Yn 1957, fe wnaeth Plaid Cymru gyhoeddi y nofel ffuglen wyddonol gyntaf yn yr iaith Gymraeg, sef Wythnos yng Nghmru Fydd gan Islwyn Ffowc Elis. 60 mlynedd yn ddiweddarach, cyflwynir opera newydd gan Gareth Glyn a Mererid Hopwood yn seiliedig ar y nofel eicionig yma gyda OPRA Cymru yn ei chynhyrchu.
Mi geshi’r fraint o gael gwahoddiad i’r ymarferion cyntaf yng Nghapel Bethel, Llan Ffestiniog a Theatr Ardudwy. Cafodd yr ymarfer yn y theatr ei recordio gan gwmni Teledu Rondo ac roedd criw Tinopolis yn recordio eitem a gafodd ei ddarlledu ar raglen Heno ddiwedd mis Mehefin. Bydd yr opera newydd sbon yma yn teithio ledled Cymru yn yr hydref gyda’r cast hynod profiadol – Sion Goronwy, Sian Meinir, Robyn Lyn, Gwawr Edwards ac Euros Campbell o dan arweinyddiaeth Iwan Teifion Davies yn dod a’r nofel eiconig yma yn fyw ar lwyfan.
Mewn toriad o wylio’r opera hwyliog ond hynod heriol yma yn dod yn ei flaen, mi fachais ar y cyfle i gael gair efo’r cyfansoddwr, Gareth Glyn i esbonio ei rôl o yn ystod yr wythnos ddwys yma o ymarfer:
“Mi ydw i yma yn yr ymarferion cyntaf fel mater o weld y cantorion a’r arweinydd nad oeddwn i yn ei nabod tan yr wythnos yma yn trio ymgymryd â’r gwaith. Dwi ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gan y cantorion neu’r arweinydd am y sgôr yn ogystal a gwneud unrhyw newidiadau fel bo’r angen. Mae’r gwaith bellach wedi cael ei drosglwyddo i’w dwylo nhw er mwyn iddynt gael cymeriadu’r hyn sydd wedi ei bodoli yn fy meddwl i tra’n cyfansoddi’r gwaith hwn.”Gofynnais iddo hefyd sut yr oedd yn teimlo wrth weld y delweddau yma sydd wedi bodoli yn unig yn ei ddychymyg o tra’n cyfansoddi yn dod yn fyw drwy leisiau’r cantorion yma :
“Bellach, mae’r cymeriadau yma yn perthyn iddyn nhw ac mae hi yn ddiddorol iawn gweld be mae nhw yn ei wneud gyda nhw, mae dehongliad canwr ac arweinydd anghyfarwydd i mi yn gallu rhoi bywyd newydd i’r cymeriadau hyn. Dwi’n gwybod sut y dylai swnio, ond dwi’n cael y profiad o weld sut y mae syniadau’r arweinydd a’r cantorion yn cael ei gyflwyno o’i gymharu a’r hyn wnes i ddychmygu tra’n cyfansoddi.”Fore Gwener, y 23ain o Fehefin, mi gynhaliwyd ymarfer yn Harlech, gyda chynrychiolaeth o’r gwahanol bartneriaid yn ogystal ac ambell aelod lwcus o’r cyhoedd sydd yn ymwneud â’r opera yma –Pontio, Ensemble Cymru, Cefin Roberts o Ysgol Glanaethwy, cwmniau teledu Rondo a Tinopolis, Cyfeillion OPRA Cymru a chyn-gyfranwyr y cwmni a chwmni Galactica, y cwmni o Gaernarfon sydd wedi datblygu yr app Sibrwd ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru. Pwrpas yr ymarfer yma oedd i gael gweithio mewn cyd-destun theatr a rhoi syniad i’r partneriaid o’r hyn a fydd yn cael ei gyflwyno yn yr hydref.
‘Profiad aruthrol o ddiddorol ac agoriad llygaid’ oedd y geiriau a ddefnyddwyd gan Cefin Roberts ar raglen Heno am yr hyn a welodd o, ac mae hi yn anodd iawn anghytuno gyda dyn sydd mor brofiadol yn myd y theatr! Er i mi gael y profiad o glywed darnau bychain o’r sgôr ym Methel ryw ddeuddydd ynghynt, roedd gweld y trawsnewdiad llawn o’r llyfr i’r llwyfan wir yn agoriad llygaid ac yn profi y gall unrhywbeth gael ei gyflawni yn yr iaith Gymraeg.
Rhywun arall oedd yn amlwg wedi ei phlesio gyda’r hyn a welwyd oedd Cyfarwyddwr Artistig Pontio, Elen ap Robert:
“Mae Pontio’n falch iawn o fod yn bartner yn y fenter gyffrous hon. Gyda dawn dweud Mererid Hopwood, talent gerddorol Gareth Glyn ac OPRA Cymru, ynghyd â themâu pwerus a pherthnasol iawn i’r Gymru gyfoes, mae’n addo bod yn gynhyrchiad arbennig ac arwyddocaol”.RhLlM
--------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2017.
Gallwch ddilyn hanes cwmni Opra Cymru efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon