedd wrth i’r tymheredd ostwng o dan y rhewbwynt ar 6 o ddyddiau gyda isafbwynt  -3°C ar Ragfyr y 15fed. 

Un o’r dyddiau rhyfeddaf oedd y 18fed o Ragfyr (yn ogystal â bod yn ddiwrnod ffeinal Cwpan y Byd!) gyda'r tymheredd yn codi yn drawiadol yn ystod y dydd, 1.5°C ar ei isaf i 11.5°C ar ei ucha’ a hynny mewn ychydig oriau. Dyma gyfnod y dadmer sydyn gyda llawer yn dioddef pibellau’n byrstio.
Blwyddyn Newydd dda ichi gan obeithio am ddigon o dywydd dymunol yn ystod 2023.
- - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2023
 
Mwy o erthyglau am dywydd Stiniog

8.2.23

Stolpia- campau Glan-y-pwll

Hanesion eraill am ardaloedd Glan-y-pwll a Rhiw, gan Steffan ab Owain

Bu tipyn o ymateb i’m strytyn am gael pêl-droed Haygarth yn sgil yr hanesion yn rhifyn Tachwedd. Cefais wybodaeth fod y cae yn un o’r rhai mwyaf mwdlyd yng ngogledd Cymru a bod cymaint o lwch lli ar rannau ohono fel bod y bêl yn cael ei hatal rhag rowlio yn rhwydd ar ambell le arno! 

Ar un o’r Sadyrnau ym mis Tachwedd 1950 rhedodd tair dafad ar hyd y cae yn ystod ail hanner y gêm rhwng y Blaenau a Llandudno a medrwyd eu hel at gôl yr ymwelwyr, ond methwyd a’u dal! Tybed pwy all ddweud beth oedd y sgôr ar derfyn y gêm heb gyfrif y defaid, wrth gwrs! Diolch i Glyn V. Jones ac Aled Ellis am rannu eu hanesion efo ni am y cae peldroed. 

Rhai o dai Glan-y-pwll a chae peldroed Parc Haygarth ar y dde isaf (c.1948)
 

Ceid cystadlaethau eraill o dro i dro ar gae Haygarth hefyd, megis ymrysonfeydd coitio gan dimau amrywiol. Credaf bod milwyr o Drawsfynydd wedi wedi cymryd rhan yno ym mis Mehefin 1935 a denwyd nifer fawr o bobol yr ardal i wylio ar y cystadlu. Byddid yn cynnal rhai ar Gae Dolawel (Cae Joni) hefyd, a hynny mor ddiwddar a’r 1950au. 

 

Dyma lun o rai a fu yn cystadlu yno yn ystod haf 1952, sef Howel Williams, Chwarel Lord, yn archwlio ei dafliad buddugol ac Ieuan Thomas, Chwarel Oakeley, yr ail orau, yn sefyll gerllaw yn llewys ei grys.

 

Tybed pa bryd oedd y tro olaf iddynt gynnal gornest taflu coits yn y Blaenau? Oes un
ohonoch chi yn cofio’r chwaraeon? 

 

 

 

Wrth gwrs, byddid yn cynnal pob math o fabolgampau ar y ddau gae, megis rhedeg rasus am y cyflymaf, rasus sachau, rasus ŵy ar lwy, rasus hen bobol, yn ogystal â neidio uchel a naid polyn, ayyb.

Efallai bod rhai o’r to hŷn yn cofio cystadlu ynddynt ac o bosib wedi ennill ar y diwrnod. Byddai’n braf cael gair neu ddau am eich atgofion a’r hwyl a fyddai i’w gael yno y dyddiau a fu. Tan y tro nesaf.

- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Rhagfyr 2022



5.2.23

Hanes Rygbi Stiniog. Tymor 1976-77

Parhau cyfres Gwynne Williams gydag uchafbwyntiau o'i ddyddiadur

31 Fawrth 1976  Pwyllgor Brys -Trefniadau Cinio |Blynyddol Gloddfa Ganol:

Bwffe £3 / Grwp “ Cotton Field; Gwr Gwadd:  R Gerallt Davies, Asgellwr Cymru
Cydnabyddiaeth – Chwarae I Gwynedd 1976  Graham Thomas ac Elfed Williams Traws

5 Fai 1976 Cyfarfod Blynyddol  yng ngwesty Lindale (Presennol 24)
Ysg -   Merfyn C Williams  Trysorydd -Trosiad £ 869.48 / Elw  £281.43  

           
Ethol 1976 / 1977   Llywydd  RH Roberts / Cadeirydd Dr A Boyns /  Is Gad a Trysorydd  Glyn E Jones  Ysg Merfyn  / Ysg Gemau Trefor Humphreys /  Ysg Aelodaeth Bryn C  Roberts / Capten Huw Joshua / Is Gapten Nigel Bloor / Hyfforddwr  Huw Joshua  
Eraill  Ron C Morgan ( Ty Ysgol Llan ) /Tim Goodwin  / Keith Harrison / Gwynne / Ieuan Evans

Adroddwyd fod cynlluniau yn y Pafiliwn ym Mhont y Pant a gofynwyd i’r Pwyllgor wneud ymholiadau am gae yn Nhanygrisiau.

Canlyniadau  1975 / 1976  -      

Ch 27        E 11        C 13        Cyf 3

Chwaraewr y Flwyddyn 1975 / 1976 oedd Nigel Bloor  a'r Chwaraewr Mwyaf Addawol:  Graham Thomas.  Clwbddyn: Gwynne Williams

Mehefin 1976    Cael caniatad i ddefnyddio cae Ysgol y Moelwyn

Gorffennaf 1976   Trafod cael cae ar ôl gorffen symud tomen Glandon
Bwrlwm y Blaenau efo Plwmsan a Wynff ( Elw £ 290 )

Awst 1976    Pwyllgor John Chorley yn barod i’r Clwb gario ymlaen i adnewyddu'r Pafiliwn
Diolch i Brian Taylor Y Gwydr am ddarparu bwyd ar gyfer timau ymwelwyr trwy'r tymor

Medi 1976 Dewiswyd Nigel Bloor i chwarae i Glybiau Iau Gogledd Cymru
Gwynedd v Clwyd:  Chwaraeodd Elfed Williams, Graham Thomas, a Nigel Bloor
Tâl cysylltu golau i Pafiliwn Pont y Pant £131 / Darparu Nwy tua £120

18 Fedi     1976  Gêm gyntaf ar gae Dolawel  
Bro 15  v   Llanidloes  10       ( Cais  Nigel 2 / Bol ) Huw 3                                                         

Hydref 1976  Pwyllgor Arian gan Pwyllgor Merched  £180

Cais i Gyngor Meirionnydd am gaeau ac am yr Hen Ysgol i'w gwneud yn Glwb

Tachwedd 1976 Pwyllgor Merched:  Cad  Shirley / Is Gad  Glesni Joshua / Ysg Audrey ac Ann Jones  /  Trys  Morfydd Roberts a Beryl Coleman
Debaturon  Chwech 6 am £ 1,200 / Dylad y Clwb i’r Banc £ 750
Gwerthu 3 am 50 mlynedd / 2 am 5 mlynadd / 1 yn y Clwb
Syniad arall pobl gyda pres yn benthiyca arian i’r Clwb am flwyddyn , Clwb yn eu prynu wedyn

5 Tachwedd- Parti Rygbi    Gloddfa Ganol (elw £ 82.81)
6 Tachwedd- Bro 0  v  Dolgellau  39    Ceri Bloor a Michael Eric Jones (Sisco) yn cael cerdyn Coch! Adroddiad y dyfarnwr- bod anrhefn llwyr; y clwb am apelio
27 Tachwedd  Yn ôl ym Mhont y Pant -Cae Dolawel rhy beryglus

Bro 0  Dolgellau  6

Rhagfyr 1976   Pwyllgor yn y Cwm                            
Trafod Hen Ysgol Tanygrisiau efo Mri Harris Wallace a Linnell gyda’r gobaith ei phrynu (y Cyngor NEU y Clwb ) Penderfyniad gan y Cyngor

13 Rhagfyr -Cyfarfod rhwng swyddogion y Clwb Rygbi a'r Clwb Criced i gyd drafod beth oedd yn digwydd gyda'r Hen Ysgol a chae'r Ddôl.

26 Rhagfyr -Bro  38   v   Alltudion  0

Ionawr 1977  Mae Cyngor Dosbarth Meirionnydd  yn fodlon prynu’r Hen Ysgol am £6000; Pensaer i wneud cynlluniau o du mewn yr adeilad– am ddim;  Taflenni Newyddion ; i fynd allan bob mis

Chwefror 1977    Cyfarfod Pwyllgor Cyntaf yn Hen Ysgol Tanygrisiau (y Tŷ Clwb newydd)

Mawrth 1977      Amcan gyfrif bydd angen £10,000 am wneud y caeau: £6mil gan y Cyngor, a £2fil yr un gan y clybiau Rygbi a Chriced

Angen £ 4, 250 i addasu yr Hen Ysgol:  £2000  yr un rygbi/criced
 Cafwyd les i'r clybiau Criced a Rygbi am 21 mlynadd

17 Fawrth -Noson Hel Pres; Noson Ffilmiau -Elw £ 5.40
21 Fawrth -Noson Codi Arian; Noson Dartiau yn y Cwm -Elw £ 28. 40
29 Fawrth -Max Boyce a Gareth Edwards – DDIM yn dod i’r cinio blynyddol, ond Carwyn James a Dewi Griffiths BBC yn dod!
Cylch lythyr yn llwyddiant / Raffl Gwerthu £135 Costau £ 62.50 ELW £ 72.50

Llun o lyfr dathlu 21 mlynedd y clwb 1973-1994. Dewi Griffiths BBC efo'r ffan lechi a Carwyn James efo rhai o'r criw lleol

Record!

Doniau Bro Ffestiniog.  Record y Clwb efo Talentau Lleol  £ 2.99 yr un  

[Recordiwyd yn Ysgol y Moelwyn a'i ryddhau gan Sain ar label Tryfan, efo 17 o ganeuon]        

Ebrill 1977   Taith Gerdded Noddedig gan ferched y Clwb- 10 milltir a gwnaed £ 500
15 Ebrill -Cael ein ffilmio Nos Wener yn ymarfer ym Mhont y Pant – rhaglen deledu BBC “Sports Line-Up” gyda Carwyn James a Dewi Griffiths, rhaglen yn dangos llwyddiant Clwb Caerdydd oedd yn dathlu 100 oed a dyfodiad Clwb newydd Bro - a daeth y ddau i ginio Blynyddol y Clwb yn Gloddfa Ganol. Elw'r noson £120  + Raffl £20  +  Osciwn am botel wisgi £50

Tymor 1976/1977        

Chwaraewr y Flwyddyn: Nigel Bloor 

Chwaraewr Mwyaf Addawol:   Elfed Roberts (Fefs) 

Clwbddyn:  Glyn Eden Jones

- - - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yr uchod, yn rhan o erthygl fwy, yn rhifyn Rhagfyr 2022

Mwy i ddilyn!


1.2.23

Fy nghoeden, ein coedwig

Mae’r Dref Werdd yn cymryd rhan ym menter ‘Fy Nghoeden, Ein Coedwig’, sef prosiect uchelgeisiol Llywodraeth Cymru a Coed Cadw fydd yn cynnig coeden i bob aelwyd yng Nghymru, a hynny am ddim.

Rydym yn un o 50 o hybiau sydd wedi'u lleoli ledled Cymru lle gall pobl gasglu eu coeden; yn y cam hwn mae 295,000 o goed ar gael.

Mae deg rhywogaeth wahanol ar gael i ddewis ohonynt, sef: 

Collen; criafolen; draenen wen; bedwen arian; afalau surion; derwen; cwyrosyn; masarnen fach; rhosyn gwyllt, ac ysgawen.

Mae'r holl goed yn rhywogaethau brodorol, llydanddail a bydd cyfarwyddiadau plannu gyda nhw. Wrth iddyn nhw aeddfedu fe fyddan nhw'n cloi carbon, yn ymladd yn erbyn effeithiau newid hinsawdd ac yn cefnogi bywyd gwyllt.

Bydd gwirfoddolwyr a staff yn rhoi cyngor i'r cyhoedd pa un o'r rhywogaethau ar gael drwy'r cynllun sydd fwyaf addas ar gyfer eu llecyn, a sut i ofalu am eu coeden.
Bydd yr hwb ar agor i'r cyhoedd ar: Dydd Llun, Dydd Mercher a Dydd Gwener, 10-4, tan fis Mawrth.

Rhai o bobl yr ardal yn nôl eu coed o swyddfa'r Dref Werdd

 Meddai’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters: 

"Lle fyddai ein hadar, ein pryfed a’n hanifeiliaid heb goed..? Lle fydden ni hebddyn nhw? Trwy dyfu coeden brydferth yn eich gardd gefn eich hun, gallwch gychwyn eich cyfraniad a helpu i greu Cymru iach a hapus i ni a chenedlaethau'r dyfodol."

Er mwyn dod yn Gymru Sero Net erbyn 2050, yn ôl arbenigwyr, mae'n rhaid i Gymru blannu 86 miliwn o goed dros y degawd nesaf. 


Bydd coed yn cael eu rhannu ar sail y cyntaf i'r felin a dylai pobl wirio bod coed ar gael cyn teithio i’w nôl. Cysylltwch â'r Dref Werdd am fwy o wybodaeth.

 

 

- - - - - - - -

Addaswyd o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Rhagfyr 2022