14.1.16

Stolpia- Clychau

Pennod arall o gyfres reolaidd Steffan ab Owain.

Erbyn i’r rhifyn hwn o ‘Llafar’ ddod o’r wasg byddwn ni wedi canu clychau’r Flwyddyn Newydd i mewn, oni byddwn?  Dwn i ddim pa bryd y dechreuwyd ar y traddodiad hwn o’u canu ar drothwy blwyddyn newydd, ond mi wn fod defnyddio clychau at wahanol ddibenion yn dyddio’n ôl ganrifoedd lawer.

Dywedir mai carreg oedd deunydd y clychau cynharaf ... ac onid un o ymadroddion y chwarelwr pan gaiff garreg (llechen) dda a honno’n tincian wrth ei tharo a morthwyl yw ....
‘y mae hon yn canu fel cloch’.  
Ac yn wir, o astudio tarddiad y gair ‘cloch’ yn y Gymraeg a’r Wyddeleg gwelir ei fod yn berthynas agos i’r geiriau canlynol – clogfaen (boulder), clogwyn, clogwrn,  clegyr, ayyb.   Yn ôl rhai geiriaduron tardda’r geiriau Saesneg ‘clock a ‘cloak’ o’r un fynhonnell, sef o’r hen air Celtaidd am garreg.

O beth gofiaf, y gloch hynaf y gwn i amdani hi yn y cyffiniau hyn yw ‘Gloch Wyddelan’, sef yr hen gloch Geltaidd honno a ddarganfuwyd yn naear Bryn y Bedd, Dolwyddelan rywdro yn y 19eg ganrif, ond sy’n dyddio’n wreiddiol mor bell yn ôl a’r chweched neu’r seithfed ganrif, o bosib.  Cofier mai cloch law wedi ei wneud o efydd yw hon ac yn ymdebygu mewn ffurf i’r clychau a welir am yddfau gwrtheg yn y Swistir, ayyb.  Gellir gweld y gloch hon yn hen Eglwys Sant Gwyddelan yn Nolwyddelan hyd heddiw.

Ceir lliaws o gyfeiriadau at glochdai a chlychau yn ein hanes a’n llenyddiaeth, oni cheir?  Sut bynnag, nid wyf wedi taro ar ryw lawer o hanes clychau’r ardal hon, boed yn rhai eglwysig, neu rai’r ysgolion, neu hen glychau’r chwareli.  Tybed o ble y byddent yn cael y gwahanol glychau yma,  .... a faint oeddynt yn gostio i’w gwneud ayyb?

Cloch Ysgol Rhiwbach. Llun VPW

Fel y gwyddoch, mae cloch yr eglwys yn dal i gael ei chanu yn y Blaenau, onid yw?  Ond, a ydych wedi meddwl faint o glychau a fyddai’n cael eu canu yn y cylch yn y ganrif ddiwethaf?

Wel, yn gyntaf, ceid pedair eglwys yn y plwyf .... i gyd gyda’u cloch.  Yna, byddai rhai o’r ysgolion gyda chlochdwr a nifer o glychau llaw, oni byddai?

Cyn dyddiau’r cyrn, byddai clychau yn ein chwareli, yn ogystal.  Dywedir fod un yn Chwarel Holland ac un yn y Gloddfa Ganol ar un adeg ... ac yn ôl pob son, roedd un y Gloddfa yn llawer mwy soniarus nag un Holland, a gelwid hi’n ‘Single Airy’ am ryw reswm.  Credaf mai ar ben yr inclên a gladdwyd o dan ‘Domen Fawr Oakeley’ oedd un Chwarel Holland.

Clywais hefyd y byddai hen gloch llong ar un o incleiniau tanddaearol Chwarel Cwm Orthin ar un adeg.  Tybed pwy all roi mwy o hanes clychau’r chwareli inni?

Yn nyddiau cynnar y gwasanaeth post byddai gan y llythyr-gludydd gloch fach i’w chanu er mwyn tynnu sylw’r trigolion a fyddai eisiau postio’u llythyrau, neu’n disgwyl llythyr oddi wrtho.  Byddai gan y cyheddwr tref (town crier) gloch i alw pobl ynghyd, hefyd .... a phwy sydd yn ddigon hen i gofio ‘clychau llefrith’ Ffestiniog?  Yn y flwyddyn 1887 ysgrifennwyd cân iddynt gan un yn galw ei hun yn ‘Ysbryd Huw Llwyd’.  Dyma bennill neu ddau ohoni:

‘Clywais son am gloch y Bala
A chloch Moscow fawr yn Rwsia
Ond beth ydynt i ardderchog
Glychau llefrith yn Ffestiniog.

Casglwch glychau’r greadigaeth
Dewch a hwy i gystadleuaeth
Rhoir y wobr i ardderchog
Glychau llefrith yn Ffestiniog.

Os nad wyf yn cyfeiliorni, bu cwyn am yr holl glychau hyn gan amryw o bobl yr ardal, a bu’r hanes yn y papurau lleol.  Credaf y bu’n rhaid iddynt gwtogi ar eu nifer yn y diwedd.  Pa fodd bynnag, pa bryd y rhoddwyd y gorau i’w defnyddio?  Oes ‘na un neu ddau o’r darllenwyr hynaf yn cofio’r clychau llefrith?

Heb os nac onibai, y mae llawer ohonom yn cofio cloch Mr Taddei yn cael ei chanu pan fyddai yn dod o amgylch y dref gyda’i drol o hufen iâ blasus a diguro, onid oes?  Rwyf bron yn sicr fod cloch wedi bod y tu allan i’r hen orsaf dân a fyddai’n nhroed Clogwyn Bwlch y Gwynt hefyd .... ac y byddai’n canu pan oedd tân wedi torri allan yn rhywle yn y cyffiniau.  Yn ddiau, gall rhywrai roi mwy o oleuni ar y mater hwn inni, oni fedrent?

A dod yn ôl rwan at gloch yr eglwys .... a chloi ar nodyn digri o eiddo’r hen fardd cocosaidd, Ieuan Hengal y Traethau, a breswyliai’n Nhre Ddôl gerllaw’r Dinas ac Inclên Fawr Holland yn yr 1870’au:

‘Peth hardd yw cloch ar ben yr Eglwys
I wahodd y bobol i mewn yn daclus,
Yn lle dod yno ar y canol,
I wneud poen i bobol dduwiol!’

Yn ddiamai, y mae llawer mwy i’w ddweud am hen glychau’r ardal, onid oes?  Pa fodd bynnag, gadawaf hwy am y tro a dymuno Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd.

------------------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 1999.
Gallwch ddilyn erthyglau Stolpia i gyd efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon