14.9.17

Cyfres 'Mynydd' 2017

MAB Y MYNYDD YDWYF INNAU
Yn rhifyn Medi 2015 roeddwn i’n deud y drefn ar ôl i stori ddwy-a-dima*, a hollol anghywir fod yn y newyddion, yn adrodd nad oedd y Moelwyn Mawr yn fynydd! Lol botas maip, a newyddiaduraeth ddiog gan bobol oedd ddim yn deall eu testun.

Eleni, ddwy flynedd yn ddiweddarach, dwi’n falch o gael cyflwyno cyfres o erthyglau am fynyddoedd, gan awduron sy’n gwybod yn union am be maen nhw’n son. Pobol sy’n nabod eu cynefin ac yn gweld gwerth yn ein tirwedd garw, ei hanes a’i chwedlau, a’i bywyd gwyllt.

Heb i ni sylwi bron, mae’r mynyddoedd yn effeithio ar fywyd ym Mro Ffestiniog bob dydd, yn bennaf ar ffurf y tywydd rydan ni’n gael yma! Wrth gwrs, mae tref y Blaenau yn lle mae hi oherwydd y llechi gwerthfawr yn nghrombil yn mynyddoedd: ‘Fe welwch freichled o dref ar asgwrn y graig’ meddai Gwyn Thomas. Dwi’n teimlo weithiau y byddai’n well o lawer pe bai’r datblygwyr cynnar wedi adeiladu’r dref ymhellach i lawr y dyffryn i gyfeiriad Maentwrog, neu’r ochor draw i’r Crimea, ond er mor wael oedd tywydd yr haf eleni, mi ges i gnwd dda iawn o ffrwyth mwya’ blasus y byd, o’r ffriddoedd a’r llethrau eto. Chewch chi ddim hel llus ar lan y môr!

Mae lleoliad ein bro, ymhell o’r canolfannau gweinyddol yng Nghaernarfon a Dolgellau, wedi arwain at anhegwch ac anghysondebau mewn gwasanaethau cyhoeddus a gofal iechyd ac ati, ond ar yr un pryd mae wedi cyfrannu at ein dycnwch a’n hannibyniaeth. Mae nifer o’r mentrau lleol yn cydweithio bellach dan ambarel Cwmni Bro Ffestiniog: pobl yr ardal yn cydweithio er lles eu cymuned unwaith eto, yn hytrach nag eistedd adra’n cwyno a disgwyl i rywun arall wneud o ar ein rhan!

Bu adrodd ar y newyddion ddiwedd Awst bod gormod o bobl yn ymweld â’r Wyddfa –efo lluniau yn dangos copa uchaf Cymru yn ferw o gannoedd o bobl yn plethu ymysg eu gilydd a chiwio mewn rhesi hir ar hyd y llwybrau, a tydi mynd i le felly’n apelio dim arna’ i. Mae ein mynyddoedd ni ym Mro Stiniog fel byd gwahanol, diolch i’r drefn. Efallai y gwelwch lond dwrn o gerddwyr eraill wrth dreulio ychydig oriau yn y Moelwynion neu’r Rhinogydd, ond gallwch fynd trwy’r dydd heb weld enaid byw ar gopaon eraill fel Moel Penamnen, Yr Allt Fawr, neu’r Ysgafell Wen.

Dwy o ferched y mynydd o Stiniog ar eu ffordd i ben y Rhinog Fawr ganol yr haf

Ceiriog sy’ bia’r bennawd ar ben y llith yma -mab y mynydd ydwyf innau- o’i gerdd ‘Nant y mynydd’ ac mae’r bennill yn mynd ymlaen i ddisgrifio fy nheimladau i’n union:
‘...mae nghalon yn y mynydd efo’r grug a’r adar mân.’ 
Dim pawb sy’n gwirioni ‘run fath, dwi’n gwybod, ond p’run a ydych chi’n gerddwr brwd, neu’n edmygu’r mynyddoedd o bell am eu tirlun dramatig; neu â dim awydd mentro i’r ucheldir o gwbl, dwi’n mawr obeithio y byddwch yn mwynhau’r blas mynyddig sydd yn rhifyn Medi.

Diolch felly i’r awduron gwadd am gytuno i sgwennu am eu profiadau, ac i’r artist lleol Lleucu Gwenllian am greu logo effeithiol o’r Moelwynion (uchod) i gyd-fynd â’r gyfres.

Diolch hefyd i selogion Llafar Bro am eu gwaith gwirfoddol a’u cefnogaeth ffyddlon unwaith eto.
A dyna ni fy nhro i fel golygydd ar ben tan yr haf nesa’. Hwyl am y tro, a daliwch i gredu.


-Paul

Dolenni:

Cyfres MYNYDD

* Hir Oes i'r Moelwyn Mawr o rifyn Medi 2015


Celf -Lleucu Gwenllian
Lluniau -Paul W

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon