Showing posts with label cloch. Show all posts
Showing posts with label cloch. Show all posts

3.6.16

Clychau -faint o'r gloch?

Bu colofn Stolpia yn trafod Clychau fwy nag unwaith. Yn rhifyn Ebrill eleni, roedd Pegi Lloyd Williams yn trafod yr un pwnc. Dyma rannu addasiad o'i hysgrif hi.

Wrth drafod ‘Awr Fawr Galan’ yn rhifyn Mawrth, roedd Tecwyn V. Jones yn dwyn sylw at ddweud yr amser wrth ‘y gloch’ yng Nghymru a’r ‘clock’ yn Saesneg.  Ni fu i mi erioed feddwl am darddiad y gofyn “faint ydi hi o’r gloch” sydd o’i gyfieithu yn gofyn “how much is it from the bell” nes i mi bori yn y llyfr ‘Gweithiau Gethin' (1884) gan Owen Gethin Jones, wrth chwilio a chwalu am hanes y clochyddion cyn iddynt fynd yn angof llwyr. (Gweler ‘Hen Glochyddion Cymru’ Gwasg Y Lolfa 2011).
 "I liaws o eglwysi hynaf [Cymru], roedd rhaff y gloch ar yr ochr allan i’r Clochdy a byddai llwybr gwastad llyfn oddi wrth y rhaff at y Deial. Ar yr hon yr oedd rhif nodau, yn dangos yr amser drwy dywyniad yr haul dros y llethr fys, yr hwn oedd a’i gyfeiriad o’r de i’r gogledd, yr un ffordd a thalcen yr eglwys lle safai y gloch”.  
Ai Owen Gethin Jones ymlaen i egluro y byddai’n rhaid i’r clochydd ‘druan ŵr’ wylio’r deial yn ofalus o dywyniad haul a rhoi tonc ar y gloch ar yr awr.

Cloc haul. Manylion isod*
Cloc Haul oedd enw arall ar y deial, ac mae’r cloc haul sydd yn sefyll drws nesa i Gapel y Bedd, ger Eglwys Sant Beuno, Clynnog yn dyddio rhywle rhwng y 10fed neu 12fed ganrif medda nhw.  Cyflwynodd David Wilson, Nefyn, deial o’i waith ei hun a’i osod ym mynwent Llandygai.  Os deuai cwmwl neu dywydd drwg i guddio’r haul yna byddai gan y trigolion ‘wydryn a thywod ynddo o’r enw AWR a thorid y pen arall i lawr bob tro y clywid y gloch, a byddai y tywod wedi rhedeg pob llychyn drwy y chwiw dwll oedd yn ei ganol yn gywir cyn y clywid y gloch drachefn’. 

Gwyddwn am yr ‘hourglass’ wrth gwrs, ond erioed wedi meddwl pam ein bod yn dweud ‘mae yn chwarter i neu chwarter wedi’, hynny ydi yr ‘I’ nes y canai’r gloch yr awr nesaf, a'r ‘wedi’ i ddynodi ei bod wedi canu, a hynny i fyny i’r hanner awr cyn dod yn ôl i’r “I”..

Yng Nghadeirlan Tŷ Ddewi mae cloch efo arysgrif “A’R GLOCH YN RHIFO ORIAU’R DYDD I BEN”  ac mae hyn yn ein hatgoffa am ‘GRAYS ELEGY’ – “The curfew (h.y. yr hwyrgloch) tolls the knell of parting day” a’r cyfieithiad “Dacw ddolef y ddyhuddgloch yn oer ganu cnul y dydd”.

Mae cylch o wyth cloch yn Eglwys y Santes Fair, Dolgellau, ac ar y bedwaredd mae’r arysgrif MYFI YW’R NAW GLOCH (John C. Eisel).

[*Llun gan Michael Trolove, wedi'i drwyddedu dan Creative Commons Wicipedia.]
-------------------------------------------------

Dilynwch erthyglau CLYCHAU Stolpia efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

14.1.16

Stolpia- Clychau

Pennod arall o gyfres reolaidd Steffan ab Owain.

Erbyn i’r rhifyn hwn o ‘Llafar’ ddod o’r wasg byddwn ni wedi canu clychau’r Flwyddyn Newydd i mewn, oni byddwn?  Dwn i ddim pa bryd y dechreuwyd ar y traddodiad hwn o’u canu ar drothwy blwyddyn newydd, ond mi wn fod defnyddio clychau at wahanol ddibenion yn dyddio’n ôl ganrifoedd lawer.

Dywedir mai carreg oedd deunydd y clychau cynharaf ... ac onid un o ymadroddion y chwarelwr pan gaiff garreg (llechen) dda a honno’n tincian wrth ei tharo a morthwyl yw ....
‘y mae hon yn canu fel cloch’.  
Ac yn wir, o astudio tarddiad y gair ‘cloch’ yn y Gymraeg a’r Wyddeleg gwelir ei fod yn berthynas agos i’r geiriau canlynol – clogfaen (boulder), clogwyn, clogwrn,  clegyr, ayyb.   Yn ôl rhai geiriaduron tardda’r geiriau Saesneg ‘clock a ‘cloak’ o’r un fynhonnell, sef o’r hen air Celtaidd am garreg.

O beth gofiaf, y gloch hynaf y gwn i amdani hi yn y cyffiniau hyn yw ‘Gloch Wyddelan’, sef yr hen gloch Geltaidd honno a ddarganfuwyd yn naear Bryn y Bedd, Dolwyddelan rywdro yn y 19eg ganrif, ond sy’n dyddio’n wreiddiol mor bell yn ôl a’r chweched neu’r seithfed ganrif, o bosib.  Cofier mai cloch law wedi ei wneud o efydd yw hon ac yn ymdebygu mewn ffurf i’r clychau a welir am yddfau gwrtheg yn y Swistir, ayyb.  Gellir gweld y gloch hon yn hen Eglwys Sant Gwyddelan yn Nolwyddelan hyd heddiw.

Ceir lliaws o gyfeiriadau at glochdai a chlychau yn ein hanes a’n llenyddiaeth, oni cheir?  Sut bynnag, nid wyf wedi taro ar ryw lawer o hanes clychau’r ardal hon, boed yn rhai eglwysig, neu rai’r ysgolion, neu hen glychau’r chwareli.  Tybed o ble y byddent yn cael y gwahanol glychau yma,  .... a faint oeddynt yn gostio i’w gwneud ayyb?

Cloch Ysgol Rhiwbach. Llun VPW

Fel y gwyddoch, mae cloch yr eglwys yn dal i gael ei chanu yn y Blaenau, onid yw?  Ond, a ydych wedi meddwl faint o glychau a fyddai’n cael eu canu yn y cylch yn y ganrif ddiwethaf?

Wel, yn gyntaf, ceid pedair eglwys yn y plwyf .... i gyd gyda’u cloch.  Yna, byddai rhai o’r ysgolion gyda chlochdwr a nifer o glychau llaw, oni byddai?

Cyn dyddiau’r cyrn, byddai clychau yn ein chwareli, yn ogystal.  Dywedir fod un yn Chwarel Holland ac un yn y Gloddfa Ganol ar un adeg ... ac yn ôl pob son, roedd un y Gloddfa yn llawer mwy soniarus nag un Holland, a gelwid hi’n ‘Single Airy’ am ryw reswm.  Credaf mai ar ben yr inclên a gladdwyd o dan ‘Domen Fawr Oakeley’ oedd un Chwarel Holland.

Clywais hefyd y byddai hen gloch llong ar un o incleiniau tanddaearol Chwarel Cwm Orthin ar un adeg.  Tybed pwy all roi mwy o hanes clychau’r chwareli inni?

Yn nyddiau cynnar y gwasanaeth post byddai gan y llythyr-gludydd gloch fach i’w chanu er mwyn tynnu sylw’r trigolion a fyddai eisiau postio’u llythyrau, neu’n disgwyl llythyr oddi wrtho.  Byddai gan y cyheddwr tref (town crier) gloch i alw pobl ynghyd, hefyd .... a phwy sydd yn ddigon hen i gofio ‘clychau llefrith’ Ffestiniog?  Yn y flwyddyn 1887 ysgrifennwyd cân iddynt gan un yn galw ei hun yn ‘Ysbryd Huw Llwyd’.  Dyma bennill neu ddau ohoni:

‘Clywais son am gloch y Bala
A chloch Moscow fawr yn Rwsia
Ond beth ydynt i ardderchog
Glychau llefrith yn Ffestiniog.

Casglwch glychau’r greadigaeth
Dewch a hwy i gystadleuaeth
Rhoir y wobr i ardderchog
Glychau llefrith yn Ffestiniog.

Os nad wyf yn cyfeiliorni, bu cwyn am yr holl glychau hyn gan amryw o bobl yr ardal, a bu’r hanes yn y papurau lleol.  Credaf y bu’n rhaid iddynt gwtogi ar eu nifer yn y diwedd.  Pa fodd bynnag, pa bryd y rhoddwyd y gorau i’w defnyddio?  Oes ‘na un neu ddau o’r darllenwyr hynaf yn cofio’r clychau llefrith?

Heb os nac onibai, y mae llawer ohonom yn cofio cloch Mr Taddei yn cael ei chanu pan fyddai yn dod o amgylch y dref gyda’i drol o hufen iâ blasus a diguro, onid oes?  Rwyf bron yn sicr fod cloch wedi bod y tu allan i’r hen orsaf dân a fyddai’n nhroed Clogwyn Bwlch y Gwynt hefyd .... ac y byddai’n canu pan oedd tân wedi torri allan yn rhywle yn y cyffiniau.  Yn ddiau, gall rhywrai roi mwy o oleuni ar y mater hwn inni, oni fedrent?

A dod yn ôl rwan at gloch yr eglwys .... a chloi ar nodyn digri o eiddo’r hen fardd cocosaidd, Ieuan Hengal y Traethau, a breswyliai’n Nhre Ddôl gerllaw’r Dinas ac Inclên Fawr Holland yn yr 1870’au:

‘Peth hardd yw cloch ar ben yr Eglwys
I wahodd y bobol i mewn yn daclus,
Yn lle dod yno ar y canol,
I wneud poen i bobol dduwiol!’

Yn ddiamai, y mae llawer mwy i’w ddweud am hen glychau’r ardal, onid oes?  Pa fodd bynnag, gadawaf hwy am y tro a dymuno Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd.

------------------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 1999.
Gallwch ddilyn erthyglau Stolpia i gyd efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.