7.8.20

Twf Anhygoel y Capeli

Rory Francis yn son am astudiaeth newydd sy'n ceisio taflu goleuni ar dwf anhygoel y capeli yn y Blaenau
 
Ddechrau’r ganrif ddiwethaf roedd gan Flaenau Ffestiniog 50 o gapeli anghydffurfiol ar gyfer poblogaeth o ddim ond 11,000 o bobl. Hyd yn oed petai pob unigolyn dros dair blwydd oed wedi mynychu capel ar Ddydd Sul yn 1906, mi fyddai 58% yn fwy o seddi nag oedd y boblogaeth.
 
Codwyd mwyafrif helaeth y capeli yn y cyfnod cymharol fyr rhwng 1850 a 1914. Ond sut mae esbonio’r twf trawiadol hwn? A pham fod y twf mor amlwg yn ardaloedd llechi gogledd Cymru?
 

Er mwyn ceisio ateb y cwestiynau hyn mae criw o wirfoddolwyr brwdfrydig, sef Frances Richardson a Harvey Lloyd o Gapel Curig a Ken Jones o Lanberis, yn gwneud ymchwil am dwf y gwahanol enwadau anghydffurfiol a’u capeli.
 
Mae’n debyg y cyhoeddir llyfr am hyn yn y man, fydd yn pwyso a mesur twf y capel anghydffurfiol trwy Gymru a Lloegr. Mae Ken Jones wedi edrych yn arbennig ar gapeli Llanberis. Ond credwyd ei bod yn bwysig i gynnwys Bro Ffestiniog hefyd, gan fod yr ardal hon mor bwysig.
 
Rhai o’r cwestiynau y bydd y tîm yn trio eu hateb fydd:
*  Pam y codwyd cymaint o gapeli rhwng 1850 a 1914?
*  Pam y codwyd cymaint o gapeli fel bod yna or-gapasiti mor drawiadol, gan ystyried y capeli i gyd?
*  Sut yr ariannwyd y gwaith adeiladu hwn? Cynulleidfaoedd capeli oedd yn bodoli’n barod yn talu am yr eglwysi newydd, tirfeddianwyr neu unigolion cyfoethog yn cyfrannu’n hael, trwy ddefnyddio arian oedd wedi cael ei gynilo, neu trwy fenthyciadau?
*  Oes yna dystiolaeth o broblemau’n codi oherwydd benthyciadau ar raddfa fawr? Hynny yw, petai cynulleidfaoedd wedi benthyg arian mawr i godi capel, festri neu fans newydd, a oedd hynny’n rhwystr i bobl eraill ymaelodi â’r gynulleidfa honno, oherwydd eu bod yn gyndyn i ddod yn gyfrifol am ran o’r dyledion hynny?
 
Mae’n amlwg fod y capeli wedi tyfu wrth i’r dref ymestyn, gan greu cymunedau newydd, megis Tanygrisiau. Ond pwy oedd yr unigolion a ysgogodd yr ymdrech i godi capeli newydd? Gweinidogion, stiwardiaid mewn chwareli, siopwyr, neu bwy?
 
Credir fod balchder yn rhywbeth pwysig oedd yn annog y cynulleidfaoedd gwahanol i adeiladu ac ymestyn, er mwyn creu lle digon mawr ar gyfer, er enghraifft, cyfarfodydd misol Eglwys Bresbyteraidd Cymru, cyfarfodydd chwarterol y Bedyddwyr, neu gystadlaethau Eisteddfodol. Ond a gaiff y grŵp hyd i dystiolaeth neu enghreifftiau pendant?
 
A beth am y sialensiau a greuwyd gan ymlediad y Saesneg yn yr ardal, a arweiniodd, yn ôl dwi’n deall, at godi capel arbennig i’r Methodistiaid Calfinaidd Saesneg eu hiaith?
 
Mi glywais i am yr ymchwil hwn pan gysylltodd Frances Richardson â fi, yn gofyn a oedd gennyf awydd cymryd rhan. Mi gytunais, ond mi sylweddolais yn fuan wedyn fod Rhian Williams, diacon efo Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn barod i wneud yr ymchwil yma a bod ganddi hi gefndir a gwybodaeth oedd yn ei gwneud hithau’n ymgeisydd cryfach i wneud y gwaith. Ond mae’n reit bosibl y gwnaf i gymryd rhan yn y prosiect yn y dyfodol.
 
A oes gennych chi wybodaeth neu ddiddordeb arbennig yn y pwnc diddorol hwn? Hoffech chi wirfoddoli i fod yn rhan o’r gwaith? Os felly, mae croeso i chi gysylltu â fi roryfrancis[AT]live.co.uk neu 01766 830328.
 
Felly, mae’r ymchwil yn mynd yn ei flaen, ac mae’n debyg y gwelwn ni lyfr am hyn yn y man. Mae hanes arbennig yn perthyn i’r capeli yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan oedd tref y Blaenau yn ei hanterth. Oni ddylen ni ymchwilio a thrysori hon a thrio ei deal yn well?
-------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2020.
Llun- Paul W. Capel Hyfrydfa

Cyfres ar Gapel Tabernacl




No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon