18.10.17

Yma mae fy lle

Efallai ein bod yn cymryd ein tirlun a’n hamgylchedd yn ganiataol weithiau, a ddim yn sylwi ein bod yn byw mewn ardal anhygoel o hardd, ond mae’n bwysig eistedd nôl bob hyn a hyn a chofio mor ffodus ydan ni i fyw mewn lle mor brydferth, felly roedd rhifyn Medi 2017 yn llawn dop o erthyglau oedd yn rhoi blas i ni o ddylanwad a gwerth y mynyddoedd sy’n ein hamgylchynu. 

Dyma'r cyntaf yng nghyfres Y MYNYDD: Nesta Evans, ein colofnydd rheolaidd yn trafod gwerth ac ystyr mynyddoedd iddi hi.


Beth mae mynyddoedd a bryniau Bro Ffestiniog yn ei olygu i mi? Llawer iawn. Treuliodd fy  nghyndadau eu plentyndod yn gweithio yng nghrombil y mynyddoedd sydd o’m cwmpas, a magwyd llawer o gewri o fewn y diwydiant llechi. Pobl oedd yn byw ar ychydig, pobl ddiwylliedig, pobl a wybu galedi ond a adawodd well byd i’w plant a’u plant hwythau. Cefais fy magu rhwng y Manod Mawr a’r Moelwyn, ym mhentref bach Manod – atgofion am fywyd hapus, syml iawn – plentyndod  braf, di-ofal a dychwelaf yn ôl yn aml yn fy meddwl. Byw drws nesa i Mald a’i deulu gyda Mald yn treulio llawer o amser yn ein tŷ ni – brawd bach benthyg i Gwenda a fi!

Dyma eiriau un o’r ‘Bobl Cyntaf’ ar raglen ‘Mynyddoedd y Byd – y Rockies’ ar S4C ar nos Sul, Gorffennaf 16. Un o lwyth y Black Foot oedd, balch o’i draddodiadau – ‘Rhan o’r teulu yw’r mynyddoedd’ ac ‘O’r mynyddoedd mae mywyd yn deillio’. Teimlent fod mynd at y mynyddoedd fel mynd at deulu, ac y deuent yn ôl wedi deall pethau’n well.


Bu Alwyn a mi yn ffodus iawn o weld mynyddoedd bendigedig fel yr Alpau, yn cynnwys y Matterhorn hudolus. Buom dros y Caucasus yn Rwsia, gwelsom y Grand Canyon anhygoel a’r Rockies, ac aethom dros India i Thailand.

Ond wyddoch chi be? D’oes dim yn rhoi gwefr a theimlad o ddiogelwch fel mynyddoedd ardal fy nghyndadau.

Rwy’n hynod ffodus. Y peth cyntaf a welaf bob bore wrth agor y llenni yw yr hen Foelwyn hardd. Rwyf wedi edrych arno drwy bob math o wahanol agweddau ac yn dal i feddwl ei fod yn harddach na’r un wyf wedi ei weld!

Roedd Syr Thomas Parry Williams wedi ei deall hi. Dyma ddwy linell o’i soned ‘Moelni’ –
‘Ymwasgai henffurf y mynyddoedd hyn
Nes mynd o’u moelni i mewn i’n hanfod i.’
Ychwanegaf innau –
Mae fy ngwreiddiau mor ddwfn yn yr ardal,
ac yma mae fy lle.
-------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2017.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen MYNYDD isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde*.
Celf gan Lleucu Gwenllian
Llun Paul W.

*Dolenni ddim ar gael ar y fersiwn ffôn, cliciwch 'View web version' ar y gwaelod.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon