Rydyn ni’n gwybod bod pob plentyn yn mwynhau bod allan yn yr awyr iach. Maen nhw’n hoffi archwilio a darganfod ynghanol byd natur. Mae ein cylchgrawn newydd yn ceisio ysbrydoli’r naturiaethwyr ifanc yma i gymryd eu camau cyntaf y tu hwnt i’r dudalen. Mae’n llawn lluniau, posau a chystadlaethau gwych, a phoster byd natur neu daflen weithgarwch am ddim ym mhob rhifyn.
Mae Bro Ffestiniog yn orlawn o safleoedd gwych i wylio natur!
Mae gennych chi o leiaf hanner dwsin o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yn eich cynefin lleol, o fawredd garw a gwyllt y Rhinog Fawr, i gyfoeth anhygoel y goedwig law Geltaidd yn Nyffryn Maentwrog, Ceunant Cynfal, a Choed y Rhygen.
Dyma safleoedd i ymfalchïo ynddynt; gwarchodfeydd o bwysigrwydd rhyngwladol. Does dim raid i bobl Bro ‘Stiniog fynd i’r trofannau na phendraw byd i werthfawrogi adar, blodau, a phryfetach godidog. Mae ein gwarchodfa ni yng Ngwaith Powdwr yn cynnig bob math o brofiadau a gweithgareddau hefyd.
Does dim raid ymweld â gwarchodfa natur hyd yn oed: gallwch wylio gweision neidr hardd ar bwll y rhandiroedd yng Nglanypwll, neu löynod byw a blodau gwyllt amrywiol ar hyd y llwybr o Dyddyn Gwyn i Benygwndwn, neu lunio rhestr hir o adar ar lannau Llyn Traws.
gwaell ddu, Glanypwll. Llun Paul W. |
I dderbyn cylchgrawn Gwyllt! ymunwch ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru fel aelodau teulu. Hefyd dywedwch wrthym ni ble gwelsoch chi’r erthygl yma [Llafar Bro, wrth gwrs!] ac fe fyddwn yn anfon pecyn pan fyddwch yn tanysgrifio.) Byddwch yn cefnogi ein gwaith dros fywyd gwyllt lleol ac yn derbyn cylchgrawn gwych ar yr un pryd – be gewch chi well?
------------------------------------------
Addaswyd o ddarn a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon