4.10.17

Bwrw Golwg -Un arall o deulu Tŷ’r Ynys

Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Y tro hwn, pennod arall o gyfres W.Arvon Roberts am bobl Bro Ffestiniog yn America.

Soniais yn rhifyn Mawrth am Nicholas Jones (1812-99) o Dŷ’r Ynys, Cwm Cynfal, a ymfudodd i’r America yn 1841, a cafwyd ymateb diddorol gan Pegi Lloyd Williams, yn ychwanegu at yr hanes. Y mae yn fy ffeil wybodaeth am un arall o’r un teulu: disgynnydd a fu farw yn 1955, sef Edward Nicholas Jones.

Ganwyd ef Mai 22, 1867 yn Jerusalem, yn ardal Judson, Minnesota. Ei rieni oedd Evan E. (1830-96) ac Elinor Jones a symudodd i Judson o Wisconsin. Ymfudodd Evan E. Jones i Utica, Efrog Newydd, o Ffestiniog yn 1852, ac ar ôl gweithio i adeiladydd o’r enw Meredith Jones am bron i chwe mlynedd, symudodd i Janesville, Wisconsin, a priododd Elinor Evans, merch i John J. a Catherine Evans, gynt o Utica. Yn 1857 gwnaethont eu cartref yn Sir Rock, Wisconsin, ac yna symudont i Judson, yn 1866. Evan, ynghyd â Jabez Lloyd (g.1814 ym Môn) wnaeth adeiladu Capel Presbyteriaid Cymraeg Jerusalem, Judson yn 1871.

Capel Jerusalem, Judson. Llun o gasgliad yr awdur.




Dilynodd Edward N. Jones esiampl ei dad mewn llawer ffordd –fel ffarmwr a saer coed medrus, a hefyd fel aelod o’i gapel. Ar Fawrth 28, 1888 priododd ag Elizabeth Ann Lewis. Y mae nifer o’r tai ac ysguboriau a adeiladwyd yn Judson yn y cyfnod rhwng 1890 ac 1914 yn dystiolaeth i fedrusrwydd a gwaith gonest Ed.N fel y’i gelwid ef gan ei ffrindiau. Gwasanaethodd fel clerc y dref am nifer o flynyddoedd. Cafodd ei godi yn arweinydd y gân yn ei gapel pan oedd ond yn ŵr ifanc, a bu’n arweinydd y côr ymhob achlysur o bwys. Yr oedd hefyd yn flaenor am gyfnod maith.


Yn 1914 symudodd ef a’i wraig i Mankato, Minnesota, ac ymunodd â’r capel Cymraeg yno. Gwasanaethodd i gwmni Joseph Manderfield fel fframiwr lluniau profiadol a handy-man cyffredin.

Yn 1921 daeth yn olynydd i Isaac Griffiths yng ngofal y canu cynulledfaol yng nghapel Presbyteraidd Seion, South Bend lle y codwyd ef yn flaenor yn 1928. Bu’n athro Ysgol Sul am 65 o flynyddoedd ac yn ysgrifennydd Undeb yr Ysgol Sul yn yr ardal am lawer o flynyddoedd.

Bu farw yn Ysbyty Sant Joseph, Mankato, Ionawr 28ain 1955, yn 87 mlwydd oed. Cynhaliwyd ei angladd yn Seion, pryd y canodd y côr O Fryniau Caersalem; Cwm Rhondda; a’r dôn Babel.
Claddwyd ef ym mynwent Jerusalem. Gadawodd ar ei ôl ferch, Mrs Jane Ellen Jones, a mab, J. Floyd Jones, y ddau o Mankato. Un o’i wyrion oedd Lewis Jay Jones, aelod o fyddin yr Unol Daleithiau yng ngorsaf Bellevue, Nebraska.
------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2017. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon