23.4.22

Buddsoddi o Bell

Erthygl gan Philip Lloyd

Heblaw’r teuluoedd Greaves, Oakeley, Casson a Holland bu gan y chwareli lleol lu o berchnogion yn eu hanterth. Ond beth am fuddsoddwyr? Cefais gyfle i daflu peth goleuni ar y mater yn ddiweddar, a hynny o gyfeiriad annisgwyl.

Mae hen gyfaill coleg i mi yn gwirfoddoli yn amgueddfa leol Wellington, Gwlad yr Haf. Cafodd hen lyfr cownt i’w astudio gan y curadur. Mae’n cofnodi cyllid Mrs S.M. Fox, gwraig i aelod o deulu lleol a fu’n cynhyrchu brethyn gwlân yn y dref ers canol y deunawfed ganrif. Prif berchennog cwmni Fox Bros & Co ers 2009 yw Deborah Meaden, a fagwyd yn lleol ac a ddaeth i amlygrwydd ar y rhaglen deledu Dragon’s Den

Roedd sôn yn y llyfr cownt am etifeddu ar ôl marwolaethau ac eitemau teuluol eraill. Ond roedd un gair a ymddangosodd sawl gwaith yn y 1890au yn ymdebygu i ‘Carmarthen’ (‘Carmarthen shares’ un tro) a swm o £1,300 yn ei ymyl bob tro. Ond yn 1895 priodolwyd y swm i’r New Welsh Slate Co. Debentures, sef math arbennig o fuddsoddiad sy’n cael blaenoriaeth os telir difidend blynyddol.

Llwyddais i argyhoeddi fy nghyfaill nad oedd cysylltiad amlwg rhwng Caerfyrddin a’r diwydiant llechi. Parodd hyn ddryswch iddo ac i’r curadur. Ond aeth y curadur ati ar drywydd arall: a oedd ‘Carmarthen’ yn air Cymraeg arall yn dechrau gyda’r elfen ‘Cwm’ ac yn berthnasol i’r diwydiant llechi? Daeth i’r casgliad mai Cwmorthin ydoedd.

Gofynnais i gyfaill arall, Gareth Haulfryn Williams, cyn-archifydd sirol, a oedd cysylltiad rhwng chwarel Cwmorthin a’r New Welsh Slate Co. Daeth yr ateb gyda’r troad: ffurfiwyd y New Welsh yn 1889 i brynu cwmni’r chwarel ar ôl i hwnnw fynd i’r wal. Yna, meddai, prynwyd y New Welsh yn ei dro gan Gwmni Oakeley yn 1900.

 

Rydw i’n ddiolchgar hefyd i Cadi Iolen o Amgueddfa Lechi Cymru. Cefais fy nghyflwyno ganddi i gyfeiriadau’r wasg at ddechrau a diwedd y New Welsh Slate Co. yn ogystal â gwybodaeth am ei drefniadaeth. Yn rhifyn 31 Mai 1889 o’r Caernarfon & Denbigh Herald, estynnwyd gwahoddiad o swyddfa’r cwmni yn Llundain i ymgeisio am gyfranddaliadau. Yn y ddinas honno hefyd y trigai pedwar o’r chwe chyfarwyddwr (ac Aelod Seneddol Torïaidd Tottenham yn eu plith).

Ond roedd rhifyn 24 Mawrth 1899 o’r North Wales Express yn cynnwys adroddiad ar ‘a special meeting’ o’r cwmni mewn gwesty yn Llundain i ystyried ‘the present financial condition of the company’, a oedd yn ‘extremely deplorable’.  Doedd dim difidend yn cael ei dalu ar y cyfranddaliadau, ac adroddodd Mr Roberts, y rheolwr, nad oedd y gweithwyr wedi cael cyflog llawn ers wythnosau. Pe baen nhw’n ymadael, meddai, byddai’r gwaith yn cael ei foddi gan ddŵr. Roedd pennawd yr adroddiad yn cynnwys y geiriau drwg argoelus: ‘proposed voluntary winding-up’. A dyna’r argymhelliad a gyflwynwyd i gyfarfod buan o’r cyfranddalwyr.

Hanes Plwyf Ffestiniog

Atgynhyrchaf uchod fanylyn o’r map a atodwyd i’r llyfr Hanes Plwyf Ffestiniog o’r Cyfnod Boreuaf gan G.J. Williams (1882). Gwelir Llyn a Chwarel Cwmorthin ar yr ochr chwith. Sylwer hefyd ar y tramffyrdd sy’n cysylltu’r chwareli â Rheilffordd Ffestiniog er mwyn cludo eu cynnyrch i borthladd Porthmadog i’w allforio, ac ar reilffyrdd mesur-safonol y London & North Western a’r Great Western (y naill yn mynd drwy dwnnel ac ymlaen i’r gogledd am Ddyffryn Conwy a phrif lein Caer/Caergybi, a’r llall i’r de am Y Bala).

Yn ei ragymadrodd i’r llyfr dywedodd G.J. Williams iddo gael ei seilio ar draethawd a gyflwynwyd i 

"Ail Eisteddfod Chwarelau Mr. Oakeley, Hydref, 1880, yn yr hon y dyfarnwyd ef yn fuddugol, ac yn deilwng o’r wobr – deg gini – cyflwynedig gan W. E. Oakeley, Ysw., Tanybwlch, a R. Rowland, Ysw., North & South Wales Bank". 

Yn y bennod ar ‘Y Llech-Chwarelau’ mae’n nodi mai Samuel Holland (ieu.) oedd ‘ein Haelod Seneddol Anrhydeddus’ yn ogystal â bod yn perthyn i deulu o berchnogion. Ac mae lle anrhydeddus yn ‘Enwogion a Hynodion y Plwyf’ i William Gryffydd Oakeley (m. 1835), a fu’n ‘hynod am ei haelioni a’i garedigrwydd i’r tlodion’.

- - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2022



19.4.22

'Blaenau Yn Ei Blodau' yn ôl!

Erthygl gan Y Dref Werdd

Ar ôl toriad o ddwy flynedd, mae’n bleser gennym adrodd bod y gystadleuaeth arddio flynyddol Blaenau Ffestiniog a’r cyffiniau, ‘Blaenau yn ei Blodau’, ar fin cael ei chynnal eto eleni. Hon fydd yr 16eg flwyddyn i’r gystadleuaeth, ac mae’r trefnwyr yn edrych ymlaen at gnwd gwych arall o geisiadau.

Mae gan y gystadleuaeth bum prif gategori ar gyfer gerddi tai i breswylwyr gystadlu ynddynt, sef: 

> Gardd fawr 

> Gardd fach

> Potiau a basgedi crog

> Llysiau

> Bywyd gwyllt

Gyda phob un ohonynt wedi’u cynrychioli’n dda yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r categori ar gyfer gerddi masnachol hefyd yn ôl, a hoffai’r trefnwyr yn weld siopau ac eiddo busnes yn cymryd rhan eto.

Eleni rydym yn cyflwyno categori arbennig i blant. Gall unrhyw un o dan 16 oed gymryd rhan, a bydd y cynigion gorau yn cael eu dyfarnu gyda thystysgrif a phecyn o hadau o’u dewis. Gall cynigion fod mor syml â blodau a dyfir mewn potiau, perlysiau, llysiau, neu hyd yn oed gornel fach o ardd y maent wedi gofalu amdani eu hunain.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chefnogi gan Y Dref Werdd, a hoffwn ddiolch i'r Cyngor Tref am eu cyfraniad eto eleni tuag at y costau.   

Rydym yn falch o gadarnhau y bydd David Williams ac Eurwyn Roberts yn dychwelyd unwaith eto fel beirniaid. 

Mae Eurwyn yn feirniad ar nifer o gystadlaethau garddwriaethol o fri ar draws y DU, ac mae pawb yn adnabod Dave am ei waith diflino yn gofalu am blanwyr yng nghanol y dref, ac yn creu gardd wych y Ganolfan Goffa. 

Meddai Dave:

“Mae pawb wedi bod yn mwynhau ac yn gwerthfawrogi eu gerddi yn fwy dros y ddwy flynedd ddiwethaf, felly rydym wrth ein bodd bod y gystadleuaeth yn dychwelyd eleni. Mae wedi bod yn ddigwyddiad gwych yn y calendr garddio ers blynyddoedd lawer ac yn rhoi hwb gwirioneddol i Flaenau a’r gymuned, mae’n rhywbeth i edrych ymlaen ato. Rwy’n meddwl ei fod yn syniad gwych i blant gymryd rhan hefyd.” 

Cofrestru am ddim! Ffurflenni ar gael o Siop Lyfrau'r Hen Bost, o'r 4ydd o Fehefin, a'r dyddiad cau fydd y 25ain o Fehefin. Cynhelir y beirniadu ar y 5ed o Orffennaf.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Meg Thorman ar 01766830082 meg@drefwerdd.cymru
- - - - - - -

(Lluniau: Paul W)

12.4.22

Crwydro -Ceunant Llennyrch

Cyfres achlysurol am lwybrau Bro Ffestiniog

Bob dydd rwan, mae arwyddion y gwanwyn yn codi’n calonnau, felly be well na chrwydro un o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol ein hardal? 

Mae digon o ddewis o lwybrau yn y ceunant yma, ar y ddwy ochr i’r afon: gallwch ddechrau o’r ffordd fawr ger pwerdy Maentwrog, neu ddod ar i lawr o argae Llyn Traws.

 

Ond cylchdaith fer ar ochr Maentwrog y ceunant sydd dan sylw y tro hwn.




> Darllen ymlaen  (ail-gyfeirio i wefan Ar Asgwrn y Graig)

 

 - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2022

 

8.4.22

Stolpia- Arlunwyr dieithr yn ein bro

 Rhan o gyfres Steffan ab Owain, y tro hwn o ddegawd yn ôl.

Dros y blynyddoedd bu amryw o arlunwyr dieithr yn ein plith yn darlunio tirwedd a phobl ein bro. Un o’r rhai enwocaf oedd William Turner (1789-1862) a ddarluniodd Dyffryn Ffestiniog o Dan-y-Bwlch. 

Arlunydd adnabyddus arall oedd David Cox (yr hynaf) 1783-1859 a ddarluniodd Dyffryn Ffestiniog a Phlas Tan-y-Bwlch. Roedd ef yn un o griw y drefedigaeth artistig a ymsefydlodd ym Metws y Coed. Dyma ddarlun del o Westy’r Pengwern wedi ei wneud ganddo.

Sylwais bod hwn ar wefan Pengwern Cymunedol, ac mae hi’n beth braf gallu dweud bod yr hen westy wedi ail-agor- gyda diolch i amryw o gefnogwyr brwd. Gobeithio bod dyfodol disglair i’r Pengwern a bydd pobl yn tyrru yno unwaith eto fel yn y dyddiau gynt. 

Credaf hefyd bod ei fab, David Cox (ieuengaf) 1809-1885 wedi tynnu ambell lun o’r ardal hefyd, ac os cofiaf yn iawn, onid oes ganddo lun o hen dai Dol Clipiau, neu dai Tre’r Ddôl a ddiflannodd dan ‘Domen Fawr’ hen Chwarel Oakeley lawer blwyddyn yn ôl? Pwy all gadarnhau hyn? 

Bu amryw o arlunwyr pwysig eraill yma o dro i dro a gallwch weld darluniau amryw ohonynt ar  wefannau’r rhyngrwyd. 

Dyma enwau un neu ddau o’r lluniau a’r artistiaid – Melinau Pengwern gan Paul Sanby (1725-1809) a llun diddorol o Dref a Dyffryn Ffestiniog o waith Edmund John Niemann Snr. (1813-1876), er mai’r pentref a welir ynddo, mewn gwirionedd. 

Hen ddarlun diddorol hefyd yw’r un o Godi teisi mawn yn Ffestiniog gan Thomas Collier yn 1881. Pan ddaw cyfle, mi soniaf am rai eraill a all fod o ddiddordeb i rai ohonoch.
- - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2012

3.4.22

Sgotwrs Stiniog- Rhwyfwr Bach Guto Glan

Rhan o  erthygl o rifyn Gorffennaf 2005, yng nghyfres reolaidd y diweddar Emrys Evans.

Yn ddiweddar, wrth ‘gael rhyw sbec bach’, fel yr arferwn a’i ddweud, ar nodiadau yr oeddwn wedi eu gwneud o ddyddiadur pysgota Robert Thomas Jones, sylwais ar enw y rhwyfwr sydd uwchben y nodyn yma – sef ‘Rhwyfwr Bach Guto Glan’.

Bu Bob Tom, fel yr arferem a’i alw, yn cadw dyddiadur pysgota rhwng y blynyddoedd 1951 ac 1965.  Y ddau Lyn Gamallt oedd ei brif lynnoedd pysgota, ac o dan y dyddiad y 30ain o Orffennaf 1954 a’r 3ydd o Awst 1955, mae Bob Tom yn nodi iddo ddal rhai pysgod yn y Gamallt hefo Rhwyfwr Bach Guto Glan.

Fedrai ddim cofio a ydw’i wedi son amdano o’r blaen, ond rhywfwr ydi’o sydd ddim ymhlith plu mwyaf adnabyddus yr ardal.  Go ychydig o bysgotwyr y fro sy’n gwybod amdano, mae’n debyg, - a llai na hynny yn gwybod rhywfaint o fanylion amdano.  Ond, yn ddiddorol, mae iddo ei le yng ‘Nghyfres y Rhwyfwyr’.

Yr enw bob dydd yn y chwarel, ar y stryd, ac ar lan llyn, ar gymeriad arbennig yw y ‘Guto Glan’ sy’n rhan o enw y rhwyfwr.  Ei enw llawn oedd Gryffudd Morris Williams, ac yr oedd yn un o ‘Hen Griw y Gamallt, - fel y gelwid y rhai a gerddai Sadwrn ar ôl Sadwrn drwy y tymhorau i bysgota y ddau lyn sydd wrth droed y Graig Goch.

Cafodd y ‘Glan’ yn ei enw oherwydd i’r teulu fyw mewn lle o’r enw Glan Aber yn y Manod am gyfnod.  Ond er iddo fyw y rhan fwyaf o’i fywyd ym Mryn Teg, Cae Clyd, glynodd y Glan wrth ei enw bob-dydd ar hyd y blynyddoedd, yn ogystal ag aelodau eraill o’r teulu.

Yr oedd Guto Glan yn bysgotwr dygn a brwdfrydig, a phluen a bysgotai bob amser - yn yr afon yn ogystal a’r llyn.  Fe’i ystyrrid yn bysgotwr afon da iawn.

Er fod y bluen yma wedi’i galw ar ei ôl, nid ef a’i lluniodd ac a’i cawiodd hi gyntaf.  Roedd gan Guto Glan ddiddordeb mawr mewn plu pysgota, ac yr oedd yn un arbennig o dda am gofio patrymau plu a’r manylion amdanynt.  Cefais i sawl patrwm pluen ganddo o dro i dro, plu a fyddai wedi mynd i’w colli onibai ei fod ef yn eu cofio.  Ond er y diddordeb ni fu iddo gymryd at gawio plu o gwbl.

Rhwyfwr Bach Guto Glan. (Sgan o lun gwreiddiol Gareth T Jones, yn llyfr Emrys, Plu Stiniog, 2009)

Daeth y rhwyfwr yma i sylw pan gafodd Guto Glan afael ar waled blu hen bysgotwr.  Ymhlith y plu ynddo yr oedd y rhwyfwr yma, ac fe’i ffansiwyd ganddo.  Rhoddodd ef ar ei flaen-llinyn nos i bysgota y ddau Lyn Gamallt.  Daliodd rhai pysgod hefo’r rhwyfwr, a chawiwyd rhai ar gyfer eraill o’r ‘Criw’.  Daliwyd gydag ef, ac o fewn dim amser daeth i gael ei alw yn ‘Rhwyfwr Bach Guto Glan’.  Mae y gair ‘Bach’ yn rhan o’i enw oherwydd mai ar fachyn maint 10 y cafodd ei gawio.

Dyma batrwm y rhwyfwr:

Bach    maint 10
Corff    Blaen y corff o sidan gwyrdd lliw afal.  Gweddill y corff o flewyn lliw olif gweddol dywyll.  Rhoi cylchau o eda neu o weiar aur am y corff.
Traed    Petris Brown.
Adain    Tylluan Frech
Ar y blaen-llinyn nos fe’i rhoir, un a’i yn bluen agosaf-at-law neu yn bluen ganol.
A chorff y rhywfwr a dau fath o wyrdd ynddo, eis i edrych llyfrau John Goddard, lle mae ganddo ddisgrifiadau o’r pryfaid yr ydym yn sylfaenu ein rhwyfwyr arnynt.

Yn y disgrifiadau sydd ganddo mae y lliw gwyrdd, - yn gryf neu yn wan, neu ond rhyw arlliw ohono, yn y rhan fwyaf o’r mathau o bryfaid y mae’n gwneud sylw ohonynt yn ei lyfrau. Tybed a ddylem ni roi mwy o sylw i’r lliw gwyrdd yng nghyrff ein rhwyfwyr, a rhoi rhywfaint yn llai o bwyslais ar ‘y cochddu’?
- - - - - - -

Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar y ddolen 'Sgotwrs Stiniog' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

(Angen dewis 'web view' os ydych yn darllen ar eich ffôn)

Mwy am Y Rhwyfwyr