Showing posts with label Iaith Stiniog. Show all posts
Showing posts with label Iaith Stiniog. Show all posts

27.1.21

Iaith Stiniog -geiriau'r cartref

Tro yn ôl i’n tŷ ni – pennod arall o gyfres Bruce Griffiths 

Prociwyd fi gan y sylwadau difyr ar ‘Iaith Stiniog’ i hel atgofion am eiriau a gofiaf o’m plentyndod. Daliwch ati! Peth a’m trawodd erbyn hyn: fel y bydd yr oes, y ffordd o fyw, yn newid, felly hefyd iaith lafar ardal. Yn ôl â fi i’m cartref cyntaf, sef 101 Heol Wynne, fel yr oedd felly o 1940 hyd 1958. 

Pa faint ohonoch a fyddai heddiw, yn ’nabod ei gynnwys, a’n henwau ni arnyn nhw? Yr oedd yn dŷ fymryn yn well na thyddynnod hŷn y dref, ond nid oedd iddo garej ar gyfer car bach (dyna a ddywedid; ni chlywais erioed sôn am ‘gar mawr’). Gias (nid ‘nwy’) oedd yn ei oleuo, yn y parlwr (nid lolfa) a’r gegin - nid lle i goginio rhyw lawer, ond ystafell fyw heddiw. 

Math o gwt brics a tho sinc oedd y gegin fach lle gwneid y cwcio. Tân glo a dwymai’r gegin a’r parlwr, a gias a’u goleuai. Nid oedd dim i oleuo na thwymo’r tair llofft. Aem i’r ciando (!) efo cannwyll neu lamp oel lamp (= paraffîn) - arferiad digon peryglus. Nid oedd letrig gennym, a byddai’r weiarles yn dibynnu ar fatri sych, batri gwlyb a ‘grid bias’! (Cofiaf Jac Sam, prifathro Ysgol Bechgyn Maenofferen, yn adrodd droeon hanes y weiarles cyntaf yn ’Stiniog, a phobl yn tyrru yno i’w glywed mewn syndod.) 

 

’Doedd dim sôn am deledu wrth gwrs. Gwael iawn oedd derbyniad radio ar y pryd. Cofiaf wrando ar Noson Lawen, a dotio ar Gymraeg digrif ac annealladwy’r Co Bach o Gnafron, ac ar Welsh Rarebit, yn bennaf oherwydd y deuai honno i ben gyda We’ll keep a welcome in the hillsides, cân yn cynnwys yr addewid ‘We’ll kiss away each hour of  hiraeth,’ - yr unig air o Gymraeg yn y rhaglen. Yn y pumdegau gallwn glywed Radio Luxembourg os gwasgwn fy nghlust ar un pen i’r set ei hun, i glywed caneuon pop wrth gwrs, ond yn bennaf i glywed anturiaethau Dan Dare a’r Mekon, arwyr y comig yr Eagle, ar y blaned Gwener, am chwarter i saith bob nos. 

 

O’r diwedd daeth cwmni’r Red Dragon Radio Relay i godi clamp o fast ar ben y mynydd i godi darllediadau a’u hailgyfeirio i lawr i’r dref - am swllt a naw yr wythnos. Deuai Dic Wan a Nain o gwmpas i gasglu’r tâl. Ni allem ni ei fforddio. Ni welais i deledu tan 1960, yng Ngholeg Iesu.
 

Pan gawsom letrig, tua 1948, rhaid oedd rhoi swllt bach (= pisyn swllt) yn y mitar, yn lle’r geiniog a roddem ar gyfer y gias. Ys gwn i ba faint o bobol ifync heddiw a ŵyr beth ydy’ ‘swllt’, ‘ceiniog’, ‘dimai’, ‘ffyrling’, ‘pisyn tair’, ‘chwechyn’, ‘papur chweugain’, ‘papur punt’ a ’hanner coron’? Cedwid ‘pisiau tair gwyn’ i’w rhoi yn ein pwdin ’Dolig. Clywid ambell un yn dweud ‘’Does genni’r un hatling ar f’elw’ er na welid hatling bellach, a soniai fy nhaid am ‘goron’ a ‘sofran’: yn wir mae brith gof gennyf o weld ychydig sofrenni a gadwasai. Yr oedd rhai darnau copor hynafol iawn yn dal i gylchredeg - cofiaf, unwaith neu ddwy, weld un o geiniogau trwchus William IV - Banc Lloegr heb ei sbotio, mae'n rhaid!
 

Dyna fi’n crwydro eto! Yn ôl i’m hen gartref! Yn y gegin fach ceid slopston (= sinc), math o gawg mawr sgwâr fel petai wedi ei wneud o goncrid. Hefyd, boeler i olchi dillad, a thân glo bychan oddi tano i’w dwymo. Yno ceid y stof gias, a’r unig feis (= tap) yn y tŷ, gan nad oedd bathrwm gennym .Nid oedd ‘oergell’ nac ‘oergist/rhewgell’, felly ni ellid cadw cig na physgod fwy na rhyw ddeuddydd. Nid yn y parlwr y byddem yn byw fel arfer, lle oedd i gadw ein dodrefn gorau ac i groesawu pobol ddiarth. Yn y haf mudem o’r gegin dywyll i’r parlwr, a byddid yn ei drimio ar gyfer y ’Dolig. Ar gefn un drws dangosai fy mam wialen fedw imi, eiddo fy nhaid, ond ni chefais i erioed fy nghosbi! 

Tân glo a dwymai ein cegin, gydag uffarn oddi tano i ddal y lludw, (a lle ceid ‘pryfed lludw’ weithiau) a jac mwg dros safn y simnai, er mwyn rheoli’r drafft i gynnal y tân - (nid ‘chimney cowl’, sef yr unig ystyr a geir yng Ngeiriadur y Brifysgol, ond dalen fawr o fetal oedd, a dwrn arno). O bryd i’w gilydd, pan na fyddai’r tân yn tynnu’n iawn, byddai mam yn stwffio hen bapurach i fyny’r simnai, cyn ei roi ar dân: peth peryglus a chroes i’r gyfraith, ond rhatach na thalu dyn llnau simnai - a gwelid cwmwl o fwg yn codi o simnai sawl tŷ arall arall o bryd i’w gilydd. 

Pa ystafell arall? Anghofiais am y siambar sorri, lle byddai fy chwaer fach yn mynd i grio ac i sorri yn y gornel y tu ôl i’r drws ffrynt! Hefyd, y sbens (neu sbensh yn ôl rhai) lle cedwid ein nialwch; nid oedd atig gennym. Mewn ardaloedd eraill, mi glywch cwtsh dan stâr. Byddem ni blant Maenfferam yn tyrmentio (herian) plant Tanygrisiau eu bod yn byw mewn sbens o le. Dyna ddigywilydd ynte! (Byddai pobl Tanygrisiau yn galw ardal y Manod ‘yr ochor draw’!) Daeth sbens o dafodiaith gogledd Lloegr, enw math o gwpwrdd: mae’r un elfen yn dispensary. A dyna landars neu landeri tŷ: o’r Saesneg eto, ac yn perthyn i laundry: lle mae llawer o ddŵr yn llifo (lle megis ’Stiniog!)
 

Allan â mi i’r ardd gefn! Yn y pen draw, yr oedd y cwt glo, y drws nesaf i’r closad. Clywais enwau eraill arno: tŷ bach, ’rhows bach, lle chwech: tebyg y gwyddoch chi am eraill! (Yma, ar y cei yn Abercegin (sef ‘Port Penrhyn’ y Saeson), y mae, neu fe fyddai, ‘lle chwech’ go iawn - sef lle i chwech o chwarelwyr eistedd ochr yn ochr! - nid, felly, lle yr oedd yn rhaid talu chwecheiniog i fynd iddo!) Holwch yn Siop yr Hen Bost am North Wales Privies a Privies of Wales, gan y diweddar Barch J.Aelwyn Roberts, gŵr o ’Stiniog.
 

’Ta waeth! Saif fy hen gartref o hyd. Mae’n siwr gennyf i ei fod mor fodern â thŷ unrhyw gymydog. Gyda lwc, cewch air (yn hytrach eiriau) gennyf rywbryd eto. Da bo ichi bawb, a hir oes i Lafar Bro!

---------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2020
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen Iaith Stiniog isod; mae erthyglau eraill am eiriau a dywediadau lleol dan y ddolen Geiriau Coll. (Os yn darllen ar ffôn, rhaid i choi ddewis 'web view' er mwyn gweld y dolenni)


19.10.20

Sôn am dywydd 2

Ail hanner erthygl Bruce Griffiths, o'i gyfres Iaith 'Stiniog


Eira: dywedem bwrw eira, wrth gwrs, ond i mi mae pluo eira yn cyfleu’r peth yn dlws iawn. Cofiaf glywed eira mân, eira mawr: [Yn ôl Owen John Jones, yn ei Dywediadau Cefn Gwlad, mae ail linell: pluo’n fras, ond cynfas] tybed a ddywedid hyn cyn heth ddiddiwedd 1947? (Gair yn tarddu o’r Saesneg, mae’n debyg.) Bu’r ysgolion ynghau am chwe wythnos, os iawn y cofiaf. Cliriwyd Stryd Fawr y Blaenau ar gyfer cerbydau, ond golygodd hynny godi cloddiau o eira, uwch na’ch pen, ar hyd y pafin o bob ochr i’r stryd, gan adael felly lwybr cul fel twnnel, rhwng y mur eira a thu blaen y siopau. Gwasgfa fyddai trio pasio rhywun. Ym mhobman arall ceid lluwchfeydd anferth: dyn a ŵyr sut yr eid at ffermydd a thyddynnod cefn gwlad. Ni redai trenau na bysus am wythnosau, onid am fisoedd. 

Ond o’r diwedd oer i rewi, oerach i feirioli. ‘Dyna air tlws,’ meddai dysgwraig wrth Ann fy ngwraig yr wythnos o’r blaen. Cytuno! Dadmer a ddywedir ym Môn ac Arfon, a dadlaith/ dadleth yn y De. Y meiriol y galwem y cyfnod. Byddai Meirioli ym Meirionnydd yn enw tlws ar alaw, mi greda’ i. Holodd Ann am esgyrn eira, ymadrodd da ar gyfer gweddillion eira yn gorwedd mewn pantiau ar y mynydd, y byddai rhai yn dweud yn aros am ragor. Mae’n enw llyfr gan Robin Williams, ond ni wn i ddim ai fo a’i fathodd ai peidio. Ni chlywais mohono erioed yn y Blaenau.



Ar ôl glaw trwm, mi sylwasoch, mae’n siŵr, ar glytiau o ddaear ar y llethrau, yn loyw gan law. A oes neu a oedd gennym enw arnynt? Mi glywais yr enw clytiau Marsli gan bobl o ochrau Llŷn ac Eifionydd. Holais y Dr Trefor M. Owen, (gynt pennaeth Sain Ffagan) perthynas imi trwy briodas, ac un o’r ardal, a eglurodd mai enw merch oedd Marsli, ffurf ar Marjorie, a geid yn ei deulu ers cenedlaethau.

 Ar ôl glaw, siawns na welem enfys: dyna’r gair a gofiaf i, ond mi wn fod pont y glaw - enw tlws, addas - i’w glywed trwy rannau helaeth o Sir Feirionnydd a Sir Ddinbych, ac fe glywir yr enw yn y chwarae plant, (tebyg i Oranges and Lemons yn Lloegr) lle byddai dau blentyn, tan ganu ‘pwy ddaw, pwy ddaw dan bont y glaw?’yn cydio dwylo ei gilydd i ffurfio bwa y byddai’r plantos eraill yn rhedeg oddi tani nes y delid un trwy ollwng y ‘bont’ amdano/amdani! Clywir, neu fe glywid, hyn ym Mhenmachno, ond ni alla’i ddweud imi fod yn gyfarwydd â’r chwarae yn y Blaenau. Trueni, ynte? Buasai’n ffordd dda o ddathlu diwedd arni’n tresio glaw. (Gyda llaw: chi enweirwyr: nid ‘brithyll enfys’ mo rainbow trout, ond brithyll seithliw!) Gelwid diwrnod o law a heulwen bob yn ail yn ddiwrnod priodas llwynog.


Dyma ambell dric tywydd arall a gofiaf. A welsoch yr awyr yn heulog ac yn las, ond yn frith o gannoedd o gymylau bychain gwynion - nid arwydd o law er hynny. Cofiaf fy nghyfyrder Gwyn Thomas, pan oeddem yn crwydro o gwmpas Dolwen, yn dysgu imi mai traeth awyr, neu awyr draeth, oedd hynny (mackerel sky, a ddywed y Sais, am ei debygrwydd i gefn macrell). Rhyfeddod prinnach ydy’ cŵn haul: sef yr haul a heuliau eraill yn gylch trefnus o’i gwmpas, ond heb fod mor loyw a thanbaid. Cofiaf weld yr haul a thri chi o’i gylch, ar lan y môr yn Llanfair ger Harlech, yn 1976. 

Weithiau gellir gweld rhyw ddwsin o heuliau, yn ôl tystion geirwir. Arwydd o beth, ni wn i ddim. Sawl tro gwelais byst haul, sef pelydrau cryfion yn torri trwy gymylau trwchus [bysedd haul medd rhai –gol]. 

Bysedd haul, 'ta pyst haul ydi'r rhain i chi?

A beth am y nos? Ceir nosweithiau gweddol olau, wrth gwrs, megis noson olau leuad neu (efallai) noson loergan, ond mi fetia’i fod noson dywyll fel bol buwch neu fel y fagddu yn fwy cyfarwydd. Cyn imi anghofio: yn ei lyfr Blas ar Iaith Llŷn ac Eifionydd, nododd fy hen gyfaill, Bedwyr Lewis Jones, y sylw am Foel y Gest: ‘Pan fydd y Foel yn gwisgo’i chap/ Ni cheir fawr hap ar dywydd’, a’r un sylw am Garn Fadrun a’r Rhiw. Cofiaf yn iawn sôn am rybudd ‘y Moelwyn yn gwisgo’i gap’, ond ni chofiaf unrhyw ail linell fel’na. A gofiwch chi?



Oes arnoch awydd gwybod rhagor am y tywydd? Ewch i siop yr Hen Bost a holi am Am y Tywydd: Dywediadau, Rhigymau ac Ofergoelion, gan Twm Elias. Gwasg Carreg Gwalch, 2008 a Dywediadau Cefn Gwlad Owen John Jones (Gwasg Gee, 1977).  Byddai llyfr Bedwyr wrth eich bodd, o ran hynny (Gwasg Carreg Gwalch, 1987) a llyfr Trefor Owen, Welsh Folk Customs.
Bruce Griffiths.
-----------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2020, fel rhan o erthygl hirach.

Gwthiwch ar y ddolen IAITH STINIOG i weld gweddill y gyfres.

(Lluniau- Paul W)

15.10.20

Sôn am Dywydd ’Stiniog!

Pennod arall yng nghyfres Iaith 'Stiniog gan Bruce Griffiths


Ar ôl sôn am iaith ein chwareli, addewais y soniwn am beth arall y mae ’Stiniog yn enwog amdano, sef ei dywydd. Mae glaw ‘Stiniog yn ddiarhebol. 

Cofiaf yn blentyn glywed gan ein hathro daearyddiaeth ein bod yn cael cant a deugain modfedd o law bob blwyddyn. Ni wn ba faint ydy’ hynny yn ôl y system fetrig newydd. Soniem amdani’n tatsian y glaw, yn pistyllio glaw, yn piso glaw (wrth gwrs), yn stido ac yn ‘stilio ac yn tresio bwrw glaw, ac yn bwrw fel o grwc.  

 

Cofiaf y byddai fy nain yn adrodd, gydag afiaith,

‘Bobol! ’Roedd hi’n bwrw
Y diwrnod hwnnw!
’Roedd hi’n bwrw fel o grwc,
Ond ‘roedd Noa yn yr arch, wrth lwc!’
(Ai gwaith un o’n beirdd lleol?) Cofiaf ddysgu ‘bwrw hen wragedd a ffyn’ yn yr ysgol, ond ni alla’i daeru imi ei glywed ar lafar. 


Ceid amryw fathau o law, wrth gwrs. Sonnid am law mân, smwclaw, smwcan, smitlaw, glaw smwc a glaw mynydd (glaw ysgafn); yr oedd curlaw, trymlaw a glaw t’rana yn drymach. O ba air y daeth smwc, tybed? Ni ddywed Geiriadur y Brifysgol. Sŵn Seisnig sydd iddo: tybed ai o smog neu o smoke? Mwrllwch fyddai’n gair ni am hynny: gair da, a sŵn sinistr iddo, a tawch, tarth, hefyd, am niwlen yn codi o ddŵr. (Ar hyd glannau’r Fenai, sonnir am rwd sychdwr, sef tarth a welir ar y Fenai ar ôl gwres mawr.) Cyn storm, byddem yn ei chael hi’n drymaidd, yn fwll, yn glòs, yn teimlo closrwydd, closni, trymder, myllni; yn Arfon clywir weithiau mae hi’n wygil neu’n fwygil (o’r gair mwygl). Efallai y clywir mwyglo a mwygledd yno o hyd.

'Wir i chi mae hi'n braf o hyd ym Mlaenau Ffestiniog..!' Y Garreg Ddu dan gawod drom


Caem law trwm iawn pan geid storm o fellt a tharanau, a hynny’n bur aml, a byddai mam yn beio’r Traws, ‘o achos yr holl haearn sydd yn y ddaear yno’! Yn aml, cyn storm, gwelem ddreigiau mellt yn dreigio ar draws y nen, heb sŵn yr un daran (enw’r Sais yw sheet lightning). Ers talwm, pan geid rhyw glefyd (ffliw, y frech goch, brech yr ieir neu’r clwy pennau) yn gwibio trwy’r ardal, clywid dweud ‘mae ’na ryw luchedan yn mynd o gwmpas’ (nid ‘rhyw fyg’). Dyna air hollol ddieithr i bob ardal arall yn y Gogledd, hyd y gwn. O ble y daeth? Ateb: yn y De ni sonnir am fellt a tharanau, ond am luched a thyrfe (lluosog y gair twrw/twrf). Peth sy’n mynd fel mellten ydy’ ein lluchedan ni. Ond sut y daeth atom o’r De, a chydio yma? Clywais mai glaw gochel ydy’ enw pobl Penmachno ar law trwm (y mae’n rhaid ’mochal rhagddo).  Credid -gynt, o leiaf- bod glaw mis Mai yn beth da i’r llygaid a hefyd yn lladd llau ar wartheg.


Yn yr ysgol mae brith gof gennyf o glywed, darllen ac efallai dysgu chwedl Morus y gwynt ac Ifan y glaw, y ddau am y gorau i beri i deithiwr dynnu ei gôt; yn ofer - yr haul a lwyddodd, wrth gwrs. A oedd yna wers inni yn ’Stiniog? (Nid bod gennym fawr o ddewis.) A fyddai gennym ni enwau ar y gwahanol wyntoedd? Cofiaf wynt traed y meirw, am mai o’r dwyrain y chwythai: cleddid y meirw â’u traed tua’r dwyrain, crud Cristnogaeth a’r Atgyfodiad. Clywais gwynt o’r hen Bengwern gan bobl o Sir Drefaldwyn: enw i ennyn parch o ddifrif, achos mae’n rhaid ei fod yn dra hynafol: Pengwern oedd enw gwreiddiol y Cymry ar Amwythig. Enw arall: gwynt o dwll y glaw / yn nhwll y glaw (sef y De, am a wn i).


Mae cofio am eirlaw (ac eirlawio efallai) yn dwyn i gof ein gair ni am y peli eira a daflem at ein gilydd, sef mopan (lluosog mopins) - hwyl hen ffasiwn, ynte? Ceid gwahanol fathau: gwgid ar daflu mopins rhew a gwaeth fyth mopins cerrig, gan y gallai’r rheiny eich brifo’n arw. Clywir mopan (a mopio?) mewn ambell ardal arall, e.e. yn y Port, ond o ble y daeth y gair? A oes wnelo â’r mop sychu llawr? Nac oes! Tebyg iddo ddod o’r gair Saesneg to mob, sef pledu rhywun (a daw pledu o’r S. pellet, pelt). Wrth gwrs, fel ym mhobman arall, caseg eira y galwem belen fawr iawn, nid i bledu neb ond i’w phowlio i lawr allt neu le fel Cae Ochor. (Gyda llaw; yn ardal y Bala bathodd ffermwyr caseg wair yn enw ar yr hyn a eilw’r Sais yn big bale. Da yntê!

 ----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2020, fel rhan o erthygl hirach. Yr ail yn fan hyn.

(Lluniau- Paul W)


15.9.20

Iaith Stiniog: Yn ôl i’r chwareli


Erthygl gan Bruce Griffiths ac Enid Roberts

 

Hwrê! Yn dilyn fy nhruth am iaith y chwareli*, dyma gyfraniad diddan ar y pwnc gan ein cymdoges annwyl, Enid Roberts (gynt o Gae Clyd!):

"’Roedd y creigwyr yn gwisgo trowsus ffustion am ei fod yn llawer gwell defnydd iddynt pan oeddent yn gwisgo’r cadwyni. Gan fod y defnydd yn olau iawn, bron yn wyn, rhaid oedd gwisgo London Yorks o dan y pen-glin i gadw’r trowsus allan o’r mwd a’r baw. Hefyd rhaid oedd iro’r esgidiau â dwbin i’w cadw’n feddal.

“Robin Jolly: Robin Griffith oedd ei enw, ’roedd yn byw gyda’i chwaer. Dyn bychan gyda mwstash bach twt. Adroddai benodau o’r Beibl o’i gof. Byddai bob amser yn llawn hiwmor. ’Rwy’n cofio tad Geraint (Wyn Jones), [sef Iorwerth y Gof] yn dweud ei hanes aml i dro. Unwaith ’roedd blaenor o’r capel yn gweld Robin efo bocs mawr. ‘Be’ sydd gen ti yn y bocs ’na, Robin?’ meddai. ‘Mwnci’ meddai Robin ‘ac mae lle i un arall ynddo hefyd’. Roedd yn gymeriad hoffus fel ’rwy’n deall, reit ddiniwed. Byddai’n hoffi canu i’r plant.

“Yn yr Oakley ’roedd hefyd melin fflags lle ’roeddynt yn trin yr is-gynnyrch i wneud llechi i’r ysgolion, fflags stepiau a cherrig beddau.

“Mae’r diweddar Gwyn Thomas yn sôn yn ei ddarlith Fainc ’Sglodion. Mannau yn y Blaenau, am iaith y chwareli: inclên, criwliwr, crimpio, jermon, clespyn, cowjian, riglwr, cŷn tewio, p’leru a p’leriad, clust wagan, troedio morthwyl, corddi twll, jympar, diddosi agor, hegal craen. Erthygl arall, Bruce..!" 

 

Mawr ddiolch i ti, Enid! Eithriad prin ydy’ cael unrhyw ymateb i’m sylwadau. Sut na fuaswn i wedi cofio edrych ar ddarlith Gwyn, fy nghyfyrder! Clywais fod siop lyfrau’r Hen Bost wedi ail-agor, diolch byth, felly heidiwch yno i gael copi ohoni. Rhaid bod eraill acw sy’n fwy gwybodus am y pwnc na fi, rhowch bin ar bapur, peidiwch â bod yn swil!


Troais at lyfr Steffan (ab Owain), Pen-Blwydd Mwnci, Gogyrogo a Char Gwyllt, Geiriau a Dywediadau Diddorol (Carreg Gwalch, 2016). Casgliad difyr dros ben, ac oes, mae ’na adran ar Amaeth, diwydiant a chrefft. (Nid llyfr o iaith ’Stiniog yn unig mohono, gyda llaw: ond holwch amdano yn siop yr Hen Bost!) Ceir llond tudalen am y car gwyllt, gyda llun da o chwarelwr yn eistedd ar un. Rhestrir hwrdd, jacob, megryn, milgi, pharo, tolyn, tew mastiff, tew llau, fel termau, gyda diffiniadau, o chwareli ’Stiniog. Gallasai’r rhestr fod yn llawer hwy, ond ymataliodd Steffan rhag cynnwys termau a geid eisoes mewn print: cyfeiria at rifyn 1966 o’r Caban, ac at restr Emyr Jones yn y BBGC (Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1961). 

’Does yr un o’r rhain gennyf, a bydd raid imi chwilota am y BBGC. Os ydy’r Caban gan rywun, da fyddai cael ysgrif ar ei gynnwys. 

[Llyfryn arall sy'n berthnasol iawn wrth gwrs ydi 'Geirfa'r Mwynwyr' gan Steffan yng nghyfres Llafar Gwlad. -Gol.]

A’r tro nesaf, os byw ac iach, be’ ga’i’n bwnc i fwydro yn ei gylch? Glawogydd ’Stiniog? Erbyn hynny, pwy a ŵyr na fyddwch wedi gweddïo amdanynt!
------------------------------

* Iaith Stiniog

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2020

Mae'r rhifyn dal ar gael i'w lawr-lwytho am ddim o wefan Bro360

Celf: stiwdio_lleucu

3.8.20

Iaith ‘Stiniog

Ar gais y golygydd, dyma fi’n mentro sôn am iaith ‘Stiniog. Cofiai amdanaf yn trafod idiomau’r ardal yn y gwersi cyfieithu (2003-05), er mwyn cyfoethogi geirfa aelodau’r dosbarth, yn hytrach na’u bod yn cyfieithu’n rhy lythrennol. Enghraifft bosibl: ‘to give it up as a bad job’, rhoi’r ffidil yn y to. Tybed a hoffech chi restr o enghreifftiau tebyg, fel petai’n rhan o eiriadur? Amheuaf mai buan y blinech: gormod o bwdin dagiff gi, meddai’r hen air. Gwell dweud tipyn o hanes ynglŷn ag ambell air neu sylw, os oes modd.

Cyn cychwyn: o ran iaith, ble mae ffiniau ardal ’Stiniog? Y Blaenau a’r Llan wrth gwrs, ond beth am Traws a Maentwrog? a Dolwyddelan? Ydyn’ nhw, yno, yn siarad yn bur debyg i ni? Gwaetha’r modd, ni fûm i’n byw yn yr un ohonynt, i gael ’nabod eu hiaith yn drwyadl: ond i’r hen Ysgol Cownti a’r Sentral deuai pobl o Groesor a Llanfrothen, y Penrhyn a Minffordd, ac yn yr ysgol felly, amser chwarae yn bennaf, y dysgem ddeall ein gilydd yn llwyr, (gan amlaf i ffraeo, i frolio ein hunain ac i herian ein gilydd.)

Cwestiwn anodd arall: mae galw plentyn yn fwrddrwg, neu ddweud bod peth yn ddrud fel pupur, yn rhannau o’n hiaith yma: ond ai yn ‘Stiniog yn unig y clywir nhw? Go brin. Cofiwch nad o’r plwyf hwn y daeth y miloedd o chwarelwyr i greu tref lle ’roedd, yn 1911, bron ddeuddeng mil o drigolion, ac a oedd felly’r dref ail fwyaf yn y gogledd. O weddill Sir Feirionnydd, ond yn bennaf o Sir Gaernarfon a Dyffryn Conwy, yr hanent, pob un yn siarad iaith ei fro. Cymysgedd felly, mae’n debyg, a siaradwn; tebyg bod hyn yn wir am sawl ardal.

(Llun gan wefan welshconnection- jygiau ar werth yn fanno)
I mi’n blentyn, diarth iawn oedd Sir Feirionnydd, ei phobl a’i hiaith. Ni chofiaf weld na’r Traws, na Harlech, na’r Bala - na Dolgellau cyn tua 1948. ’Roeddwn i ac Eigra wedi ennill gwobrau yn arholiad yr Ysgol Sul, a dyma fynd i Ddolgellau i’w cael. Yn festri’r capel cynigiwyd te inni fel hyn:
Oes eisie llaeth yn eich te?’  Llaeth!!  Ni allem goelio’r fath beth: ych a fi!
Na, dim diolch. A gawn ni lefrith?’ 
’Roeddem wrth gwrs, yn hen gyfarwydd â llaeth enwyn fel diod - ond nid mewn te. Gartref, yn ‘nhai Wilias Bildar’, sef Ffordd Wynne, ’roedd cymdogion i ni o’r Bermo, a digrif i ni blant fu eu clywed yn sôn am gwmpo yn lle cael codwm neu syrthio. Rhag ein cywilydd, yntê!

Rhai blynyddoedd yn ôl, cofiaf roi pàs (nid lifft) yn fy nghar i ŵr ar ei ffordd i’r Traws. Soniodd am ei ferch a oedd yn canlyn llanc a chanddo foto-beic, gan ddweud ‘mi alwodd y cog heibio ddoe’. Gair yr ardal am lanc, nas clywswn erioed o’r blaen. Dywedwch i mi, bobol Traws, pa faint o eiriau eraill sy’n wahanol i eiriau ’Stiniog? Yn y Bala dysgais y gair stodwm (= pentwr, llond gwlad, yn enwedig o wair, ’dw’ i’n meddwl). Soniodd cyfeilles imi o’r ardal sut y byddai merched ifainc yn synnu at ryw bishyn o lanc gan ddweud ‘Wel dacw ged y gog!’. Ni chlywswn ced erioed. Ei ystyr? ‘Anrheg’ (fel yn aberthged y ’Steddfod). Penbleth braidd yw’r gair. Wy a chyw yn nyth aderyn arall yw ‘anrheg’ y gog, wrth gwrs - ai peth i’w groesawu?

Ym Mangor bu gennyf letywr o Ddyffryn Ardudwy a ddysgodd ambell air newydd imi, e.e. twba (= twb), moron gwynion (= pannas - llysiau hollol ddieithr imi cyn mynd i Rydychen). Y mwyaf trawiadol fu clywed mai iafu a ddywedir mewn rhai ardaloedd yn ne Meirionnydd, tra dywedwn ni iau a thra dywedir afu yn y De. Trawiadol oherwydd mae’n rhaid imi ei fod yn hynafol iawn; dyna fu’r ffurf wreiddiol, yn gytras â iecur yn Lladin a hepar yng Ngroeg. Dyna roi ambell flesyn ichi ar iaith Meirionnydd.

Dyn a ŵyr ba faint rhagor o eiriau ac ymadroddion diddorol a dieithr (i mi o leiaf) sydd i’w clywed ynddi eto. Ond na phoenwch: mi gefais i eisoes bentwr o eirfa ’Stiniog gan fy nghyfeillion annwyl, Enid Roberts (gynt o Gae Clyd) a chan Dafydd Jones (yr Hen Bost), ac mae croeso i chwithau gyfrannu, drwy anfon neges at y Golygydd.
Bruce Griffiths
----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2020. Mi fydd mwy yn dilyn yn fan hyn yn yr wythnosau nesa, ond gallwch ddarllen y gyfres trwy lawr-lwytho'r rhifynnau digidol am ddim o'r fan hyn: 
Bro360- Llafar Bro

Smit newyddion- Ambell air a dywediad o Stiniog

Gyda llaw [Gol.]:  Nid llaeth na llefrith oedd gan Laura Davies wrth hel atgofion am Bant Llwyd, ond LLAETH-EFRITH

20.7.20

Smit Newyddion

Rhan o golofn olygyddol rhifyn Gorffennaf-Awst sydd ar gael i'w lawr-lwytho'n llawn -am ddim- rwan*.

Mae'n draddodiad yn y byd newyddiaduraeth bod yr haf yn gyfnod distaw, pan mae'r gwleidyddion ar eu gwyliau aballu. Dyma'r silly season bondigrybwyll; tymor y straeon gwirion er mwyn llenwi tudalennau a thynnu sylw'r darllenwyr pan mae llai o newyddion go iawn i'w adrodd. Tydw i ddim o reidrwydd yn awgrymu bod llawer o newyddiaduraeth yn y papurau bro cofiwch. Gan fod pawb sy'n gwneud stem o waith ar ran Llafar Bro yn wirfoddolwyr, does gennym ni mo'r gallu i dreulio dyddiau yn mynd ar ôl 'stori' a datgelu anghyfiawnder a sgandals aballu.

Yn nyddiau gofid covid, mae’r newyddion am unrhyw beth ond y feirws mor brin a chwys fforddoliwr, chadal yr hen chwarelwyr. Mae’n smit ar bawb! Tydi’r cymdeithasau ddim yn cyfarfod, does yna ddim chwaraeon, ac mae ein rhwydweithiau arferol o ddanfon cyfarchion ar bapur i’r gohebwyr lleol ac yna i’r teipyddesau ar stop dros dro hefyd.

(Llun Gwilym Arthur. Lawr-lwythwch y rhifyn am fwy o fanylion)
Un maes oedd y papurau bro yn rhagori ynddo ers talwm oedd newyddion cymunedol a chyfarchion teuluol. Ond beryg fod facebook wedi rhoi'r farwol i hynny! Ugain mlynedd yn ôl, roedd pobl wrth eu bodd yn gweld enwau eu hanwyliaid yn Llafar Bro, ac yn torri darn allan o'r papur i'w gadw.

Heddiw, does dim raid i neb aros mis nes daw'r rhifyn nesa’ allan –gall bawb roi cyfarchiad ar facebook mewn eiliadau, a derbyn ymateb gan ddwsinau o bobl o fewn munud neu ddau! Mae'r un peth yn wir am hen luniau. Ddegawd yn ôl, os oedd rhywun yn canfod hen lun, roedden nhw'n ei yrru at Llafar Bro i holi am enwau a hanesion. Heddiw, ar y cyfan, grwpiau facebook ydi’r lle i rannu a thrafod hen luniau. Iawn de; pawb at y peth y bo. Dwi ddim am feirniadu. Mae lle i bob math o gyfryngau yn ein bywydau ni bellach.

Daeth dipyn llai na’r arfer o ddeunydd i mewn ar gyfer y rhifyn yma yn sicr, ond gan fod y cynnwys mor ddiddorol dwi’n mawr obeithio y byddwch i gyd yn mwynhau’r rhifyn digidol yma eto.

Diolch o galon i’r cymwynaswyr sydd wedi cyfrannu’n hael at gostau cyhoeddi’r rhifyn yma, trwy noddi tudalennau. Mae haelioni pobol ‘Stiniog bob tro yn wirioneddol wych ac yn codi calon. Mae’n golygu ein bod yn medru parhau i gyhoeddi bob mis, ar gyfnod pan nad oes arian gwerthiant na hysbysebu yn dod i mewn.

Mi ddaw pethau’n haws dwi’n siwr;  bob yn ail mae dail yn tyfu, yn‘de, ond mae’n anodd gwybod i sicrwydd os byddwn yn medru dychwelyd -o’r diwedd- at argraffiad papur erbyn y rhifyn nesa’ ym mis Medi. Does ond heddiw tan yfory, a ‘fory tan y ffair...

Gadewch i ni wybod beth hoffech chi weld yn y rhifynnau nesa’; rydym yn dibynnu ar eich cefnogaeth. Beth am ymateb i gais ein colofnwyr am wybodaeth pellach? Dewch a’r drol yn nes at y doman, trwy yrru eich newyddion a’ch cyfarchion atom hefyd, fel nad ydym yn methu dim byd!  Yn y cyfamser gyfeillion, daliwch i gredu!
Paul Williams
----------------------------------------

* Rhifyn Gorffennaf-Awst 2020