Parhau'r gyfres yng ngofal Vivian Parry Williams.(Allan o gofnodion y diweddar Ernest Jones)
1958-59
Os oedd tymor 1957-58 yn un o'r tymhorau gwaelaf, yr oedd yr un a'i dilynodd ymysg y goreuon.
Ni ellir byth â deall hanes y bêl-droed yn Stiniog heb wybod am y tîm a luniwyd yn 1958-59. Dyma'r tîm:
Bob Pines, John Edwards, Bob Hunter, Richard Alwyn Thomas, Jack Robinson, Keith Godby, David Todd, Jimmy Quinn, Derek Hunter, Norman Birch, Tony McNamara.
Y mae'r enwau hyn yn darllen fel barddoniaeth i bawb a ddilynodd Stiniog bryd hynny. Ni wnaeth y tîm hwn golli gêm o gwbl. Ac eto, ni enillodd Blaenau bencampwriaeth Gogledd Cymru yn 1958-59, ond y mae rheswm da am hynny. Yr oedd hi'n Dachwedd y cyntaf 1958 ar y tîm cyfan uchod yn cychwyn ar ei yrfa. Cyn hynny aethai pymtheg gêm heibio heb ennill ond pump ohonynt. Roedd hi wedi canu, felly, ar Stiniog i ennill y bencampwriath.
Roedd hi'n ddechrau Medi ar Bob Hunter yn ymuno, yn niwedd Medi ar McNamara- ac yng nghanol Hydref ar R.Alwyn Thomas yn cyrraedd. O Dachwedd ymlaen ni chollodd y tîm llawn un gêm. Heb Bob Hunter, collodd y tîm yng Nghei Connah ar y 7fed o Fawrth, ac ni chollwyd yr un gêm wedyn. Golygai hynny fynd am 17 gêm heb golli.
Fel yr oedd y tymor yn dirwyn i ben cafodd y Blaenau fuddugoliaeth yn erbyn holl brif dimau y Gynghrair ar y pryd, sef Boro Utd, Llandudno, Caergybi, Caernarfon a Bae Colwyn. Yr oedd hyn yn arwyddo pwy a fyddai pencampwyr y tymor hwnnw pe byddai Stiniog wedi cael cychwyn ynghynt. Dros y tymor sgoriodd Stiniog 148 gôl. Yr oeddynt yn drydydd yn nhabl y Gynghrair, a hwy a enillodd gwpan Cookson a'r Her Gwpan.
Blaenau Ffestiniog. 1958-59. Llun oddi ar wefan Stiniog.com |
Sgoriodd Derek Turner 55 gôl mewn 42 gêm. Y prif sgorwyr eraill oedd Quinn - 28, Birch - 26, McNamara - 12, Todd - 12. Sgoriodd y pum blaenwr hyn gyfanrif o 133 gôl. Cafodd Turner, Quinn a Birch 109 gôl rhyngddynt.
Yn y gêm Gynghrair olaf galwyd ar dîm hollol leol i chwarae yn erbyn Treffynnon, ac fe enillasant 4-2. Y tîm hwnnw oedd: Alan Evans Jones, Ronnie Humphreys, Dewi Owen, Vivian Jones, Ronnie Jones, Elwyn Rees, R.Elwyn Jones, Edmund Williams, Arwyn T.Williams, Elfyn Jones, Ken Jones.
1959-60
Er bod rhestr chwaraewyr tymor 1959-60 yn ddigon tebyg i'r un am y tymor anhygoel o lwyddiannus a'i ragflaenodd, blwyddyn wahanol iawn oedd hi o ran cyrhaeddiadau.
Absenoldeb llwyr Jack Robinson, a'r ffaith fod Turner a Hunter wedi colli llawer o gemau oedd y rheswm i'w gynnig am y gwahaniaeth, ond anodd yw deall na wnaeth yr wyth arall yn well o gofio eu gallu.
Gorffenwyd y tymor yn bumed o'r gwaelod, a chyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan Gogledd Cymru oedd mesur llwyddiant y tîm yn y tymor rhyfedd hwn. Turner, Quinn, Birch a Todd oedd y prif sgorwyr.
Yr oedd hwn yn dymor sobor o siomedig.
----------------------------
Ymddanosodd yn wreiddiol yn rhifynnau Medi a Thachwedd 2005.
Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar ddolen 'Hanes y bêldroed yn y Blaenau', isod neu yn y Cwmwl geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon