Y ffynnon a arferid yn Ffestiniog oedd Ffynnon St. Michael, a adweinir eto fel ‘Y Ffynnon’. Yr oedd olion adeiladau crynion heb fod nepell oddi wrth y ffynnon hon hyd yn ddiweddar, oddeutu Llwyn Crai, y rhai a allent fod o’r cyfnod hwn (sef cyfnod cynnar yr ardal): os felly, buasai'r ffynnon hon mewn lle cyfleus ac agos atynt, yr hyn a allasai fod yn rheswm am eu dewisiad. Priodolid rhinwedd iachaol i ddyfroedd y ffynnon hon ... a hyd ddechrau'r ganrif bresennol arferai llaweroedd ymgasglu i’r fan gan ddisgwyl cael eu gwella o’r crydcymalau, y gymalwst a llawer o anhwylderau eraill.
Cynllun- Cymdeithas Ffynhonnau Cymru. Dolen isod. (Sylwer: nid oes mynediad cyhoeddus i'r safle) |
Dyna'r hyn sydd gan Griffith John William i’w ddweud am Ffynnon Mihangel yn ei lyfr Hanes Plwyf Ffestiniog o’r Cyfnod Boreuaf a gyhoeddwyd yn 1882.
Y cyfeiriad cynharaf at y ffynnon y gwn i amdano yw un sydd ar fap a gaiff ei ddyddio yn ôl i’r flwyddyn 1795. Ar hwnnw fe gyfeirir ati fel ‘Ffynnon Mihangel’. Ar fapiau diweddarach, ‘Y Ffynnon’ yn unig sydd ar ei chyfer. Ar dir preifat y mae ‘Y Ffynnon’, y tu isaf i’r ffordd fawr bresennol rhwng Llan Ffestiniog a Blaenau Ffestiniog, oddeutu hanner ffordd rhwng y ddau le, ac mae ei dŵr yn llifo i afon fechan sy’n tarddu yn Llyn y Manod ac yn mynd heibio iddi.
Ar hyn o bryd does dim i’w weld yno ond cerrig blith-drafflith, sef gweddillion bwthyn bychan. Ffynnonddŵr oedd enw’r bwthyn yma, a adeiladwyd ar y ffynnon. Ni welir yr enw yng nghyfrifiad 1841 nac 1851, ond yng nghofrestr claddedigaethau’r plwyf ceir fod plentyn naw mis oed o’r enw Ann Jones, Ffynnonddŵr, wedi’i chladdu ar yr 17eg o Ragfyr, 1857. Yng nghyfrifiad 1861 roedd William Jones a’i fam yn byw yno; ac yn 1881, Owen Roberts, ei wraig a’u dwy ferch a drigai yno. Nid oes cofnod ar gyfer 1891 ac fe ymddengys fod y lle wedi mynd a’i ben iddo.
Gof oedd Owen Roberts, brawd y Dr Robert Roberts, neu Isallt fel y’i gelwid gan amlaf. Ag yntau’n un o ‘Ddoctoriaid Congl y Wal’ fel yr oeddynt yn cael eu galw, gwyddai o’n dda am yr ardal. Byddai’n barddoni cryn dipyn hefyd, ac mae ganddo gerdd ddisgrifiadol ‘Congl y Wal a Theigl’ sydd nid yn unig yn ddiddorol ynddi’i hun ond fe ychwanegodd Isallt nodiadau ati yn egluro ambell enw a chyfeiriad yn y gerdd. Yn 1910 y’i cyhoeddwyd hi. I bwrpas hyn o nodyn ar ‘Y Ffynnon’, y pennill sydd o ddiddordeb i ni yw’r un a ganlyn:
Y Ffynnon, tŷ hysbys, a’r Ffynnon Ddŵr glodus
Ddenai lu dan y parlys i’w llys i wellhau;
Yn ei dŵr yr ymdrochent, o’i rhin y cyfrannent,
Hael yfent a photient rhag ffitiau.
Yna, mae Isallt (bendith arno!) yn ychwanegu'r nodyn a ganlyn ar waelod y dudalen:
Deuent o bellteroedd am wellhad rhag ffitiau a chrydcymalau a hefyd parlys, meddai rhai. Ni fu oes hir iddi - ni chynhwysai ei dŵr unrhyw sylwedd fferyllol. Mae ei holion o fewn y murddun eto o ffurf chwe ochrog, a dau ris i fynd iddi, - ond wedi ei gorchuddio a sbwriel, pridd ayyb.
Dyma’r unig fan lle’r ydw i wedi gweld disgrifiad o’r Ffynnon, sef ‘o ffurf chwe ochrog, a dau ris i fynd iddi ..’ a chan mai brawd i Isallt oedd yn byw yma yn 1881, roedd o, mae’n bur debyg, yn gyfarwydd â thu mewn y bwthyn yma.
Ceir cyfeiriad at ‘Y Ffynnon’ yn y gyfrol Royal Commission on Ancient Monuments in Wales and Monmouth. Ymwelwyd â’r safle ar yr 21ain o Fedi 1914, a’r nodiad arni yw fel a ganlyn:
This is not so much a well as a spring of water which, rising beneath the floor of an old ruined house, flows copiously through an iron pipe from under the ruins. It is still restored to by sufferers from rheumatism, fractured limbs and other maladies, but not to the same extent as in former days. For this reason it has been suggested that it might have been the old sacred well of Ffestiniog, but it is not associated with any saint and is known only as ‘Y Ffynnon’.
Nid yw’r sylw, not associated with any saint ar ddiwedd y nodyn uchod yn dal dŵr, fel petai, yn wyneb yr hyn sydd ar y map a ddyddiwyd 1795, na chwaith yr hyn sydd gan Griffith John Williams i’w ddweud yn ei Hanes Plwyf Ffestiniog. Nid oes gan Francis Jones ddim byd gwahanol i’w ddweud yn ei lyfr The Holy Wells of Wales.
Mae rhai tai sydd wedi eu codi ger y ffynnon wedi cymryd eu henwau oddi wrthi - Y Ffynnon, Bron Ffynnon, Tŷ Newydd Ffynnon, ac mae tŷ a godwyd yn ddiweddar wedi’i alw’n Ffynnon Uchaf.
Yn ddiweddar, hynny yw, yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, bu’r Tad Deiniol, offeiriad yr Eglwys Uniongred Roegaidd ym Mlaenau Ffestiniog, yn ymddiddori yn y ffynnon. Mae hi wedi’i chysegru ganddo a bu’n ceisio cael nawdd gan adran o’r Gymuned Ewropeaidd er mwyn clirio’r safle a’i dacluso, ac adfer adeiladwaith y ffynnon. Yn anffodus, nid oes arian ar gael i wneud y math yma o waith, ac felly, mae’r ffynnon yn dal wedi’i chladdu dan gerrig a phridd a sbwriel.
-------------------------------
Atgynhyrchwyd (heb y llun) yn Llafar Bro, Hydref 2017.
Mae'r erthygl hefyd ar wefan Cymdeithas Ffynhonnau Cymru, lle ceir mwy o wybodaeth, a chynlluniau o Ffynnon Fihangel.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon