Showing posts with label eglwysi. Show all posts
Showing posts with label eglwysi. Show all posts

23.2.23

Saint Bro Ffestiniog

“Nyd oes wlad yn holl Gred o gymaint o dir a chymaint o saint ynddei ag oedd gynt ymhlith Cymbry.” 

Daw’r frawddeg hynod hon o un o lyfrau godidocaf ein cenedl annwyl – Y Drych Cristionogawl – sef y llyfr Cymraeg cyntaf erioed i’w hargraffu ar dir Cymru, a hynny yn anghyfreithlon, mewn ogof ger Llandudno yn 1587. 

Mae gan ardal Llafar Bro ei saint hefyd. Dyma ddisgrifiad byr o hanes bywyd anhygoel rhai ohonynt - gŵyr a gwragedd digon cyffredin a fu’n byw bywydau anghyffredin, yn aml mewn amgylchiadau eithafol iawn. Cyraeddasant sancteiddrwydd mawr yn yr ardal hon yr ydym yn byw ynddi heddiw, a hyn yng nghyfnod ffurfiant y genedl Gymreig, yn y bumed a’r chweched ganrif. 

Trafodir yma hefyd yn fras ambell sant o’r dalgylch ehangach sy’n ymddangos ar yr eicon hynod ‘Saint Bro Ffestiniog’ a geir yn Eglwys Holl Saint Cymru yn y Manod. 


Copi o eicon ‘Saint Bro Ffestiniog’ sydd yn Eglwys Uniongred Holl Saint Cymru yn y Manod

Twrog Sant
Nawddsant Maentwrog, yr enwir y pentref ar ei ôl. Ei ddydd gŵyl yw 26 Mehefin. Credir ei fod yn fab i Ithel Hael o Lydaw, a daeth i Gymru gyda Chadfan Sant yn y chweched ganrif. Roedd Twrog yn ddisgybl i Beuno Sant, ac ef, mae’n debyg a sgrifennodd y llyfr hynod ‘Llyfr Beuno Sant’ a elwid hefyd wrth yr enw ‘Tiboeth.’ Beth oedd y llyfr hwn, ni wyddir yn iawn, ond roedd carreg ddu solet ynddo. Copi o’r Efengylau neu Lyfr Offeren ydoedd mae’n debyg, ac fe gafodd ei achub o eglwys Clynnog Fawr pan aeth y lle ar dân. Credir mai dyna sut cafodd y llyfr ei enw Tiboeth (hynny yw, di-boeth - llyfr a ddihangodd yn ddianaf o’r tân). Diflannodd y llyfr rywbryd yn yr unfed ganrif ar bymtheg, sy’n golygu y goroesodd am fil o flynyddoedd. 

Cododd Twrog gell iddo’i hun gan ddefnyddio gwiail o dir corslyd dyffryn Ffestiniog. Yma bu’n byw bywyd o galedi, unigrwydd, gweddi, a thawelwch, yn ymladd â’i natur ei hun. Yn ôl yr hanes, taflodd faen enfawr o gopa’r Moelwyn Mawr ar ben allor paganaidd a’i chwalu’n chwilfriw. Hwn yw Maen Twrog – y garreg dywodfaen metr o uchder a saif ger wal yr eglwys, a rydd ei henw i’r pentref. Yn wir – mae ôl bysedd y sant i’w gweld arni hyd heddiw. 

Cysylltir y garreg hon hefyd â bedd Pryderi o bedwaredd gainc y Mabinogi:

“Ac oherwydd nerth, grym a chryfder, a hyd a lledrith, Gwydion a drechodd a lladdwyd Pryderi, ac ym Maen Twrog uwchben y Felenrhyd y’i claddwyd ac yno mae ei fedd.”
Yn niwloedd hanes, mae’r stori am Twrog Sant a’i garreg wedi ei gysylltu â hanes ‘Twrog Gawr’. Ond mae un peth yn sicr – mai cawr ysbrydol oedd Twrog Sant.

Y Santesau Madryn ac Anhun
Nawddsantesau Trawsfynydd. Tywysoges oedd Madryn, a’i morwyn oedd Anhun. Roedd Madryn yn wyres i Gwrtheyrn Gwrthenau, a wahoddodd yr Eingl Sacosoniad i Brydain. Oherwydd y weithred hon, trodd y brodorion Celtaidd ar y teulu, a gorfu iddynt ffoi o Sir Fynwy i Ben Llŷn, cyn gorfod ffoi o’r fan honno hefyd am eu bywydau. Byw fel ffoaduriaid fu eu hanes. Yna, wrth gyd-deithio un diwrnod, ar bererindod i Enlli o bosib, cysgodd y ddwy y nos yn Nhrawsfynydd. Y bore canlynol, canfuasant iddynt glywed yr un llais yn union yn llefaru wrthynt yn y nos – llais a ddywedodd wrthynt yn glir

Adeiladwch eglwys yma.” 

Gan gymryd hynny’n arwydd gan Dduw, dyna a wnaethant, gan fyw yno fywyd o ddiweirdeb. Aethant maes o law i Gernyw a sefydlu cymuned o leianod yn y fan honno. 

Brothen Sant
Nawddsant Llanfrothen. Un o feibion niferus Helig ap Glanawg, y boddwyd ei dir gan y môr oddi ar arfordir Penmaenmawr. Dyma dir ‘Llys Helyg’. Wedi’r drychineb hon, a cholli popeth, daeth y tad a’r meibion hwythau yn fynaich. 

Gwyddelan Sant
Nawddsant Dolwyddelan. Gwyddel a ddaeth i Gymru yn gennad Cristnogol yn y bumed ganrif. Ei wylmabsant yw Awst 16. Mae ei ffynnon sanctaidd y tu ôl i westy Castell Elen ac eid â phlant gwantan yno i gael iachâd. Dywedir fod cloch law o’i eiddo ar gadw yn y Gwydir yn Llanrwst. 

Tecwyn Sant
Nawddsant Llandecwyn, a brawd i Twrog Sant – nawddsant Maentwrog. Roedd yn byw yn y chweched ganrif -  a threuliodd gyfnod ar Ynys Enlli. 

Cledwyn Sant a Tudclud Sant
Nawddsaint Penmachno. Brenin oedd Cledwyn, a mab hynaf Brychan Brycheiniog. Arferai hen eglwys fod ym Mhenmachno wedi ei chysegru i ‘Sant Enclydwyn’. Mae’n bosib iawn ei bod yn eglwys fynachaidd. Mae’r eglwys bresennol wedi ei chysegru i Tudclud Sant – un o saith mab yr enwog Seithennyn, y boddwyd Cantre’r Gwaelod drwy ei esgeulustod. Dethlir gwylmabsant Tudclud Sant ar Fai 30. 

GLJ

- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Ionawr 2022




8.7.21

'Stiniog o'r Wasg Ers Talwm -Eglwysi

Wedi egwyl o rai misoedd, dyma geisio ail-gydio yn y gyfres am hanes newyddiaduriaeth sy’n cyfeirio’n benodol at ardal ’Stiniog. 

Vivian Parry Williams

Os cofiwch, roeddem wedi cyrraedd newyddion Awst 1840, a hanes gosod carreg gyntaf yn adeilad Eglwys Dewi Sant yn y Blaenau. Felly, ymlaen â ni.

Ymhen dwy flynedd, cyhoeddodd y North Wales Chronicle erthygl ar 11 Hydref 1842 ar achlysur cysegru Eglwys Dewi Sant yn y Blaenau ar y 29 o Fedi, gan gynnwys disgrifiad o'r safle, a roddwyd yn hael gan yr Arglwydd Newborough ... ‘one of the most striking that can be imagined, from the wilderness of the scenery surrounding it’ …  gan ychwanegu ei fod dros fil o droedfeddi uwch y môr, ac yn noeth o unrhyw dyfiant, oherwydd y creigiau a'r tomennydd.  Yn dilyn ei fanylder am ddaearyddiaeth yr ardal, disgrifiodd sut roedd y chwareli wedi tynnu poblogaeth sylweddol i'r ‘this otherwise barren and dreary region’ ...

Cafwyd mwy o hanes cysegru'r eglwys yn y NWC, ymysg papurau newyddion eraill, a bu adroddiad ar yr achlysur pwysig yn hanes bro Ffestiniog yn y papur ceidwadol hwnnw ar 18 Hydref 1842. 

Cyfansoddwyd cerdd arall, y tro hwn ‘supposed to be written by one of Mrs Oakeley’s School Children...’, oedd yn llawn moliant i noddwraig y fenter.

‘O Lady blessed, of undying fame,
Our tears will flow at mention of thy name;
May our dear children’s children join in praise
To HIM, who fill’d thy heart with wisdom ways,
And honor’d thee with wealth; gave thee the will
To raise this Structure; thus His work fullfil;
For when they worship in this House of Prayer,
They’ll think of thee in Heaven, and bless thee there,
Hoping to meet thee, when beneath the sod
Their bodies rest – their souls return to God.’             

Yn ddiweddarach, eto yn y NWC, ar 31 Ionawr 1843 gwelir hanes y cynlluniau i godi eglwys Anglicanaidd yn Llan ‘Stiniog. Fel yn hanes codi Eglwys Dewi Sant yn y Blaenau, yr Arglwydd Newborough roddodd y tir i ar gyfer yr adeilad, a darn helaeth arall i ehangu’r fynwent, oedd yn eitha’ llawn ar y pryd. Noddwraig yr eglwys yn y Blaenau, Mrs Oakeley, Plas Tan-y-bwlch, a arweiniodd y gad ariannol eto, gyda rhodd gychwynnol tuag at yr achos o £200. Er i’r gwaith o godi eglwys y Llan gael ei arafu gan brinder cyfalaf, roedd y gobaith o gael cychwyn ar yr adeiladu yn cryfhau, gyda’r canlynol wedi ei gyflwyno i’r coffrau: Mrs Oakeley £200; Esgob Bangor £50; Arglwydd Newborough £50; Mr Banks £50; teulu Blaen-y-ddôl £60, ynghyd â nifer o roddion ariannol eraill dan £25. Ond roedd un wraig ddylanwadol arall wedi cyfrannu hefyd, sef gweddw’r cyn-frenin, William y 4ydd, neu’r Queen Dowager, yn ôl gohebydd yr Hull Packet and East Riding Times ar 2 Mehefin 1843. Er na wyddys beth oedd ei chysylltiad â Stiniog, fe gyfrannodd hithau ugain punt tuag at yr achos.

I aros ar bwnc crefydd yr ardal, cafwyd adroddiad yng ngholofn newyddion Ffestiniog yn y NWC ar 11 Gorffennaf 1843 yn profi i'r Pabyddion gael lle i addoli yn y plwyf. Gwahoddwyd rhai o'r ffydd honno, a fyddent yn digwydd mynd drwy'r fro ar y pryd, i alw i mewn yn y lle oedd, yn ôl y gohebydd, ‘a room fitted up for Divine Worship, in the house of a respectable Catholic family’ ... Rhywbeth dieithr iawn y cyfnod hwnnw oedd gweld teulu o Gatholigion o fewn terfynnau'r plwy'; tybed ym mha le yma oedd y teulu hwnnw'n byw? 

-----------------------------------------
 
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2021


30.9.16

Llyfr Taith Nem -Hen bechadur o Feirion


Rhyfedd fel mae crefydd yn dal ei afael mewn dyn ar hyd ei oes. Beth bynnag wnaiff dyn, neu lle bynnag yr aiff, mae yn sicr o ddod i gysylltiad â chrefydd mewn rhyw ffurf neu gilydd. Yn ystod fy niferus deithiau, deuais innau, yr hen bechadur o Feirion, i gysylltiad â chrefydd mewn llawer lle, ac er nad wyf yn grefyddwr bybyr, melus ydyw gweled fod Brenin y Brenhinoedd yn eistedd yn gadarn ar ei orsedd.

Yr wyf yn gwybod yn eitha bod hanes gweddol ddigalon i eglwysi Cymru ar hyn o bryd, ond mae'n debyg mai bywyd esmwyth sy'n gyfrifol i ran helaeth am hynny. Wedi gweled llawer math ar grefydd ar hyd a lled y byd, yr wyf yn credu fod yn hen bryd i Gymru newid peth ar ddull y molianau yn y capeli. Hwyrach fod gormod o seremonio mewn eglwysi, ond yr wyf yn berffaith sicr fy meddwl fod rhy ychydig o seremonio mewn capeli. Yr un drefn ers cyn cof, emyn, darllen, emyn a gweddio, cyhoeddi, emyn, pregeth a'r fendith. Onid gwledd fuasai canu anthemau, pregeth fer a holi dipyn ar y pregethwr ar y diwedd. Credaf hefyd fod oes y codwr canu fel yr adnabyddir ef wedio mynd heibio.

Awd i gostau mawr i brynu offerynnau gwych, ond yr hyn sydd yn digwydd yn aml iawn ydyw rhyw gystadleuaeth rhwng y codwr canu a'r organ, a'r gynulleidfa yn methu gwybod p'run i'w ddilyn. Nid ydyw peth fel hyn yn gynorthwy i greu awyrgylch, ac wedi'r cwbwl, mae awyrgylch briodol yn anhebgorol angenrheidiol i wasanaeth crefyddol.

Cofiaf unwaith i mi aros yn Salt Lake City, cartref y Mormoniaid -Saint y Dyddiau Diwethaf- ac os oes rhywun wedi bod yn y fan honno ac yn methu crefydda, y mae wedi ei ddamnio i golledigaeth dragwyddol, yn reit siwr. Mae'r peth tu hwnt i ddisgrifiad, y gwisgoedd a'r canu yn esgyn dyn i fyny at rhyw binaclau o orfoledd na phrofodd mohonyn gynt nac wedyn.

Cofier, gyda llaw, fod nifer fawr o golofnau y Mormoniaid yn Gymry trwyadl. Cwrddais ac amryw ohonynt tra yn y dre. Gŵr mawr yn eu plith oedd Judge Roberts, teulu'r hwn oedd yn hanu o Lanfrothen. Credaf fod y Barnwr yn gefnder i Bryfdir o Flaenau Ffestiniog, ac mae nifer fawr o'r teulu yn byw yno yn awr. Deallaf i un o'r meibion ymweled â Bryfdir tra yn y fyddin yn ystod y rhyfel diwethaf. Aeth i lawr i Groesor i weled yr anfarwol Bob Owen, a chan y gŵr amryddawn hwnnw cafodd hanes ei deulu o'r amser yr hwyliodd nifer fawr o Feirionnydd am Utah.

Cyn 1907 yr oedd tair mil o egwlysi hollol Gymreig yn yr Unol Daleithiau a Chanada. Magwyd plant ynddynt i fedru siarad yr hen iaith yn berffaith. Yn wir, yn llawer gwell nac ambell Gymro na symudodd erioed o Gymru. Iaith y Beibl Cymraeg oedd ganddynt, ac yr oeddynt yn ymffrostio yn y ffaith eu bod yn gallu siarad iaith enedigol eu cyndadau. Mae rhai, wrth gwrs wedi anghofio eu Cymeigdod, ond mae hynny yn bod hyd yn oed yr Sir Fôn!

Clywais hanesyn un tro am Gymro gweddol ymffrostgar yn yr Amerig, ac fel finnau yn llawn o 'bluff'. Gofynnwyd iddo a allasai bregethu a dywedodd ei fod yn hen law ar y gwaith. Gofynnwyd iddo gymeryd y gwasanaeth mewn capel y Sul canlynol. Un o'r capeli 'neis' oedd hwn, a gwelodd yr hen frawd wendid yr aelodau mewn munud.

Wedi pregethu yn Saesneg am ychydig o funudau, yr oedd yn bur galed ar yr hen frawd i feddwl bod eisiau cario ymlaen am chwarter awr araIl. Ac meddai
"Brothers and sisters, the urge is within me to preach to you in one of the dialects of darkest Africa, and I know the good Spirit will enable you to follow my teachings". 
Dialect Affrica Dywyll oedd Cymraeg, ac yr oedd yr hen frawd mewn hwyl fawr yn dweud pob math o bethau.

Wedi bod wrthi am beth amser sylwodd fod un gŵr yn un o'r seddau cefn yn chwerthin nes oedd yn ysgwyd. Ac meddai'r hen frawd, gan ostwng ei lais yn effeithiol,
"A thi, yr hwn sydd yn chwerthin yn y set ôl, os Cymro wyt ti, cau dy geg, neu byddwn ein dau yn uffern".
----------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 1999.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


14.4.16

Stolpia -Clychau (parhad)

Pennod arall o gyfres reolaidd Steffan ab Owain, y tro hwn yn parhau â'i drafodaeth am glychau.
*Mae dolen isod i ran gyntaf y stori.

Dyma dipyn mwy o hanes y gwahanol fathau o glychau a ddefnyddid gynt gan y gwŷr eglwysig. Yn ôl Bob Owen (Croesor) ‘roedd tri math o glychau yn perthyn i eglwysi yr hen oes. Dwy yn glychau dwylo a’r trydydd yn gloch hongian yn nhŵr yr eglwys, neu rywle cymwys arall.’


Yn gyntaf, ceid ‘cloch y cymun’, sef cloch fechan a genid adeg yr Offeren a phan y gweinyddid y Sacrament i’r bobl a oedd yn wael yn eu cartrefi. Byddid yn ei thincian wrth i’r bobl orymdeithio i gartrefle y person gwael er mwyn gweinyddu’r swper olaf. Tybed a oes rhai o’r clychau hyn wedi eu cadw yn ddiogel gan ein heglwysi?

Cloch y Meirw. Cloch fechan oedd hon hefyd a gwelais yn cael ei galw yn ‘gloch y corff’ gan un neu ddau. Ar un adeg o’n hanes roedd hi’n arferiad i glerc y plwyf flaenori gorymdaith angladdol neu gynhebrwng a chanu’r gloch fel yr elai ymlaen. Yr oedd hwn yn hen, hen arferiad a dyddia’n ôl ganrifoedd lawer yn ôl pob son. Deallaf ei fod wedi bod mewn arfer o gylch Aberystwyth a Chaernarfon hyd at ddechrau’r ganrif hon, os nad ychydig yn ddiweddarach. Mewn ambell le gelwir y gloch hon yn ‘Elor-gloch’ am fod y corff yn cael eu gludo ar elor – fel yr un sydd ar y wal yn Eglwys Llanfrothen hyd heddiw.

Un o’r rhesymau dros ganu hon ar y ffordd i’r fynwent oedd bod yr hen ffyrdd gynt mor gul, a phrin y pasiai dau gar llusg ei gilydd arnynt. Felly, byddai’n rhaid wrth y gloch i rybuddio rhai a ddeuai ar hyd y ffordd i wneud lle i’r angladd.

Cloch y terfynau. Yn y dyddiau gynt byddid yn cerdded terfynau yn rheolaidd ym mhob plwyf, ac yn union fel yn y gorymdeithau eraill, cenid cloch gan glerc y plwyf, yr hwn a fyddai ar y blaen, wrth gwrs.

Clychau eraill. I’n cyndeidiau roedd rhinweddau a galluoedd rhyfedd yn perthyn i’r clychau ac ar stormydd o fellt a tharanau cenid hwy hyd ddiwedd y drycin fel y gellid ymlid y cythreuliaid a’r ysbrydion drwg ymaith. Credid gynt fod y diafoliaid yn ofni clychau yn fawr iawn a rhedent i ffwrdd nerth eu carnau pan glywent eu swn. Diflanai ysbrydion a thylwyth teg o leoeodd neilltuol pan cenid clychau. Ystyrid clychau fel pethau sanctaidd wedi eu gwneud i addoli Duw ac oherwydd y gred hon datblygodd pob math o ofergoelion yn eu cylch. Byddai son gynt am ysbrydion drwg a chythreuliaid yn cael eu bwrw i byllau neu lynnoedd gan yr offeiriaid drwy gyfrwng clychau a genid ganddynt.

O.N. Diolch i Mrs Sally Williams, Llan Ffestiniog, y cyfaill Emrys Evans, un o golofnyddion ein papur, a’m mam (Mrs Morfudd Owen) am rychwanu eu cof yn ôl i’r adeg pan fyddai’n dynion llefrith ni yn y Blaenau a’r Llan yn canu cloch i dynnu sylw eu cwsmeriaid. Diolch i chi o’ch tri – Mwy y tro nesaf, efo lwc a bwyd llwy!
------------------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 1999.
Gallwch ddilyn erthyglau Stolpia i gyd efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.



*Clychau- rhan 1

Llun gan Paul W (Eglwys Capel Isaf, ar odrau deheuol Mynydd Epynt; Ebrill 2016)

15.2.16

Tanygrisiau Ddoe- Yr Eglwys

Pennod pedwar yng nghyfres Mary Jones am y gymuned rhwng 1920-36.

Wrth gyfeirio at yr Eglwys Bach yn Nhanygrisiau mae yn werth rhoi y sylw canlynol gan fod yr eglwys wedi ei hen chwalu (ers y pumdegau) – collwyd yr adeilad a’r gloch a’r gatiau bychain haearn (prydferth braidd) a’r grisiau o lechen las trwchus a’r llwybr at y drws.

Y gloch oedd yn fy swyno i fel plentyn, ble mae heddiw tybed?

Roedd yr eglwys yma, er yn gyffredin, eto i gyd yn cyfrannu ymhob ystyr yn yr oes honno at wneud yr ardal yn gyflawn – yn cyfrannu yn grefyddol ac yn gynhaliol at ein bywyd beunyddiol.

Diolch bod atgofion fy mhlentyndod yn dal yn fwynhad ac mae cofio am yr eglwys ar Nos Calan yn dod a hen, hen hiraeth yn ôl i’r cof am y gwasanaeth noson olaf y flwyddyn yn yr eglwys – yn gwrando ar y gloch yn canu – a’r Ficer neu y ciwrad o Eglwys y Plwy’ – Dewi Sant, Blaenau, yn darllen a gweddio yno.  Yn hynod iawn, roedd clochydd yno hefyd.  John Jones (H.S) oedd yn gofalu am ganu y gloch a gan ei fod yn dipyn o ffefryn yn yr ardal cafodd y ffugenw ‘Rhen Sant.

Roedd ein tŷ ni o fewn rhyw ddeg llath a lled clawdd i’r eglwys yn Tyn Llwyn – gwaelod y rhiw i Pantcelyn a Phenllwyd a’r lein bach.

Byddai Gwasanaeth y Plygain yn cael ei gynnal yn yr eglwys bach ac yn dechrau am naw o’r gloch.  Byddai’r gloch yn dechrau canu tua hanner awr cyn hanner nos.  Byddai yr adeilad yn llawn, gyda’r rhan fwyaf o’r trigolion yn mynychu Y Plygain.  Doedd dim lle i bawb eistedd – y seddau bob tro yn llawn – a’r cymdogion yn cyrchu cadeiriau dros y clawdd i’r eglwys. 

Byddai’r clochydd, yn dechrau canu y gloch yn araf iawn – yn lleddf fel bydd y cantorion yn dweud – tua deg o’r gloch: ding-dong araf-araf, tra roedd yr addoliad yn mynd yn ei flaen.  Byddem ni’r plant yn canu cân yr un pryd yn araf iawn:

‘Mae’r flwyddyn yn marw
Ei hamser a ddaeth ....’

Ond, pan fyddai’r cloc yn taro hanner nos byddai John Jones yn ein hysbrydoli trwy godi’r tempo yn syth a ding-dong sydyn-sydyn – ding-dong-ding.  Safai pawb ar eu traed yn canu yn gyflym, gyflym ar dinc hapus:

‘Ond dyma flwydd newydd yn dyfod yn llon,
A pawb fel ei gilydd yn ysgafn ei bron.’

Mi glywais gloch eglwys Dyffryn Ardudwy yn canu ar noson olaf 1997 – a hyn ddaeth yr atgofion i gyd yn ôl i mi.  ‘Rwyf yn falch fy mod wedi aros i fyny i glywed cloch Dyffryn – fe aeth a fi yn ôl dros 75 o flynyddoedd, gyda chofion cynnes am y cymdogion a’r ffrindiau yn Rhes Tyn Llwyn, Cambrian Teras, Bronbarlwyd, Cromlech, Fronhaul, Pengarreg a’r teulu yn Nhynddôl.

Roedd gwasanaethau arbennig hefyd ar Sul y Pasg, Diolchgarwch a’r Nadolig.  Trueni i’r chwalfa ddigwydd ynghŷd â’r golled o’r chwalfa a diflaniad yr adeiladau oedd yn creu ein cymuned -ein ‘Hardal Ni’.
-----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 1998. 
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


14.1.16

Stolpia- Clychau

Pennod arall o gyfres reolaidd Steffan ab Owain.

Erbyn i’r rhifyn hwn o ‘Llafar’ ddod o’r wasg byddwn ni wedi canu clychau’r Flwyddyn Newydd i mewn, oni byddwn?  Dwn i ddim pa bryd y dechreuwyd ar y traddodiad hwn o’u canu ar drothwy blwyddyn newydd, ond mi wn fod defnyddio clychau at wahanol ddibenion yn dyddio’n ôl ganrifoedd lawer.

Dywedir mai carreg oedd deunydd y clychau cynharaf ... ac onid un o ymadroddion y chwarelwr pan gaiff garreg (llechen) dda a honno’n tincian wrth ei tharo a morthwyl yw ....
‘y mae hon yn canu fel cloch’.  
Ac yn wir, o astudio tarddiad y gair ‘cloch’ yn y Gymraeg a’r Wyddeleg gwelir ei fod yn berthynas agos i’r geiriau canlynol – clogfaen (boulder), clogwyn, clogwrn,  clegyr, ayyb.   Yn ôl rhai geiriaduron tardda’r geiriau Saesneg ‘clock a ‘cloak’ o’r un fynhonnell, sef o’r hen air Celtaidd am garreg.

O beth gofiaf, y gloch hynaf y gwn i amdani hi yn y cyffiniau hyn yw ‘Gloch Wyddelan’, sef yr hen gloch Geltaidd honno a ddarganfuwyd yn naear Bryn y Bedd, Dolwyddelan rywdro yn y 19eg ganrif, ond sy’n dyddio’n wreiddiol mor bell yn ôl a’r chweched neu’r seithfed ganrif, o bosib.  Cofier mai cloch law wedi ei wneud o efydd yw hon ac yn ymdebygu mewn ffurf i’r clychau a welir am yddfau gwrtheg yn y Swistir, ayyb.  Gellir gweld y gloch hon yn hen Eglwys Sant Gwyddelan yn Nolwyddelan hyd heddiw.

Ceir lliaws o gyfeiriadau at glochdai a chlychau yn ein hanes a’n llenyddiaeth, oni cheir?  Sut bynnag, nid wyf wedi taro ar ryw lawer o hanes clychau’r ardal hon, boed yn rhai eglwysig, neu rai’r ysgolion, neu hen glychau’r chwareli.  Tybed o ble y byddent yn cael y gwahanol glychau yma,  .... a faint oeddynt yn gostio i’w gwneud ayyb?

Cloch Ysgol Rhiwbach. Llun VPW

Fel y gwyddoch, mae cloch yr eglwys yn dal i gael ei chanu yn y Blaenau, onid yw?  Ond, a ydych wedi meddwl faint o glychau a fyddai’n cael eu canu yn y cylch yn y ganrif ddiwethaf?

Wel, yn gyntaf, ceid pedair eglwys yn y plwyf .... i gyd gyda’u cloch.  Yna, byddai rhai o’r ysgolion gyda chlochdwr a nifer o glychau llaw, oni byddai?

Cyn dyddiau’r cyrn, byddai clychau yn ein chwareli, yn ogystal.  Dywedir fod un yn Chwarel Holland ac un yn y Gloddfa Ganol ar un adeg ... ac yn ôl pob son, roedd un y Gloddfa yn llawer mwy soniarus nag un Holland, a gelwid hi’n ‘Single Airy’ am ryw reswm.  Credaf mai ar ben yr inclên a gladdwyd o dan ‘Domen Fawr Oakeley’ oedd un Chwarel Holland.

Clywais hefyd y byddai hen gloch llong ar un o incleiniau tanddaearol Chwarel Cwm Orthin ar un adeg.  Tybed pwy all roi mwy o hanes clychau’r chwareli inni?

Yn nyddiau cynnar y gwasanaeth post byddai gan y llythyr-gludydd gloch fach i’w chanu er mwyn tynnu sylw’r trigolion a fyddai eisiau postio’u llythyrau, neu’n disgwyl llythyr oddi wrtho.  Byddai gan y cyheddwr tref (town crier) gloch i alw pobl ynghyd, hefyd .... a phwy sydd yn ddigon hen i gofio ‘clychau llefrith’ Ffestiniog?  Yn y flwyddyn 1887 ysgrifennwyd cân iddynt gan un yn galw ei hun yn ‘Ysbryd Huw Llwyd’.  Dyma bennill neu ddau ohoni:

‘Clywais son am gloch y Bala
A chloch Moscow fawr yn Rwsia
Ond beth ydynt i ardderchog
Glychau llefrith yn Ffestiniog.

Casglwch glychau’r greadigaeth
Dewch a hwy i gystadleuaeth
Rhoir y wobr i ardderchog
Glychau llefrith yn Ffestiniog.

Os nad wyf yn cyfeiliorni, bu cwyn am yr holl glychau hyn gan amryw o bobl yr ardal, a bu’r hanes yn y papurau lleol.  Credaf y bu’n rhaid iddynt gwtogi ar eu nifer yn y diwedd.  Pa fodd bynnag, pa bryd y rhoddwyd y gorau i’w defnyddio?  Oes ‘na un neu ddau o’r darllenwyr hynaf yn cofio’r clychau llefrith?

Heb os nac onibai, y mae llawer ohonom yn cofio cloch Mr Taddei yn cael ei chanu pan fyddai yn dod o amgylch y dref gyda’i drol o hufen iâ blasus a diguro, onid oes?  Rwyf bron yn sicr fod cloch wedi bod y tu allan i’r hen orsaf dân a fyddai’n nhroed Clogwyn Bwlch y Gwynt hefyd .... ac y byddai’n canu pan oedd tân wedi torri allan yn rhywle yn y cyffiniau.  Yn ddiau, gall rhywrai roi mwy o oleuni ar y mater hwn inni, oni fedrent?

A dod yn ôl rwan at gloch yr eglwys .... a chloi ar nodyn digri o eiddo’r hen fardd cocosaidd, Ieuan Hengal y Traethau, a breswyliai’n Nhre Ddôl gerllaw’r Dinas ac Inclên Fawr Holland yn yr 1870’au:

‘Peth hardd yw cloch ar ben yr Eglwys
I wahodd y bobol i mewn yn daclus,
Yn lle dod yno ar y canol,
I wneud poen i bobol dduwiol!’

Yn ddiamai, y mae llawer mwy i’w ddweud am hen glychau’r ardal, onid oes?  Pa fodd bynnag, gadawaf hwy am y tro a dymuno Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd.

------------------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 1999.
Gallwch ddilyn erthyglau Stolpia i gyd efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.