11.7.15

Pobl y Cwm- Sul, gwyl, a gwaith

Dyddiau fu yng Nghwm Cynfal.  
Rhan 3 o gyfres atgofion y diweddar Ellen Williams.


Pan aethum i standard 4 a 5 Mr Cadwaladr Morris oedd fy athraw. Byddwn bob amser yn edrych i fyny at fy athrawon, ac nid wyf yn meddwl i mi gael gwg gan yr un o honynt, ac wrth edrych yn ôl does genyf ond bod yn ddiolchgar am i mi cael y fraint o fod yn ddisgybl yn ysgol Ffestiniog.

Braf iawn oedd cael byw yn y wlad, er fod y ffordd yn bell, roedd criw o honom hefo ein gilydd yn llawen a difyr. Roedd tair ffordd genym i fynd adre o'r ysgol.

Yn y gaua, i fyny ffordd fawr Cwm Cynfal am adre. Yr adeg hono byddai dynion yn torri cerrig hefo morthwyl iw rhoi ar y ffordd, cyn son am 'Macadam'  ddod i'r ffasiwn. Bydda ni plant wrth ein bodd yn cael sgwrs hefo'r dynion torri cerrig, neu redeg tu ôl i gar James y Groser, neu gar Daniel y Baker, am y gynta i afael yn nhu ôl i'r car ar ben Rhiw Tŷ Coch a dal gafael ynddo nes cyrhaedd Bont Newydd.

Pulpud Huw Llwyd. Manylion hawlfraint isod*
Yn y gwanwyn trwy Ceunant heibio Glogwyn Brith a lawr at Bont ddu, cael golwg ar Pulpud Huw Llwyd, weithiau yr hogia yn dringo i ben y Pulpud, a ni genethod yn gweiddi mewn braw, ofn iddynt syrthio i'r dŵr. Ymlaen wedyn at Pont Llam yr Afr, hel blodau gwyllt, a chwilio am nythod adar.

Fel byddai misoedd yr haf yn dod, dros Ben Cefn yr oeddem yn mynd i chwilio am beli golff, ac os byddem mor lwcus a chael un, wel dyna obaith am ceiniog neu ddwy i ni. Dyna chi olygfa oedd i'w gael o Ben Cefn, ddim rhaid i neb fynd dros y dŵr oddi yma i gael gwell golygfa.

Roedd i bob tymor ei waith, ei chwarae ai ddifyrwch. Yn y gaua pan yn rhy oer i fynd allan byddem yn cael gêm o Ludo meu dominos, a'r Drysorfa a'r Cymru Plant i'w ddarllen a gofalu fod ni i ddysgu adnod a mynd dros y wers at y Sul. Byddai'r hogia wrth eu bodd hefo bach a pawl, top a chwip, chwara marblis, chwara pêl, os yn lwcus un go iawn. Ond y rhan amlaf pêl rags oedd ar gael neu swigan mochyn wedi ei chwythu, ac yn aml iawn un gic oedd yn ddigon i hon roi clec. A'r merched yn chware sgipio, chware London, chware hefo Doli. Dyna fydda'n doli ni - hoelbren bobi wedi rhoi dillad a siôl am dani, neu rhoi dillad am y gath, os bydda hono yn digwydd fod yn un lonydd a ffeind. Mi gefais i ddoli pren un tro; cofio yn iawn, ei phen wedi ei paentio a paent du, a'r bochau yn baent coch, mi fu yn drysor mawr gen i am amser maith.

Fel y byddai y gwanwyn yn dod, mynd i bysgota dwylo, gosod westan yn yr afon fin nos, mynd yno beth cynta yn y bore a chael sgodyn i frecwast. Mynd hefo tin i Llyn Cam i ddal brithyllod a pena byliad. Bydda un o honom yn wastad yn syrthio i'r dŵr, neu un o honom wedi colli cap neu esgid neu hosan. Yn Llyn Babell fydda ni yn mynd i ymdrochi.

Wedi chwarae, meddwl am y gwaith wedyn. Cario dŵr, hel coed tân, gwylio'r ieir yn bwyta, hel y brain i ffwrdd. Hel dail i'r moch, dail tafol a danadl poethion, ac er fod hen sana am ein dwylaw, roedd y danadl poethion yn pigo trwy popeth nes oedd gwrymau mawr dolurus ar ein dwylaw a'n coesau.

Mynd i'r ffriddoedd ar ôl hyny i roi yr eithin ar dân, gwaith wrth fodd ein calonau ni plant. Gweld y lle yn wemfflam a'r mwg yn esgyn i fyny i'r awyr yn urddasol.

Ar ddechrau y flwyddyn 1903 ddaeth si a son fod ni i gael Capel bach newydd yn y Cwm. Cangen o Eglwys Engedi y pryd hyny oedd y Babell. Mawr fu siarad a dadlau gan y swyddogion pa le i adeiladu Capel newydd. Pasiwyd i brynu peth o dir ffarm Bronerw gan perchenog y stad, a dechreuwyd ar y gwaith yn ddi-ymdroi.

Rwyn cofio cael mynd am drip y tro cynta hefo Ysgol Sul Engedi i'r Bala, cael mynd i weld y Coleg, a heibio llyn am y tro cynta. Helpu rhyw wraig i hwylio ryw eneth fach ddwy flwydd oed mewn cadar am y pnawn, a chael chwegeiniog gwyn am wneyd. We dyna chi ffortiwn i eneth o'r wlad.

Pan ddoi gwyliau y Pasc ein gwaith ni y plant oedd hel cerig oddiar y caeau. Rhyw bedwar neu bump o honom a bwced bob un, a'r cynta i hel llond ei fwced ai roi yn y ferfa, cai hwnw glap o fingceg, bullseyes du mawr a streips gwyn arno yn wobr..

Hwyl a llawenydd i ni oedd y gwaith a gweld y ddol yn wyn o flodau llygad y dydd a
"Hwnnw mewn gwisg o aur ac arian,
Hwn agorodd y drws i'r gwanwyn ddyfod allan. 
Mi wn fod blodau lu o'th ôl yn ddirgel lechu
Rhag ofn yr oerwynt cry sydd dros y maes yn chwythu.
Ti broffwyd bethau braf wyt ini Nefol Genad,
Mae euraidd ddelw haf yn wir ym myw dy lygad"
-darn o adroddiad a ddysgais i hefo Miss Hughes yn Standard 2.

Diwrnod hapus i ni oedd pan ddywedai fy mam "Mi awn am dro pnawn i hel dail a blodau gwyllt i wneud diod dail". Dyna lle byddai Hwre fawr, a bob un o honom am y cynta i fwyta ein cinio, er mwyn cael cychwyn. Rhyw naw gwahanol ddeilen fydda gan mam i wneyd y ddiod. Gallaf ei henwi i gyd, a da oedd blas y ddiod.

*Llun: Hawlfraint yn eiddo i Dewi. Defnyddir yn unol â Thrwydded Comin Creadigol 'Attribution-ShareAlike 2.0'. Manylion pellach trwy ddolenni ar dudalen Wicipedia Huw Llwyd.

----------------------------------
Gallwch ddilyn y gyfres gyfa' trwy glicio ar y ddolen 'Pobl y Cwm' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon