Showing posts with label Blaenau yn ei Blodau. Show all posts
Showing posts with label Blaenau yn ei Blodau. Show all posts

30.10.24

Blaenau yn ei Blodau

Cefnogwyd y gystadleuaeth arddio flynyddol yn frwd unwaith eto gan drigolion lleol a busnesau fel ei gilydd.   Eleni croesawyd beirniad newydd, Mr Richard Vero, MCIHort, a hoffem ddiolch iddo am ei gyfraniad a’i ymdrechion wrth feirniadu’r holl erddi.  

Dywedodd Richard 

“Mae beirniadu Blaenau yn ei Blodau eleni wedi bod yn gymaint o fraint. Rwyf wedi cyfarfod â thrigolion a gwirfoddolwyr anhygoel, gan roi cipolwg anhygoel i mi ar y nifer o arddwyr brwdfrydig, a ddangosodd eu hangerdd am eu mannau awyr agored gyda gerddi mor brydferth, gerddi rhandir yn llawn llysiau ffyniannus, basgedi crog a photiau o bob lliw a meintiau, llawn lliw. Mannau agored cymunedol sydd wedi elwa o oriau di-ri o waith caled gan wirfoddolwyr er budd iechyd a lles pawb.  Wedi cael y fraint o feirniadu cystadlaethau Yn ei Blodau yn Llundain a’r De Ddwyrain a Chymru gallaf gadarnhau fod yna rai garddwyr a gwirfoddolwyr hynod frwdfrydig ym Mlaenau Ffestiniog. Llongyfarchiadau i bawb a gymrodd ran eleni, edrychaf ymlaen at gystadleuaeth y flwyddyn nesaf.”
Diolch i bawb a gymrodd ran, a llongyfarchiadau i'r enillwyr:

Gardd Fach:
   1af Douglas Hughes, Dolrhedyn
   2ail Brian Scholes, Gardd Gymunedol Hafan Deg
   3ydd Dafydd Roberts, Cae Clyd

Gardd Fawr:
   1af Glenys a Gwyn Lewis, Manod
   2ail Cyngor Tref Ffestiniog, Y Parc
   3ydd Cyngor Tref Ffestiniog, Perllan Pant yr Ynn

Potiau a Basgedi Crog:
   1af Douglas Hughes, Dolrhedyn
   2ail Peggy Preston & Josie Keogh, Offeren 
   3ydd Glenys & Gwyn Lewis, Manod

Llysiau:     
   1af Mark Thomas, Rhandir y Parc
   2ail Dafydd Roberts, Cae Clyd
   3ydd Glenys & Gwyn Lewis, Manod

Bywyd Gwyllt:
   1af Glenys & Gwyn Lewis, Manod
   2ail Cyngor Tref Ffestiniog, Perllan Pant yr Ynn
   3ydd Brian Scholes, Gardd Gymunedol Hafan Deg

Masnachol:
   1af Scott Evans, Pafiliwn y Parc
   2ail Nina Bentley, Wal Werdd Antur Stiniog
   3ydd Caffi’r Bont, Stryd Fawr

Enillydd Cyffredinol:  Glenys a Gwyn Lewis

Edrychwn ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda’r Richard a’r gymuned i dyfu'r gystadleuaeth yn y dyfodol a denu mwy o arddwyr, ac yn ei dro, creu mwy o gynefinoedd i fywyd gwyllt, annog tyfu bwyd ein hunain, a mwynhau bod allan ym myd natur! 

Diolch hefyd i Dŷ Coffi Antur Stiniog am cael cynnal y seremoni gwobrwyo unwaith eto yn y caffi.
- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2024


15.11.22

Blaenau yn ei Blodau 2022

Dychwelodd cystadleuaeth arddio flynyddol Bro Ffestiniog unwaith eto eleni yn dilyn seibiant o ddwy flynedd. Roeddem yn falch iawn o weld ychydig o geisiadau newydd, yn ogystal a wynebau cyfarwydd! 


Diolch i bawb a gymrodd rhan, a llongyfarchiadau i enillwyr eleni:
Gardd Fawr:  1af – Glenys a Gwyn Lewis, 2ail – Mark Thomas, 3ydd – Barbara Hayes
Gardd Fach:  1af – Martin Couture, 2ail – Joan Jones, 3ydd – Marian Roberts
Potiau : 1af - Glenys a Gwyn Lewis, 2ail - Martin Couture, 3ydd - Zoe Keogh
Llysiau: 1af – Mark Thomas, 2ail – Marian Roberts, 3ydd - Glenys a Glyn Lewis
Bywyd Gwyllt: 1af Janine Hall, 2ail – Glenys a Gwyn Lewis, 3ydd – Barbara Hayes
Basgedi Crog: 1af Kim Bocacato
Masnachol: 1af Caffi’r Bont
Gardd Plant: 1af Caleb Rhun Günner
Enillydd Cyffredinol: Glenys a Gwyn Lewis

Eleni roedd gennym ni gategori newydd yn arbennig i blant, a enillwyd gan Caleb Rhun Günner, 6 oed - da iawn Caleb! Diolch i Eurwyn am y rhodd o daleb ar gyfer Meithrinfa’r Felin, Dolwyddelan,  fel gwobr i Caleb.  Y gobaith yw y bydd yn ysbrydoli mwy o blant a phobl ifanc i ddechrau garddio a chymryd rhan yn y gystadleuaeth.

Diolch enfawr i Gyngor Tref Ffestiniog am eu cefnogaeth, ac wrth gwrs y beirniaid Dave Williams ac Eurwyn Roberts. Meddai Dave:

“Mae pawb wedi gwneud yn arbennig o dda eleni o ystyried y tywydd anodd, o law trwm i wres eithafol! Rydyn ni mor falch bod pawb wedi dychwelyd i'r gystadleuaeth gyda brwdfrydedd, ac edrychwn ymlaen at y flwyddyn nesaf, lle gobeithiwn weld llawer o arddwyr newydd a brwdfrydig yn ymgymryd â’r her!”.
- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn y Dref Werdd, yn rhifyn Medi 2022

(Heb y lluniau, gan Paul W)


19.4.22

'Blaenau Yn Ei Blodau' yn ôl!

Erthygl gan Y Dref Werdd

Ar ôl toriad o ddwy flynedd, mae’n bleser gennym adrodd bod y gystadleuaeth arddio flynyddol Blaenau Ffestiniog a’r cyffiniau, ‘Blaenau yn ei Blodau’, ar fin cael ei chynnal eto eleni. Hon fydd yr 16eg flwyddyn i’r gystadleuaeth, ac mae’r trefnwyr yn edrych ymlaen at gnwd gwych arall o geisiadau.

Mae gan y gystadleuaeth bum prif gategori ar gyfer gerddi tai i breswylwyr gystadlu ynddynt, sef: 

> Gardd fawr 

> Gardd fach

> Potiau a basgedi crog

> Llysiau

> Bywyd gwyllt

Gyda phob un ohonynt wedi’u cynrychioli’n dda yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r categori ar gyfer gerddi masnachol hefyd yn ôl, a hoffai’r trefnwyr yn weld siopau ac eiddo busnes yn cymryd rhan eto.

Eleni rydym yn cyflwyno categori arbennig i blant. Gall unrhyw un o dan 16 oed gymryd rhan, a bydd y cynigion gorau yn cael eu dyfarnu gyda thystysgrif a phecyn o hadau o’u dewis. Gall cynigion fod mor syml â blodau a dyfir mewn potiau, perlysiau, llysiau, neu hyd yn oed gornel fach o ardd y maent wedi gofalu amdani eu hunain.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chefnogi gan Y Dref Werdd, a hoffwn ddiolch i'r Cyngor Tref am eu cyfraniad eto eleni tuag at y costau.   

Rydym yn falch o gadarnhau y bydd David Williams ac Eurwyn Roberts yn dychwelyd unwaith eto fel beirniaid. 

Mae Eurwyn yn feirniad ar nifer o gystadlaethau garddwriaethol o fri ar draws y DU, ac mae pawb yn adnabod Dave am ei waith diflino yn gofalu am blanwyr yng nghanol y dref, ac yn creu gardd wych y Ganolfan Goffa. 

Meddai Dave:

“Mae pawb wedi bod yn mwynhau ac yn gwerthfawrogi eu gerddi yn fwy dros y ddwy flynedd ddiwethaf, felly rydym wrth ein bodd bod y gystadleuaeth yn dychwelyd eleni. Mae wedi bod yn ddigwyddiad gwych yn y calendr garddio ers blynyddoedd lawer ac yn rhoi hwb gwirioneddol i Flaenau a’r gymuned, mae’n rhywbeth i edrych ymlaen ato. Rwy’n meddwl ei fod yn syniad gwych i blant gymryd rhan hefyd.” 

Cofrestru am ddim! Ffurflenni ar gael o Siop Lyfrau'r Hen Bost, o'r 4ydd o Fehefin, a'r dyddiad cau fydd y 25ain o Fehefin. Cynhelir y beirniadu ar y 5ed o Orffennaf.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Meg Thorman ar 01766830082 meg@drefwerdd.cymru
- - - - - - -

(Lluniau: Paul W)

30.11.16

Senedd ‘Stiniog -banciau, baneri, a blodau

Pytiau o'r Cyngor Tref
Addasiad o erthyglau gan Bedwyr Gwilym a Rory Francis, o rifynnau Medi a Hydref.

Dim Banc
Bu'r cyngor yn trafod cau cangen Blaenau banc HSBC ym mis Medi, sef banc olaf y dref. Yn naturiol, ‘roedd aelodau’r Cyngor yn siomedig iawn. Penderfynwyd ysgrifennu llythyr at HSBC, a chydweithio efo'r cynghorwyr sir a'r aelod seneddol.

Sbwriel
'Rydych chi siŵr o fod wedi profi un o’r problemau budr yma – baw ci, gwm cnoi ar balmentydd, ‘sbwriel ysmygu ayyb ... Derbyniwyd holiadur gan Gyngor Gwynedd yn gofyn barn y Cyngor ynglŷn â chydweithio â chwmni preifat er mwyn rhoi dirwyon am droseddau ‘sbwriel yn y fan ar lle. Atebwyd yr holiadur gyda’r Cyngor yn penderfynu y dylai Cyngor Gwynedd fod yn fwy llym yn y ffordd y mae’n taclo problemau glendid stryd, y dylai Cyngor Gwynedd rhoi dirwyno yn y fan a’r lle ac yn olaf, sef y dylid cydweithio â chwmni allanol i gynorthwyo gyda gwaith swyddogion gorfodaeth stryd.

Baner Werdd
Derbyniwyd newyddion cadarnhaol gan gynrychiolydd y Cyngor ar grŵp gwirfoddol Partneriaeth y Parc, fe adroddwyd bod y Bartneriaeth wedi cyflwyno cais am wobr y Faner Werdd, ac wedi llwyddo i dderbyn y wobr gyda sgôr o 67%.
Llongyfarchiadau mawr. Y Parc, ar y Sgwâr yn y Blaenau yw man chwarae cyntaf ardal Cyngor Tref Ffestiniog i dderbyn y wobr, a dim ond tri arall sydd yng Ngwynedd. Gyda llaw, mae’r wobr yn cael ei redeg yn genedlaethol gan Cadwch Gymru’n Daclus ac yn dangos bod mannau gwyrdd yn cyrraedd safon genedlaethol yn y ffordd y maent yn cael eu rhedeg.

Toiled y flwyddyn
Oes yna fygythiad i'r toiled ar Sgwâr Diffwys? Mae Cyngor Tref Ffestiniog yn ôl wrth ei waith ar ôl seibiant ac un o’r pynciau llosg a drafodwyd yng nghyfarfod mis Medi oedd toiledau Sgwâr Diffwys, a enillodd wobr ‘Toiled y Flwyddyn’ yn 2013 a hynny yn erbyn rhyw 1,600 o geisiadau eraill.
Roedd Cyngor Gwynedd wedi ysgrifennu at y Cyngor Tref gan ofyn am gyfraniad tuag at gadw’r cyfleusterau pwysig hyn ar agor. Fe gytunodd y Cyngor yn unfrydol, ar gais y Cyng. Mandy Williams Davies, i ymateb gan bwysleisio fod rhaid cadw’r toiledau hyn ar agor ac yn cytuno i drafod y ffordd ymlaen gyda Chyngor Gwynedd.

Roedd y cyfarfod wedi dechrau ar nodyn ysgafnach, gyda’r Cynghorwyr yn llongyfarch CellB ar agor Sinema, y tro cyntaf i’r fath beth fodoli yn y dref ers peth amser.

Roedd y Cyngor wedi derbyn pris o £1,550 i lanhau, ac felly trwsio, pistyll Diffwys. Cytunwyd i dderbyn hwn, gan fod y pistyll yn rhan bwysig o ganol y dref.

Fe gytunodd y Cyngor hefyd i gynnig ysgoloriaeth i berson ifanc o’r cylch i deithio i Rawson yn Chubut, Patagonia, y dref sydd wedi ei threfeillio gyda Ffestiniog. Fe aiff Maia Jones yno cyn bo hir, gan ddefnyddio ysgoloriaeth 2016. Fe fydd y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ym mis Ionawr 2017 a Tecwyn Vaughan Jones fydd cadeirydd y beirniaid unwaith eto, fel eleni.

Yn olaf, rhoddwyd cynnig gerbron gennyf, yn cynnig cefnogaeth i bobl o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd sy’n byw ac yn gweithio yma ac yn gwerthfawrogi eu cyfraniad i’r economi, gan bwysleisio fod yna groeso iddynt yma. Yn anffodus, mae rhai pobl wedi gweld canlyniad y refferendwm fel esgus i ymddwyn yn hiliol tuag at bobl eraill. Pasiwyd y cynnig yma yn unfrydol.

Cofiwch gysylltu â Chlerc y Cyngor os oes gennych ddiddordeb mewn cynrychioli trigolion eich ardal a cheisio gwneud gwahaniaeth o fewn eich cymuned.
-------------------------------------

Blaenau yn ei Blodau
Llongyfarchiadau i bawb gafodd wobr yng ngystadleuaeth flynyddol Blaenau Bendigedig. Bu’r diwrnod gwobrwyo yn neuadd yr eglwys , dan ofal y trefnydd David Williams, Llan, a’r beirniaid Mr Eurwyn Roberts, Dolwyddelan, a Mr Wil Rowlands, Y Bala, eu dau’n feirniaid profiadol iawn.

llun Alwyn Jones
Cafwyd gwobrwyo am erddi bach a mawr, gerddi bywyd gwyllt, gerddi llysiau, a gerddi potiau.
Roedd Alwyn Jones yno yn tynnu lluniau ar ran Llafar Bro, a bu hen drafod gerddi a phlanhigion dros baned a chacen yn dilyn y gwobrwyo, cyn i bawb wasgaru i chwynnu a phlannu. PW.
-----------------------------------------

Dilynwch hanesion Senedd Stiniog efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.



24.6.16

Y Dref Werdd

Ychydig o newyddion diweddar gan Y Dref Werdd

CLWB CAE BRYN COED

Bu diwrnodau llwyddiannus yn twtio a chlirio cae Bryn Coed yn ddiweddar, fel rhan o weithgarwch ‘Clwb Cae Bryn  Coed’ sydd ar y dydd Sul cyntaf o’r mis.

Cliriwyd y mieri a’r llwybrau o amgylch y cae pêl droed a chasglwyd sbwriel o’r safle gan griw o wirfoddolwyr gweithgar.


Bydd y gwaith cynnal a chadw yma’n arwain tuag at y cynllun o greu dôl o flodau gwylltion rhwng y cae pêl droed a’r llwybr i’r goedwig.
Mae ‘Clwb Cae Bryn Coed’ yn cyfarfod a rhwng 1 a 3 o’r gloch; mwy o fanylion yn Llafar Bro ac ar dudalen Gweplyfr/Facebook Y Dref Werdd.

Dewch draw i weld a rhoi help llaw os oes gennych unrhyw amser i sbario.
Bydd paned a chacen i’r gwirfoddolwyr.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Maia  ...     maia[AT]drefwerdd.cymru / 01766 830082

***

Mae'r gweithgareddau Cynefin a Chymuned yn parhau. Bydd manylion a lluniau yn y rhifynnau nesaf o Llafar Bro.


***

Cofiwch am gystadleuaeth gerddi blynyddol Blaenau y ei Blodau. Ewch amdani!



----------------------------------

Addaswyd o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2016. 
Y tro nesa' byddwn yn edrych 'nôl dros flwyddyn o waith Y Dref Werdd.

7.7.15

Mil Harddach Wyt

Yn y nawdegau, bu Eurwyn Roberts, o Feithrinfa Blodau’r Felin, Dolwyddelan, yn cyfrannu colofn arddio yn fisol yn Llafar Bro. Dyma golofn a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf 1998, sydd yr un mor berthnasol eleni.




Gorffennaf


YN YR ARDD LYSIAU
Gallwch hau moron eto a phys; hefyd hau bresych ar gyfer y gwanwyn. Codi nionod bach (sets) a'u sychu ar gyfer eu defnyddio yn y gaeaf. Bydd angen chwynu yr ardd lysiau yn gyson yn enwedig ar ôl tywydd gwlyb.

YN Y TŶ GWYDR

Bwydo'r tomatos unwaith yr wythnos gyda gwrtaith sydd yn uchel mewn potash (ee Phostrogen). Mae'n rhaid hefyd gwylio am y pry' gwyrdd a rheoli fel bo'r angen. Gall y pry' gwyn fod yn fwy o broblem gan na ellir rheoli’r wyau mor hawdd a gan eu bod yn deor bob rhyw bedwar diwrnod mae angen rheoli’n aml. Mae planhigion marigolds (tagetes) yn arbennig yn atal rhyw gymaint rhag i'r pry gwyn ddod i'r tŷ gwydr ac mae’n rhaid eu plannu yn yr un pridd â'r tomatos.

Pan mae'r tywydd yn boeth mae'n werth rhoi dŵr ar y llwybrau yn y ty gwydr. Mae hyn yn wirioneddol werth ei wneud os ydych yn tyfu ciwcymerau: mae rhain yn hoff iawn o leithder yn yr aer.

YN YR ARDD FLODAU
Gwaith pwysig y mis yma yw mynd drwy’r ardd flodau a thorri'r rheini sydd wedi darfod i'w hatal rhag cynhyrchu had ac felly byrhau y tymor blodeuo. Mae angen hefyd torri blodau ar y pys pêr yn gyson. Mwya'n byd o flodau a dorrir mwya'n y byd o flodau y cewch chi ar y planhigion. Bwydwch yr ardd hefo gwrtaith uchel mewn potash.

Tociwch lwyni sydd wedi gorfIen blodeuo megis banadl a  Wisteria.

Mae’n amser i gymryd toriadau oddi ar lwyni fel y tri-lliw-ar-ddeg a'r ffug oren (Philadelphus). Rhowch y toriadau mewn pot, mae'n fantais eu cadw mewn lle cynnes iddynt wreiddio ynghynt.

llun- PW
Cofiwch hefyd beidio ac anghofio’r fasged grog. Mae'n rhaid dyfrio rhain o leiaf unwaith y dydd; mwy efallai os bydd y tywydd yn boeth. Mae gwynt yn unig yn sychu basged grog. Bwydo hefyd yn aml; ddwy neu dair gwaith yr wythnos. Mae gwrtaith mewn rhai basgedi sydd yn para am dri neu bedwar mis.

Os nad ydych wedi hau had blodau'r fagwyr (wallflower) a’r penigan (sweet william), mae angen gwneud yn awr. Hau yn yr ardd a'u trawsblanu i resi rhyw wyth modfedd oddiwrth eu gilydd. Y man gorau os yn bosib yw lle yr ydych wedi codi tatws cynnar. Bydd angen symud rhain eto i'r ardd flodau er mwyn cael lliw yn yr ardd ddechrau'r haf nesaf.

------------------
Yn ôl cyfweliad a wnaeth Eurwyn efo’r papur yn haf 1998, agorwyd y feithrinfa ym mis Mawrth 1994, ond mae o wedi ymhel â phlanhigion erioed. Ei dad, y diweddar Bob Roberts, ysgogodd ei ddiddordeb; ei brif ddiddordeb ef oedd tyfu llysiau. Cyn mentro i sefydlu’r busnes, ymddangosodd Eurwyn ar raglen Heno, ac ar raglenni Radio Cymru, yn trafod garddio. Dywedodd Eurwyn bryd hynny taw un o agweddau mwyaf diddorol y busnes oedd cystadlu a beirniadu mewn sioeau fel Sioe Môn. “Ond y sioeau bach yw’r rhai mwyaf cystadleuol, ac mae’r sioeau hyn yn gyson o safon uchel ac yn aml yn well na’r sioeau mawrion.” 
Erbyn hyn, mae Eurwyn wedi bod yn beirniadu’r gystadleuaeth arddio -Blaenau yn ei Blodau- yn Stiniog. Pwy aiff a hi eleni ‘sgwn i?



Bydd mwy o'r gyfres yn ymddangos dros y misoedd nesa'.


6.5.15

Blaenau mewn Blodau

Mae popeth yn barod ar gyfer y gystadleuaeth garddio flynyddol, ‘Blaenau mewn Blodau'.

(llun PW)

Eleni fydd yr unfed flwyddyn ar ddeg i’r gystadleuaeth gael ei chynnal.

Bydd modd cystadlu yn yr adrannau canlynol;

     Gardd fechan;
     Gardd fawr;
     Potiau;
     Gardd lysiau;
     Gardd bywyd gwyllt;
     Adran i Fasnachwyr.  

Bydd ffurflenni cais ar gael o Siop Lyfrau’r Hen Bost o’r 1af o Fehefin – gyda’r dyddiad cau ar Orffennaf 4ydd.

Beirniadir ar yr 8fed o Orffennaf  - ac eithrio y Gerddi gwyllt a feirniadir ychydig ddyddiau ynghynt.  Hyderwn y bydd llu ohonoch yn cystadlu.

29.7.12

Colofn Werdd


Rhan o’r GOLOFN WERDD, o rifyn Gorffennaf 2012

PENHWYAID PRYSOR gan Rhys Llywelyn, Llawrplwyf Traws
Rwan fod y tymor wedi cyrraedd mae’r rhai hynny ohonom sy’n bysgotwyr wedi dadorchuddio’r gwialenni a’r tacl a fu dan glo dros y gaeaf. Falle bod rhai hefyd wedi bod wrthi’n cawio neu glymu plu drwy nosweithiau hir y gaeaf ac yn frwd i weld os yw’r creadigaethau newydd am ddenu dalfa dda'r tymor hwn.
Mae Meirionnydd yn ardal gyfoethog i’r pysgotwr, mae’n hafonydd yn cael eu poblogi gan yr eog a’r sewin sy’n dod i’n llednentydd i fwrw’i had a’r llynnoedd yn gartre parhaol i’r brithyll.
Datblygiad cyffrous yn Llyn Trawsfynydd yw’r twf diweddar yn nifer a maint y penhwyad neu’r peic (Esox lucius) sy’n byw yn y llyn. Mae rhai yn dweud fod hwn wedi ei gyflwyno i’r llyn yn ddiweddar tra bod eraill yn credu ei fod wedi bod yno erioed, ond fod y gwresogi o’r pwerdy wedi effeithio’n andwyol ar eu niferodd tan yn ddiweddar. Beth bynnag yw tras y pysgodyn hwn mae’n sicr ei fod yn cynnig sialens newydd i bysgotwyr lleol neu’r rheiny sy’n ymweld â’r ardal.

GARDDIO
Cyflwynwyd gwobrwyon BLAENAU YN EI BLODAU ddydd Sul, Gorffennaf 15fed yn Swyddfeydd Cymunedau’n Gyntaf / Y Dref Werdd, Yr Hen Co-op, 49, Stryd Fawr.
Dyma rai o’r enillwyr:
Pen-gardd 2012- Barbara Hayes
Gardd lysiau- cydradd: Dafydd a Marian Roberts; Patrick Murphy
Gardd fechan- Martin Couture
Gardd Natur- Peta, John a Wilfred
Ysgol Manod

Rhandir llwyddianus Patrick
Rhandiroedd -Mae’n braf gweld y mwyafrif o’r rhandiroedd wedi cael eu trin erbyn hyn. Mae o’n waith caled, gyda’r safle yn wlyb iawn a charegog yr un pryd! Ond be mae rhywun yn ddisgwyl ar gors, sydd wedi ei llenwi efo llechi yn ‘de?! Yn ara’ deg mae mynd ymhell medden nhw, felly cawn weld sut fydd y safle’n datblygu dros y blynyddoedd nesa’. Diolch i griw’r Dref Werdd am eu gwaith yn sefydlu’r lle. I’r rhai sydd eisiau dilyn y datblygiadau yno, mae dau o’r garddwyr yn blogio am eu profiadau yn weddol reolaidd:
Ar Asgwrn y Graig  yn Gymraeg, a
Gardd Organic Lynda yn Saesneg.