3.8.20

Iaith ‘Stiniog

Ar gais y golygydd, dyma fi’n mentro sôn am iaith ‘Stiniog. Cofiai amdanaf yn trafod idiomau’r ardal yn y gwersi cyfieithu (2003-05), er mwyn cyfoethogi geirfa aelodau’r dosbarth, yn hytrach na’u bod yn cyfieithu’n rhy lythrennol. Enghraifft bosibl: ‘to give it up as a bad job’, rhoi’r ffidil yn y to. Tybed a hoffech chi restr o enghreifftiau tebyg, fel petai’n rhan o eiriadur? Amheuaf mai buan y blinech: gormod o bwdin dagiff gi, meddai’r hen air. Gwell dweud tipyn o hanes ynglŷn ag ambell air neu sylw, os oes modd.

Cyn cychwyn: o ran iaith, ble mae ffiniau ardal ’Stiniog? Y Blaenau a’r Llan wrth gwrs, ond beth am Traws a Maentwrog? a Dolwyddelan? Ydyn’ nhw, yno, yn siarad yn bur debyg i ni? Gwaetha’r modd, ni fûm i’n byw yn yr un ohonynt, i gael ’nabod eu hiaith yn drwyadl: ond i’r hen Ysgol Cownti a’r Sentral deuai pobl o Groesor a Llanfrothen, y Penrhyn a Minffordd, ac yn yr ysgol felly, amser chwarae yn bennaf, y dysgem ddeall ein gilydd yn llwyr, (gan amlaf i ffraeo, i frolio ein hunain ac i herian ein gilydd.)

Cwestiwn anodd arall: mae galw plentyn yn fwrddrwg, neu ddweud bod peth yn ddrud fel pupur, yn rhannau o’n hiaith yma: ond ai yn ‘Stiniog yn unig y clywir nhw? Go brin. Cofiwch nad o’r plwyf hwn y daeth y miloedd o chwarelwyr i greu tref lle ’roedd, yn 1911, bron ddeuddeng mil o drigolion, ac a oedd felly’r dref ail fwyaf yn y gogledd. O weddill Sir Feirionnydd, ond yn bennaf o Sir Gaernarfon a Dyffryn Conwy, yr hanent, pob un yn siarad iaith ei fro. Cymysgedd felly, mae’n debyg, a siaradwn; tebyg bod hyn yn wir am sawl ardal.

(Llun gan wefan welshconnection- jygiau ar werth yn fanno)
I mi’n blentyn, diarth iawn oedd Sir Feirionnydd, ei phobl a’i hiaith. Ni chofiaf weld na’r Traws, na Harlech, na’r Bala - na Dolgellau cyn tua 1948. ’Roeddwn i ac Eigra wedi ennill gwobrau yn arholiad yr Ysgol Sul, a dyma fynd i Ddolgellau i’w cael. Yn festri’r capel cynigiwyd te inni fel hyn:
Oes eisie llaeth yn eich te?’  Llaeth!!  Ni allem goelio’r fath beth: ych a fi!
Na, dim diolch. A gawn ni lefrith?’ 
’Roeddem wrth gwrs, yn hen gyfarwydd â llaeth enwyn fel diod - ond nid mewn te. Gartref, yn ‘nhai Wilias Bildar’, sef Ffordd Wynne, ’roedd cymdogion i ni o’r Bermo, a digrif i ni blant fu eu clywed yn sôn am gwmpo yn lle cael codwm neu syrthio. Rhag ein cywilydd, yntê!

Rhai blynyddoedd yn ôl, cofiaf roi pàs (nid lifft) yn fy nghar i ŵr ar ei ffordd i’r Traws. Soniodd am ei ferch a oedd yn canlyn llanc a chanddo foto-beic, gan ddweud ‘mi alwodd y cog heibio ddoe’. Gair yr ardal am lanc, nas clywswn erioed o’r blaen. Dywedwch i mi, bobol Traws, pa faint o eiriau eraill sy’n wahanol i eiriau ’Stiniog? Yn y Bala dysgais y gair stodwm (= pentwr, llond gwlad, yn enwedig o wair, ’dw’ i’n meddwl). Soniodd cyfeilles imi o’r ardal sut y byddai merched ifainc yn synnu at ryw bishyn o lanc gan ddweud ‘Wel dacw ged y gog!’. Ni chlywswn ced erioed. Ei ystyr? ‘Anrheg’ (fel yn aberthged y ’Steddfod). Penbleth braidd yw’r gair. Wy a chyw yn nyth aderyn arall yw ‘anrheg’ y gog, wrth gwrs - ai peth i’w groesawu?

Ym Mangor bu gennyf letywr o Ddyffryn Ardudwy a ddysgodd ambell air newydd imi, e.e. twba (= twb), moron gwynion (= pannas - llysiau hollol ddieithr imi cyn mynd i Rydychen). Y mwyaf trawiadol fu clywed mai iafu a ddywedir mewn rhai ardaloedd yn ne Meirionnydd, tra dywedwn ni iau a thra dywedir afu yn y De. Trawiadol oherwydd mae’n rhaid imi ei fod yn hynafol iawn; dyna fu’r ffurf wreiddiol, yn gytras â iecur yn Lladin a hepar yng Ngroeg. Dyna roi ambell flesyn ichi ar iaith Meirionnydd.

Dyn a ŵyr ba faint rhagor o eiriau ac ymadroddion diddorol a dieithr (i mi o leiaf) sydd i’w clywed ynddi eto. Ond na phoenwch: mi gefais i eisoes bentwr o eirfa ’Stiniog gan fy nghyfeillion annwyl, Enid Roberts (gynt o Gae Clyd) a chan Dafydd Jones (yr Hen Bost), ac mae croeso i chwithau gyfrannu, drwy anfon neges at y Golygydd.
Bruce Griffiths
----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2020. Mi fydd mwy yn dilyn yn fan hyn yn yr wythnosau nesa, ond gallwch ddarllen y gyfres trwy lawr-lwytho'r rhifynnau digidol am ddim o'r fan hyn: 
Bro360- Llafar Bro

Smit newyddion- Ambell air a dywediad o Stiniog

Gyda llaw [Gol.]:  Nid llaeth na llefrith oedd gan Laura Davies wrth hel atgofion am Bant Llwyd, ond LLAETH-EFRITH

2 comments:

  1. Anonymous4/8/20 01:12

    Grisiau yn Blaenau, staer yn Traws

    ReplyDelete
  2. Dewi Prysor4/8/20 11:25

    'Mwddrwg' yn air Traws hefyd. Ac roeddwn i'n clywed 'drud fel pupur' yn gyson gan yr hen genhedlaeth.

    Grisiau oeddan ni'n ddweud yn Traws.

    Tydi 'cog' ddim yn air Traws o gwbl. Gair Dinas Mawddwy a Maldwyn ydi o. Dwi'n cofio ni'n cwrdd a dod yn ffrindia efo merched o Dinas ac yn rhyfeddu ar eu defnydd o 'cog/gog' a 'cogyn/gogyn'. Tro cynta i ni glywad y gair.

    Ar wahan i rai o dermau chwarel, mae geirfa a dywediada Traws yn debyg iawn i Stiniog. Cofiwch mai acen gogledd Meirionnydd sydd yn Traws, fel Stiniog a Phenryn. Does dim defnydd na dylanwad yr 'e' lydan a geir yn ne a dwyrain y sir. Mae'r 'e' "bech" yn dechrau tua Maesgwm a Ganllwyd, a'r 'e' "paned" a "fanne" yn dechrau o gwmpas Arenig/Celyn.

    ReplyDelete

Diolch am eich negeseuon