Pennod o gyfres Steffan ab Owain, STOLPIA, o rifyn Ebrill 2026
I’r rhai ohonoch sydd a chof o’r 1950au a chynt, yn ddiau, mi gofiwch fel y byddai llawer o gŵn yn cael rhyddid i grwydro’r mannau fel ag y mynnent– yn union fel defaid Stiniog! Cofiaf fel y byddai rhai yn ei sgrialu ar ôl rhyw gath ac eraill yn rhedeg ar ôl ambell un ar gefn beic. Chwilio am asgwrn neu damaid o gig fyddai rhai, neu sylw ac ychydig o fwythau. Roedd rhai ohonynt yn gallach na’r rhelyw, megis Toby, ci fy modryb Kit, a fyddai yn dal y bws wrth y Tap a mynd arni hi i fyny at siop y cigydd yn Stryd yr Eglwys ac ar ôl cael asgwrn ganddo, yn cerdded adref yn fodlon ei fyd.
Un arall, a chyn fy amser i a phawb arall bellach, oedd Major, ci yr Abbey Arms yn y Llan.
Un o swyddogaethau Major oedd arwain ymwelwyr i lawr at Raeadr Cynfal ar adegau o dywydd teg. Cawn ei hanes mewn llythyr Saesneg a ymddangosodd yn Y Rhedegydd, 14 Medi 1910, ac a ysgrifennwyd gan T.M Hardie, Infirmary Office, Birmingham. Ynddo, dywed fel yr holodd Mr Jones, perchennog y dafarn am y llwybr i lawr at y rhaeadr, a dyma hwnnw yn ei gyfeirio at y llidiart ger buarth y fferm i lawr y stryd. Yna, dyma fo yn ychwanegu “mi aiff y ci a chi yno”, ac ar ôl iddo ddweud gair yn Gymraeg wrth Major, sef ci du a chot gyrliog, llygaid tlws a gwyneb deallus, dechreuodd hwnnw gyfarth fel bod pob ci yn y cylch wedi ymgynnull yno…
Beth bynnag, arweiniwyd y criw i lawr at yr afon, sef rhyw filltir o’r pentref gan y ci hoffus a rhyfeddwyd at ei fedr ar hyd y llwybr. Er bod amryw o lidiardau ar y daith gallai Major eu hagor nhw i gyd ar wahân i un oedd efo sbring a braidd allan o’i gyrraedd.
![]() |
| Yr Abbey Arms yn ei fri a Major y ci yn eistedd y tu allan i’r drws |
Pan glywyd sŵn y rhaeadr diflannodd yr arweinydd am ysbaid fel ei fod yn cael ymdrochi ychydig mewn dŵr gerllaw, ac yna, wedi dychwelyd aethpwyd a ni i lawr llwybr serth at raeadr sydd a chwymp o ryw 40 troedfedd. Yno, cafwyd golygfa wych oddi ar bont a godwyd uwchlaw’r ceunant. Ar un ochr yr oedd y llifeiriant yn arllwys tros y creigiau a’r dŵr yn chwistrellu yn yr awyr oddi amgylch. Ar yr ochr arall ceid dŵr yr afon yn ystumio hyd ymylon cul y creigiau. Roedd yr olygfa yn syfrdanol a ninnau yn dal ein gafael yn dynn ar y bont.
![]() |
Y bont uwchlaw’r rhaeadr |
Wrth droi ein camau yn ôl gwelwyd nad oedd Major yn mynd ar yr un llwybr. Yn hytrach, troediodd ar lwybr arall am ychydig, ac yna, aros gyferbyn â cholofn o graig a enwir 'Pulpud Huw Llwyd' lle byddai dewin yn y dyddiau gynt yn ymarfer eu swynion gyda’r nos. Ychydig wedyn aethpwyd a ni i fyny at ‘Llam yr Afr’, sef craig naturiol ar ffurf pont uwchlaw yr afon. Anelodd Major i lawr at yr afon wedyn, ond gan ein bod ni’n fodlon ar y lle yr oeddem, arhoswyd yno nes y deallwyd ein bod yn gadael rhan o’r daith o’i drefniant.
Yn y cyfamser, dechreuodd ein harweinydd gyfarth yn iawn, ac o ganlyniad, aethom i lawr ato er mwyn ei dawelu. Trodd wedyn a’n harwain i fyny’r boncen at y rhaeadr uchaf lle ceid yr afon yn llamu dros yr ymyl yn dair rhan enfawr i bantle tywyll a chreigiau cysgodol. Roedd eisteddfainc ar y boncen a man hwylus i gael seibiant, ac yno y mwynhawyd ein brechdanau gyda Major yn cael ei gyfran haeddiannol ohonynt.
O/N. – A ydyw Pont Llam yr Afr yn dal yno, neu a ydyw wedi dymchwel i’r ceunant islaw?


No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon