23.7.12

Gollwng Stêm


Colofn reolaidd y Pigwr, o rifyn Gorffennaf 2012:

Pan oedd cenhedlaeth hen gojars fel y Pigwr yn cael rhyw lun o addysg, yn y dyddiau pell, pell yn ôl rheiny, a llyfrau hanes Cymru yn eitemau prin iawn, cael ein trwytho yn hanes cenedl y Saeson fyddem ni. Roeddwn ar delerau agos iawn â gwragedd Harri'r wythfed, (nid yn llythrennol, cofiwch), ac yn gyfarwydd â hanes Alfred a'i gacennau, a William y Concwerwr a 1066, a Wil Shakespeare, wrth gwrs. Ond ni chawsom yr un wers am Llywelyn Fawr a Llywelyn ein llyw olaf, na theuluoedd tywysogion Gwynedd o gwbl, na Hywel Dda a'i gyfreithiau, nac Owain Glyndŵr, nac yr un gair am y chwedlau Cymreig byd-enwog rheiny, y Mabinogi; ond roedd Chwedlau Aesop yn gyfarwydd i bob un disgybl, fel hanes Dic Whittington a'i daith i Lundain. Cawsom drip neu ddau i ymweld â chestyll ein concwerwyr yng Nghaernarfon a Chonwy, ond nid i gestyll y Cymry yng Nghricieth a Do'ddelan. Mae llawer o'r farn mai rhan o'r seicoleg oedd y cyfan, i geisio claddu unrhyw gyfeiriad at y genedl fechan hon, a oedd yn bodoli ymhell cyn dyfodiad y Sais i Ynysoedd Prydain. Onid oeddem, a'n hiaith wedi bod yn bigyn yn ochr y Sefydliad Eingl-Seisnig- Brydeinig ers canrifoedd? Ac onid oes lle i gredu bod anwybyddu hanes Cymru yn yr ysgolion yn rhan o dacteg awdurdodau addysg y blynyddoedd hynny? Ond, yn amlwg, mae'r meddylfryd hwnnw'n dal i fodoli i raddau yn y system addysg bresennol, ym marn y Pigwr, ac mae'r awdurdodau addysg ledled Cymru, ac athrawon a phrifathrawon heddiw, yn anymwybodol, yn cyfrannu tuag at y drefn o anwybyddu hanes Cymru i raddau helaeth. Cymerwch y cwricwlwm cenedlaethol bondigrybwyll, er enghraifft- a ‘chenedlaethol’ yn nhermau Prydeinig dwi'n ei feddwl. Tra'n cydnabod bod hanes Cymru yn cael mwy o le heddiw nag yn ein cyfnod ni, yn sicr, mae lle i gwestiynu pwrpas dysgu ambell bwnc hanes gwledydd eraill yn ein hysgolion uwchradd y dyddiau hyn. Enghraifft o hyn yw'r ymweliad a wnaed gan ddisgyblion lleol yn ddiweddar ag America. Tra bo'r daith, yn ddi-os, yn brofiad gwefreiddiol a chyffrous i'r plant, fedra'i yn fy myw ddirnad pa les oedd i blant ymweld â gwlad mor llwgr a threisgar â'r U.D.A. Onid yw'n bosib' cael hanes y wlad honno o'r digonedd o werslyfrau sydd ar gael amdani? 

Tybed a fu'r garfan honno ar ymweliad â Senedd-dŷ Owain Glyndŵr, Cilmeri, neu Sycharth gyda'u hathrawon? A drefnwyd taith i geudyllau Llechwedd 'sgwn i, i weld sut y bu i gyndeidiau nifer o'r plant lleol grafu bywoliaeth dan amgylchiadau anodd y dyddiau fu? A fu gwersi am y drefn addysg, a chrefyddol 'Stiniog yn y gorffennol, neu am hanes diwylliant cyfoethog yr ardal? Mae arddangosfa ardderchog ar hanes ein bro wedi cael ei chynnal yn y Blaenau dros fisoedd yr haf ers tair blynedd, a nifer o ymwelwyr, a thrigolion lleol wedi ymweld â hi, ac wedi mwynhau'r arlwy. Ond hyd yma, ni chafwyd cais gan yr un o ysgolion yr ardal i gael mynediad, (am ddim) ar gyfer y disgyblion, gwaetha'r modd. Byddai gwersi ar hanes lleol yn llawer mwy gwerthfawr nac ymweliad i ddysgu am ychydig o hanes y wlad gyfalafol honno dros yr Iwerydd, yn sicr. A byddai gwersi o'r fath yn cyfrannu tuag at barch tuag at gymuned a chymdeithas Gymreig, werinol fel Blaenau Ffestiniog, a hynny heb wario ceiniog ar deithiau tramor.
Pigwr

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon