27.8.20

Rhod y Rhigymwr -Hen Enwau

Pennod arall o gyfres Iwan Morgan

Cefais anrheg difyr iawn y diwrnod o’r blaen … cyfrol ddiweddaraf y Dr Glenda Carr yn olrhain ‘Hen Enwau o Feirionnydd.’ Gwelwyd eisoes ‘Hen Enwau o Gaernarfon, Llŷn ac Eifionydd’ a ‘Hen Enwau Ynys Môn’ ganddi. Ar ôl ei chlywed yn sgwrsio efo Dei Tomos ar ei raglen nos Sul, roeddwn wedi nodi’r gyfrol ar ben y rhestr erbyn y tro nesaf i mi fynd i’r siop lyfrau leol, ond mae’n rhaid fod pâr o glustiau wedi fy nghlywed yn crybwyll hynny!

Rydw i wedi byw yn nalgylchoedd pob ysgol uwchradd ym Meirionnydd ar wahân i Benllyn, ond mae gen i gysylltiadau trwy briodas â’r rhan honno o’r sir hefyd. Mae’n gwbl naturiol felly mod gen i ddiddordeb mawr yn yr hen enwau yma. Mae sgyrsiau gwych Myrddin ap Dafydd am enwau lleoedd efo Aled Hughes ar Radio Cymru ar foreau dydd Mawrth hefyd wedi gwneud i mi sylweddoli ar y cyfoeth a feddiannwn fel cenedl.

Ymdrinia Glenda Carr â tharddiad sawl enw yn nalgylch  Llafar Bro. Fel un sydd wedi byw yn hirach yng Nghwm Cynfal nag mewn unrhyw ran arall o Feirionnydd bellach, mae’r rhain o gryn ddiddordeb. Gan y dywedir i ddigwyddiadau Pedwaredd Cainc y Mabinogi gymryd lle yn y fro, a’n bod wedi cael ein trwytho yn hanes Blodeuwedd, y ferch a greodd Gwydion y Dewin o flodau’r maes yn wraig i Lleu Llaw Gyffes, mae’n naturiol inni gysylltu enwau’r annedd-dai yma â digwyddiadau’r chwedl. 

Cymrwn ‘Bryn Cyfergyd,’ er enghraifft. Mae’r testun yn y Mabinogi yn adrodd fel y daeth Gwydion a Lleu i fryn ‘a elwir weithion Brynn Kyuergyr’ ar lan ‘afon Cynfael.’  Dywed Glenda Carr ei bod yn amlwg fod yna ‘fryn’ o’r enw ‘Bryn Cyfergyr’ yn yr ardal pan adroddodd y cyfarwydd hanes Lleu i’w gynulleidfa rhyw dro yn yr Oesoedd Canol. Ar y llecyn yma y codwyd y tŷ a adwaenid fel ‘Bryn Cyfergyd’ tua 1650.

Y cwestiwn mae’r awdur yn ei ofyn ydy pam newid ‘cyfergyr’ yn ‘cyfergyd?’  Ystyron ‘cyfergyr,’ yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru ydy ‘ymladdfa’ a ‘cynllwyn.’ Fel yr aethpwyd ati i gysylltu ‘Bryn Cyfergyd’ efo ergyd y waywffon a darawodd Gronw Pebr yn y chwedl, mae’n debyg bod ‘ergyr’ wedi troi yn ‘ergyd.’  Daeth y gair ‘cyfergyd’ am ‘concussion’ yn un a ddefnyddir yn gyson gan sylwebyddion rygbi ar S4C yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Fel y gwyddom, mae’r ardal yn frith o enwau sy’n gysylltiedig â’r Bedwaredd Cainc. Cawn hefyd ‘Bryn Llech’, ‘Bryn Saeth’, ‘Llech Ronw’, ‘Mur Castell’ [Tomen y Mur] ac yn y blaen. Ond mae enw un lle cyfagos i’m cartref wedi bod yn ddirgelwch i mi ers yr holl flynyddoedd rydw i wedi byw yma, a hwnnw ydy ‘Bodlosged’ neu ‘Bodllosged.’ 

Yn ôl cyfrol Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ‘Darganfod Tai Hanesyddol Eryri’ -prosiect dyddio blwydd-gylchau Gogledd Orllewin Cymru [Suggett a Dunn, Aberystwyth 2014], ceir tystiolaeth ar gyfer yr enw ‘Botlosked’ mor bell yn ôl â 1292-3.  Mae’n debyg mai tŷ o’r unfed ganrif ar bymtheg ydy’r un presennol, a nodir bod yr ystyr yn aneglur a’r sillafu’n amrywiol.

Fe’n harweiniwyd ni’r trigolion lleol i gredu mai ‘bod loes y gad’ oedd yr ystyr, a dyma’r enw amheus sydd ‘wedi ei fathu’n fwriadol’ yn ôl Glenda Carr, a hynny ‘er mwyn rhoi rhyw naws hanesyddol a ffug i’r lle.’ Mae hi’n ymwrthod â’r ‘eglurhad chwerthinllyd’ sy’n cysylltu’r ‘loes’ â’r hyn a ddioddefodd Gronw Pebr pan drawyd ef â gwaywffon Lleu Llaw Gyffes. 

Cyfaddefa fod yr enw yn un anodd canfod ystyr iddo, ond noda i’r Athro Melville Richards weld cysylltiad rhyngddo â ‘golosg’ (charcoal), neu ‘golosged’ … hen air am rywbeth sydd wedi ei losgi. Hwyrach fod ‘golosg’ wedi cael ei losgi yno rhywbryd, neu, fe allai’r lle fod wedi mynd ar dân mewn rhyw oes. 

Gan mai ymwneud â barddoniaeth y mae fy ngholofn, trof i gloi at hanes rhai o fân-deuluoedd bonheddig yr ardal oedd yn ‘noddi’ beirdd ‘slawer dydd. Arferai teuluoedd Hendre’r Mur, Tyddyn Du a Chynfal ym mhlwyf Maentwrog; Pengwern, Dôl-y-moch a Than-y-bwlch ym mhlwyf Ffestiniog; a Bryn-hir, Cefn-deuddwr a Gelli-iorwerth ym mhlwyf Trawsfynydd noddi rhai o’r beirdd a ganai glodydd iddynt. 

Disgynyddion Dafydd ap Ieuan ab Einion, cwnstabl Castell Harlech adeg Rhyfeloedd y Rhosynnau [1455-85] fu’n noddi’r beirdd ym Mhengwern. Fe ganodd William Cynwal, a fu’n ymryson ag Edmwnd Prys [1544-1623] i Siôn Lewis ab Ifan:

‘Cur ŵyr o awch, carw aur og,
Corff ais dawn, caer Ffestiniog;
Dwys gadarn mewn dysg ydwyd,
Distaw a sad ustus wyd …
Ifor Hael y fro hon …’
A gwraig Siôn, oedd yn gyfrifol am y croesawu:
‘Gwaith Gwen Llwyd, rhoi bwyd a bîr,
Gwiriai glod ac aur i glêr …’
Atgyweiriwyd Dôl-y-moch gan Siôn Siôns ym 1643, a chanodd Gruffydd Phylip [un o Phylipiaid Ardudwy] gywydd i nodi’r achlysur:
‘Hynod adail nodedig,
Rasol brif o’r sail i’r brig,
Ym mro enwog Meirionnydd,
Adail Siôn yn nodol sydd …’
Roedd i gerdd dafod a cherdd dant le amlwg yno:
‘Cerdd dafod, myfyrdod maith,
Cerdd fiwsig cwyraidd fwyswaith.’
Mae’r englyn canlynol i Huw Llwyd, y milwr lliwgar o Gynfal oedd fyw rhwng tua 1568 a 1630 yn un tra enwog. Ei awdur ydy Huw ap Ieuan:
‘Holl gampiau doniau a dynnwyd – o’n tir,
Maentwrog a ‘sbeiliwyd;
Ni chleddir ac ni chladdwyd
Fyth i’w llawr mo fath Huw Llwyd.’
Mae Siop Lyfrau’r Hen Bost wedi ail-agor … bydd Elin yno i’ch croesawu yn ei het werdd a’i mwgwd plastig … ewch yno i brynu cyfrol Glenda Carr … ‘Hen Enwau o Feirionnydd’ [Gwasg y Bwthyn] … £10.95. Ac os oes gennych £30, byddai’n werth prynu ‘Darganfod Tai Hanesyddol Eryri’ efo’r pres petrol a ballu rydych wedi ei arbed yn ystod y misoedd dwytha!

Parhewch i gadw’n iach a diogel!

IM
-------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2020.

Mae'r rhifynnau pdf dal ar gael i'w lawr-lwytho am ddim o wefan Bro360.




No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon