22.10.17

Dawnsio ar y dibyn

Yr ail erthygl yn ein cyfres arbennig ar Y MYNYDD.
Ers ei brofiadau cynnar ac allweddol ar glogwyni Bro Ffestiniog, mae David Williams wedi dringo’n helaeth ym Mhrydain, Iwerddon, Sgandinafia a gweddill Ewrop; gogledd a de yr Affrig, a’r UDA.

Dringo. Rhywbeth cysylltiedig â gwaith medd fy nhad, cadarn yn ei farn nad oedd lle i’r geiriau ‘pleser’ a ‘dringo’ ymddangos gyda’u gilydd yn yr un frawddeg. “Dim ond Saeson sy’n dwad yma i ddringo. Da ni’r Cymry yn llawar iawn callach!” meddai’n rheolaidd wrth weld llygaid ei fab yn troi’n awyddus at y clogwyni a’u dringwyr amryliw wrth fynd heibio i greigiau Bwlch y Moch ger Tremadog, ar y ffordd i ail-ddarganfod pleserau syml bwced a rhaw ar draeth Cricieth.

Trydanwr yn Llechwedd oedd fy nhad, a phob bore gwaith am dros 50 mlynedd bu’n dringo’r llwybr carregog o Bant’rafon i fyny i’w weithdy. Wedyn, byddai’n parhau i ddringo trwy gydol y dydd, o un bonc i’r llall neu i lawr i rhyw gilfan anghysbell yng nghrombil y graig, pob tro i drwsio rhyw hen beiriant blinedig oedd wedi rhoi’r ffidil yn y to, cyn dychwelyd i’r wyneb am rownd fach arall. Dringo a gweithio; y ddau fel efeilliaid cyfunol.

Oedd, er na wnaethai byth gydnabod y ffaith, mi roedd fy nhad yn ddringwr. Ac -heb os nac oni bai- roedd dringo yn fy ngwaed innau hefyd. Dw i eisoes wedi fy hudo’n llwyr gan alwad y mynydd ac mae dringo wedi bod yn ran allweddol iawn o’m bywyd. Wedi bod, ac yn dal i fod.

Tyfais i fyny mewn tŷ o’r enw Trem y Graig - enw addas iawn wrth edrych ‘nôl. Y graig oedd Nyth y Gigfran. Dringais i ben y graig hon, am y tro cyntaf, pan yn naw oed, ar ôl blynyddoedd o edrych allan trwy ffenest y parlwr a gofyn: ‘Sgwn i beth sydd i’w weld dros y top?

Daeth y cyfle cyntaf i glymu rhaff rownd fy nghanol pan yn bedair ar ddeg oed, yn sgil penodiad athro ifanc i staff Ysgol y Moelwyn, un oedd wedi dechrau dringo tra’n fyfyriwr yn Aberystwyth. Ni gymerodd llawer o berswâd cyn iddo gytuno mynd â pedwar ohonom i ddringo. ‘Roedd un ymweliad â Chlogwyn yr Oen ar lethrau’r Moelwyn yn ddigon. Yno gwelwyd Y Bwystfil mewnol yn cael ei ddeffro am y tro cyntaf ac, erbyn hyn, mae’r cythrael wedi gwneud ei orau glas i reoli fy mywyd am bron iawn hanner canrif.

Aeth pethau o ddrwg i waeth yn sydyn iawn: Denig o’r ysgol pan yn y chweched dosbarth er mwyn dringo ar Graig y Clipiau yn lle gweithio yn y llyfrgell. Cyfnodau ym Mhrifysgolion Lerpwl a Bangor; y ddau le wedi’u dewis oherwydd eu hagosrwydd i safleoedd dringo. Cannoedd o ddyddiau wedi’u treulio ar greigiau mewn llefydd fel Helsby, Stanage, Langdale, ynys Skye, Cernyw ac Eryri.

Gyrfa hir ym myd addysg ym Mhowys. Priodi; magu meibion ond eto yn byw am y penwythnos. Jyglo cyfrifoldebau teulu a gwaith, pob tro yn edrych am gyfle, hyd yn oed ‘mond hanner cyfle, i dreulio amser ar y creigiau.

Gwyliau haf; yr un hen stori. Llwytho’r car gyda’r hogiau, y wraig a minnau cyn gyrru am ddyddiau i ddringo mewn rhyw wlad estron. Pan yn ddwy oed, ‘roedd fy mab hynaf yn medru siarad mwy o Almaeneg na Chymraeg…. Ia, dyma beth ydy ‘salwch’ go iawn.

Oes, mae rhaid parhau i fwydo’r Bwystfil. Dydi bywyd ar lawr y dyffryn ddim yn ddigon. Yn y bryniau a’r mynyddoedd fodd bynnag, mae’r teimladau o ryddid, o fod yn hollol fyw ac yn rhydd o gadwynau a rhwystredigaethau bywyd dyddiol yn dod i’r blaen. Dro ar ôl tro, dyma’r teimladau sy’n amlygu eu hunain, sy’n cyflymu pyls yr hen ddyn yma, un sy’n hollol gaeth i ddringo.

Mae’n hen ystrydeb, dwi’n gw’bod, ond mae ‘Dyn Yn Erbyn Y Mynydd’, ym mha bynnag gyd-destun, yn destun rhyfeddod, er nad ydyw, i mi, yn achos o ymladd natur. Yn hytrach, mae’n frwydr barhaol yn erbyn disgyrchiant, rhwng y meddwl a’r corff; dim mwy, dim llai. Clywais sôn unwaith am rywun nad oedd yn deall yr atyniad at ddringo, a bu iddo ofyn: “Fyddai neb yn cerdded i fyny grisiau jyst er mwyn gwneud, na fyddai?” Hmm … does dim ateb hawdd i hwna.

‘Rwan, rhag ofn i chi feddwl mai creadigaeth y dychymyg ydyw, mae’r Bwystfil yn bell o fod yn anweledig. Os nad wyf wedi bod yn dringo am sbel, mi fydd yn hyrddio ei gwmni arnaf. ‘Cabin fever’ heb ei ail, y meddwl yn sgrechian am ddos bach arall o hongian o flaenau bysedd; yn ysu am fywyd yn y fertigol.

Chi’n gweld, ‘dydy pawb ddim yn deall anian Y Bwystfil. Maent yn gweld fy hoffder o’r Bwystfil fel “obsesiwn” sydd yn fy “meddiannu”. Maent o hyd yn cyfeirio ato fel rhywbeth sy’n “tynnu fy sylw” oddi ar “bethau pwysig bywyd”.  Efallai eu bod nhw’n iawn. Ond pan dw i yng nghanol hwch o ddringfa anodd, Y Bwystfil yw’r un sydd wastad yno efo fi, wrth fy ysgwydd yn herio, yn annog a chefnogi. Pan fo’r chwys nerfus yn arllwys ohonof, y bysedd yn gwanhau a’r copa fel petai’n cilio ymhellach o’r golwg, y fo yn unig yw’r cydymaith ffyddlon sy’n fy ngheryddu a’m calonogi.

Y creadur a gafodd fywyd ar Glogwyn yr Oen sy’n dal i fy nwyn i grib y graig; i ddawnsio ar y dibyn.
--

‘Rwyf newydd orffen cyd ysgrifennu y tywyslyfr dringo cyntaf i Geredigion, Powys a Sir Gâr. Disgwylir y bydd ‘Central Wales – A climbing guide to Elenydd’ yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn hon. Yn gyfredol ‘rwyf bron a bod yn ôl ym mro fy mebyd, gan fy mod yn ysgrifennu ‘Welsh Grit’, sef tywyslyfr dringo newydd y Rhinogydd.

Dros yr hanner canrif, llwyddais ddringo ymhell dros 400 o ddringfeydd newydd , gan gynnwys dwy ar Foel y Gest, dros 150 yn y Rhinogydd (hyd yma) ond, yn anffodus, dim un ar yr hen Foelwynion.

Llun:
Yr awdur yn dringo ar y Perl Du ger Cwm Tydu, Ceredigion.
-----------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2017.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen MYNYDD isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde**.


Celf gan Lleucu Gwenllian


**Dolenni ddim ar gael ar y fersiwn ffôn, cliciwch 'View web version' ar y gwaelod.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon