3.11.17

Teimlo Pob Cam

Yn y bumed erthygl yn ein cyfres arbennig ar y MYNYDD, mae’r cynghorydd tref a’r chwarelwr Erwyn Jones yn crwydro ucheldiroedd yr ardal yn rheolaidd. Yma mae’n disgrifio taith anarferol ddiweddar i gopa’r Wyddfa.

Wrth feddwl am ffyrdd i hel arian, rhaid bod rhyw fath o her neu aberth ynghlwm â’r gweithgaredd, os am ei wneud yn un  llwyddiannus, ac yn ddi-os, teimlais bod un o fy syniadau i yn mynd i ateb y gofynion yma. Yn  ystod cyfarfod o bwyllgor Cylch Meithrin Blaenau Ffestiniog, rhai misoedd yn ôl pellach, cafwyd sesiwn o feddwl am syniadau i godi arian, ac un syniad y cynigais i’r het oedd cerdded i gopa’r Wyddfa, ond nid o gychwyn ar un o’r llwybrau traddodiadol, ond o gychwyn yn ‘Stiniog, a darfod wedyn ym Mhen y Pass. Nid wyf yn gor-ddweud drwy nodi aeth y pwyllgor yn ddistaw, ag ambell olwg digon syn gan sawl un!

Fy mwriad oedd gwneud y daith yn unigol, nid oeddwn yn disgwyl i neb arall ymgymryd â’r her, yn enwedig o gysidro ei bod yn daith o ychydig dros 16 milltir, ond ymhen dim, roedd Sara Ashton Thomas a Gillian Jones wedi cynhesu at y syniad o gymryd rhan.

Daeth y syniad gwreiddiol o wneud y fath daith gan Dei (siop yr Hen Bost), rai blynyddoedd yn ôl bellach, a dyma a’m ysgogodd i wneud y daith am y tro cyntaf, llynedd, ac wrth wneud y daith, meddyliais y byddai’n syniad ardderchog ar gyfer taith noddedig er budd y Cylch.
Ar ôl pennu dyddiad, paratoi ffurflenni noddi, a chreu tudalen ‘Just Giving’ ar y we, dyma fynd ati i ‘neud y daith! Felly, ar fore Sadwrn, 12fed  o Awst, dyma Sara, Gillian a fi yn cwrdd â’n gilydd ger giât Cwmorthin, am 7 y bore, i gychwyn yr her!!

Roedd pethau’n edrych yn addawol o ran y tywydd wrth gychwyn- haul braf, mymryn o wynt ysgafn, a digon cynnes – dim i boeni amdano. Yn wir, gwaeddodd cyfaill wrth i mi gerdded drwy Glanypwll “Gaddo hi’ n braf drwy’r dydd!” Ha! Ychydig a wyddai fod ei enw am droi’ n fwd ‘nes ymlaen!

Cawsom dywydd sych wrth gerdded trwy Gwmorthin, tuag at Rhosydd. Nid oes dianc rhag y dystiolaeth o brysurdeb y cwm yma yn y gorffennol, gydag olion y chwareli yn allor i’r llafurio a fu yma, ac yn wir, os oedd thema a fyddai’n gyfeiliant i ni ar hyd y daith, ac eithrio’r amlwg, megis llynnoedd, mynyddoedd a byd natur, yna diwydiant chwarelyddol byddai hwnnw. Chwareli Cwmorthin, Conglog a Rhosydd yr ochr yma i’r fro, a chwareli llechi Cwm Llan a Bwlch Llan yng ngheseiliau’r Wyddfa, ynghyd a’r mwyngloddiau dirifedi sydd wedi eu gwasgaru ar hyd a lled yr Wyddfa.

Wedi i ni gyrraedd Llyn yr Adar, dyma’r tywydd yn troi, ac yn wir, dyma sut buodd hi am weddill y daith: cawodydd o law mân, niwl, ag ambell ysbaid heulog.

Roeddwn yn teimlo bod y niwl yn fendith mewn un ffordd- nid oedd yr Wyddfa i’w gweld! Fel un sydd wedi gwneud y daith sawl tro bellach, mewn tywydd sych a chlir, un peth sy’n gallu torri’r enaid, o Lyn Adar ymlaen, ydi gweld copa’r Wyddfa. “Pam?” clywaf rhai yn gofyn,- mae’r ateb yn ddigon syml, o’r pwynt yma ymlaen, i lawr allt yw’r daith, yr holl ffordd i Nant Gwynant. Un o’r pechodau mwyaf gan gerddwyr mae’n debyg yw colli uchder yn ddi-angen, ond does dim osgoi hyn ar y daith hon, gyda phob cam yn mynd â ni yn agosach at lefel y môr! Cryn 58 metr yw Nant Gwynant uwchlaw’r môr, a’r Wyddfa fel cawr, 1085m uwchben!

Ar ôl cyrraedd maes parcio Nant Gwynant, roeddem wedi cyrraedd hanner ffordd, a’r darn caletaf eto i ddod. Dilyn llwybr Watkin, neu o leiaf rhan ohono oedd y nod, gan gerdded at Gwm Llan, yna gwyro tua’r chwith ychydig cyn cyrraedd yr enwog 'Maen Gladstone' ag anelu at Fwlch Cwm Llan, i fyny Allt Maenderyn, dros y Clogwyn Du a Bwlch Main, yna dilyn llwybr Rhyd Ddu tua’r copa.

Os mai cymharol ddistaw yw’r llwybr yma- nid felly y copa! Roedd hi’n fwrlwm gwyllt yno, gyda chiwiau anferthol i fynd mewn i Hafod Eryri, a chiw hirach fyth i gyrraedd y copa ei hun. Ar ôl ysbaid ar y copa er mwyn tynnu lluniau, a phostio ein gorchwyl ar y gwefannau cymdeithasol, roedd hi’n amser cychwyn i lawr – bendith ar ôl yr holl ddringo o’r nant, ond os rhywbeth, roedd cerdded lawr y Llwybr Pyg yn fwy o felltith, a phob cam i’w deimlo i’r byw!

Wedi 11 awr o gerdded, taith o 16 milltir, braf oedd cyrraedd maes parcio Pen y Pass am tua 6 yr hwyr. Mae ein diolch yn fawr i fam Sara am ddod i’n cwrdd yno, a bod yn dacsi i ni nôl i Betws!
Casglwyd dros £700 tuag at y Cylch, a carem ni’n tri ddiolch yn fawr iawn i bawb a’n cefnogodd ar y daith, ac a gefnogodd y Cylch Meithrin drwy y cyfraniadau hael.
--------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2017.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen MYNYDD isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde*.

 

Celf gan Lleucu Gwenllian

*Dolenni ddim ar gael ar y fersiwn ffôn, cliciwch 'View web version' ar y gwaelod.

 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon