26.10.17

Stolpia -nofio a sgleintio

Yn nhrydedd erthygl ein cyfres arbennig ar Y MYNYDD, cawn flas ar anturiaethau Steffan ab Owain a’i gyfeillion yn nyfroedd yr ucheldir yn y bennod yma o’i gyfres ar ‘Hynt a Helynt Hogiau’r Rhiw yn y 50au’.

Gan fy mod wedi sôn am rai o’n helyntion yn nofio yn y llynnoedd a phyllau yr afonydd, y tro hwn rwyf am ddweud gair neu ddau am yr hwyl a’r sbort a fyddem yn ei gael yn chwarae ger y llynnoedd a’r afonydd, ers talwm.

Cofiaf fel y cafodd un ohonom syniad gwych i neidio tros afon Barlwyd efo polyn hir, sef naid polyn (pôlfoltio). Pan yr oedd melin goed yng Nglan-y-Pwll gwneid defnydd o’r domen wastraff a fyddai ger y craen. Yno, y byddem yn cael defnydd i wneud sbîr (gwaywffon), reiffl pren,  cleddyf pren, dagr, ayyb. Weithiau ceid darnau hir o breniau yn y gwastraff coed a dyna pryd y cafodd un ohonom weledigaeth i’w defnyddio i neidio tros yr afon. Y man lle byddem yn gwneud hyn oedd gyferbyn a wal Cae Alun gan fod ychydig o godiad tir yno i roi help inni gael ysgogrym i gyflawni’r gamp.

Roedd yn rhaid dod yn ôl tros y domen llwch llif a’r bont bren i’r un man er mwyn rhoi tro arni eilwaith a rhagor. Cawsom lawer o hwyl, ac ar wahan i un neu ddau ohonom wlychu ein traed yn yr afon, ni fu dim niwed o bwys i neb.


Un o’r pethau eraill a wneid gennym oedd ‘sglentio cerrig’ ar wyneb llynnoedd, h.y. gwneud i gerrig llyfn lamu ar hyd wyneb y dŵr, ac wrth gwrs, cystadlu am y neidiau pellaf, neu y nifer mwyaf o neidiau. Os gellid gwneud mwy na saith, roeddech yn un da iawn.

Roedd pwll go fawr ar un adeg yn afon Barlwyd, sef Llyn Ffish, y tu draw i Domen Glandon, a dyna un o’r lleoedd agosaf y byddem yn sglentio, neu fel arall, byddid yn gwneud hyn ar ôl bod yn nofio yn un o lynnoedd Nyth y Gigfran neu Lyn Fflags. Peth arall a fyddem yn ei wneud yn yr haf ond yn rhan uchaf afon Barlwyd, oedd ‘sgota dwylo’ a gwneud pyllau bach.

Un tro, penderfynasom fynd am sgawt at Llyn Ffridd a sgota dwylo yn Afon Fach Job Ellis, sef y nant a ddaw i lawr o gyfeiriad y domen sgidiau, ond ar ôl bod wrthi yn fanno, aethasom draw at y ‘Ffos fach’ a lifai o Lyn Ffridd draw am Chwarel Oakeley. Yr unig beth, os y byddem yn ei lordio hi o gwmpas y fan honno byddai William Jôs, Bryn Tirion, sef taid Michael Eric a Mair, yn siwr o ddod ar ein holau gan feddwl ein bod yn gwneud drygau.

Hen lun o Bryn Tirion a’r ffordd fawr fel y byddai gynt

Gyda llaw, y mae hi’n anodd credu heddiw, ond roedd cae gwair y tyddyn yn ymestyn i fyny o ochr y tŷ hyd at argae y llyn y pryd hynny. Beth bynnag,roeddem yn uchel ein cloch y tro hwnnw, wedi gweld ychydig bysgod yn symud yno, a pheth nesaf dyma William Jôs o gefn y tŷ, a dod ar hyd ochr y cae gyda phicfforch yn ei ddwylo yn bloeddio arnom i'w goleuo oddi yno a gallwch fentro, buan iawn y ffaglodd ni’r hogiau oddi yno fel y fflamiau.
-----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2017.
Dilynwch y gyfres efo'r doleni isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde*.

 
Celf gan Lleucu Gwenllian


*Dolenni ddim ar gael ar y fersiwn ffôn, cliciwch 'View web version' ar y gwaelod.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon