Dyma ddolen at ein RHIFYNNAU DIGIDOL o 2020 a 2021
Dyma'r rhifynnau a gyhoeddwyd yn ddigidol yn unig yn ystod cyfnodau clo y pandemig. Maen nhw ar gael o hyd i'w lawrlwytho am ddim.
Mae rhifyn arbennig Rhagfyr 2020 -RHIFYN 500- ar gael hefyd. Cafodd pob cartref yn nalgylch Llafar Bro gopi am ddim o'r rhifyn dathlu hwn.
Os hoffech dderbyn pob rhifyn o Llafar Bro yn ddigidol, mae modd tanysgrifio i'w dderbyn fel pdf bob mis. Ewch i'r tab 'Tanysgrifio a Phrynu'. Diolch
DEG UCHAF GWEFAN LLAFAR BRO!
Ar achlysur cyhoeddi'r 850fed erthygl ar y wefan, datgelwyd manylion y 10 erthygl fwyaf poblogaidd.
Negeseuon covid isod:
Mai 2022
Mi fydd pwyllgor Llafar Bro yn cyfarfod wyneb-yn-wyneb eto o hyn ymlaen. Mae croeso i bawb ymuno i rannu syniadau.
Ebrill 2021
Byddwn yn agraffu rhifyn papur eto, o'r diweddd, ac yn parhau i wneud hynny tra pery'n saff i'n dosbarthwyr.
Mawrth 2021
Rhifyn digidol eto yn anffodus, fel Ionawr a Chwefror. Gwyliwch y gofod ynglŷn â rhifyn Ebrill...
Ionawr 2021
Yn anffodus, rhaid cyhoeddi'n ddigidol eto am rwan. Mi fydd y papur yn ôl pan fydd yn ddiogel i'n dosbarthwyr ni fynd o ddrws i ddrws. Diolch am eich cydweithrediad.
Cofiwch fod y rhifynnau digidol i gyd i'w cael am ddim trwy'r ddolen isod.
Os medrwch, beth am brintio ambell ddarn neu dudalen adra, ar gyfer teulu neu gymydog sydd ddim ar y we?
Medi 2020
Mi fyddwn yn dychwelyd at y drefn o argraffu rhifynnau papur bob mis oni fydd y sefyllfa'n newid eto.
Gallwch weld ein rhifynnau digidol -a gyhoeddwyd ar y we yn ystod clo mawr 2020- trwy'r ddolen uchod.
Mae'r rhifynnau digidol uchod wedi bod ar gael am ddim ers eu cyhoeddi.Os hoffech barhau i dderbyn rhifyn digidol bob mis, ewch i'r tab 'Tanysgrifio' i weld y manylion.
23 Mawrth 2020
Er mwyn gwarchod ein dosbarthwyr, a'n darllenwyr hefyd, rydym wedi penderfynu
NA FYDDWN YN ARGRAFFU Llafar Bro nes bydd y sefyllfa wedi gwella.
Mae'n
siom i bawb, ac yn ddigynsail: ni fu toriad yn y cyhoeddi ers y rhifyn
cyntaf yn Hydref 1975, ond o dan yr amgylchiadau, gobeithiwn eich bod yn
cytuno mae dyma'r peth cyfrifol a chywir i'w wneud.
Rydym yn parhau i gynnig
newyddion ac erthyglau yn ddigidol ar gyfer y gymuned trwy'r cyfnod
anodd hwn.
Daliwch ati i yrru newyddion, cyfarchion, lluniau, ac erthyglau atom. Gallwn eu rhoi yn y rhifynnau digidol a/neu ar ein cyfryngau cymdeithasol.
Yn y cyfamser, cofiwch bod dros 770 o erthyglau eisoes ar y wefan hon; 'bodiwch' trwy'r tudalennau tra eich bod yma!
Efallai y gall rhai ohonoch argraffu ambell erthygl i'w rhannu efo aelodau'r teulu sydd ddim ar y we...
Cadwch yn ddiogel gyfeillion. Diolch am gefnogi eich papur bro. Daw eto haul ar fryn.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon