Rhan o’r GOLOFN WERDD, o rifyn
Gorffennaf 2012
PENHWYAID PRYSOR gan Rhys Llywelyn,
Llawrplwyf Traws
Rwan fod y tymor wedi cyrraedd
mae’r rhai hynny ohonom sy’n bysgotwyr wedi dadorchuddio’r gwialenni a’r tacl a
fu dan glo dros y gaeaf. Falle bod rhai hefyd wedi bod wrthi’n cawio neu glymu
plu drwy nosweithiau hir y gaeaf ac yn frwd i weld os yw’r creadigaethau newydd
am ddenu dalfa dda'r tymor hwn.
Mae Meirionnydd yn ardal
gyfoethog i’r pysgotwr, mae’n hafonydd yn cael eu poblogi gan yr eog a’r sewin
sy’n dod i’n llednentydd i fwrw’i had a’r llynnoedd yn gartre parhaol i’r brithyll.
Datblygiad cyffrous yn Llyn
Trawsfynydd yw’r twf diweddar yn nifer a maint y penhwyad neu’r peic (Esox
lucius) sy’n byw yn y llyn. Mae rhai yn dweud fod hwn wedi ei gyflwyno i’r
llyn yn ddiweddar tra bod eraill yn credu ei fod wedi bod yno erioed, ond fod y
gwresogi o’r pwerdy wedi effeithio’n andwyol ar eu niferodd tan yn ddiweddar.
Beth bynnag yw tras y pysgodyn hwn mae’n sicr ei fod yn cynnig sialens newydd i
bysgotwyr lleol neu’r rheiny sy’n ymweld â’r ardal.
GARDDIO
Cyflwynwyd gwobrwyon BLAENAU YN
EI BLODAU ddydd Sul, Gorffennaf 15fed yn Swyddfeydd Cymunedau’n Gyntaf /
Y Dref Werdd, Yr Hen Co-op, 49, Stryd Fawr.
Dyma
rai o’r enillwyr:
Pen-gardd 2012- Barbara Hayes
Gardd lysiau- cydradd: Dafydd a
Marian Roberts; Patrick Murphy
Gardd fechan- Martin Couture
Gardd Natur- Peta, John a Wilfred
Ysgol Manod
Rhandir llwyddianus Patrick |
Rhandiroedd -Mae’n braf
gweld y mwyafrif o’r rhandiroedd wedi cael eu trin erbyn hyn. Mae o’n waith
caled, gyda’r safle yn wlyb iawn a charegog yr un pryd! Ond be mae rhywun yn
ddisgwyl ar gors, sydd wedi ei llenwi efo llechi yn ‘de?! Yn ara’ deg mae mynd
ymhell medden nhw, felly cawn weld sut fydd y safle’n datblygu dros y
blynyddoedd nesa’. Diolch i griw’r Dref Werdd am eu gwaith yn sefydlu’r lle.
I’r rhai sydd eisiau dilyn y datblygiadau yno, mae dau o’r garddwyr yn blogio
am eu profiadau yn weddol reolaidd:
Ar Asgwrn y Graig yn Gymraeg, a
Gardd Organic Lynda yn Saesneg.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon