Showing posts with label Colofn y Merched. Show all posts
Showing posts with label Colofn y Merched. Show all posts

6.9.16

Colofn y Merched- Gofalu am blanhigion tŷ

Pennod arall o gyfres Annwen Jones.
 

A ydych chi wedi meddwl am brynu ychydig o blanhigion i addurno’r ty?  Neu, yn hytrach na’u prynu, ofyn i’ch ffrindiau am dorriadau bach o’u rhai hwy i chi gael eu magu?  Rhowch y torriadau mewn dŵr hyd nes bo gwreiddiau’n tyfu ac yna planwch mewn pridd addas (megis compost 1 John Innes..)



Fe fydd angen tri pheth ar y planhigyn, sef golau, dŵr ac awyrgylch heb fod yn rhy sych.  I greu lleithder o amgylch y planhigion fe ellir unai chwistrellu’r dail efo dŵr (i rai planhigion yn unig) neu osod y potyn ar gerrig bach mewn soser o ddŵr.  Rhaid gofalu bod y dŵr yn y soser o dan lefel y potyn.


Mae’n rhaid i’r planhigyn gael golau eithr cofiwch nad yw pob un yn hoffi haul uniongyrchol.  Os yw’r planhigyn yn gwywo ar silff y ffenestr yna symudwch ef i le mwy cysgodol.


Mae’n bwysig hefyd rheoli faint o ddŵr a roir i blanhigyn.  Ni ddylid cael pridd sych na phridd sy’n socian.  Yn yr haf fe fydd angen dŵr tua dwy waith yr wythnos ond bydd angen llai yn y gaeaf.  Ac fel trît achlysurol i’ch planhigion rhowch ddŵr berwi ŵy neu loewon tatws iddynt.


Byddwch yn ofalus wrth fwydo gyda baby bio neu rywbeth cyffelyb.  Darllenwch y cyfarwyddiadau’n ofalus a pheidiwch a gor-fwydo.  Nid oes angen bwyd ar blanhigion sydd mewn compost newydd gan fod digon o faeth yn y pridd.



O gael gofal iawn mae planhigion tŷ yn medru dod a ffresni a gwyrddni i ystafell a gwneud iddi edrych yn llawer mwy deniadol.

--------------------------------------

 
Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 1998.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

Lluniau- Paul W 

 

18.7.16

Colofn y Merched -rysetiau hafaidd

Pennod flasus arall o gyfres Annwen Jones

Hufen ia iogwrt a ffrwythau
8 owns o eirin Mair neu gwsberins
8 owns o fafon neu gyrains coch
12 owns o iogwrt naturiol
4 llwy fwrdd o siwgr brown

Coginiwch yr eirin Mair mewn ychydig ddŵr am tua 15-20 munud (neu rhowch yn y meicrodon am 6 munud ar y pwer uchaf).

Gwnewch ‘puree’ o’r ffrwythau i gyd, ac yna ychwanegwch yr iogwrt. Cymysgwch eto gan roi’r siwgr i mewn i felysu. Rhowch mewn tun bas a rhewi hyd nes yn caledu o amgych yr ochrau.

Curwch yn dda eto ac yn ail rewi.

Sorbet cyrains duon

Pwys o gyrains duon
6 owns o siwgr
2 lwy de o sudd lemwn
Cogniwch y ffrwythau hefo 6 llwy fwrdd o ddŵr nes yn feddal. Rhowch drwy’r gogor.

 Rhowch y siwgr mewn hanner peint o ddŵr a berwch am 10 munud. Oerwch ac ychwanegwch y sudd lemwn.

Cymysgwch hefo’r puree cyrains duon a’i wneud i fyny i beint a chwarter efo dŵr. Gorchuddiwch, a rhewi am ¼ awr.

Curwch a’i rewi eto am yr un amser.
Yna gwnewch yn yr un modd am y trydyd tro.


Dip Siocled
2 bar siocled a thaffi meddal
4 owns o siocled plaen
5 owns o hufen dwbwl
Torrwch y siocled i gyd a’i doddi efo’r hufen tros bowlen neu sosban o ddŵr berw. Defnyddiwch yn gynnes hefo ffrwythau’r haf i’w towcio ynddo.
----------------------------------------

Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 1998.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


Lluniau- Paul W

13.6.16

Colofn y Merched -gofal yn yr haul

Pennod arall o gyfres Annwen Jones, a chyngor amserol -o ystyried tywydd rhagorol dechrau Mehefin- am warchod eich hun rhag gormod o haul. Gobeithio y daw'r tywydd braf yn ôl, ond pwyll pia hi..

•    Cofiwch fod angen amddiffyn y croen rhag y pelydrau UVA ac UVB. Mae UVA yn heneiddio'r croen ag UVB yn ei losgi. Felly astudiwch y poteli hylif haul yn ofalus.

•    Os ydych yn olau o ran pryd a gwedd yna defnyddiweh ffactor hylif haul uchel a defnyddio digon ohono a hynny'n aml. Mae angen tua owns i orchuddio'r corff i gyd a pheidier a'i rwbio i mewn yn rhy galed.


•    Ceisiwch osgoi'r haul ar adegau poethafyn y dydd hynny yw rhwng 11 y bore a 2 y 'pnawn.

•    Cofiwch wisgo het o wead tynn, nid het wellt o wead llac.

•    Fe ddylid gwisgo hylif haul o fis Ebrill ymlaen tan yr hydref yng Nghymru. Mae'r rhan fwyaf o hufen croen (moisturisers) yn cynnwys SPF 15 erbyn hyn. Astudiwch y jariau.

•    Cofiwch amddiffyn y gwefusau'n y tywydd poeth.

•    Gwisgwch eich sbectol haul.

•    Cofiwch wisgo dillad addas yn yr haul. Nid yw blows tenau 'chiffon' yn addas o gwbl; mae crys T neu flows cotwm o wead tynn yn well. Felly ar ôl peth amser yn torheulo ar lan y môr gwisgwch eich crys T.

•    Rhowch ofal arbennig i blant gan sicrhau nad ydynt yn llosgi o gwbl yn yr haul.

•    I gloi, mae'n bosib mwynhau'r haul ond i chi wneud hynny gyda gofal. Ac os ydych am fod yn hollol ddiogel yna beth am ddefnyddio un o'r poteli lliw haul ffug yna sydd ar gael yn awr gan gadw allan o'r haul yn gyfan gwbl?
----------------------------------------------


Cyhoeddwyd yn rhifyn Mehefin 1998.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. 


Llun- Lleucu Gwenllian

18.4.16

Colofn y Merched -teisennau Nain

Pennod arall o gyfres Annwen Jones.

Ychydig o rysetiau Nain
 

Teisen De
½ pwys o flawd
Llwy de o bodwr codi
3 owns o fenyn
3 llwy fwrdd o lefrith
1 ŵy
3 owns o siwgwr
Pinsiad o halen
3 llwy fwrdd o sieri

Rhwbiwch y menyn i’r blawd ac yna ychwanegu’r siwgwr, powdwr codi a’r halen. 
Curwch yr ŵy yn dda a’i ychwanegu at y gymysgedd ynghŷd â’r llefrith a’r sieri. 
Craswch mewn popty cymhedrol am tua 20 munud.

Teisen Fêl
½ pwys o flawd
¼ pwys o siwgwr
Cwpanaid o lefrith sur
¼ Cwpanaid o fêl
2 lwy de o bowdwr codi

Cymysgwch y blawd a’r siwgwr gan wneud pant yn y canol. 
Ychwanegwch y llefrith bob yn dipyn gan gymysgu â llwy bren. 
Ychwanegwch y mêl gan ddal i gymysgu, yna’r powdwr codi. 
Craswch mewn popty cymhedrol am ½ i ¾ awr.

Teisen Fferm
3½ cwpanaid o flawd
2⅓ cwpanaid o siwgwr brown
½ cwpanaid o fenyn
½ pwys o syltanas
3 owns o bîl
Owns o geirios
Llwy de o nytmeg
Llwy de o sinamon
Cwpanaid o lefrith
4 ŵy
5 llwy de o bowdwr codi

Cymysgwch y blawd, powdwr codi, sinamon a’r nytmeg, yna rhwbio’r menyn i mewn yn ysgafn.  Ychwanegwch yr wyau wedi eu curo. 
Yn raddol ychwanegwch y siwgwr a’r ffrwythau gan gymysgu a’r llefrith. 
Craswch mewn popty cymhedrol am awr.

-------------------------------------------------


Cyhoeddwyd yn rhifyn Ebrill 1998.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


Llun Paul W; pobi Leisa W

30.1.16

Blwyddyn iach

Pennod arall o gyfres 'Colofn y Merched' gan Annwen Jones.

Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd a dyma’r cyfle delfrydol i chi fod mewn siap perffaith, yn gorfforol ac yn feddyliol.  Gorffennwch y siocledi, y mins peis a’r pwdin plwm, gwyliwch yr holl ffilmiau a’r holl sdwnsh yr ydych wedi eu recordio tros yr Wyl ac yna dechreuwch baratoi at fod yn ddynes newydd.

I helpu’r corff:

1.    Bwytewch yn iach.  Sicrhewch fod digon o ffrwythau a llysiau yn eich deiet.  Fe ddylech fod yn bwyta tua 5 darn o ffrwythau a llysiau mewn diwrnod.  Mae diod o sudd ffrwythau yn cyfrif fel un.

2.    Bwytwch llai ar bethau megis cacennau a bisgedi a phwdins melys.

3.    Defnyddiwch llai o saim ond byddwch yn ofalus.  Mae’r corff angen peth, yn arbennig yr hyn a elwir yn ‘essential fatty acids’.  Fe’i ceir mewn cnau a hadau megis blodyn yr haul a phwmpen.

4.    Os ydych angen colli pwysau yna gwnewch hynny’n ara deg.  Mae colli tua hanner stôn mewn wythnos yn ormod o lawer.  Peidiwch a llwgu eich hun, bwytewch yn gall.

5.    Gwnewch ymarferiadau.  Os wnewch chi gychwyn yn ddigon buan yn y flwyddyn ni fydd yn rhaid i chi godi am 6 y bore i wneud ryw awr neu fwy o aerobics cyn mynd i’r gwaith.  Mae hyn yn swnio’n fwy o artaith na dim ond fe ymddengys fod llawer yn ei wneud!  Fe ddylai tua hanner awr dair gwaith yr wythnos fod yn ddigonol (h.y. ar ôl gwaith!)

6.    Gofalwch am eich croen.  Heddiw mae’n rhaid amddiffyn y croen rhag mwg, yr haul a’r llygredd sy’n yr awyr.  Felly prynwch hylif croen da, un sy’n cynnwys SPF uchel ac sy’n cynnwys yr hyn a elwir yn ‘anti-oxidant’.

7.    Byddwch yn ofalus iawn yn yr haul.  Mae’n bwysig cael peth ohono er mwyn cael fitamin D a theimlo’n well.  Ond peidiwch a llosgi.

8.    Gofalwch eich bod yn cael yr holl brofion mae merched i fod i’w cael yn y clinigau merched.  Ewch am y prawf ceg y groth a byddwch yn sensitif i unrhyw newidiadau’n y bronnau.

Y mis nesaf – sut i gadw’r meddwl mewn siap.
----------------------------------

Cyhoeddwyd yn rhifyn Ionawr 1999.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. 
Llun PW

15.12.15

Colofn y Merched

Pennod arall o gyfres Annwen Jones.

Beth am roi trît iawn i rywun y Nadolig yma – rhowch felysion cartref iddynt mewn hosan ddeniadol!

Tryffls rym (12)

75g o siocled tywyll
1 llwy de o hufen
1 melynwy
15g o fenyn
2 lwy de o rym
Fermicelli siocled

Torrwch y siocled i fowlen sydd uwchben sosban o ddŵr berw ysgafn.  Peidiwch a gadael i’r dŵr gyffwrdd â’r fowlen.

Unwaith bydd y siocled wedi toddi symudwch oddi ar y gwres.

Ychwanegwch yr hufen, ŵy, menyn a’r rym, a curwch y gymysgedd nes yn dew fel pâst.

Gwnewch beli bach o’r gymysgedd a’u rholio mewn fermicelli.

Melysion a llun: Leisa. Twt lol, heb ddilyn y rysait!

Melysion Siocled a chnau coco

225g o gnau coco
100g o siwgwr eisin
Can bach o lefrith ‘condensed’ (200g)
250g o siocled plaen, neu lefrith

Fe fydd angen papur cwyr arnoch i roi’r melysion arno.

Cymysgwch y cnau coco a’r siwgr a’r llefrith.  Os yw’r cnau coco’n sych iawn yna defnyddiwch lai ohono rhag i’r melysion fynd yn rhy galed.

Gwnewch beli bach o’r gymysgedd.

Toddwch y siocled mewn powlen uwchben sosban o ddŵr berw ysgafn.  Rhowch y peli bach yn y siocled, codi pob un â fforch a’u rhoi ar y papur cwyr i’r siocled galedu.

Rhowch mewn papur melysion neu mewn bocs wedi ei addurno â phapur Nadolig.  Gorchuddiwch gyda ‘cling film’.

--------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 1998.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.

7.10.15

Colofn y Merched -pwdins hydrefol

Bu Colofn y Merched yn rhedeg yn rheolaidd am gyfnod hir iawn yn Llafar Bro, dan ofal Annwen Jones, Congl-y-wal. Bydd detholiad ohonynt yn ymddangos dros y misoedd nesa', dyma'r cyntaf i dynnu dŵr o'ch dannedd.


PWDIN MWYAR DUON, AFALAU A BANANA


350g o afalau bwyta
2 fanana
350g o fwyar duon
2 wy          
sudd lemwn
65g o siwgwr eisin
142ml (¼ peint) o hufen dwbl

Rhowch y popty ar 180°C /350°F, Nwy 4
Paratowch yr afalau a’u tafellu, ychwanegwch y ddwy fanana, hefyd wedi eu tafellu.
Gorchuddiwch y ffrwythau gydag ychydig o sudd lemwn a dŵr.
Rhowch y mwyar duon ar waelod desgl fas gan ychwanegu gweddill y ffrwythau.
Curwch yr wyau, y siwgwr a’r hufen gyda chwisg nes yn dew ac yn ysgafn.
Rhowch tros y ffrwythau a choginio am 20-25 munud.
   -  -  -  -

AFALAU WEDI EU POBI

Rhowch y popty ar 200°C / 400°F, Nwy 6

4 afal
(a)  50g o brŵns wedi eu malu
50g o fricyll wedi eu sychu
50g o gnau pecan
25g o syltanas
2 llwy fwrdd o fêl

(b)  300ml (½ peint) o seidar
1 llwy fwrdd o fêl
1 llwy fwrdd o fenyn wedi ei doddi

Tynnwch canol yr afalau ac yna rhannu cynhwysion (a) rhyngddynt.  Tywalltwch cynhwysion (b) tros yr afalau a’u coginio mewn llestr addas i’r popty am 25-30 munud.

----------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 1998.
Llun PW