Ail bennod cyfres Vivian Parry Williams
Daw hysbyseb yn y North Wales Chronicle (NWC) 13 Mai 1830, a gwybodaeth am ddarn o dir, 400 erw o faint, ynghyd â thri llyn, neu three large pools, yn ôl geirfa’r hysbyseb, oedd ar osod yn y plwy’. Roedd y pools hyn yn orlawn o frithyll, ac ychwanegai’r hysbyseb y gellid adeiladu tŷ ar y safle petai angen. Gofynwyd i’r sawl â diddordeb gysylltu â Mr Robert Owen, "Hafod Ysbytty, Festiniog", am fwy o wybodaeth. (Tybed ai dau lyn Gamallt a Llyn Bryn Du oedd dan sylw?)
Roedd chwarel lechi ar osod ger ‘Stiniog mewn hysbyseb a welid yn y Liverpool Mercury ar 20 Awst 1830. Roedd ffermydd mewn plwyfi cyfagos ar osod hefyd. Mae’r gybolfa o gam-ddehongli a chamsillafu enwau cynhenid gan Saeson y 19 ganrif yn ddolur i’r llygaid yn yr hysbyseb. Cynhwysir rhan ohono yn yr iaith, neu’r fratiaith, wreiddiol, i brofi nad ffenomen newydd yw sarhau’r Gymraeg. Byddai yr isod o ddiddordeb i’n cymdogion o Drawsfynydd, Dolgellau ac Ysbyty Ifan, yn sicr.
"To be Let, for the low rent of £160, in one of two Farms. Pantglas, situate in Prawsfinith Parish, eight miles from the town of Dolgelly, containing 500 Acres of LAND, well fenced and inclosed- about 150 Acres Arable, the remainder Meadow Pasture, and Coppice...
Also, a FARM (part of Cefn Garoo Farm, in Sputty Evan) containing 150 Acres of Meadow and Pasture LAND, with or without the exclusive right of Sporting over Grousing Hills, twelve miles in circumference..."
Pwy ddaeth yn denantiaid Pantglas yn Nhrawsfynydd, a’r tyddyn unig ar ben y Migneint, Cefn Garw, yn Awst 1830 tybed?
Cefn Garw |
Pum mlynedd yn ddiweddarach, ar 6 Ebrill 1835, roedd chwarel lechi "Cafn" Garw, ger "Festiniog" ar osod. Yn ôl yr hysbyseb, roedd y chwarel yn cynnwys craen, olwyn ddŵr, tŷ i’r asiant, a thai i’r gweithwyr, gyda hawl hefyd i lês i dyllu am blwm dan 2,000 o erwau gerllaw y chwarel. Roedd y cyfan o fewn cyrraedd i ffordd dyrpeg, a dim ond wyth milltir i ffwrdd o borthladd yn ôl Mr Powell, Sadlar, 22 Dale St., Lerpwl, y gwerthwr.
Yn y NWC ar 29 Gorffennaf 1830 hysbysebwyd dwy fferm sylweddol gyfagos ar werth fel "Freehold Estates", sef Dduallt a Glanrafon, yn cynnwys dros 600 erw o dir rhyngddynt. Fferm arall ar werth oedd Bron y Manod, yn cynnwys 104 erw o dir, gyda rhan o Lyn Manod, gyda’i stoc dda o bysgod, yr adeg honno, yn rhan o’r stad honno.
Cynhaliwyd ocsiwn hefyd ar dair fferm yng Nghwm Cynfal, yn nhafarn Tan-y-bwlch ar 25 o Chwefror, 1831, sef Bryn Rodyn, Cae Iago, Llech-y-Ronw, yn ôl sillafiad y cyfnod, ar hysbyseb yn y NWC ar 6 Ionawr y flwyddyn honno yn rhoi manylion am leoliad y ffermydd hynny:
"The above premises are situated in the most picturesque part of the Vale of Ffestiniog..."
Petai rhywun yn chwilio am lety, fesul wythnos neu fis, yn ardal ‘Stiniog ym mlynyddoedd cynnar y 19 ganrif, byddai’r hysbyseb am le felly at the head of the ever to be admired and truly romantic Vale of Ffestiniog (gyda ‘Ff’) i’w weld yn y Jackson’s Oxford Journal ar y 21 Mai 1831. Dywed hyn wrthym fod y fro hon yn adnabyddus gyda theithwyr yr adeg hynny. Y llety hwnnw oedd rhywle ger, neu’n rhan o’r Pengwern Arms, a’r lle yn addas ar gyfer teuluoedd medda’r hysbyseb. Roedd pum llofft a thri pharlwr, a’r cyfan wedi eu peintio a’i addurno ‘yn ddiweddar’gan y perchennog, Martha Owen, ac ar gael am brisiau rhesymol ganddi.
Ymysg atyniadau’r ardal y flwyddyn honno, fel heddiw, oedd y nifer o lynnoedd ar gyfer pysgotwyr, a hefyd "good salmon fishing within a mile". Gellid hefyd hurio car a cheffyl yno ar fyr rybudd i deithio o amgylch y fro. Roedd hysbyseb arall ynghlwm â’r uchod yn cynnig "newly-erected Gothic Cottage" ar osod, am gyfnodau o fisoedd, neu flwyddyn, gyda phedair llofft a’r ystafelloedd arferol eraill, stabl ar gyfer pedwar ceffyl, gyda dwy lofft uwchben. Byddai unrhyw gentleman a gymerai fantais o’r cynnig hwn yn gallu cael ei frecwast a’i de yn y bwthyn, a’i ginio yn y Pengwern Arms, oedd o fewn pum can llath o’r lle. Byddai’n ddiddorol gwybod pa fwthyn oedd/yw hwn.
Mae’n debyg’ mai’r cofnod o farwolaeth Daniel Williams mewn damwain mewn chwarel lechi yn ‘Stiniog, yn y NWC 14 Hydref 1834, yw’r adroddiad cynharaf mewn papur newyddion Cymreig o ddamwain angheuol yn chwareli’r fro?
Ni enwir y chwarel, ond ceir gwybodaeth i Daniel golli ei fywyd pryd y cwympodd tunelli o gerrig arno.
----------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2020
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon