11.11.17

Meibion Prysor yn cofio'r 'rhwyg o golli'r hogiau'

Cafodd aelodau Meibion Prysor a nifer o gyfeillion o’r ardal ymuno yn y cyfarfodydd coffa a drefnwyd yng Ngwlad Belg eleni. Dyma rai o atgofion un aelod o'r Côr fu ar y daith.

Dydd Gwener, Gorffennaf 28:
Roedd rhaid codi’n blygeiniol, neu beidio mynd i’r gwely o gwbl, gan ein bod yn cychwyn o Drawsfynydd am 03.30 y bore.  Cyrraedd Manceinion tua 05.30 a hedfan am 07.50.  Talu crocbris am frechdan bacwn yn y maes awyr!
Cyrraedd Brwsel ar amser am 10.15yb ac yna chwilio am y bws i fynd â ni i Kortrijk lle roedden ni’n aros am bedair noson.  Pnawn rhydd i ddod dros y teithio. 
Cychwyn am 6.30 yr hwyr am Ypres i gadw cyngerdd i griw o Gymry oedd wedi teithio gyda chwmni Seren Arian. Cafwyd cyngerdd llwyddiannus ac ymateb brwdfrydig wrth i blant Ysgol Sul Trawsfynydd, Elain Iorwerth ac Iwan Morus Lewis rannu’r llwyfan gyda Iona Mair, Iwan Morgan a Meibion Prysor.

Meibion Prysor a Phlant y Traws fu’n diddori’r gynulleidfa yn Ieper, Gwlad Belg

Dydd Sadwrn, Gorffennaf 29:
Tywydd eli haul a dim angen ymbarel, diolch byth!  Aeth rhai o gwmpas rhai o’r mynwentydd i osod llechen bwrpasol a wnaed gan blant yr ysgol ar fedd pob milwr o Drawsfynydd a gafodd ei ladd yn y brwydro. Roedd pabi coch ar y lechen a’r geiriau ‘Mae dy fro yn dy gofio’ ar bob un.
Ymlaen â ni am Goedwig Memetz ac ardal Thiepval  lle bu peth o’r brwydro.  Yn wir, fe gollwyd oddeutu 24,000 o filwyr yma mewn un diwrnod.
Ar ôl cinio hyfryd yn nhref Albert, aethom i Beamont Hamel ac Ieper [Ypres] a chael peth amser rhydd yno.
Canwyd ‘In Flanders Fields’ a ‘Lleuad Borffor’ ar ôl y Last Post dan Borth Menin yn Ieper am
8.00pm.  Roedd rhai cannoedd o bobl yno a llawer iawn yn eu dagrau.

Dydd Sul, Gorffennaf 30:
Cychwyn am fynwent Essex Farm ac yna i fynwent Langemark.
Cawsom gyfle hefyd i alw i weld de Sportsman Pub yn Langemark lle mae’r perchennog wedi troi ei fwyty yn amgueddfa er cof am Hedd Wyn a’r milwyr o Gymru a fu farw yn yr ardal honno.  Cofiadwy iawn oedd hwn. 
Yna ymlaen â ni i seremoni dadorchuddio plac newydd i gofio Hedd Wyn, a roddwyd gan Gôr Rygbi Gogledd Cymru, oedd yn bresennol, ynghyd â Dylan Cernyw a Rhys Meirion.  Cafwyd geiriau pwrpasol gan Keith O’Brien, a dalodd deyrnged i waith y diweddar Isgoed Williams a weithiodd mor galed i gryfhau’r cysylltiad rhwng ardal Langemark a Thrawsfynydd.
Roedd cannoedd o bobl yno i wylio’r Archdderwydd, Geraint Llifon yn dadorchuddio’r plac ac yn darllen un o gerddi Hedd Wyn ‘Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng’.
Mi ganodd Meibion Prysor ‘Carol’ gan Hedd Wyn, sy’n cynnwys y llinellau dirdynnol o eironig,
Deuwch engyl eto i ganu uwch ein hen ryfelgar fyd, 
Cenwch wrtho am yr Iesu - all dawelu’r brwydrau i gyd...

Ymlaen â ni wedyn i gynnal gwasanaeth byr ar lan bedd Hedd Wyn ym mynwent Artillery Wood yng nghwmni’r plant a’r Côr.  Cafwyd gweddïau pwrpasol, canwyd emyn a chanwyd yr englynion coffa.  Cafwyd anerchiad pwrpasol hefyd gan Phil Mostert, yn sôn am ddewrder y milwyr ond hefyd yn cyfeirio at wastraff bywydau a’r camgymeriadau a wnaed gan wleidyddion, penaethiaid a chadfridogion.  Oni ddywedodd Lloyd George fod ‘Passchendaele yn un o drychinebau mawr y rhyfel.  Ni fyddai unrhyw filwr call yn amddiffyn yr ymgyrch ddisynnwyr hon.’  Dywedwyd gair am y miloedd y gorfodwyd iddyn nhw fynd i ryfela yn erbyn eu hewyllys, am y rhai na ddaeth yn ôl, a’r rhai a ddaeth yn ôl i wynebu blynyddoedd o boen corfforol a meddyliol.
Nôl yn y gwesty, gwelsom ein bod yn rhannu llety efo neb llai na’r prif weinidog, Theresa May... Plismyn arfog ym mhob man!

Dydd Llun, Gorffennaf 31:
Bore rhydd cyn cychwyn am wasanaeth Cymru’n Cofio yn Langemark am 4.  Cawsom ymuno yn y canu a phrofi balchder y Cymry yn y dorf enfawr.

Dydd Mawrth,  Awst 1:
Pnawn rhydd yn Brugge cyn hedfan adref.  Roedd yn fraint bod ar y daith.  Ond y cof mwyaf sydd gen i amdani ydi fod tua hanner miliwn wedi eu lladd yn Passchendaele - a hynny i ddim byd yn y pen draw.  Heddwch i’w llwch.
-----------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2017.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon