5.4.21

Deg Uchaf Llafar Bro!

Hwn ydi 'blogbost' rhif 850!

Ers cychwyn cynnal gwefan Llafar Bro, naw mlynedd yn ôl, ym mis Mai 2012, mae wyth gant a hanner o erthyglau wedi ymddangos, fel bod pawb o bedwar ban y byd yn medru cael blas -am ddim- o gynnwys cyfoethog ein papur bro.

Mae'r dudalen ystadegau sydd ar gael i weinyddwr gwefan yn ddifyr iawn, gan ddangos pob math o wybodaeth, o'r llwybrau mwyaf poblogaidd i gyrraedd erthygl (dolen Gweplyfr/Facebook neu chwiliad Gwgl, ac yn y blaen), i'r adeg prysuraf mewn diwrnod pan mae pobl yn darllen. Gallwn hefyd weld o ba rannau o'r byd mae pobl yn ymweld â'r wefan. Fel mae Radio Cymru'n brofi yn rheolaidd, mae yna Gymry ymhob man ar y ddaear, a 'da ni gyd yn gwybod am gyfeillion ac anwyliaid o Fro Stiniog ym mhedwar ban y byd 'tydan. 

Ond mae angen ychydig o ofal wrth ddehongli lleoliad y darllenwyr go iawn, oherwydd gellir priodoli rhywfaint o'r 'traffig' ar y wefan i bots -sef cyfrifiaduron sy'n sganio gwefannau am gyfleoedd i osod hysbysebion, neu i rannu feirws, neu dwyll. 

Mae Rwsia a Twrcmenistan er enghraifft, wedi cofrestru 2 ac 1 ymweliad yr wythnos hon, ac mae ymweliadau o'r Unol Daleithiau braidd yn uchel; ond pwy a ŵyr, efallai mae Cymry alltud ydyn nhw i gyd!

Ystadegau mwy diddorol ydi pa erthyglau sy'n boblogaidd. Ymysg yr 850 mae darnau am hanes, diwylliant, cymuned, pysgota, atgofion, iechyd, gwaith, chwaraeon, celf, yr amgylchedd... yn wir mae'r amrywiaeth eang sydd ar gael yn cynnwys bron bob dim dan haul!

Dyma'r deg uchaf ar hyn o bryd:

Roedd cau Ysbyty Coffa Ffestiniog yn destun teimladau cryf iawn, a fel y gallwch ddisgwyl, erthygl am yr ysbyty, o Ionawr 2015, sydd wedi denu'r nifer mwyaf i'w darllen. Yn wir, mae tair erthygl arall am yr ysbyty a'r pwyllgor amddiffyn yn yr ugain uchaf, cymaint ydi diddordeb pobol Bro Stiniog yn y pwnc dadleuol yma.

Mae pawb yn aros yn eiddgar am newyddion am Ŵyl Car Gwyllt eleni, ar ôl gŵyl ddigidol y llynedd, ac mae'r erthygl am ŵyl 2018 yn ail yn y rhestr; efo erthygl am gymanfa gerddoriaeth werin i gofio Merêd, 'Codi'r to', o Ionawr 2020 yn yr 8fed safle.

Bu Aled Hughes yn garedig iawn ei eiriau am Stiniog ar ei raglen ar Radio Cymru dros y blynyddoedd, a bu'n barod iawn i dderbyn gwahoddiad i sgwennu erthygl wadd yng Ngorffennaf 2018, ac mae ei boblogrwydd yn lleol yn amlwg wrth gyrraedd rhif tri yn y 10 uchaf.

Mae Stolpia ymysg y mwyaf poblogaidd o golofnau rheolaidd y papur, a phennod o gyfres Steffan ab Owain ydi'r mwyaf diweddar o'r top ten, wedi saethu i'r bedwaredd safle mewn cwta chwe wythnos, ers Chwefror eleni.

Bu Llafar Bro yn cynnal cyfresi yn rhifynnau mis Medi cyn y pandemig, gan awduron gwadd ar themâu arbennig, ac un o'r rhain oedd cyfres MYNYDD: mae'r tirlun yn amlwg a dylanwadol iawn ym mywydau pobol dalgylch y papur am nifer o resymau. Mae dwy erthygl o gyfres 2017 yn ymddangos yn y deg uchaf, un ohonynt yn ysgrif hyfryd gan Dewi Prysor am yr hyn mae'r ucheldir yn olygu iddo fo.

'Nôl yng Ngorffennaf 2013 roedd hi'n union 20 mlynedd ers i atomfa Traws ddatgan nad oedd am ail-danio'r adweithyddion, ac felly'n gorfod cau. Yn rhif 6 yn y rhestr, mae Paul Williams yn trafod efo rhai o'i gydweithwyr yno bryd hynny, sut maen nhw'n teimlo erbyn hyn am y cau, ac effeithiau hynny ar ein milltir sgwâr.

Er bod Llafar Bro yn rhoi sylw rheolaidd i'r clybiau pêl-droed a rygbi lleol, erthygl ddifyr gan Dei Mur Jones am Glwb Bocsio Stiniog a llwyddiant un o'r aelodau, o rifyn Tachwedd 2017 ydi'r unig ddarn am chwaraeon yn y 10 uchaf.

Papur i'w ddal yn eich dwylo; i droi'r tudalennau wrth ddarllen, ydi Llafar Bro wrth gwrs, a hir oes i hynny. Ar gyfer y wefan, mae'r erthyglau yn dod o'r rhifynnau diweddar ar y cyfan. Mae ambell erthygl o fis Mawrth er enghraifft yn ymddangos ar y wefan ar ôl cyhoeddi rifyn Ebrill, ac yn y blaen. Mae rhai o'r erthyglau hefyd yn dod o hen rifynnau o'r gorffennol. 

Ond yn achlysurol, mae erthyglau yn ymddangos ar y wefan yn unig, neu ar y wefan yn gyntaf (fel hon yn wir!). Un felly oedd 'Taro'r Post i'r Parad Gl'wad' sy'n rhif un, ac un felly oedd yr erthygl yn safle deg hefyd, 'Mae'r Llechi'n Disgleirio', gan yr artist lleol Lleucu Gwenllian, i gyd-fynd efo cyfres DŴR yn rhifyn Medi 2018. 

Gobeithio fod rhywbeth at ddant pawb ar y wefan yma. Chwiliwch trwy'r adnoddau ar dde eich sgrîn i ganfod cyfoeth o erthyglau amrywiol (defnyddiwch 'web view' os yn darllen ar eich ffôn). Mae 3 ffordd o chwilio:

Coeden Erthyglau:   cofnod fesul mis a blwyddyn o'r holl gynnwys;

Blwch Chwilio:   lle i chi deipio gair neu eiriau i'ch helpu i ganfod pwnc penodol;

Cwmwl Geiriau:   allwedd-eiriau i rannu'r erthyglau yn gategoriau.

Neu, dilynwch ein trwyn yn ôl eich diddordeb neu'ch anian. Mae digon yma i'n cadw'n ddiddan am oriau meithion!






1.4.21

Hanes Teulu’r Gors

Wedi cael fy magu yn y Blaenau hyd nes gadael chweched dosbarth Ysgol Sir Ffestiniog, ym 1962, cefais yrfa wedyn fel Peiriannydd Siartredig, yn gweithio gyda’r diwydiant cynhyrchu trydan; ac erbyn hyn wedi byw dros hanner can mlynedd yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.

Roedd fy nhad, Rhys Jones, yn un o ddeg o blant a anwyd i Ann a Lewis Jones a fu’n byw, yn eu dyddiau cynnar, yn Taliesyn Terrace, a hynny cyn bod Jones Street a Fron Fawr wedi cael eu hadeiladu. Mae’n debyg mai “Y Gors” oedd yr enw lleol am yr ardal fach honno. Roedd yn y teulu bump bachgen, sef: Lewis, Bob, Ned, Ifan a Rhys a phump o ferched -  Nellie, Janet, Jane Ann, Leusa (a fu farw’n ifanc), a Gaynor.
 

Jonestryd a Taliesyn Teras, a Fron Fawr ar y chwith

Yn y cyfnod hwnnw, chwareli’r Blaenau oedd yn cyflogi y rhan fwyaf o’r gweithwyr lleol. Ac eto, roedd dinas Lerpwl yn ddylanwad mawr ar y rheini a oedd eisiau gwaith y tu allan i’r chwarel. Roedd Bob, Ned, Evan a Jane Ann ymysg y rhai a aeth am gyfnod i weithio yn Lerpwl.

Mae’n amhosibl croniclo popeth am y teulu, ond mae straeon bach am rai o’r digwyddiadau a ddaeth i’w rhan.

Symudodd y teulu wedi cyfnod, o Taliesyn Terrace rhyw ganllath i’r tŷ pen yn Jones Street. Ond doedd fawr o lwc; ym 1900, fe fu farw y tad, ar ôl damwain, ac yn ystod wythnos ei angladd, ganwyd iddo ferch fach. Yn ôl y sôn, cafodd y babi, Gaynor, ei bedyddio adref ger arch ei thad. Mawr oedd cydymdeimlad y cymdogion a’r gymuned, ac ysgrifennodd y bardd lleol R. J. Roberts, Tanrallt, benillion am yr amgylchiadau yma; ac yn nes ymlaen ysgrifennodd benillion eto am ddygnwch Ann Jones yn magu’r teulu ar ei phen ei hun.

Yn ddiweddar iawn, cefais amser i edrych yn fwy manwl drwy rai o ddogfennau’r teulu, a oedd wedi dod i lawr i mi ar ôl amser fy nhad. Ym mhlith y papurau roedd barddoniaeth R. J. Roberts, ac hefyd dogfen neu ddwy tra diddorol, gyda stori fach ynghlwm iddynt.

Wedi marw Lewis Jones yn 1900, a gadael deg o blant, roedd pethau yn anodd iawn ar y teulu. Erbyn 1903 roedd y mab hynaf, Lewis, yn cyrraedd ei ben-blwydd yn dair ar ddeg oed, a phenderfynwyd  y cai fynd i weithio i’r chwarel. I gwblhau y trefniadau, roedd angen cael hawl swyddogol iddo adael yr ysgol, ac fe ddaeth y caniatâd ar ffurf y papur swyddogol y mae ei lun isod, i’w ganiatáu i ddechrau gweithio.
 


Mewn ychydig flynyddoedd, aeth Evan a’i frodyr, Ned a Bob, i Lerpwl i geisio sicrhau gwaith. Tra roeddynt yn y ddinas, torrodd y rhyfel byd cyntaf, a newid trefn bywyd pawb. Ym 1915, penderfynodd Ifan (Evan) wirfoddoli i ymuno â’r fyddin. Hefyd, yn eu tro, cafodd Lewis, Ned a Bob eu galw i’r fyddin, ac felly roedd gan Ann Jones, y  fam, bedwar o feibion yn filwyr.

Er hyn i gyd, daeth y bechgyn i gyd adref yn saff. Fe fu Ann Jones fyw i weld ei theulu i gyd wedi tyfu, gyda phlant eu hunain, a phawb â pharch mawr at eu mam a’u nain.


Alun R. Jones (gynt o 5 Bryn Bowydd Newydd)
-----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2021

Llun- Paul W