Llwyddiant yn athletau Meirion Dwyfor
Bu nifer o dimau blwyddyn 7, 8 9 a 10, yn fechgyn a merched yn cystadlu yn yr athletau yn Nhreborth yn ddiweddar.
Bu`r
timau wrthi yn ymlafnio yn erbyn ysgolion Porthmadog, Dolgellau, Bala,
Pwllheli, Botwnnog ac Ardudwy ar y trac athletau ym Mangor.
Daeth
tîm blwyddyn 7 genethod yn gyntaf, tîm bechgyn blwyddyn 7 yn ail, a thîm
bechgyn blwyddyn 9+10 yn ail eto – da
iawn nhw!!
Llongyfarchiadau
hefyd i Gwydion Jones ddaeth yn gyntaf allan o holl ysgolion, Môn, Conwy a
Meirion Dwyfor yn y gystadleuaeth Disgen, ac Aron Hughes yn ail yn y pwysau.
Llongyfarchiadau arbennig i`r ddau!
Roedd
hwn yn ddiwrnod o lwyddiant i`r ysgol gyda disgyblion blwyddyn 7 yn serennu.
Llongyfarchiadau arbennig i Awen Jones o flwyddyn 7 ar ennill y wobr
gyntaf mewn tair cystadleuaeth, rhedeg
100 medr, clwydi a’r ras gyfnewid! Da iawn nhw!
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon