18.9.17

Stolpia -ymdrochi

Parhau â chyfres Steffan ab Owain, ar hynt a helynt hogiau’r Rhiw yn y 50au. 

Ceisiais gofio y dydd o’r blaen am rai o’r pethau a fyddem ni hogiau direidus y Rhiw a’r cyffiniau yn ei wneud yn ystod hafau braf y 50au. Wel, roedd ymdrochi, neu nofio yn yr afonydd a’r llynnoedd yn un o’r pethau a fyddai yn ein diddannu ar ddyddiau poeth yr haf, on’d oedd? Cofier, nid oedd pwll nofio yn y Blaenau y pryd hynny, ac felly pyllau yr afonydd neu’r llynnoedd oedd y mannau ymdrochi gennym.

Pa fodd bynnag, gan fod dŵr yr afon fach a ddeuai o dan Domen Fawr Chwarel Oakeley yn rhy oer i roi bawd eich troed ynddo heb sôn am ‘drochi ynddo cedwid ohono. Yn ogystal, rhybuddid ni i beidio a meddwl nofio yn y rhan o Afon Barlwyd a lifai drwy ardal y Rhiw a Glan-y-pwll gan ei bod yn fudr ac afiach, ac felly, anelwn am leoedd eraill mwy dymunol.

Un o’r llynnoedd hynny oedd Llyn Bach Nyth y Gigfran, a gallwch feddwl erbyn i ni gerdded i fyny y Llwybr Cam a llwybrau Chwarel Holland a chyrraedd y llyn yn chwys domen roedd cael mynd i’r dŵr yn beth braf iawn.

Pyllau eraill a fyddem yn ymdrochi ynddynt oedd ‘Llyn bach hogiau’ a fyddai y tu uchaf i ‘Lwnc y ddaear’, sef y y twll lle diflannai Afon Barlwyd iddo yn y mynydd ac a wnaed gan fwynwyr y chwarel i droi’r dŵr rhag mynd i’r gwaith tanddaearol yn Chwarel Llechwedd.


Llyn Mawr Barlwyd a Moel Penamnen

Roedd gan y merched lyn bach ychydig yn uwch i fyny i gyfeiriad Llynnoedd Barlwyd hefyd, sef ‘llyn bach merched’. Byddai’n rhaid codi argae fach o gerrig, mwsog a migwyn, ar draws yr afon i greu pwll nofio. Byddai hynny yn digwydd pob haf gan y byddai llifogydd tymhorau’r hydref, gaeaf a’r gwanwyn wedi ei chwalu yn ddios. Mae gennyf gof o fynd i fyny yno un tro gyda’r hogiau a’r diweddar Alun Jones (Alun Llechwedd) yn ceisio dysgu ni i nofio ynddo, er nad oedd y pwll fawr dyfnach na ryw lathen go lew. Cofiaf hefyd ein bod yn un rhes ar ymyl y lan a phob un ohonom yn ein tryncs nofio yn barod am wers.

Dyma’r cyntaf yn cerdded i mewn i’r dŵr, sef Dei Clack, os cofiaf yn iawn. Yna, dyma Alun yn ei gael i sefyll yn y rhan ddyfnaf, a’i osod uwchben y dŵr mewn ystum nofio gan afael am ei ganol. Yna, gofynnodd iddo ddechrau ar symudiadau’r corff er mwyn iddo nofio, a dyna ei ollwng yn y dŵr a dweud –“nofia rŵan” -ond diflannu o dan wyneb y dŵr a wnaeth Dei druan, ond buan iawn y daeth i fyny yn tagu a phoeri ar ôl cael cegiad iawn o afon Barlwyd. Penderfynu gadael y wers nofio tan rhyw dro arall a wnaeth y gweddill ohonom wedyn.

Y mae gennyf gof ohonom yn ’drochi yn Llyn Mawr Barlwyd rhyw ddwywaith neu dair a phan oedd dŵr y llyn yn isel. Ymhen pellaf y llyn lle byddai caban y ’sgotwyr ar un adeg y byddem yn nofio a lle llifa’r afon fach o’r hen lyn i’r llyn mawr. Nid oedd yn ddwfn iawn yn y fan honno a gellid sglefrio i lawr y mwd ar ein traed neu ar ein penolau i’r dŵr, ond os oedd y pysgotwyr yn y rhan honno byddai’n rhaid inni ei gwadnu hi oddi yno. Weithiau eid i lawr y ffos a’r cafnau wedyn i gyfeiriad Llyn Fflags a ‘drochi yn ‘llyn dŵr cynnes’ am ychydig ac fel yr awgryma ei enw roedd mynd iddo fel mynd i’r twb ar nos Wener. Dyddiau difyr, yn wir.
----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2017.  
Mae ail ran yr ysgrif ar ymdrochi yn rhifyn Medi -sydd ar werth rwan.
Dilynwch gyfres Stolpia efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon