Rhan o golofn reolaidd TROEDIO’N
OL gyda John Norman, o rifyn Gorffennaf:
Sgwennaf y darn yma yn sgil
y gemau criced diweddar ar y teledu. Gwyliais yn arbennig sgiliau’r bowliwrs yn
troelli’r bel neu’n gwneud iddi neidio dros ben y batwyr. Yn fy arddegau
gwelais bethau felly ar gae criced y Cownti yn Blaenau yn y gemau rhwng Ysgol y
Bala ag Ysgol Blaenau. ‘Roedd y cae yn greigiog ac yn anwastad ac yn beryg
bywyd i’r cricedwyr oedd yn chwarae yno. Gosodwyd carped (coconut matting) fel
sgwâr i’r gêm griced a byddai’r bel yn strancio ac yn neidio’n uchel dros ben y
batiwr neu’n llithro’n frwnt at droed neu benglin diniwed. Ni fyddai’r sgôr yn
uchel a dewr fyddai’r batiwr a safai ei dir.
Nid oedd llawer o chwarae
criced yn Traws yn fy nyddiau ifanc. ‘Roedd yna brinder llefydd gwastad a
diffyg cyfarpar tebyg i’r bel a’r bat arbennig. Byddem yn gwneud bat ein hunain
o ddarn o bren a chwilio am bel rwber caled cyn gwneud y gorau gyda hen bel
tennis. Byddai tun olew gwag yn wiced a’i swn yn barnu yr ‘owt’ gyda chlec
uchel. Byddai tri ohonom yn medru cynnal gêm, un yn fatiwr, un yn fowliwr ac un
tu ôl i’r wiced. Ein triawd ni oedd myfi o’r Stesion, Elwyn Jones a Meirion
Foulkes. Roedd Meirion yn fowliwr da ag Elwyn yn gricedwr gwych yn batio ac yn
bowlio gyda’i law chwith. Roedd y ddau ohonynt yn llechu yn Traws oddiwrth y
bomio ar Lerpwl.
Stesion Newydd |
Wrth chwilio am le gwastad i
chwarae yn Traws byddem yn ffeindio rhai mannau digon od. Ar draws y clawdd o
Dynypistyll oedd olion hen ffordd Rufeinig a redai at y Pandy. Yno oedd un
tamaid bach i’n criced a hon byddai ein ‘Oval’ ni.
Ond ein ‘Lords’ oedd iard y
Stesion Newydd a ddenai hogiau’r stesion a’r dynion yno ar nosweithiau’r haf.
Dyma’r dynion fyddai’n mwynhau’r
gemau - fy nhad Jac Dafis, Dei Dafis Ffiarman, Robin Tyllwyd, Maldwyn Davies.
Amser cau ac agor y Cross Foxes oedd yn dyfarnu’r amser chwarae.
Ymysg y
bechgyn ‘roedd Gwilym Vaughan yn fowliwr ffyrnig tal. Eraill o’r hogiau yno
byddai Frank fy mrawd, Ernie Roberts, Elfed Hughes, Norman Williams, Bobby Huw,
Billy a Les Pritchard, Raymond Cartwright ac yn aml byddai Eurwyn Owen ar y
cyrion yn breuddwydio am ddrygioni. Nid oedd yn gêm tîm - pawb yn ei dro yn
batio a bowlio a chadw sgôr ei hun, ac nid oedd yn gêm fonheddig o gwbl.
Mae’n draddodiad ym mysg ysgolion
bonedd Lloegr i ddatgan bod cymeriad yn datblygu ar gae chwarae tebyg i ‘Eton’.
Yma, meddan nhw, enillwyd tir a rhyfel. Dwn i ddim am hynny nag am wir elfen
boneddig gêm griced. Ond tystiaf i’r ffaith bod chwarae criced ar gae Ysgol
Blaenau yn hyrwyddo cymeriad. Roedd angen dewrder i wynebu’r belen wyllt a
neidiai o law Gwilym Vaughan neu Edwin Gawr ar y wiced creiglyd hon. Ffolineb
oedd ceisio ymosod yn ôl- y dasg annodd oedd ceisio osgoi anafiad. Efallai bod
deall am ofn personol yn rhan o datblygu cymeriad a chyfaddef mae hawdd yw bod
yn gachgi. Cuddio ofn oedd y sgil i’w ddysgu ar gae criced y Cownti.
Cae Stesion -llun JN |
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon