7.11.17

Rhedaf i'r Mynydd

Naturiaethwr a rheolwr gwarchodfeydd natur ydi Rhodri Dafydd. Mae’n gyfrannwr rheolaidd i raglen Galwad Cynnar ar Radio Cymru ac yn golofnydd misol i bapur bro Yr Odyn, dros y mynydd o Fro Ffestiniog. Yma, yn y chweched erthygl yn ein cyfres arbennig ar y MYNYDD, mae’n edrych yn ôl, ac edrych i’r dyfodol, ar ddylanwad ein mynyddoedd.

Y mae'n anodd gen i gredu ei bod bellach yn un mlynedd ar bymtheg ers yr oeddwn yn ymlafnio dros draethawd hir ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, er mwyn ennill fy ngradd M.A. Ar y pryd, yr oeddwn wedi fy meddiannu gan fynyddoedd y byd, a'm cyfnod yn blasu dringo a cherdded yng nghreigiau Eryri yn agoriad llygad. Roedd y profiadau newydd yn esblygiad naturiol wedi i mi dreulio fy mlynyddoedd cynnar yn crwydro bryniau Meirionnydd - yn gyntaf gyda'n nhad ac yn ddiweddarach ar fy mhen fy hun. 

Ar y pryd, yr oedd gennyf freuddwydion mawr am ddringo copaon uchel y byd. Yn eu tro, daeth gwaith, cariad a theulu i gyfyngu ar y teithio (os nad y breuddwydio!) er i mi fod yn ddigon ffodus i gael gweld rhywfaint ar yr Alpau a'r Pyreneau, y Rockies, yr Andes a'r Himalaya dros y blynyddoedd, ar droed neu feic.


Y mae i'r llecynnau mynyddig hyn atyniad corfforol ac ysbrydol i nifer, a minnau yn eu plith, ac i ni yma yng ngogledd Cymru y mae eu bodolaeth yn rhan annatod o'n bywydau bob dydd. Hyd yn oed os nad ydym yn ymwneud rhyw lawer â hwy, y mae eu presenoldeb yn ein ffurfio drwy ein teithiau drwyddynt, eu heffaith ar ein tywydd, a'r ffaith eu bod yn ein hamgylchynu ac yn gwmni cyson.

'Wrth ein cefn ym mhob annibyniaeth barn'.

Yn ôl ym Mangor, pwysigrwydd y mynyddoedd i'r diwylliant Cymraeg a'r iaith oedd testun fy nhraethawd hir. Wedi ymchwilio i ddylanwadau amrywiol - o hen benillion, emynau rif y gwlith (dan ddylanwad crefydd a'r beibl Cymraeg wrth gwrs) i gerddi amrywiol ar hyd yr oesoedd, a hyd yn oed i ganeuon Meic Stevens ('Rhedaf i'r mynydd') - gellid gweld fod y mynyddoedd yn rhan annatod ohonom a'n hymwybyddiaeth fel Cymry Cymraeg. Yn gefn i ni, yn warchodaeth, yn achubiaeth.

Wedi ymlwybro drwy hanes cythryblus yr hen wlad (dros rhyw ugain mil o eiriau!) yn anffodus deuthum i'r canlyniad trist fod y tirlun mynyddig a fu'n ein gwarchod a'n hamddiffyn rhag estroniaid dros y canrifoedd bellach yn arwain at foddi ein cyfoeth dan donnau o ymwelwyr - a'u bryd ar greu bywyd newydd ymysg golygfeydd ac awyrgylch anturus ein gwlad. Fel y trodd y rhod - yr hyn a fu unwaith yn ddychrynllyd bellach yn ddeniadol. 

Y mae ambell Gymro a Chymraes bellach wedi mentro i elwa ar y cynnydd ym mhoblogrwydd ein mynyddoedd - gydag ambell i arweinydd heddiw yn manteisio ar ymwelwyr fel ag yr oedd rhai dynion blaengar yn oes Fictoria. Mae canolfannau fel Coed y Brenin ac Antur Stiniog wedi cornelu peth o'r farchnad heb os. Mae Clwb Mynydda Cymru wedi arloesi, a'u llyfr diweddar ar gopaon Cymru yn gampwaith, gan gymryd ei le yn gydymaith perffaith i lyfrau Ioan Bowen Rees ar y silff. 

Er hyn, seisnig ar y cyfan yw'r diwylliant, a does ond angen edrych ar yr holl geir sy'n heidio i Eryri bob penwythnos, neu ar dai haf gweigion ein pentrefi ganol gaeaf, i weld effaith poblogrwydd newydd ein mynyddoedd ar ein hardaloedd gwledig. Ni allaf ond ofni mai negyddol yw ac a fydd hyn at y dyfodol.

Yn dilyn cais gan y golygydd i edrych yn ôl ar waith llanc anaeddfed, un ar hugain oed (byddai llawer yn dweud fy mod yn dal yn anaeddfed!) mae llawer mwy yr hoffwn fod wedi ei gynnwys yn yr hen draethawd hir, o ailymweld â'r testun. Dysgais lawer yn y cyfamser, er enghraifft fod y dull 'guerrilla' o ymosod a chuddio yn y mynyddoedd a fabwysiadodd Che Guevara wedi ei ysbrydoli gan Owain Glyndŵr a'i debyg yn defnyddio tirlun Cymru at eu mantais. Tra yn traddodi am y diffyg mynyddwyr Cymreig - gallwn fod wedi cynnwys pennod gyfan am un dyn hynod ac unigryw o'r enw Eric Jones (erbyn hyn, mae ei hunangofiant yn amhrisiadwy ac yn gofnod anhygoel o ddyn ymhell o flaen ei amser).

Efallai rhyw ddydd caf gyfle i ailwampio a rhoi fy meddyliau mewn trefn - Yn sicr mae'r mynyddoedd yn parhau i fy ysbrydoli. Heb os, maent yn destun gwerthchweil ac yn ganolbwynt haeddiannol i fyfyrdodau am ein hunaniaeth, a'n lle fel cenedl yn y byd hynod hwn.
-----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2017.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen MYNYDD isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde*.

 

Lluniau Rhodri Dafydd.
Celf gan Lleucu Gwenllian

*Dolenni ddim ar gael ar y fersiwn ffôn, cliciwch 'View web version' ar y gwaelod.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon