Showing posts with label Pulpud Huw Llwyd. Show all posts
Showing posts with label Pulpud Huw Llwyd. Show all posts

10.2.19

Stolpia -Yr Hen Dynnwr Lluniau

Pennod arall o gyfres Steffan ab Owain, y tro hwn o rifyn Ionawr 2005.

Os cofiwch, crybwyllais yn [rhifyn Rhagfyr 2004] ychydig o hanes  John Thomas, y ffotograffydd enwog  o’r Cambrian Gallery, Lerpwl, yn galw heibio ein bro i dynnu lluniau grwpiau o chwarelwyr, adeiladau pwysig a.y.y.b. Yn ffodus iawn i ni, cofnododd JT ei hanes yn yr ardal hon, a sawl ardal arall o ran hynny, mewn dyddlyfr sy’n dyddio o’r 1860au  ymlaen. Fel ei luniau, mae ei nodiadau yn rhai tra diddorol ac yn rhoi darlun gwych a gwedd wahanol inni o’i anturiaethau gyda’i gamera. Credaf eu bod yn werth eu dyfynnu yma.

Casgliad John Thomas, Llyfgrell Genedlaethol Cymru. "Gan edrych o'r Graig Ddu"
Dyma ran o’i gofnodion o’r flwyddyn 1868:

"Ar wahoddiad taer fy nghyfaill Mr. J.N. Edwards o Gynwyd (yr oedd wedi gwerthu lliaws o’m darluniau cyn hyn) aethum i Ffestiniog. Yr oedd wedi cymryd room yno i wneud fframiau a gwerthu’r darluniau a phethau eraill.Wedi cyrraedd yno, aeth yn gytundeb rhyngom i fynd trwy liaws o’r chwarelau i gymryd grŵps o’r gweithwyr yn yr awr ginio.Yr oeddwn i gael tâl am y darlun ac yntau am y ffram. Yr oeddwn i’n meddwl mai ef oedd yn cael y fantais orau, yntau yn meddwl fel arall, ond ni bu dim ymrafael.
 

Yr wyf yn cofio mynd i chwarel y Diffwys ryw foregwaith, ac wedi cael caniatâd yr awdurdodau, ac ar ôl mynd trwy’r gwaith i wahodd y gweithwyr i fan penodol, ac wedi gosod y grŵp mewn safle priodol, eis i’r offis a gofynais a welent hwy i fod yn dda ddod i eistedd yn eu plith, ac ufuddasant ar unwaith, ac yr oedd yno foneddiges, a boneddwr mewn tipyn o oed a gwallt gwyn llaes, heblaw gwŷr arferol yr offis , -a chymerwyd y grŵp; ac erbyn holi, Mr. Hugh Owen a’i briod, wedi hynny Syr Hugh Owen o Lundain oedd y dieithriaid.
 

Rhyw dro wedi hyn yr oeddwn yn yr un chwarel, yn cymryd darlun arall ganol dydd, aeth yn llongddrylliad, neu o leiaf yn gamera-ddrylliad arnaf; fel hyn y bu- wedi gosod y gweithwyr ar waelod yr inclên, ac erbyn mynd yn fy ôl i gael golwg deg arnynt, teimlwn fod y safle yr oeddwn ynddo yn rhy isel, a chan fod yn ymyl wagenni llawn o lechi, anturiais i fynd i osod y stand a’r camera ar un o’r rhai hyn er cael bod yn uwch, a phan yn mynd i’r lle tywyll, i gyrchu’r plât, clywn waedd a chwerthin,ac ar ol mynd allan gwelwn fod y camera yn deilchion ar lawr, awel o wynt ddaeth heibio heb ofyn caniatâd. Ar ôl munud o edrych arno, gwaeddais nad oedd yn fawr gwaeth, ac os byddent hwy yn yr un fan erbyn chwech o’r gloch y cymerwn hwynt wedyn, ac wedi cael gwasanaeth asiedydd, glud a hoelion, yr oeddwn yno mewn pryd a thynnwyd y grŵp.
 

Mae Mr J.N.Edwards wedi aros yn yr ardal hyd heddiw, ac wedi llwyddo o ddechreuad bychan fel y soniwyd, i fod yn un o’r masnachwyr mwyaf cyfrifol yn y lle –sy’n brawf amlwg o ddiwydrwydd a gonestrwydd wrth drin y byd. Mae hefyd wedi dwyn mab i fyny’n arlunydd, wedi rhoi pob manteision iddo yn ei anturiaeth ac y mae J.Kelt Edwards yn un o’r young artists mwyaf  addawol, ac yn cymryd diddordeb neilltuol mewn pethau Cymreig, rhwydd hynt iddo."

Fel y gŵyr rhai ohonoch, cedwid masnachdy Berlin House gan J.N.Edwards a’i deulu am flynyddoedd lawer a cheir tipyn o’i hanes ef a Kelt ei fab yn ogystal â rhai arluniau yng nghyfrol Goleuo’r Sêr (1994) gan y diweddar gyfaill Ted Breeze Jones. Gresyn na chofnodwyd nifer yr archebion a dderbyniodd oddi wrth chwarelwyr y Diffwys, ynte? Pa fodd bynnag, os cofiaf yn iawn y mae’r llun a dynnodd o’r chwarelwyr ar waelod yr inclên yng nghasgliad J.W.Jones yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Casgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. "Pont y Rhiw, 1875"
Gyda llaw, bu John Thomas yn ein bro ar sawl achlysur arall hefyd ac fel y dywedais o’r blaen tynnodd luniau o’r chwarelwyr yn teithio adref ar drên bach y Llan un tro. Yn  ogystal, tynnodd ychydig luniau o bontydd y plwyf , y ddwy reilffordd bach, capeli a gweinidogion, eglwysi ac ysgolion, tref y Blaenau a sgwâr y Llan, pobl yr ardal, a sawl peth arall.

Yn ôl ei nodiadau am 1879, ac ar ôl sawl ymweliad  â’n bro dywed:

"Yr oedd y Llan yn bentre go fawr cyn bod ond rhyw ychydig o dai gwasgaredig yn y Blaenau, ac yma byddai’r farchnad yn cael ei chynnal a phobol y Blaenau yn dod iddi, ond erbyn hyn y mae’r ferch wedi mynd yn fwy na’r fam, a gwŷr a gwragedd y Llan yn gorfod mynd i’r Blaenau i ymofyn llawer o’u angenrheidiau…
 

Ond rhaid dychwelyd i’r Llan os ydych am fwynhau ychydig seibiant i weld natur  yn ei phrydferthwch... Nid oedd angen am arweinydd i fynd [at Bulpud Huw Llwyd] os byddech wedi galw yng ngwesty’r Pengwern Arms i geisio bwyd neu ddiod. Yr oedd yno ar y pryd fath o gi defaid wedi cael ei ddysgu i’ch tywys ar hyd y llwybr at y ceunant o’ch blaen, a dychwelai’n ôl heb i neb yngan gair wrtho. Ond os nad oeddech wedi bod yn y gwesty ni wnai yr un sylw ohonoch. Yr oedd yno gi arall, gwerth sôn amdano, yn y ffermdy o dan y fynwent, a fedrai droi olwyn, a’r olwyn honno’n troi’r fuddai gorddi yn y llaethdy. Gwelais ef wrth y gwaith, ac ni welais y fath beth cynt na chwedyn. Yr wyf yn deall fod yr awdurdodau gwladol wedi ymyrryd am eu bod yn ei ystyried yn greulonder â’r anifail."

Dau sylw bach cyn cloi. Os nad wyf yn cyfeiliorni, cedwid ci neu gŵn ar gyfer corddi ar fferm Bwlch Iocyn ar un adeg o’i hanes. Yn ail, byddai’r Abbey Arms yn cadw ci ar gyfer tywys pobl ddiarth  ogylch y lle, hefyd. Onid oes llun cerdyn post ohono yn eistedd y tu allan i’r dafarn,’dwch?

28.7.16

Rhod y Rhigymwr -cerddi cymdeithasol

Rhan o erthygl Iwan Morgan, o rifyn Mehefin 2016

Mae cerddi cymdeithasol a luniwyd ar achlysuron arbennig ym mywydau aelodau o’n cymuned yn gofnodion hynod bwysig. Yn aml iawn, os ydy rhywun yn cael ei ystyried yn dipyn o rigymwr, gall ceisiadau i lunio penillion i gyfarch rhywun ar ben-blwydd arbennig, priodas, pen-blwydd priodas, ar achlysur ymddeol, er cof ac yn y blaen fod yn niferus. Cofnodir yn aml hefyd ddisgrifiadau o lefydd diddorol mewn ardal, hanes digwyddiadau arbennig neu droeon trwstan.

Mae nifer o rai’n nalgylch ‘Llafar’ sy’n dipyn o arbenigwyr ar lunio penillion o’r fath. Un o’r rheiny ydy’n trefnydd hysbysebion gweithgar, Gwilym Price, Dolawel. Dathlodd Iola Mai Williams, Llan ei ‘phen-blwydd arbennig’ yn 70 oed ar y 5ed o Fai (diwrnod Etholiad y Cynulliad). Mewn parti bychan yn y Pengwern, dyma ddetholiad o'r gyfres benillion a gyflwynwyd gan Wil:

Mae heddiw’n ddiwrnod lecsiwn -
Dydd pwysig meddai rhai,
Ond llawer iawn pwysicach
Yw pen-blwydd Iola Mai.
Wel dyma eneth weithgar
Ers safodd ar ei thraed,
Nid oes un asgwrn segur
Na diogi yn ei gwaed.


Mae’n brysur yn y Capel
Pob Sul yn gwneud ei rhan,
Yn selog yn y Neuadd
A Merched Gwawr y Llan.
Bro Cynfal sydd yn agos
I’w chalon, heb ddim pall,
Mae’n wastad ar ei gorau
Yn helpu hwn a’r llall.


Wel diolch i ti, Iola,
Cenhades dda y Llan,
Cymera egwyl bellach,
Rwyt wedi gwneud dy ran.
Mwynha y dathlu heddiw,
‘Saith deg’ wyt, medda rhai,
A’r gwydra’n taro naill a’r llall
Ar benblwydd Iola Mai.


Dros ugain mlynedd yn ôl, dwn i ddim a ydy o’n cofio, fe ges i ‘fenthyg’ nifer o hen gyfrolau o’r ‘Cymru Coch’ (golygydd O.M. Edwards) gan Wil. Mae nhw’n dal yn saff ar fy silffoedd! Ymysg y rhain, roedd llyfr nodiadau clawr caled o’r eiddo ‘John Thomas, 88, High Street, Blaenau Ffestiniog (1894)’. Mae hwn yn llawn o farddoniaeth a phytiau o ysgrifau difyr yn llawysgrifen daclus y perchennog.

Edrychais ar gyfrifiad 1901, a dod ar draws y manylion canlynol:
‘John Thomas, Chwarelwr 31 oed a aned yn Ffestiniog
Margaret, ei wraig, 31 oed a aned ym Meddgelert
Dau o blant: Gladwen (2 oed) a Thomas John (11 mis)
Tybed a ŵyr rhai ohonoch chi’r darllenwyr rywbeth amdano?

Gan mai sôn am gerddi cymdeithasol a wnaf y mis hwn, dyma flas o gynnwys casgliad J.T.

Pont Maentwrog. Llun Paul W

Englynion i’r Mri. David Roberts, Glan yr Afon a Henry Jones, Dolymoch wrth edrych ar bont ododog a godwyd gan y ddau dros Afon Dwyryd, yr hon sydd gampwaith celfyddydol y ganrif hon ...

Rhyw bont hynod ar bentanau – godwyd
Dan grogedig didau;
Ei phreiffion, dynion gadwynau,
A ‘screw’ o’i hôl i’w sicrhau.


Hir rodfa, trigain troedfedd – o gyrraedd
Y garwyllt li’ llwydwedd,
A di-syfl, gwawdia o’i sedd
Y ‘Ddwyryd’ a’i chynddaredd.


Pont ‘Harri,’ pa anturiaeth – a luniwyd,
A lanwa’r gwasanaeth?
Ei nerth, ei phris, ni thraetha ffraeth
Huawdledd naw cenhedlaeth.


Athrylith Harri welaf, - a dyfais
Dafydd ar ei heithaf,
Yn y dernyn cadarnaf
O berffaith gampwaith a gaf.


Yr awdur oedd un a alwai’i hun yn ‘UN O’R MAEN’. Prydydd lleol, a chynganeddwr sicr ei grefft - o Faentwrog o bosib?

Mewn Talwrn, rhyw bymtheng mlynedd yn ôl, cofiaf weithio’r englyn canlynol:

CRAIG - Pulpud Huw Llwyd yn Afon Cynfal, islaw fy nghartref
Arhosaist drwy yr oesau - i herio
Cerrynt y rhaeadrau;
Onid brych yw mywyd brau
Ar haen un o’th ronynnau?
Pulpud Huw Llwyd ynghanol llif Afon Cynfal. Llun Tecwyn V Jones

Yn llyfr nodiadau J.T., deuthum ar draws yr englynion canlynol i’r Pulpud gan brydydd a alwai ei hun yn ‘PEDR DULAS’ – nad ydy lawn cystal cynganeddwr â’r bardd a ganodd i Bont Maentwrog:

Areithfa o raddfa oer ryfedd – o graig,
Un ddi-gryn a llyfnwedd,
Mewn ceunant certh a serthedd
Yn groes i far, ungris ni fedd.


Y bardd uwch aig ar y graig fu – yn aros
Am oriau heb gysgu,
Trwy’r nos heb un diddos dŷ,
Brwd awydd i brydyddu.


Y Saeson, lu hylon ddaw – gan nythu
Ar areithfa islaw;
Dibyn a’i frochlyn sy’n fraw,
Yna’i genlli ddiganllaw.


Pur eglur mai peryglus – yw rhodio
Ar hyd llechwedd echrys,
A rhai’n dod ar ormod brys
I’w boddi, mae’n wybyddus.


Gwyliwch nad ewch i’r gwaelod! – Y crochlyn
Crychlas sydd mewn cysgod
Serth lithrig, mae’n beryg bod
Rhai’n welw yn ei waelod.


-----------------------------------------------------

Gallwch ddilyn y  gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

26.6.16

Trem yn Ôl -Cynfal Fawr

Erthygl arall o lyfr 'Pigion Llafar 1975-1999'.

Cynfal Fawr ... Beth ddaw ohono?

Mae ‘na nifer o bobl sy’n dechrau mynegi pryder ynglyn â chyflwr hen dŷ Cynfal Fawr oherwydd ei fod wedi bod yn wag cyhyd.  Dyma un o dai mwyaf arbennig yn ardal hon, cartre Huw Llwyd – ‘Milwr, bardd, meddyg, dewin!’ - a Morgan Llwyd, awdur y clasur ‘Llyfr y Tri Aderyn’. 

Mae’r cyfeiriad cynharaf a geir at y tŷ yn mynd yn ôl i 1480 pan oedd Rhys ab Ifan, hen daid Huw Llwyd, yn byw yno.  Wyrion i hwnnw oedd Owen, Rhys a Dafydd, tri bardd ‘yn canu ar eu bwyd eu hunain’ (hynny ydi, yn wahanol i’r beirdd arferol, doedden nhw ddim yn dibynnu ar noddwr i’w cynnal).  Mab Dafydd oedd y cymeriad lliwgar Huw Llwyd, ac ef, yn ôl traddodiad, a adeiladodd y rhan ddiweddaraf o’r tŷ  - ‘Tŷ cryf helaeth, muriau trwchus, ystafelloedd eang a chysurus’ yn ôl un dystiolaeth. 

Yn 1630, fe ganodd y bardd Huw Machno gywydd moliant i Gynfal, a’r tŷ hwn hefyd oedd testun cerdd Thomas Love Peacock, Headlong Hall.  Mae Huw Machno yn ei gywydd yn rhoi cipolwg inni ar ddiddordebau Huw Llwyd – y milwr, yr heliwr a’r pysgotwr, y bardd a’r meddyg:
Ei lyfrau ar silffau sydd
Deg olwg, gyda’i gilydd;
Ei flychau elïau’n lân,
A’i gêr feddyg o arian,
A’i fwcled glân ar wanas
A’i gledd pur o’r gloywddur glas;
A’i fwa yw ni fu o’i well
A’i gu saethau a’i gawell;
A’i wn hwylus yn hylaw
A’i fflasg, hawdd y’i caiff i’w law,
A’i ffon enwair ffein iawnwych
A’i ffein gorn a’i helffyn gwych,
A’i rwydau pan fai’n adeg
Sy gae tyn i bysgod teg.
Mae ‘Ei flychau elïau’ a’i ‘gêr feddyg’ yn gyfeiriad at ei allu meddygol. 

Yn un o lawysgrifau Peniarth, ceir Ellis Wyn o’r Lasynys (Y Bardd Cwsg) yn sôn am ‘Hen Physigwriaeth o Lyfr Huw Llwyd o Gynfal’.

Roedd y bobl gyffredin yn ofergoelus iawn yn y cyfnod, a chan fod cymaint o ddirgelwch ynglŷn â Huw Llwyd, a chymaint o allu yn perthyn iddo, yna rodden nhw’n credu’n sicr ei fod yn ymarfer y gelfyddyd ddu!  Dyna sydd tu ôl i’r holl storiau anhygoel amdano, yn arbennig ynglŷn â’i ‘bulpud’ yng Nghwm  Cynfal, a’i berthynas efo’r diafol a’r mân gythreuliaid. 

Pan fu Huw Llwyd farw, fe ganodd Huw ap Ieuan yr englyn yma :
Holl gampiau doniau a dynnwyd - o’n tir,
Maentwrog a ‘sbeiliwyd;
Ni chleddir ac ni chladdwyd
Fyth i’r llawr mo fath Huw Llwyd.
Roedd dylanwad Cynfal yn drwm ar Morgan Llwyd hefyd.  Fe wnaeth ef gyfraniad mawr i grefydd a dyneiddiaeth ei oes.  Yn Wrecsam y cafodd ei addysg, ac yno hefyd y bu farw, ac y claddwyd ef, ac mae Ysgol Morgan Llwyd yn dystiolaeth o hynny hyd heddiw.  Ond roedd ei galon yn ei henfro os ydym i gredu’r englyn yma o’i waith: 
O Meirion dirion i dario - ynddi
Yn dda ‘rwy’n dy gofio;
Nid hawddgar ond a’th garo
Fy annwyl breswyl a’m bro.
Samuel, mab Morgan Llwyd, a etifeddodd Cynfal ar ei ôl, a Christopher a Joseph Bushman, dau ŵyr iddo, oedd yr olaf o’r teulu i fyw yn Cynfal, er fod rhai o’r Llwydiaid yn dal yn yr ardal mor ddiweddar â throad y ganrif hon.  Disgynnydd iddynt, er enghraifft, oedd D. Llywelyn Lloyd Y.H. a adeiladodd Plas Meini.  Bu ef farw yn 1885.  Roedd un o’i ferched ar fwrdd llywodraethol Ysgol Sir Ffestiniog pan sefydlwyd honno yn 1895.  Priododd merch arall iddo, Ellen Alice ag E.R. Davies, Y Coleg Normal.  Bu hi farw yn 1920.  Os oes disgynyddion o’r teulu yma’n fyw heddiw, byddai’n ddiddorol cael peth o’u hanes.

Yn 1808, prynwyd Cynfal gan y brodyr Casson, y perchnogion chwareli, ac yna, ddiwedd y ganrif ddiwethaf, aeth yn eiddo Pierce Jones.  Arhosodd ym meddiant y teulu hwnnw am dros hanner canrif.  Teulu’r diweddar Mr a Mrs D.M. Jones oedd yr olaf i fyw yno.  Mae’r tŷ wedi bod yn wag am yn agos i bum mlynedd bellach ac yn siŵr o fod yn dirywio.

Cafwyd colled yn y cylch hwn pan dynnwyd hen blas Tanymanod i lawr.  Mi fyddai’n fwy fyth o bechod gweld lle o hanes a thraddodiad Cynfal yn mynd yng angof.”
***

Meddai Pegi Lloyd Williams wrth ail-gyflwyno'r erthygl yn rhifyn Mai 2016:
"Yn ffodus, gwyddom ers rhai blynyddoedd erbyn hyn bod Cynfal Fawr yn ddiogel yn nwylo Gwil a’i wraig hynaws, y Parch Anita Ephraim a’r plant."

---------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 1996, ac yna yn llyfr Pigion Llafar a gyhoeddwyd i nodi'r milflwyddiant yn 2000.
Bu yn rhifyn Mai 2016 hefyd, yn rhan o gyfres Trem yn ôl.

Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
 

17.1.16

Pulpud Huw Llwyd

Dyma'r llun oedd i fod i ymddangos yn rhifyn Ionawr 2016!

Ar dudalen 12, dan y pennawd 'PULPUD HUW LLWYD DAN WARCHAE' cafwyd cyfeiriad at lun o'r Pulpud a'r afon mewn llif. Ond, roedd y golygydd wedi gyrru llun arall i'r wasg hefyd er mwyn dangos y Pulpud pan nad oedd fawr o ddŵr yn Afon Cynfal.

Oherwydd diffyg lle, dim ond un o'r ddau lun oedd y wasg yn medru ei gynnwys. Ia, dyna chi: yr un anghywir! Felly dyma gyhoeddi'r darn eto, y tro hwn efo'r llun cywir:


"...diolch i Tecwyn Vaughan Jones am y llun hwn o Bulpud Huw Llwyd o dan warchae yn ystod llifogydd mis Rhagfyr. Er ei holl ddoniau a'i ddewiniaeth, go brin y byddai Huw Llwyd ei hun wedi gallu dringo i ben hwn!"
------------------------

Cliciwch ar y ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geirau ar y dde, am gyfeiriadau eraill ar wefan Llafar Bro, at y Pulpud.

(Gallwch ddarllen eginyn erthygl am Huw Llwyd -a llun y pulpud heb lif yn yr afon- yn fan hyn ar wefan Wicipedia.
Mae gweinyddwyr gwirfoddol Wicipedia, y Gwyddoniadur Rhydd, yn apelio am wirfoddolwyr newydd i ychwanegu mwy o wybodaeth i'r erthygl, ac i ychwanegu erthyglau eraill ar bob pwnc dan haul hefyd.)
 

11.7.15

Pobl y Cwm- Sul, gwyl, a gwaith

Dyddiau fu yng Nghwm Cynfal.  
Rhan 3 o gyfres atgofion y diweddar Ellen Williams.


Pan aethum i standard 4 a 5 Mr Cadwaladr Morris oedd fy athraw. Byddwn bob amser yn edrych i fyny at fy athrawon, ac nid wyf yn meddwl i mi gael gwg gan yr un o honynt, ac wrth edrych yn ôl does genyf ond bod yn ddiolchgar am i mi cael y fraint o fod yn ddisgybl yn ysgol Ffestiniog.

Braf iawn oedd cael byw yn y wlad, er fod y ffordd yn bell, roedd criw o honom hefo ein gilydd yn llawen a difyr. Roedd tair ffordd genym i fynd adre o'r ysgol.

Yn y gaua, i fyny ffordd fawr Cwm Cynfal am adre. Yr adeg hono byddai dynion yn torri cerrig hefo morthwyl iw rhoi ar y ffordd, cyn son am 'Macadam'  ddod i'r ffasiwn. Bydda ni plant wrth ein bodd yn cael sgwrs hefo'r dynion torri cerrig, neu redeg tu ôl i gar James y Groser, neu gar Daniel y Baker, am y gynta i afael yn nhu ôl i'r car ar ben Rhiw Tŷ Coch a dal gafael ynddo nes cyrhaedd Bont Newydd.

Pulpud Huw Llwyd. Manylion hawlfraint isod*
Yn y gwanwyn trwy Ceunant heibio Glogwyn Brith a lawr at Bont ddu, cael golwg ar Pulpud Huw Llwyd, weithiau yr hogia yn dringo i ben y Pulpud, a ni genethod yn gweiddi mewn braw, ofn iddynt syrthio i'r dŵr. Ymlaen wedyn at Pont Llam yr Afr, hel blodau gwyllt, a chwilio am nythod adar.

Fel byddai misoedd yr haf yn dod, dros Ben Cefn yr oeddem yn mynd i chwilio am beli golff, ac os byddem mor lwcus a chael un, wel dyna obaith am ceiniog neu ddwy i ni. Dyna chi olygfa oedd i'w gael o Ben Cefn, ddim rhaid i neb fynd dros y dŵr oddi yma i gael gwell golygfa.

Roedd i bob tymor ei waith, ei chwarae ai ddifyrwch. Yn y gaua pan yn rhy oer i fynd allan byddem yn cael gêm o Ludo meu dominos, a'r Drysorfa a'r Cymru Plant i'w ddarllen a gofalu fod ni i ddysgu adnod a mynd dros y wers at y Sul. Byddai'r hogia wrth eu bodd hefo bach a pawl, top a chwip, chwara marblis, chwara pêl, os yn lwcus un go iawn. Ond y rhan amlaf pêl rags oedd ar gael neu swigan mochyn wedi ei chwythu, ac yn aml iawn un gic oedd yn ddigon i hon roi clec. A'r merched yn chware sgipio, chware London, chware hefo Doli. Dyna fydda'n doli ni - hoelbren bobi wedi rhoi dillad a siôl am dani, neu rhoi dillad am y gath, os bydda hono yn digwydd fod yn un lonydd a ffeind. Mi gefais i ddoli pren un tro; cofio yn iawn, ei phen wedi ei paentio a paent du, a'r bochau yn baent coch, mi fu yn drysor mawr gen i am amser maith.

Fel y byddai y gwanwyn yn dod, mynd i bysgota dwylo, gosod westan yn yr afon fin nos, mynd yno beth cynta yn y bore a chael sgodyn i frecwast. Mynd hefo tin i Llyn Cam i ddal brithyllod a pena byliad. Bydda un o honom yn wastad yn syrthio i'r dŵr, neu un o honom wedi colli cap neu esgid neu hosan. Yn Llyn Babell fydda ni yn mynd i ymdrochi.

Wedi chwarae, meddwl am y gwaith wedyn. Cario dŵr, hel coed tân, gwylio'r ieir yn bwyta, hel y brain i ffwrdd. Hel dail i'r moch, dail tafol a danadl poethion, ac er fod hen sana am ein dwylaw, roedd y danadl poethion yn pigo trwy popeth nes oedd gwrymau mawr dolurus ar ein dwylaw a'n coesau.

Mynd i'r ffriddoedd ar ôl hyny i roi yr eithin ar dân, gwaith wrth fodd ein calonau ni plant. Gweld y lle yn wemfflam a'r mwg yn esgyn i fyny i'r awyr yn urddasol.

Ar ddechrau y flwyddyn 1903 ddaeth si a son fod ni i gael Capel bach newydd yn y Cwm. Cangen o Eglwys Engedi y pryd hyny oedd y Babell. Mawr fu siarad a dadlau gan y swyddogion pa le i adeiladu Capel newydd. Pasiwyd i brynu peth o dir ffarm Bronerw gan perchenog y stad, a dechreuwyd ar y gwaith yn ddi-ymdroi.

Rwyn cofio cael mynd am drip y tro cynta hefo Ysgol Sul Engedi i'r Bala, cael mynd i weld y Coleg, a heibio llyn am y tro cynta. Helpu rhyw wraig i hwylio ryw eneth fach ddwy flwydd oed mewn cadar am y pnawn, a chael chwegeiniog gwyn am wneyd. We dyna chi ffortiwn i eneth o'r wlad.

Pan ddoi gwyliau y Pasc ein gwaith ni y plant oedd hel cerig oddiar y caeau. Rhyw bedwar neu bump o honom a bwced bob un, a'r cynta i hel llond ei fwced ai roi yn y ferfa, cai hwnw glap o fingceg, bullseyes du mawr a streips gwyn arno yn wobr..

Hwyl a llawenydd i ni oedd y gwaith a gweld y ddol yn wyn o flodau llygad y dydd a
"Hwnnw mewn gwisg o aur ac arian,
Hwn agorodd y drws i'r gwanwyn ddyfod allan. 
Mi wn fod blodau lu o'th ôl yn ddirgel lechu
Rhag ofn yr oerwynt cry sydd dros y maes yn chwythu.
Ti broffwyd bethau braf wyt ini Nefol Genad,
Mae euraidd ddelw haf yn wir ym myw dy lygad"
-darn o adroddiad a ddysgais i hefo Miss Hughes yn Standard 2.

Diwrnod hapus i ni oedd pan ddywedai fy mam "Mi awn am dro pnawn i hel dail a blodau gwyllt i wneud diod dail". Dyna lle byddai Hwre fawr, a bob un o honom am y cynta i fwyta ein cinio, er mwyn cael cychwyn. Rhyw naw gwahanol ddeilen fydda gan mam i wneyd y ddiod. Gallaf ei henwi i gyd, a da oedd blas y ddiod.

*Llun: Hawlfraint yn eiddo i Dewi. Defnyddir yn unol â Thrwydded Comin Creadigol 'Attribution-ShareAlike 2.0'. Manylion pellach trwy ddolenni ar dudalen Wicipedia Huw Llwyd.

----------------------------------
Gallwch ddilyn y gyfres gyfa' trwy glicio ar y ddolen 'Pobl y Cwm' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


1.2.13

O'r Cymdeithasau



Detholiad o newyddion y cymdeithasau, o rifyn Ionawr 2012:

Merched y Wawr
Daeth nifer dda ynghŷd yn y Ganolfan Gymdeithasol i wrando ar a mwynhau sleidiau gwych Pierino Algieri o Landdoged.  Datgelodd yr hanes tu ôl i dros hanner cant o luniau – llawer ohonynt wedi eu tynnu yn ystod eira mawr dwy flynedd yn ôl.  Sylweddolwyd bod angen amynedd dibendraw a bod yn foregodwr hynod i gael gafael ar y llun perffaith, ac i ddal yr awyr ar ei gorau. 
Ar noson arall, rhannwyd yr aelodau yn dri tîm ar gyfer cwis, gyda Rhian yng ngofal y cwestiynau.  Wedi orig ddifyr iawn mwynhawyd lluniaeth amrywiol a baratowyd gan yr holl aelodau.


Sefydliad y Merched
Cyfarfu’r aelodau yng Ngwesty Tŷ Gorsaf i fwynhau cinio ardderchog. Da oedd gweld y gwesty wedi cael ei adnewyddu. 
Yn y cyfarfod misol nesaf, disgwylir Gwyn Pierce, a’i gitâr, i’n difyrru. Pob croeso i aelodau newydd ymuno â ni yn y cyfarfodydd misol ar y bedwaredd nos Fawrth o’r mis, ac yn y dosbarth gwnio a chwarae dartiau bob nos Fawth arall, yn ogystal ag yn y gweithgareddau a gaiff eu trefnu gan y Ffederasiwn.  
Llun- PW


Cymdeithas y Gorlan
Estynwyd croeso i Geraint a Nerys Roberts, Bronaber, Trawsfynydd atom. Swynwyd pawb gan ganu Geraint, i gyfeiliant Alwena Morgan,  a Nerys yn darllen rhannau o Mewn Bocs yn Mhendraw'r Atic gan Tudur Dylan ymysg pethau eraill.  Cynhelir y cyfarfod nesa ar 4ydd Chwefror yng nghapel Bowydd pan ddaw y Côr Cymysg atom. 

Y Gymdeithas  Hanes
Yn y cyfarfod diwethaf y  gŵr gwadd oedd Geraint Vaughan Jones, hogyn lleol wrth gwrs , yn adnabyddus fel awdur toreithiog ac i ni yn y Blaenau, fel cadeirydd Pwyllgor Amddiffyn yr Ysbyty Coffa. Testun Geraint oedd ‘Cynfal Fawr’ a gyda chymorth sleidiau cawsom wybod llawer am y Cwm, am adeiladau fel Cynfal Fawr a hanes y rhai a fu’n byw yno. I ddechrau dangosodd leoliad cartrefi sydd â chysylltiad â’r Mabinogi, megis Bryn Cyfergyd, Bryn Saeth a Llech Ronw.
Clywsom ganddo hanes Huw Llwyd ac eglurodd sut, yn ei farn ef, y tyfodd y gred fod y gŵr hwnnw yn ymwnud â’r ‘gelfyddyd ddu’ ac yn dringo i ben ei ‘Bulpud’ yng nghanol  Afon Cynfal er mwyn cael sgwrsio efo’r diafol.


Y Fainc Sglodion
Roedd yn galondid gweld cymaint o aelodau wedi troi mewn i wrando ar yr Athro Peredur Lynch Eglurodd ei awydd i fynd at wraidd yr holl ensyniadau a’r dadlau cas a fu ynglŷn â rhan Saunders Lewis yn llosgi Ysgol Fomio Penyberth  8fed Medi 1936 a’r ‘canlyniadau.  Bu i losgi’r Ysgol Fomio greu rhwyg yn y byd academaidd Cymreig. Rhai o blaid ac eraill yn wirioneddol yn erbyn am amryw o resymau.
Soniodd am Syr Ifor Williams , oedd yn hanu o Ddyffryn Ogwen, gafodd y fraint o olynu Syr John Morris Jones fel pennaeth Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Un o fro’r chwareli felly, a’r llall oedd Henry Lewis (Harri) oedd yn hanu o’r de ac o fro’r pyllau glo. Henry Lewis oedd pennaeth cyntaf Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe ac ar staff yr adran honno oedd Saunders Lewis adeg yr Ysgol Fomio. Condemniwyd  Saunders gan Henry Lewis (ei bennaeth). Roedd y ddau yn anghytuno’n llwyr efo rhan Saunders yn cynllunio’r fath ‘drosedd’.
Bu i’r Athro Peredur Lynch gydnabod ein dyled fel cenedl i’r ddau a’u gwaith clodwiw i ddyrchafu’r Gymraeg. Byddai sefyllfa’r iaith wedi bod yn dlotach heb eu hymdrechion i ddod â’r Gymraeg allan i’r ‘werin’ a’r byd ond mae eu rhan yn dirmygu Saunders Lewis a gweithred yr Ysgol Fomio yn rhywbeth i ddotio ato.