27.7.15

Ymwelwyr o’r Wladfa

Parhau'r gyfres yn nodi canrif a hanner ers taith y Mimosa i greu gwladfa Gymreig yn Ne America. Y tro hwn, dathlu'r closio rhwng Patagonia a Stiniog, o rifynnau Mehefin a Gorffennaf.

Yn dilyn ymweliad i Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili, er mwyn cynrychioli Ysgol yr Hendre, Trelew, a mynychu Gŵyl y Mimosa yn Lerpwl, daeth Eduardo Gaudiano a Nadine Laporte i Flaenau Ffestiniog. Mae o yn gynghorydd yn ninas Rawson, a hi'n ddisgynnydd i'r arloeswr Lewis Jones.

Baneri Cymru a Phatagonia yn Sgwâr Diffwys. Llun PW
 Cafwyd diwrnod prysur yn Chwarel Llechwedd gyda'r cyng. Erwyn Jones. Cawsant weld sut roedd y chwarelwyr a'u teuluoedd yn byw a gweithio cyn gadael yr ardal am y Wladfa.

Ar ôl bod dan-ddaear, cafwyd taith wedyn ar Reilffordd Ffestiniog i orsaf Tanybwlch, er mwyn ymweld â'r Plas, lle'r oedd cinio dydd Sul a thaith o amgylch yr adeilad a'r gerddi yn eu disgwyl.  

Ym mis Mehefin, cynhaliwyd seremoni trefeillio rhwng Blaenau Ffestiniog a Rawson yn Siambr Cyngor Tref Ffestiniog. Yn yr Ariannin, dros gyswllt fideo byw yn uniongyrchol i theatr José Hernández yn Rawson, ‘roedd Rossana Artero sef Maer Rawson, ynghyd â phobl bwysig eraill fel Gabriel Restucha sy’n Faer yn y Gaiman, Margarita Bulacio sef Cadeirydd Comisiwn 150, Gladys Harris o’r weinyddiaeth Addysg, Graciela Jose sef Cyfarwyddwr Twristiaeth a dwsinau o blant ysgol y ddinas yn gwylio'r seremoni’n fyw.
 
Yn ystod y seremoni cafwyd cyflwyniad a baratowyd gan ddisgyblion Ysgol Don Bosco, chwaraewyd anthem genedlaethol yr Ariannin a Chymru a chafwyd dwy fideo yn dangos Rawson, gyda Rawson ar yr un pryd yn gwylio fideo am Flaenau Ffestiniog.
 
Llofnodwyd y cytundeb trefeillio gan y Cynghorydd Erwyn Jones, sef Cadeirydd Cyngor Tref Ffestiniog, gyda’r Cynghorydd Eduardo Gaudiano yn bresennol i gynrychioli Rawson, ynghyd â Wendell Davies o Gymdeithas Dewi Sant Trelew, Nadine Laporte, a Luned Gonzalez o Gymdeithas Camwy yn cyfieithu o’r Gymraeg i Sbaeneg.
 
Yn dilyn llofnodi'r cytundeb, cyflwynodd cynrychiolwyr o’r Siambr Fasnach roddion lleol i Rawson, ymhlith y rhain ‘roedd cloc hardd o lechen. Yr oedd Bwrdeistref Rawson hefyd wedi anfon crefftau fel anrhegion ac maent ar gael i’w gweld yn swyddfa’r Cyngor (trefnwch o flaen llaw gyda’r Clerc os gwelwch yn dda).


Ar ôl y seremoni yng Ngwesty Tŷ Gorsaf diddanodd Seindorf yr Oakeley a Chôr y Brythoniaid y gwesteion. Yn ôl Nadine Laporte ‘roedd yr adloniant wedi gwneud y digwyddiad yn un bythgofiadwy i’r ymwelwyr a mynegodd pa mor hapus yr oedd bod Rawson wedi trefeillio gyda phobl mor annwyl a chynnes.
 
Felly dyna hanes yr ymweliad arbennig gan ein ffrindiau newydd yn nhalaith Chubut. Cofiwch edrych am bosteri yn ystod mis Awst yn eich hysbysu am ddigwyddiad ym mis Medi i ddathlu canrif a hanner ers y sefydlwyd Rawson ym 1865, neu ymunwch â’r grŵp Blaenau Ffestiniog - Rawson ar Facebook.

Bedwyr Gwilym
----------------------------------------------------------
 

Dolen i erthygl ar ŴYL y GLANIAD ar yr 28ain o Orffennaf.
Gallwch ddilyn y gyfres i gyd efo'r dolenni isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon