30.10.17

Y Mynydd a Mi

Os ewch chi i grwydro’r Moelwynion ryw dro, y tebygrwydd ydi y gwelwch chi Dewi Prysor yno, gan fod y mynyddoedd yn denu’r awdur oddi wrth ei gyfrifiadur yn rheolaidd. Yn y bedwaredd erthygl yng nghyfres Y MYNYDD, mae’n egluro pam.

Pan mae bobol yn gofyn i fi pam mod i’n mynd i ben y mynyddoedd rownd y rîl, yr hen ateb syml hwnnw “am eu bod nhw yno,” fydda i’n ei roi. Falla ei fod o’n ateb ystrydebol – diog, hyd yn oed – erbyn hyn, ond y gwir amdani ydi ei fod o’n ateb gonest hefyd. I fynyddwyr – boed yn gerddwyr neu ddringwyr – mae ’na lwyth o resymau personol, ysbrydol, corfforol neu greadigol (neu chwilfrydedd pur) yn ein cymell i’r copaon. Ond tasa’r mynyddoedd ddim yno yn y lle cyntaf, fyddai yr un o’r cymhellion hynny’n bodoli.

Felly be sy’n denu Dewi i’r uchelfannau? Be sydd tu ôl y trampio tragwyddol i’r topia’? Wel, i ddechrau mae brasgamu i ben y bryniau yn ffordd dda o gadw’n heini a chadw’r pwysau i lawr. Mae hynny’n bwysig i mi gan ’mod i ddim yn gwneud gwaith corfforol ers i mi ddechrau sgwennu’n llawn amser. Dwi hefyd yn licio peint neu ddau, felly mae lapio fy hun fel nionyn mewn leiarau o ddillad a chwysu chwartia wrth fartsio i ben mynydd yn ffordd dda o gael gwared o gwrw’r noson gynt. Mae o’n ‘detox’ da i’r corff, ac yn ffordd wych o glirio’r pen. Awyr iach ydi’r tonic gorau i’r enaid, ac mae cerdded yn sydyn – nes bod eich brest bron â byrstio – yn gwneud i’r galon bwmpio a chadw’n gryf. Dwi’n dod ar draws pobl ar y topia sy’n sbio’n hurt arna i’n laddar o chwys, wedi lapio mewn dillad trwm ar ddiwrnod braf. Ond fi sydd galla – dwi’n cael ymarfer corff a ‘sauna’ yr un pryd!

Llun gan Dewi Prysor
Nid y ‘pen mawr’ ar ôl cwrw ydi’r unig beth mae awyr iach yn glirio. Fel ddudas i, sgwennu ydi fy ngwaith a dwi’n treulio wythnosau ar y tro, weithia, yn eistedd o flaen cyfrifiadur am oriau ar y tro. Os na ga i fynd i ben mynydd unwaith pob dydd mae ‘cabin fever’ yn cydio ynddo fi. Weithia, pan fo dedlein dynn efo gwaith, fydda i’n sownd wrth y ddesg am ddau neu dri diwrnod, efo folcêno yn barod i ffrwydro tu mewn i mi. Bryd hynny fydda i’n tarannu allan o’r tŷ a dianc i ben y Moelwyn – ac o fewn hanner awr o gerdded, dwi’n teimlo’r folcêno’n tawelu unwaith eto. Yr un ydi’r broses pan fo pwysau cyffredinol bywyd yn mynd yn drech – dianc i dawelwch y mynydd, i’r ‘oruwchystafell’, lle mae’r gorwel yn grwn, heb waliau stafall na thŷ na stryd, a dim ond y brain coesgoch a’r cigfrain yn gwmni. A’r awel, wrth gwrs. A’r mynydd ei hun, sydd fel ffrind ffyddlon nad oes angen geiriau i ddallt ein gilydd.

Ac yn yr heddwch yma mae’r “Lle i enaid gael llonydd,” fel ddudodd y bardd. Ac yn y llonyddwch tawel mae’r awel yn clirio llanast y byd a’i broblemau dyddiol allan o’r pen, gan wneud lle i fyfyrio a hel meddyliau newydd. Mae fel bod llifddorau yn agor a gadael i’r dŵr budr lifo lawr y ffos gorddi a gwagio’r llyn, cyn cau’r dorau a gadael i ddŵr clir y nant lenwi’r llyn unwaith eto, yn fwrlwm ffres i adfywio’r pen a’r enaid. Ac yn bur aml, i mi fel awdur a mymryn o fardd, mi ddaw yr awen â llu o syniadau efo’r dŵr clir hwnnw. Wrth eistedd ar gopa’r mynydd mae o fel tasa’r ymennydd yn amsugno’r tirlun, a’r ddaear ei hun yn treiddio i mewn i fy mêr. Adeg yma, wrth syllu ar yr olygfa o fy mlaen a gallu gweld popeth rhwng blaen fy nhrwyn a’r gorwel eithaf un, dwi’n gweld fy mro yn troi yn wlad, a fy ngwlad yn troi yn fyd, a gweld yn union lle mae fy lle innau yn y byd hwnnw.

Dwi’n teimlo’n rhan o rywbeth sydd gymaint mwy nag unrhyw gymdeithas na gwlad a gwareiddiad, yn fwy nag unrhyw system a grewyd gan ddynion. Dwi’n teimlo’n fyw. Yn rhydd i fod yn fi fy hun, heb orfod cyfaddawdu i drefn cymdeithas, i’r ‘norms’ cyfoes, i ffasiwn ac ymddygiad ‘derbyniol’ y dorf. Tydi’r mynydd a’r adar byth yn barnu.

Mae ’na sens yn hyn i gyd. Y syniad o berthyn i’r tir a gweld lle rydan ni yn y byd. Rydan ni’n byw yn y cymoedd, heb allu gweld dros y gefnan i’r cwm nesaf. Rydan ni’n gallu rhoi ein bys ar fap a dweud “Fa’na ’da ni’n byw.” Ond dydan ni’m yn gwybod lle rydan ni yn y byd go iawn. Ond wrth ista ar ben mynydd dwi’n gallu gweld yn union lle’r ydw i’n byw. Dwi’n gweld y cymoedd i gyd, y llynnoedd a’r afonydd, pob mynydd a bryn. Dwi’n gallu gweld pa mor agos ydan ni i’r pentra nesaf dros y mynydd – y pentra rydan ni’n teithio iddo ar hyd y ffyrdd modern, i lawr y dyffryn ac yn ôl i fyny’r cwm drws nesa er mwyn ei gyrraedd, lle gynt roeddan ni’n cerddad trwy’r bylchau rhwng y mynyddoedd, yn ôl a blaen i farchnata a chymdeithasu. Mae hyn yn ein pellhau oddi wrth ein gilydd, yn ein dieithrio oddi wrth ein cymdogion yn ein gwlad ein hunain. Roedd pobman yn gyfarwydd i ni unwaith. Ond heddiw, dim ond wrth fynd i ben mynydd allwn ni gyfarwyddo â’n gwlad ein hunain – gweld yn union lle rydan ni wedi bwrw gwreiddiau.


A dyna i chi’r afonydd. Dim ond yn y mannau uchel y gallwch brofi’r teimlad sbesial o sefyll lle mae afon yn tarddu. Mae sylweddoli pa mor bell ynghanol yr unigeddau mae afonydd mawr fel y Ddyfrdwy a’r Tawe, er engraifft, yn dechrau eu taith – y naill wrth droed y Dduallt ger Rhobell Fawr, a’r llall ar Moel Feity, yn agos at Lyn y Fan Fawr ym Mannau Sir Gâr – wastad yn eich rhyfeddu. Mwy arbennig fyth ydi gallu croesi’r afonydd hynny, ynghyd â’r Fawddach, Prysor, Artro, Hafren, Gŵy, Conwy, Llugwy a Thâf a llawer mwy, mewn un cam – ac wedyn, dweud wrth eich plant, wrth ddreifio’r car dros bont ar un o’r afonydd hynny, fy mod i wedi neidio drosti mewn un llam. 

Mi sylwch fy mod i’n cynnwys afonydd o bob cwr o Gymru uchod. Yn ddiweddar mi wnes i gwblhau her Cant Uchaf Cymru – sef mynd i ben y cant mynydd uchaf yng Nghymru. Wrth wneud hynny mi ges i grwydro ardaloedd oedd yn ddiarth i mi tan hynny, fel mynyddoedd y Berwyn yn y gogledd, a Bannau Brycheiniog a Bannau Sir Gâr yn y de. Ac mae hynny eto yn atyniad ynddo’i hun – profi’r un wefr a’r un ysbrydoliaeth ag yn y gogledd, ond efo’r antur ychwanegol o fod yn crwydro tir anghyfarwydd. Mae mynyddoedd yr Alban yn ysgubol o ran maint a natur, ac yn fyd gwahanol o’i gymharu â Chymru, ond mae crwydro ‘tir diarth’ yn eich gwlad eich hun yn brofiad mwy arbennig oherwydd eich bod yn dysgu am eich gwlad eich hun – hanes sy’n perthyn i ni, ac enwau sy’n perthyn i’n iaith ni.

Mi orffennais y Cant Uchaf yn ardal y Mynydd Du (ger y Fenni, Gwent) pan gerddais yr wyth mynydd olaf o’r cant mewn dau ddiwrnod o bymtheg milltir y dydd. Mae’r daith yn mynd â chi i lefydd fel Capel y Ffin a Bwlch yr Efengyl, llefydd sy’n berwi o hanes. Mae un rhan o’r llwybr dros y Mynydd Du ei hun yn dilyn llwybr Clawdd Offa, ac am rywfaint o’r daith rydach chi’n cerdded yn Lloegr. Ym mhen uchaf y cwm ro’n i’n edrych i lawr i gyfeiriad y Gelli Gandryll, a draw i’r dwyrain ro’n i’n gweld Dyffryn Dôr, Swydd Henffordd, lle y dywed rhai y ciliodd Owain Glyndŵr i fyw gweddill ei oes efo’i ferch yn Monnington Court. Fel y disgwyl efo ardaloedd y gororau, mae ardal y Mynydd Du yn diferu o hanes. Bron na fedrwch ei deimlo ym mêr eich esgyrn mewn llefydd fel Capel y Ffin – fel petai’r cwm cul a’i ochrau serth wedi cadw’r hanes rhag diflannu efo niwl y canrifoedd.  

Mae hanes yn drwm yma yng Ngwynedd hefyd, wrth reswm, ac mae hynny’n rhoi modd i fyw i mi wrth gerdded mynyddoedd y sir. Dwi’n gythral am hanes, yn enwedig y bryngaerau niferus sydd i’w gweld yma. Dwi hefyd yn canlyn cylchoedd cerrig a meini hirion yma ac ymhob cwr o orllewin a gogledd Prydain. A gan mai ar yr ucheldiroedd mae’r rhan fwyaf o’r henebion yma i’w gweld, mae’n beth braf gallu cyfuno taith gerdded sy’n cynnwys meini a mynyddoedd, bryniau a bryngaerau, cylchoedd a charneddi. Mae’r rhan fwyaf o’r henebion yma yn hŷn na’r pyramidiau – a’n cyndeidiau ni gododd nhw. Felly, pan dwi’n sefyll mewn cylch cerrig neu wrth droed maen hir, rydw i’n gwybod i sicrwydd mod i’n sefyll yn ôl traed cyndeidiau oedd yn byw yma tua 4 i 5,000 o flynyddoedd yn ôl. Ac mae hynny’n gyrru ias o gyffro i lawr fy asgwrn cefn.

Ond mae cyfoeth o hanes mwy diweddar yma yn ardal Llafar Bro, wrth gwrs, ac mae’r rhain, er nad mor hen â’r pyramidiau, yn gampweithiau pensaernïol gystal, os nad mwy, na henebion yr Aifft. Sôn ydw i am adfeilion yr hen chwareli, wrth gwrs – yr inclêns a melinoedd, pontydd a grisiau, lefelau a rheilffyrdd ac ati. Ac mae cymaint mwy o’r gorchestion adeiladol hyn yn cuddio ym ddwfn ym mol y mynyddoedd – fel dinasoedd tanddaearol y byddai Indiana Jones wrth ei fodd yn chwilota drwyddyn nhw. A’r cwbl lot yn destament i lafur, chwys a gwaed hogia’r gymuned hon.

Llun -Paul W
Mi orffena i efo rhywbeth arall sy’n agos at fy nghalon ac sydd yn ychwanegu at fy mwyhâd o’r mynyddoedd, sef yr iaith Gymraeg – ac yn benodol, enwau lleoedd. Mae prynu mapiau yn rhan hanfodol o fynydda, felly mae gen i lwyth o fapiau o bob cwr o’r wlad er mwyn planio teithiau. Ond unwaith dwi’n agor map, dwi’n ei chael hi’n anodd ei gau o eto, gan mod i’n methu’n lân a stopio syllu ar y cyfoeth o enwau difyr a lliwgar, llawn hanes, sydd gennym yn ein gwlad.

Wrth grwydro’r cymoedd, afonydd, creigiau a bylchau yma i gyd mi ydw i’n gwirioni’n botsh efo’u henwau a’u hystyron. Mae gen i gannoedd o enwau sydd wedi fy nghyfareddu, ond yr un diweddara i gipio fy nychymyg ydi mynydd y dringais fel rhan o’r Cant Uchaf, ym Mannau Sir Gâr – Fan Gyhirych. Dyna i chi enw mo! Mae yna Nant Gyhirych hefyd, ac mi alla i ddychmygu mai enw personol rhyw ryfelwr neu bennaeth yn yr oesoedd a fu ydi Cyhirych! Boed hynny’n wir ai peidio, taswn i’n frodor o’r ardal honno mi fyddwn i’n galw fy mab hynaf yn Cyhirych. Alla i ond mawr obeithio bod rhywun o’r ardal wedi gwneud hynny.

Dyna ni. Mae rhai pobl hefyd yn gofyn i mi os ydw i’n diflasu ar fynd i fyny’r un mynyddoedd fwy nag unwaith. Dwi’n gobeithio mod i wedi gallu egluro ei bod hi’n amhosib diflasu ar y mynyddoedd. Da chi, os nad ydach chi wedi bod, cerwch. Aros mae’r mynyddau mawr!
-----------------------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2017.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen MYNYDD isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde*.

 
Celf gan Lleucu Gwenllian


*Dolenni ddim ar gael ar y fersiwn ffôn, cliciwch 'View web version' ar y gwaelod.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon