18.8.20

Stolpia -Digwyddiadau a Hanesion Hynod y Fro

Pennod arall o gyfres Steffan ab Owain


Disgyniad Carreg o'r awyr
Ar y 15 fed o Ebrill 1902  disgynnodd carreg o’r awyr  i ardd Mr. Owen Jones, y Gof, Heol Dorfil, Blaenau Ffestiniog. Tyllwyd yn ddyfal amdani, a’r dydd Llun dilynol, cafwyd hyd iddi hi yn y dyfnder o naw troedfedd ac wyth modfedd. Roedd yn debyg i wenithfaen las, bron yn grwn, ac yn orchuddiedig a channoedd o fân dyllau. Dywed yr ysgolheigion mai y mân dyllau hyn oedd yn cyfrif am y sŵn a wnâi wrth ddisgyn. Pwysa ddeng owns ar hugain. Cafodd Mr. Owen Jones gynnig swm mawr o arian amdani, ond gwrthododd ei gwerthu hyd nes cael gwybod beth oedd ei gwir werth. Roedd hi i’w  gweld yn nhŷ Mr. Jones y pryd hynny. ( Tybed beth a ddigwyddodd iddi)?

Llwynog Call
Clywodd Bob Owen, Croesor, yr hanesydd a’r achyddwr enwog, yr hanesyn canlynol gan fugail a fyddai â phraidd o ddefaid ar y Manod. Dywedodd iddo weld llwynog un bore yn dod i’w gyfeiriad a llechodd er mwyn iddo ddod yn nes ato a chanfod beth a oedd ganddo yn ei geg. Yr hyn a oedd ganddo oedd dwy iâr fynydd, ac roedd wedi gosod y ddwy iâr a’u gyddfau heibio ei gilydd fel eu bod yn gallu eu cario yn hwylus.
(Mae hi’n amlwg ei fod yn llwynog go gall)!

Iâr Hynod
Yn y flwyddyn 1930 aeth Ellen Jones, o ardal Dorfil a iâr Rhode Island Red  i arddangosfa hen ieir yn Crystal Palace - a oedd yn rhan o raglen y World Poultry Congress. Roedd yn ofynnol bod yr iâr yn oedrannus a bod llythyr gan ŵr cyfrifol i ddangos hynny. Yr oedd iâr Ellen Jones yn ddeunaw oed ac yn dodwy yn gyson. Cafodd Ellen Jones lythyr i ategu’r ffeithiau gan Brifathro lleol, E.Towyn Jones. Cafodd yr iâr a hithau groeso a sylw mawr yn Llundain ac arhosai Mrs Jones efo’i nith, Mai Jones. a oedd yn Llundain mewn coleg cerdd.
(O gyfrol ‘Stiniog’ - Ernest Jones 1988).

Mellten yn taro clochdŵr Eglwys Dewi Sant
Ychydig cyn agoriad swyddogol Eglwys Dewi Sant yn y Blaenau yn Hydref 1842 trawyd y groes ar y tŵr gan fellten. Rhoddwyd hi yn ôl yn ei lle ychydig wedyn, ond credwch neu beidio, trawyd yr un groes yr eilwaith gan fellten. Dyma hanesyn o atgofion R. Lewis Jones (hen ewythr i Mrs Eleri Jones, Bryn Offeren) Granville, Efrog Newydd sy’n sôn, yn ddiau, am yr un digwyddiad.

Dywedodd fy mam wrthyf eu bod wedi rhoi croes ar dop y tŵr bychan sydd ar ben yr eglwys a bod mellten wedi ei tharo i lawr yn glir oddi wrth yr eglwys, ac fe’i codwyd a rhoddwyd hi fyny wedyn ymhen tipyn o amser. Daeth mellten wedyn ac a’i  trawodd yn glir i ganol y ffordd at dŷ y Person.

( O ‘Adlais o’r  Dyddiau Gynt’, yn Y Rhedegydd, 6 Gorffennaf ,1933 ).


Bwrw Llyffantod Bychain

Oddeutu 1984 clywais hanesyn diddorol gan Aled Jones, a fu’n athro yn Ysgol Glan Clwyd, am gawod o lyffaint bychain a ddigwyddodd ym Mhenrhyndeudraeth pan oedd yn hogyn. Un noson, roedd wedi agor drws cefn ei gartref ac ar fin mynd i nôl glo o’r cwt pan welodd rai cannoedd o lyffaint bach maint ewin dyn wedi dod i lawr yn un cawod ac yn neidio o gylch y lle. Dechreuodd rhai ohonynt anelu am y tŷ a bu’n rhaid i Aled gael help ei dad i’w rhawio nhw allan yn ôl. Ar ôl adrodd y stori hon clywsom am gawod o lyffaint yn digwydd yn y Blaenau yn yr 1920au, a thra’r oedd aelodau o Gapel Tabernacl (MC) yn dod allan o’r oedfa hwyr. Pan oedd un ddynes ar ei ffordd i lawr am ei chartref goddiweddwyd hi gan un arall a’r geiriau cyntaf a lefarodd honno oedd - “Mae hi ‘di gwneud cawod o lyffint”,  fel petai yn beth cyffredin ! Gyda llaw, gwnaed cawod o lyffaint yn Nhreffynnon, Sir Fflint ym mis Awst 1890, hefyd.

Olwyn o dân

Byddai llawer o’r hen bobl yn credu eu bod wedi gweld olwynion tân mewn sawl lle yn yr ardal hon a mannau eraill. Dyma un stori am ddynes a fu’n llygad-dyst i ddigwyddiad gyda olwyn dân:

Un tro, roedd Elin Jones yn cerdded i fyny i’w chartref yn Dŵr Oer, nid nepell o Lyn Manod. Wedi cyrraedd y bonc gwelodd gylch neu olwyn o dân yn chwyrnellu ger tŷ drwm yr inclên a chynhyrfodd gryn dipyn gan y digwyddiad. Pa fodd bynnag, aeth heibio’r lle ac adref ar ei hunion. Y  bore trannoeth, roedd Mr. R. Bowton, y goruchwyliwr yn cael ei griwlio i fyny’r inclên mewn wagen ond er syndod iddo, nid arafodd y wagen wedi cyrraedd y crimp nac aros ar y lan, ond codi i fyny yn syth am y drwm. Trwy ryw drugaredd, gallodd neidio yn glir oddi arni hi cyn cael niwed. Yn ei fraw, aeth ar ei union at fraciwr yr inclên i’w geryddu, ond gwelodd fod hwnnw yn hollol lonydd ar lawr ac wedi syrthio’n farw tra wrth ei waith. Credir bod Elin Jones wedi cael argoel o’r digwyddiad hynod hwn. Bu amryw o enghreifftiau tebyg yn ein bro, ond bydd yn rhaid  gadael eu hanes tan rhyw dro eto.

Darganfyddiad Hynod Awst 1879
"Yr wythnos diwethaf, daeth gweithwyr llinell y ffordd haearn o’r Bala i Ffestiniog gerllaw Pant Mawr, Trawsfynydd o hyd i weddillion pur hynod. Pan y gweithid ar y cutting (toriad dwfn) tynnwyd sylw Richard Roberts at fath o focs, ac erbyn manylu arno, canfuwyd ei fod yn naw troedfedd o hyd a phum troedfedd o led, a therfyn o blanc yn ei ganol ar ei hyd fel y tebygai lawer i arch, ond ei fod yn rhy hir. Yr oedd ei goed yn dair modfedd o drwch o dderw da. Ceid hefyd bolyn pren crwn ymhob pen iddo a thwll ar ei hyd. Ceid hefyd dwr o gerrig gwynion o boptu tano. Yr oedd clai glas, a hwnnw yn orchuddedig â mwsog."    (Adroddiad o hen bapur newydd mewn llyfr lloffion).

O.N. - Tybed a oedd hwn yn dyddio o’r Oes Efydd? Byddid yn gwneud defnydd o gerrig gwynion a chlai glas yn rhai o ddefodau yr oes honno.
 ----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2020, sydd dal ar gael i'w lawr-lwytho'n llawn, am ddim o wefan Bro360.



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon