Showing posts with label Capel y Babell. Show all posts
Showing posts with label Capel y Babell. Show all posts

7.10.16

Pant Llwyd

Pennod un o atgofion Laura Davies,  am gymuned unigryw a ffordd o fyw ar gyrion ein bro.

Yn y flwyddyn 2041, os aiff rhywun i’r archifdy i chwilota am hanes trigolion Pant Llwyd ganrif ynghynt, ni chaiff siw na miw o gwbl yno. Y rheswm oedd na chymerwyd ddim cyfrifiad o’r boblogaeth yn 1941, oherwydd y rhyfel byd. O fy nghof felly dyma fi yn ceisio llenwi dipyn bach o’r bwlch am yr amser melys o’r tridegau o Bant Llwyd, gan obeithio fel y canodd T.H.Parry Williams:
Ac os bydd peth o’m defnydd yn y byd
Ar ôl yn rhywle heb ddiflannu’n llwyr
A’i gael gan gyfaill o gyffelyb fryd
Ar siawns wrth odre’r (Moelwyn), mrig yr hwyr
Ni welir arno lun na chynllun chwaith
Dim ond amlinell (lon o’r felys waith). 
Rhyw hanner milltir allan ar gyrion Llan Ffestiniog gwelwn y pentrefyn unigryw yma, ar ochr y ffordd i’r Bala ac Ysbyty Ifan. Tebyg i’r mwyafrif o dai chwarelwyr o gyfnod Fictoria.

Nid twll o le mohono, Pant Llwyd, ond nyth a chrud diwylliant ar lechwedd yn wynebu’r gogledd a holl ogoniant panoramig agored y Moelwyn a’r Manod o’i flaen. Mae yna tua 30 o dai annedd i gyd a’r cwbl bron mewn un rhes. Ar draws y ffordd i’r rhes o dai safai y Capel Bach Methodistaidd a adeiladwyd yn 1905, ond cauwyd o fel capel yn y 1960au. Mae’n dŷ annedd heddiw.

Dechreua Pant Llwyd ar yr allt, gyda Phen Rhiw ar y dde a Llys Owain ar y chwith – nid oedd y tai ar y chwith wrth fyned i fyny y rhiw ddim yn bod hyd yn ddiweddar (1980). Diwedda’r pentre yn Nhan y Bryn yn ymyl Llety Fadog.

Dyma fy amlinelliad i o Bant Llwyd a’i drigolion:

Cyn mynd i’r ysgol cychwynwn o Dŷ’n y Ffridd tua chwarter i wyth y bore, ar ein ‘rownd’ o werthu llaeth-efrith ym Mhant Llwyd. Dafydd a finnau yn cario dau dun dau-alwyn o laeth-efrith a’r hen fesur bach brass hanner peint yn hongian ar ochr y tun.

Mynd heibio Penrhiw ar y dde (ail-adeiladwyd yn y tri degau). Cofiaf fynd yno unwaith, efo dosbarth ysgol, i wrando ar y brenin George y V yn darlledu ar y weiarles, a galw yn Llys Owain (a adeiladwyd tua 1930 gan Owain Williams, Llety Gwilym – tad John James – felly yr enw Llys Owain). Cartref Mr a Mrs Basil Jones (syfewr y sir) a’r teulu, Colin, Jean a’r diweddar Gareth. Gwraig garedig iawn, ac acen y De ganddi, oedd Mrs Jones, “Sid ichi heddi Lore fech” oedd ei chyfarchiad bob bore.

Galw wedyn yn rhif 1 Llain Wen, Cartref Robat Wmffras a’i howscipar Margiad Lewis y Cwm. Un o hen dras Cwm Cynfal oedd yr hen Robat Wmffras (a mwstash mawr ganddo), ac heb ei ail, yn godwr canu yn y Babell am flynyddoedd. Mae gennyf lun o Robat Wmffras wedi ei dynnu yn 1905.

Yn rhif 2 Llain Wen cartrefai Mr a Mrs Owain Edwards, rhieni y diweddar Bobby Lymley, Maggie a Trefor. Mae Trefor yn cadw gwesty moethus yn Tel Aviv. Mi roedd Owain Edwards yn frawd i Miss Fanny Edwards, Penrhyndeudraeth (awdures straeon plant).

Yn rhif 3 arferai fyw Lily (Wilnow, Bryn Llech) a’i gŵr, Evan Edwards (Tŷ’r Cefn – perthynas i mi), ond yn fy amser i, Mrs a Mrs Robert Jones, rhieni Phylis a Dennis a drigai yno. Wedyn yn 1 Bryn Tirion, tŷ Mr a Mrs Walter Davies, mam a thad Kitty Williams, Stryd Dorfil rwan, Defi Wyn a Wali. Collodd Defi Wyn (21 oed) ei fywyd yn yr India 31.1.45, newydd iddo ymuno â’r fyddin, a bu farw Wali yn Awstralia yn 1991. Mr a Mrs Richard Evans (Dic Syl), eu plant, John Francis, Beryl, Jennie a Megan bach (boddodd Megan yn blentyn bach ym Mhont Newydd ger Caernarfon.  Sonia Sera Evans yn fynych am Megan fach gan fod y drychineb ar ei chof drwy ei bywyd).

William Ephraim a Goronwy yn hel gwair
Mr a Mrs William Ephraim* a oedd drws nesa, ni werthais rioed beint o laeth-efrith yno. Cadwent fuwch mewn cae tu ôl i’r tŷ.

Rhywle tu ôl i Fryn Tirion safai lle o’r enw Hofel y Moch er ni chofiwn i am hynny. Rhieni i Gwilym Gruffydd John, Emlyn, Ior (Tyddyn Merched), Goronwy a Nel, oedd Kitty a William Ephraim.

Er nad oeddent yn gwsmeriad i ni andabuem yr hen deulu i gyd. Yn ôl Emrys Evans (Llafar Gwlad rhif 18 tud.20), yma ym Mryn Tirion y ganwyd y cymeriad hynod Jac Llan, yn y flwyddyn 1854.

Y galwad nesa oedd siop ben, Jane Edwards, mam Annie Rosina Lewis (a nain Daniel Lewis), Mrs Catherine Roberts, Manod, a’r diweddar Gruffydd, Elen Arwel a gollodd ei bywyd trwy ddamwain yn yr Unol Daleithiau yn 22 oed yn 1929. Gwraig nobl ag urddasol oedd Jane Edwards a dysgais lawer oddi wrthi’n anuniongyrchol.

Mi roedd hi’n giamstar ar wneud bara ceirch. Byddiai’n pobi yn ddyddiol a gwerthai hwy o gwmpas siopau’r Llan, Manod a’r Blaenau. Arferai gael hanner peint o laeth-efrith yn ddyddiol a chwart ar ddydd Sadwrn. Cyfanswm ei bil hi am yr wythnos oedd swllt a thair, h.y. chwe hanner peint am geiniog a dima, a chwe cheiniog am chwart. Ni thalai byth am y llaeth-efrith gan i minnau gael nwyddau yn gyfnewid – dau bwys o siwgwr gwyn am bump a dima, grôt a dima am chwarter o de, a sebon a phowdwr golchi am bum ceiniog – swllt a thair y cwbwl. Hoffwn y ‘ginger wine’ a werthai.

Yn nhu ôl y siop safai casgen o oel lamp (paraffin) a chasgen fach o finag. Byddai yn gofyn i mi, yn gyfrinachol - ‘gefaist i bres gan hwn a hwn heddiw?’ Prin oedd pres adeg honno – ac mi oeddem yn dwy yn d’allt ein gilydd yn iawn! Rhif chwech Oakley View yw enw’r tŷ heddiw.

Drws nesaf (rhif 7 heddiw) oedd tŷ Mr a Mrs Arthur Ellis a’r teulu. Gweithiai Arthur Elis gyda nhad yn Chwarel y Groes a chynorthwyant ni gyda’r gwaith yn Sofl y Mynydd. Triga Sali’r ferch yno o hyd. Wil yn byw yn Nhrawsfynydd, Edith yn Bolton Cafe, bu farw Meirion a drigai y y Blaenau yn ddiweddar iawn, ac Eurwen yn byw yn Nhalsarnau. Bu farw Lizzie Elin trwy ddamwain a bu farw Catherine a Trevor yn ifanc. Llyfaf fy ngwefusau bob tro y meddyliaf am y gacen gyrins gawn gan Mary Elis!

Mr a Mrs Robert Owen, rhieni Gwynfor, Mair (diweddar), Kitty, Gwilym, a Robert Owen a drigai yn y tŷ nesaf (rhif 8). Mr a Mrs Charles Williams a fudodd drws nesaf (rhif 9), wedi i Owen Alfred fudo yn uwch i fyny; rhai o’i teulu hwy oedd Magi Lisi (bu i’n forwyn fach hefo ni yn Nhyn y Ffridd), Dafydd, Catherine. Mr a Mrs John Davies (Tŷ Isa – Tŷ Maes yn ddiweddarach) oedd drws nesaf. Fel yr hen arferiad, mi roedd llond tŷ o blant yno – rhai ohonynt oedd Nel, Robat Ifor, Idris, Dilys Annie a Maldwyn sydd yn byw yn y Blaenau.
---------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 1997. Pennod dau i ddilyn y mis nesaf.

* Atgofion Bore Oes Ellen Ephraim.

8.7.16

Pobl y Cwm -gweinidogion a rhyfeloedd

Dyddiau fu yng Nghwm Cynfal. 
Pennod arall o gyfres atgofion y diweddar Ellen Williams.


Cafodd nifer o blant eu bedyddio yn y Babell, y rhai ddaeth wedyn yn ddinasyddion da a gwerthfawr i Gymdeithas, a rhai wedi dringo i safleoedd uchel.

Tra bum i yn y Babell am i agos i hanner can mlynedd, bum dan weinidogaeth pedwar gweinidog. Y Parch Thomas Lloyd wyf yn ei gofio gynta. Bu yn weinidog ar Engedi am un-mlynedd-ar-ddeg. Pan yn ymadael yn 1905 am Capel Coch Llanberis, tynwyd llun o Gynulleidfa y Babell i roddi yn anrheg iddo. Roedd rhif yr aelodaeth yr adeg honno yn agos i hanner cant, a rhif y plant tan 14eg oed yn ugain. Bedyddiodd Parch Thomas Lloyd brawd i mi a dwy chwaer. Gwnaeth y gymwynas olaf i fy mam, chwaer a brawd i mi.

"Yma y safai hen gapel Y Babell." 1861-1904

Yn 1906 daeth y Parch John Edward Hughes o'r Coleg yn weinidog ar Engedi. Priododd pan yn dod yma i Ffestiniog â merch o Aberystwyth, ac aethant i fyw i Rhianfa, tŷ oedd yn eiddo Engedi. Yn mhen y flwyddyn ganwyd iddynt blentyn bach marw anedig, ac yn mhen dwy flynedd arall ganwyd mab iddynt, a bu farw ei fam ar ei enedigaeth. Enw'r mab yw John Medwyn Hughes, ac y mae yn byw heddyw [1978] yn Sir Fôn. Mae ganddo adgofion melys am y Babell.

Y Parch J.E.Hughes dderbyniodd fi yn gyflawn aelod o'r eglwys, wyth ohonom o'r Babell, ac unarddeg o Engedi ar yr un pryd ar nos Fercher Seiat yn Engedi. Byddai y gweinidog yn dod i'r Babell ryw awr o flaen y Seiat i roi gwersi i ni at gael ein derbyn, a rhaid oedd dysgu pobeth yn iawn. Rwyf yn cofio yn dda ei gynghorion a'i rybuddion, er lles i bawb o honom. Roedd hyn tua 1912, y flwyddyn hono roedd y gweinidog yn gadael Engedi wedi chwe blynedd o wasanaeth ffyddlon am eglwys Brynshengcyn Sir Fôn.

Rhywdro rhwng 1913-1914 daeth y Parch Edward Powell o eglwys Nant Peris yn weinidog ar Engedi. Bu yno am wyth mlynedd ar hugain yn gwasanaeth. Roedd pawb yn yr ardal yn edrych arno fel un o'r Llan. Hen lanc ydoedd a'i chwaer yn cadw tŷ iddo. Rhyw dro tua 1922 daeth gofalaeth eglwys Peniel iddo i'w bugeilio, ac i olygu mwy o waith iddo. Roedd y Parch Ed Powell o natur addfwyn, caredig a chymwynasgar. Roedd yn hoff iawn o blant, a llawer tro pan ar ymweliad rhoddai rywbeth yn llaw plentyn yn ddistaw, heb son na stwr. Byddai yn dod yn rheolaidd i ymweled a'i aelodau unwaith yn y flwyddyn, ac yn ymweld â'r hen a'r cleifion yn gyson. Bedyddiodd ddau fachgen i mi, gwnaeth y gymwynas olaf i fy mrawd a fy nhad, ac i fy machgen a fu farw drwy ddamwain yn 12 oed. Ymddeolodd o'r weinidogaeth ryw dro rhwng 1941-1942, ac aeth yn ôl i'w gynefin yn Rhosesmor. Bu cyfarfod ymadawol iddo yn Peniel, a chyflwynwyd tysteb iddo fel arwydd o werthfawrogiad o'i wasanaeth i'w eglwysi a phentre Ffestiniog am y cyfnod o wyth mlynedd ar hugain.

Yn mhen y flwyddyn wedyn daeth y Parch John Daniel Gruffydd a'i briod a dau o fechgyn o eglwys Gwernymynydd i fugeilio eglwysi Engedi a Peniel. Bu yntau yn ffyddlon, diwyd a gweithgar yn mhob rhan o wasanaeth yr eglwysi. J.D.Gruffydd wnaeth y gymwynas olaf i fy annwyl briod ar y 4ydd o Ragfyr 1946.

Gwelais ddwy ryfel byd yn y cyfamser. Collodd chwech o fechgyn Cwm Cynfal eu bywydau yn hon, er loes a cholled a hiraeth i'w teuluoedd ac i'r ardal, a prin i glwyfau y rhai a anafwyd gael amser i wella, roedd rhyfel 1939 ar y gorwel, a'r byd i gyd mewn dryswch. Roedd pawb yn byw mewn ofn a phryder, gwyddent drwy brofiad beth oedd effeithiau a chanlyniadau rhyfel. Bu am gyfnod o chwe blynedd. Daeth ein bechgyn o'r Cwm yn ôl o'r gyflafan honno yn ddianaf. Cafwyd swper croeso yn ôl iddynt yn y Babell, a diolch i Dduw am eu cadw, gan gofio gyda gofid a loes a hiraeth dwys am y rhai a aeth yn aberth i'r gyflafan fawr.

Bu yn amser galed iawn ar bawb y pryd hynny, bob peth yn gorfod newid eu cynlluniau, y bechgyn ifanc yn gorfod mynd i'r fyddin, eraill, yn fechgyn a merched yn gorfod gadael eu cartrefi i fynd i ffatrioedd i wneud arfau rhyfel. Y gweithwyr ar y tir yn prinhau, ac er iddynt weithio o oleu i oleu, roedd yn galed i godi digon o fwyd a phethau angenrheidiol i gadw'r wlad i fynd. Do, bu mewn cwrs amser newid mawr mewn trefniadau ac amgylchiadau, daliodd y bobl y Babell yn dynn yn rhaffau yr Achos, er colli llawer iawn o aelodau, fel pob man arall.

Er yr holl anhawsterau a'r anfanteision, yr oeddent ar eu goreu gyda'r plant a'r ifanc yn y gwaith da oedd dan eu gofal. Roedd eu ffyddlondeb, diwydrwydd au dyfalbarhâd yn eithriadol, ac fel cymwynaswyr a charedigion yn wir ystyr y gair.

Gofalwyr y Babell yn 1946: Ellis Thomas, Tynyfedwen, Howell Roberts, Brynmelyn, John Roberts, Brynllech.

Bendith Duw ar bawb o honoch, a daliwch i gredu yn gadarn a chry mewn ffydd, gobaith a chariad, fod i Seion eto Wanwyn hyfryd iawn.

Dyna fi wedi teithio yn ôl yn fy nghof agos i hanner canrif, mae'n sicr fy mod wedi gwneyd amryw gamgymeriad. Rwyf yn teimlo fod gen i ddyled a diolch mawr i'r Babell am y cychwyn a gefais yno, ac i'r gweinidogion y bum dan eu gofal ac yn fy hyfforddi. Rwyf yn cael cysur ac yn mwynhau edrych yn ôl i'r amser a fu.   
---------------------------------------

Ysgrifenwyd yr atgofion yn wreiddiol ym 1978; a bu'r gyfres yn rhedeg yn Llafar Bro yn ystod 1999 a 2000.
Gallwch ddilyn y gyfres gyfa' trwy glicio ar y ddolen 'Pobl y Cwm' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

30.4.16

Pobl y Cwm -gweithgaredd y capel

Dyddiau fu yng Nghwm Cynfal.  
Pennod arall o gyfres atgofion y diweddar Ellen Williams.


Yn nechrau y ganrif hon, byddai y Gymanfa yn cael ei chynnal yn Moriah Trawsfynydd ac yn Peniel Ffestiniog bob yn ail flwyddyn. Byddai plant y Babell wrth eu bodd pan fyddai'r Gymanfa yn cael ei chynnal yn y Traws, disgwyl mawr am y diwrnod i gael mynd am dro oddicartre.

Cerdded i stesion Maentwrog at y trên un o'r gloch, cael te parti ar ôl y cyfarfod y pnawn, a dyna treat i ni'r plant yr adeg hono. Te a bara brith a cacenau crîm, brechdanau tenau a menyn tew arnynt, jam a chaws, pethau na fyddent i'w cael yn aml cartre y pryd hyny.

Canu a gwobrwyo oedd prif nod y Gymanfa hon. Byddai gwobrwyo am yr arholiadau ysgrifenedig, yr arholiad cudd, a'r arholiad sirol. Byddai cael gwobr am arholiad y sir yn anrhydedd mawr iawn, ac yn glod i'r Ysgol Sul y byddai yr enillwyr yn aelodau ohoni. Gworwyo hefyd y plant lleiaf am ddysgu y llyfr Rhodd Mam drwyddo, 'Cam cynta plentyn', a dau lyfr arall, sef yr Holwyddoreg a'r Hyfforddwr.

Roedd y Babell yn enwog am ei phlant y pryd hynny. Byddai ryw bymtheg i ugain yn ymgeisio ar wahanol wersi, ac yn ennill llu o wobrau, a rhai o honynt gyda anrhydedd, er clod a diolch i athrawon y Babell. Wedi treulio diwrnod o adloniad da yn y Gymanfa, a'r plant wedi mwynhau eu hunain yn hapus ac yn llawen, ac wedi cael cyfle i wario ychydig o'u ceiniogau, pawb yn troi am adre wedi cael eu bodloni a mwynhau eu hunain.

Byddai cyfarfod darllen gennym yn y gauaf, ar nos Fawrth bob wythnos yn y Festri. Rhyw ddeuddeg i ugain o oedolion fyddai yn ei fynychu yn ffyddlon a selog. Byddem yn cael nosweithiau difyr ac adeiladol yn trafod y Maes Llafur, a phawb ar ei orau yn dweyd eu barn ac yn gofyn cwestiynau, a byddai dadl brwd ar ambell gwestiwn. Byddai awr yn pasio wrth dân bach siriol y Festri.

Engedi, Llan
I ddiweddu y tymor, roedd rhaid cael swper, a thê parti i'r plant prydnawn dranoeth. Y chwiorydd yn gofalu am y trefniadau. Byddai pob un yn dod a'i baich yn wên i gyd. Roedd gwledd o bob danteithion wedi eu paratoi ganddynt at y noson hon. Roeddynt yn gofalu fod pob peth angenrheidiol mewn llestri a bwyd wrth law yn hwylus, bob un o honynt wrth eu bodd heb gyfri'r gost na'r drafferth, llafur cariad yn unig oedd yn bwysig ganddynt. Gwaith y brodyr oedd gofalu gosod y byrddau noson gynt yn barod. Roedd ganddynt blanciau pwrpasol iw gosod ar draws y seti yn y capel i'w gwneyd yn fyrddau taclus a hwylus i fwyta arnynt.  Gweinidog Engedi fel rheol oedd y gŵr gwadd. Byddai pawb yn mwynhau y wledd, a buan iawn y byddai pobpeth wedi mynd o'r golwg, wedi darfod y gwledda, a chael yr anerchiadau a'r diolch, clirio a rhoi bobpeth yn ôl yn ei le, ar ôl hynny i ddarfod y noson cael dipyn bach o hwyl a miri cyn troi am adre wedi noson lawen a difyr.

Byddai Cyfarfod Ysgol Sul y Cylch yn dod i'r Babell unwaith yn y flwyddyn, a byddai paratoi a llafurio gwych at hwnnw, gan fod cyfeillion o eglwysi eraill yn dod yno, rhai o Engedi, Peniel, Gellilydan a Maentwrog Isa i gydgyfarfod i drafod pynciau yr Ysgolion Sul, ac i holi cwestiynau ar y Maes Llafur. Holi plant yn y bore, ar bobl ifanc a'r oedolion yn y pnawn. Byddai gan y plant ac hefyd rhai hŷn atebion ffraeth a gwreiddiol, ôl llafur, chwilio, a chofio ganddynt. Byddai paratoi helaeth yn y cartrefi ar gyfer y Sul hwnw, gofalu am ginio a the i'r dieithriaid, a mawr fyddai cynhesrwydd a chroeso bobl Cwm Cynfal iddynt, a digon o le i fynd am bryd o fwyd da.

Mae un amgylchiad arall wedi dod i'm cof, a rhaid ei nodi yn y fan hyn. Cymerodd aelod selog o'r Babell yn ei ben i roi c'lennig i blant y Babell, a mawr fyddai y disgwyl gan y plant am y noson honno. Rwyf yn gweld yn fy meddwl ddarlun byw o'r peth. Pawb a'i lygad ar ddrws y Festri, y plant yn disgwyl yn ddyfal am i'r drws agor, gweld dyn heb fod ryw dal iawn, gwyneb gwridgoch a'i wallt yn gwynu yn dod trwy y drws a basgeidiad fawr o afalau cochion ac orenau melyn. Wel dyna Hwre, Hwre, nes oedd y lle yn adseinio, a doedd dim o'i le yn hynny, ffordd y plant o ddangos eu diolch a'u gwrerthfawrogiad o'r anrhegion. Y gŵr caredig hwn oedd Evan Roberts, Cae Iago. Bu fo a'i briod Gwen yn hynod o deyrngar i'r Babell trwy y blynyddoedd mewn gwahanol ffyrdd, yn hael eu croeso a'u caredigrwydd.

Tua 1913, prynodd Robert Jones, Bronerw yr hen Babell pan oedd yn ymddeol o'r ffarm. Gwnawd y lle yn dŷ buddiol a chysurus iddynt i dreulio eu ymddeoiliad. Daeth par ifanc newydd briod i ffarmio i Bronerw, mab Cochgwan, Robert John, wedi ei ddwyn i fyny fel un o blant y Babell. Ond Anibynwyr selog oedd o ai briod, er hyn roedd Robert John yn dal yn ffyddlon yn y Babell, ac yn barod bob amser i wneyd unrhyw wasanaeth gyda'r canu, dyna oedd ei bleser fwya. Roedd o wrth ei fodd yn paratoi plant y Gobeithlu at y Cyfarfod Llenyddol. Byddai aelwyd Bronerw yn rhydd i'r plant fynd yno bob amser i gael eu gwersi gan Robert John. Byddai y tŷ yn llawn bob nos am amser cyn y cyfarfod, a hynny am rai bynyddoedd cyn iddo ddod yn arweinydd y Gân yn swyddogol yn y Babell.  Byddai bob pnawn Diolchgarwch yn canu Emyn ir gynulledfa, a byddai pawb yn edrych yn mlaen at hynny.

Yn y flwyddyn 1928 y dewiswyd R.J.Jones yn arweinydd y canu yn swyddogol. Derbyniodd yntau y swydd gydag anrhydedd, a bu yn ffyddlon a diwyd gyda bob achos i roi cymorth, ac i addysgu to ar ôl to o blant Cwm Cynfal i ganu. Tua'r un flwyddyn roedd Llyfr Emynau newydd yn dod allan or wasg gan y Methodistaid. Rhoddodd rhai o Gyfeillion y Babell dri llyfr Emynau yn rhodd at yr achos: un ar y Pulpud, un ar fwrdd y Sêt Fawr a'r llall ir Codwr Canu. Cyn bo hir iawn dewiswyd Gruffydd Davies yn is-Godwr Canu. Bu hynny yn help mawr i Caniadaeth y Cysegr.

Yn 1930 daeth adroddiad cynta cyfrifon yr eglwys yn Llyfr, i'r aelodau i gyd gael cyfle i weld drosynt eu hunain pa fodd oedd y gwaith yn cael ei wneyd, a pha fodd yr oedd yr arian yn mynd at wahanol bethau. Y dull cyn hynny fyddai rhoi adroddiad ar goedd i'r aelodau ar nos Seiat. Cofiaf y fynud yma am y llyfr mawr du trwm yn cael ei agor gan y pen blaenor ac yn rhoi hanes cyfrifon yr eglwys am y flwyddyn ar goedd mewn ryw awr o amser i hanner yr aelodau neu lai yn aml a fyddai yn bresenol y noson hono, i'w cadw mewn cof am flwyddyn arall.

T.R.Jones, yr ysgolfeistr fyddai'n dod i'r Babell i roi hanes y cyfrifon. Bydda fo bob amser yn chwilio yn yr ysgol am y ddau hogyn mwya cryf yn y Cwm i roi y llyfr mawr du iddynt ei gario o'r Llan i'r Babell at y noson honno yn ei le fo. Byddai y bechgyn yn cael eu rhybuddio a'u bwgwth ganddo os na fyddant ofalus hefo'r llyfr du!

----------------------------------
Ysgrifenwyd yr atgofion yn wreiddiol ym 1978; a bu'r gyfres yn rhedeg yn llafar Bro yn ystod 1999 a 2000. 
Gallwch ddilyn y gyfres gyfa' trwy glicio ar y ddolen 'Pobl y Cwm' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

29.3.16

Pobl y Cwm -'Nôl i'r Babell

Dyddiau fu yng Nghwm Cynfal.   
Pennod arall o gyfres atgofion y diweddar Ellen Williams.


Roedd capel y Babell yn oer iawn yn y gaua, nid oedd dim byd i'w dwymo. Roedd grât fach dân yn y Festri. Roedd pobeth yn burion yn y gwanwyn a'r haf, ond pan ddoi gauaf roedd yn bur angysurus i fod yn eistedd dros awr yn y capel bach. Pan fyddai gwynt yn chwrlio a'r rhew yn ffyrnig, a'r eira a'r glaw yn curo'r ffenestri yn eu tymor, byddai dipyn o gwyno, a dechreuwyd anesmwytho a meddwl o ddifri am rywbeth i'w gynesu.

Bu dipyn o drafod ar y mater, rhai yn fodlon aros yn mlaen fel yr oedd pethau, gan ddweyd eu barn y dylai Gwres yn Ysbryd gadw corff yn gynnes, ond pasiwyd yn y diwedd yn unfrydol i fynd a'r achos yn mlaen i'r Fam Eglwys, Engedi i gael gair terfynol, a chafwyd dwy stôf i weithio hefo coaks, un ym mhob pen i'r capel. A chan fod pethau o'r fath yn ddiethr i'w deall, pa fodd i'w gweithio ar y cychwyn, bu bron iawn i anffawd ddifrifol ddigwydd.

Nid oedd y gofalwr wedi deall yn iawn. Fy nhad oedd hwnnw, a chan iddo droi rhyw deglyn o chwith, aeth y stôf yn rhy boeth nes i'r coed tu ôl iddi ddechreu cymeryd tân, ond cafwyd ymwared mewn pryd, ac ni wnaed difrod mawr iawn yno, diolch am hynny, a bu cynhesrwydd da yno tra parodd y ddwy stôf.

Lampau oel oedd yn goleuo'r capel, dwy yn y Sêt Fawr a pedair uwchben, a dwy yn y Festri. Byddai rhaid llenwi y rhai hyn ddwy waith yr wythnos, a rhagor ambell i dro fel byddai galw. Llawer i stŵr a helynt fyddai hefo nhw, methu gael y fflam yn iawn, y wig yn gam, a fflam yn mygu ac yn duo y gwydyr. Byddai rhaid glanhau y gwydrau ar ôl bob tro er mwyn goleu clir, a'u golchi hefyd yn aml iawn. Rywfodd roedd y gwaith, er yn llafurus yn bleserus i mi, ac rwyf yn edrych yn ôl ato gyda hiraeth am a fu.
Aelodau'r Babell wedi dod i baratoi bwyd i ddathlu hanner can mlwyddiant y capel newydd ym 1954. Cafwyd y llun gan Mrs Sally Williams

Ymhen rhai blynyddoedd fel yr oedd yr amser yn pasio, ymfudodd Edward Owen, organydd y Babell i wasanaethu i Loegr, er colled fawr i'r Babell. Rhaid oedd chwilio am rywyn arall i wneyd y gwaith, a chan mai prin iawn yr adeg hono oedd o athrawon o radd i roi addysg i'r ifanc, bu dipyn o anhawsterau yr adeg hono yn y Babell, methu a chael chwareuwr sefydlog, dim ond dibynu ar hwn a'r llall a fforch y glust. Roedd Pirs Jones Brynllech, bachgen lled ieuangc a'r ddawn ganddo heb gael addysg gan neb o radd. Cymerodd y gwaith ar yr organ, a bu yn hynod o llwyddianus, yn ffyddlon a selog gyda'r gwaith trwy lawer o anhasterau, pellter ffordd o Brynllech i'r Babell am rai blynyddoedd, nes i Rhyfel 1914 dorri allan, a bu rhaid i Pirs Jones fynd i'r fyddin. Roedd o yn un o hogia Cwm Cynfal aeth yn aberth i'r gyflafan erchyll.

Yn y cyfamser, dechreuodd dwy o ferched ifanc y Babell gymeryd gwersi ar chware yr organ, a bu llwyddiant mawr yn eu menter ar y gwaith. Enw morwynol yr hynaf o'r ddwy organyddes oedd Ellen Lewis. Daeth y teulu i Gwm Cynfal o Gwm Hermon rhyw dro tua'r flwyddyn 1912. Cafodd Ellen Lewis ei haddysgu gan Madam Laura Pritchard Evans, 'Perdones Cynfal', A.R.C.M.   Dechreuodd ar y gwaith o chware'r organ yn y Babell cyn bod yn 15 mlwydd oed, a gwasanaethodd am drigain mlynedd, a hyny yn yr un capel, sef capel bach y Babell, nes iddi hi a'i phriod Gruffydd Davies ymddeol a dod i gartrefu i bentre Ffestiniog.

Enw morwynol yr ail organyddes oedd Mary Ellen Roberts. Daeth teulu hon i Gwm Cynfal o Drawsfynydd, i Cae Iago rhyw dro tua'r flwyddyn 1910. Cafodd hithau ei haddysgu gan Madam Laura Pritchard. Dechreuodd hithau ar ei gwaith o wasanaethu gyda'r organ yn ifanc iawn, cyn bod yn 16 oed. Bu llwyddiant mawr ar waith y ddwy, er clod a help i'r achos yn y Babell. Buont yn ffyddlon yn ddiwyd, yn wasanaethgar a dirwgnach yn eu gwaith trwy lawer o anhawsterau.

Cofiwn mai capel bach yn y wlad yw Babell. Roedd gofal cartre ganddynt, gwaith y ffarm a phellter y ffordd, bob math o dywydd i ddod i bob gwasanaeth i'w gwynebu. Ac yn y blynyddoedd cynar hyny, nid oedd cyfleusterau fel sydd heddyw, rhaid oedd dibynu ar y ddwy droed i'ch cario i bob man. Rwyf am ddiolch yn fan hyn i gyfeillion y Babell am roi help i mi gofio pethau oedd wedi mynd yn angof genyf, wrth holi a stilio a sgwrsio hefo hwn a llall, roedd fy nghof yn dod yn ôl i mi fel blodyn yn agor ar ôl gael dŵr.

 ----------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn 2000.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.

13.2.16

Pobl y Cwm

Dyddiau fu yng Nghwm Cynfal.    
Pennod arall o gyfres atgofion y diweddar Ellen Williams.

Rwyf am geisio yn awr alw i'm cof yr arweinyddion a ddaeth o'r Hen Babell i'r Babell newydd. Cof plentyn yw cofiwch hynny. Mae'n sicr y gwnaf rai camgymeriadau, ond nid yn fwriadol.

Rhaeadr y Cwm. Llun- Paul W.

Gofalwyr y Sêt fawr- John Jones, Tyddyn Bach. Lewis Richard, Cefn Panwl. William Lloyd Owen, Cae Iago. Robert Humphreys, Fferm Cwm.  Arweinydd y Canu: Edward Owen, Hafod Fawr Isa, yr organydd.

Aeth dau frawd i'r Weinidogaeth o'r Babell; Parch Owen Lloyd Owen, Cae Iago. Bu yn weinidog yn Bontddu am flynyddoedd, a Parch David Owen Jones, Bronerw. Mi drodd David Owen Jones oddiwrth y Methodistiaid ac aeth yn Berson, ac mi ddringodd i fyny yn uchel yn y swydd hono, yn Canon.

Arolygwr yr Ysgol Sul, Ellis Jones, Tyddyn bach:  Ysgrifenydd, Pierce Jones, Cynfal fawr.

Roedd yno saith dosbarth, pum yn y Capel, a dau ddosbarth y plant lleiaf yn y Festri.
Yr Athrawon, -y plant y Festri oedd Thomas Williams, Bryn Saeth a Lizzie Jones, Garth.
Athrawon yn y Capel,- Edward Jones, Brynllech; James Richard, Cefn Panwl; Gruffudd Jones, Garth; William Ll.Owen, Cae Iago; Evan Jones, Bryn Rodyn.

Roedd Evan Jones wedi dod i'w wlad enedigol o Patagonia ac newydd ddod i Brynrodyn i amaethu. Buaswn yn hoffi rhoi enw llawer un arall a fu ynghwrs y blynyddoedd yn llafurio yn galed a diflino gyda'r plant a'r bobl ifanc, ond rhag ofn anghofio rywun gwell peidio.

Byddai deg safon i'r plant ddysgu yr adeg hono cyn bod yn 14eg oed. Dysgu Emynau ac adnodau, Rhodd Mam, Holwyddoreg a Hyfforddwr ar y cof. Bob dosbarth i ddysgu ei ran ar y cof fel y byddo raid. Arholiad Llafur y gelwir hwnw. Byddai dau neu dri o Arolygwyr o eglwysi eraill yn dod mhen y flwyddyn i roi prawf ar y plant. Mis Mawrth fydda'r adeg. Roedd dwy arholiad arall yn cael ei gynal yn y flwyddyn, arholiad cudd, a'r arholiad sirol, rhai ysgrifenedig oedd y rhai hyn. Ateb rhyw naw neu ddeg o gwestiynau oddiar maes llafur y flwyddyn. Dwy awr a ganiatai i'r plant i gael gwneyd y gwaith. Diben yr arholiad cudd oedd paratoi y plant a rhoi prawf arnynt erbyn dydd yr arholiad sirol.

Roedd hwnw yn bwysig iawn gan fod Ysgolion Sul Sir Feirionnydd i gyd yn cystadlu a'i gilydd, a braint oedd cael cyraedd y dosbarth cynta yn yr arholiad hwnw. Roedd y Babell yn enwog am ei phlant y pryd hyny, byddai ryw pymtheg i ugain yn ymgeisio ar wahanol wersi, ac ni fyddant yn ôl o ennill gwobrau, a rhai ohonynt gyda anrhydedd. Byddai yr athrawon wrthi'n ddyfal ac yn egniol yn paratoi y plant a'r bobl ifanc am rai wythnosau cyn yr amserau hyn. Byddent yn trefnu o'i hamser prin i gydgyfarfod a'r plant ryw hanner awr o flaen y cyfarfodydd wythnosol.

Byddem ni y plant wrth ein bodd yn hel at ein gilydd yn fawr ein trwst a'n twrw, ac yn ddigon afreolus yn aml, fel plant bob oes. Pan fyddai pawb wedi cyrraedd a chymeryd eu lle, ac i'r athraw waeddi 'Gosteg', byddai tawelwch hollol, a pawb yn edrych ar ei lyfr, ac am y cynta i ateb. Byddai ateb gwreiddiol a doniol i'w gael ambell i waith. Roedd ryw gydgord hapus gydrwng yr athrawon a'r plant yn wastad. Cyfeillion o eglwysi eraill oedd yn dod i roi prawf ar y plant. Byddai tystysgrifiadau yn dod ymhen ryw ddau Sul dilynol i ddweyd pwy oedd wedi pasio, a mawr fyddai y disgwyl am y Sul hwnw. Eithriad fyddai i un neu ddau golli, rhan fwya yn y dosbarth cynta, a rhai o honynt gyda anrhydedd.

Ar ôl ir arholiadau basio, a tymor y Gobeithlu ddarfod, byddai yn rhaid dechreu paratoi at y Cyfarfod Llenyddol oedd yn cael ei gynal yn mis Ebrill, roedd hwnw yn bod ers blynyddoedd yn yr hen Babell. Pwrpas y cyfarfod hwn oedd gwobrwyo am pasio safonau a gwaith y Gobeithlu, a chael cystadlu a'i gilydd mewn gwahanol adranau. Cyfyngedig i Gwm Cynfal yn unig y pryd hyny. Yn gynta peth oedd raid gael oedd Pwyllgor i drefnu rhaglen at yr amgylchiad. Mawr fydda hwyl a'r  miri wrth osod pethau ar y gweill, pawb a'i holl egni yn gwneyd eu rhan, i chwilio am bethau addas i wahanol oed, i bob un gael cyfle mewn canu, adrodd, dysgu ar y cof o'r Beibl. Hefyd byddai ysgrifenu 'penau pregethau' am y tri mis cynta o'r flwyddyn yn gystadleuaeth bwysig iawn, a barddoni ac ysgrifenu ar wahanol destunau.

Yn 1905 y cynhaliwyd y Cyfarfod Llenyddol gynta yn y Babell newydd. Bu'r Pwyllgor a llawer un arall yn gweithio yn ddiwyd gyda sel a brwdfrydedd diflino yn eu gwaithgarwch i wneyd y Cyfarfod yn llwyddianus a diddorol, ac i dynu allan awydd a doniau y plant a'r ifanc at bethau goreu bywyd, a chafwyd llwyddiant rhagorol ar eu gwith am y flwyddyn. Aeth yn mlaen o nerth i nerth am rai blynyddoedd gan lwyddo gyda graen a llewyrch nes tynu bobl o bob man, er lles hyny eangwyd ei gorwelion gan ddechreu rhoi gwobrwyon yn agored i bawb ar y rhan fwyaf o'r cystadleuthau, a galwyd hi yn 'Eisteddfod y Babell'.

Roedd hyny yn gwneyd lles mawr i dynnu fwy o gyfeillion i'r lle. Roedd hi yn cynyddu yn fwy lluosog bob blwyddyn, ac yn llwyddo yn eithriadol. Byddai bobl yn edrych yn mlaen at ddyddiad Eisteddfod y Babell gan laweroedd o bell ac agos, ac ni siomwyd neb yn eu cynyrchion, ei thestynau a'i difyrwch, rwyn sicr.

Gan faint y gynulleidfa oedd yn cyrchu yno o flwyddyn i flwyddyn aeth adeilad y Babell yn rhy fach i gynal yr eisteddfod, a phenderfynwyd chwilio am adeilad mwy a phwrpasol iddi yn rywle arall. Cafwyd lle iddi mewn adeilad yn Tynyfedwen, a bu cyfeillion y Cwm yn brysur yn gwneyd y lle yn addas ac yn gyfleus i gynal yr eisteddfod. Roedd yn cynyddu ac yn llwyddo o flwyddyn i flwyddyn. Cafodd llawer i un gyfle i ymarfer ei ddawn a'i allu yno. Bu yno am rai blynyddoedd nes symudwyd hi i Neuadd pentra Ffestiniog am ychydig, a dyna ddiwedd iddi.

22.1.16

Pobl y Cwm- addoli

Dyddiau fu yng Nghwm Cynfal.    
Pennod arall o gyfres atgofion y diweddar Ellen Williams.
 
Roedd mynd ar grefydd y pryd hynny, roedd o yn rhan o'n bywyd bob dydd ni. Byddai cyrchu cyson i'r addoldai, a fawr neb yn cwyno ar ei fyd. Roedd yn pentre Llan Ffestiniog (Llan ar lafar gwlad) y pryd hynny Eglwys a'i henw St Michael.

Eglwys Sant Mihangel. Llun Paul W, Tachwedd 2015
Capeli yr amser hynny: Bethel. Capel Wesla, Shiloh. Capel Peniel, Methodist, a Capel Engedi, Methodist. Hefyd capelau bach y wlad, Y Babell, cangen o eglwys Engedi. Horeb a Rhydsarn, canhenau o eglwys Peniel, a capel bach Pant Llwyd, yn rhanog o Peniel a Engedi.

Byddai gwasanaeth tair gwaith ar y Sul yn yr Eglwysi a ryw ddwywaith yn y capeli bach, a gwasanaeth tair gwaith pob wythnos, cyfarfod gweddi, Seiat, Gobeithlu, ac yn aml iawn cyfarfod darllen yn y Babell.

Byddai gan bob enwad un wyl arbenig bob blwyddyn. Yn Peniel, ar y Pasg, dechreu ar nos Sadwrn tan nos Lun, dwy pregeth nos Sul a nos Lun, naw o bregethau. Byddai y pentre i gyd yn uno, a neb yn blino. Bethel yn cynnal yr wyl ar yr ail Sul yn Gorphenaf, dechreu nos Sadwrn tan nos Sul. Shiloh yn cadw eu gŵyl ar y Sul cynta o Hydre, o nos Sadwrn i nos Sul, a byddent yn cael benthyg capel Peniel yn aml iawn, an fod Shiloh yn rhy fach, gan fod y pentre i gyd yn uno, a phawb yn ffyddlon a hapus o gael cyfle i glywed y newyddion da.

Hanes Cynta'r Achos yn y Babell Newydd o 1904-1946

Rwy'n cofio yn dda yr Hen Babell, a dod i'r Babell Newydd. Yn yr hen Babell y dysgais yr ABC, adnodau a'r penillion cynta a Rhodd Mam. Diwrnod mawr yn Cwm Cynfal oedd diwrnod agor y Babell newydd, Mehefin 1904.

Llun Paul W, Mai 2015
Bu paratoi brwd gan bawb yn y Cwm at yr amgylchiad, a gwawriodd y diwrnod yn heulog a braf, a bobl yn dylifo yno o bob cyfeiriad. Bu tair pregeth yno, a'r capel bach yn orlawn bob oedfa. Y cynta i bregethu yno oedd Parch Thomas Lloyd, gweinidog Engedi, cangen o eglwys Engedi oedd y Babell y pryd hynny. Yr Emyn gynta a ganwyd oedd Emyn 207:
'Dyma Babell y cyfarfod,
Dyma gymod yn y gwaed.'
Roedd digon o luniaeth wedi ei baratoi yn y ffermydd o gwmpas i'r dieithriaid, a'r croeso yn gynnes a siriol. Bu pregethu grymus ac effeithiol dan fendith Duw, a daeth pawb yn ôl i'w cartrefi wedi clywed y newyddion da yn y Babell newydd am y tro cynta.

Roedd Cymru gyfan ar dân y pryd hyny dan ddylanwad ac effeithiau y Diwygiad, pawb yn cyrchu tua'r capeli, o bob man. Bob capel yn y trefi a'r wlad yn orlawn. Roedd hyn wedi effeithio yn fawr ar y ddiadell yn y Babell.

Roedd pregeth yno bob pnawn Sul. Yr ysgol Sul yn y bore. Byddent yn cydnabod y Deg Gorchymyn a'r Gwynfydau bob yn ail y Sul cynta yn mhob mis. Cyfarfod Gweddi nos Lun, Cyfarfod darllen nos Fawrth, Seiat nos Iau, a'r gobeithlu nos Wener.

Roedd Cwm Cynfal yr adeg hono yn mynychu Y Babell fel un, pawb o bob enwad, doedd dim gwahaniaeth, y ddwy ochr i Afon Cynfal, heb fod ymhell o ryw dri dwsin o ffermydd mawr a bach. Dau deulu o Saeson oedd yn byw yn y Cwm yr adeg honno, un yn Hafod Fawr Ucha a'r llall yn y Wenallt.

Nid oedd pawb o bob man yn dod i'r Babell yn rheolaidd, eraill yn ffyddlon a chyson yn mhob cyfarfod, rhai eraill yn dod ar rhyw achlysuron neillduol fel cyfarfod Diolchgarwch, neu gyfarfod llenyddol, neu i roi help gyda'r canu at rhyw gystadleuaeth arbennig.

Roedd yn rhaid cael rhywun i lanhau ac i edrych ar ôl y capel bach, a disgynodd hynny i ran fy mam, felly cefais i a fy chwaer y fraint yn ieuanc i fynd yn ôl a blaen i'r capel gyda Mam i'w lanhau. Rhyw naw oed oeddwn ar y pryd, a fy chwaer fach ryw bedair oed.
---------------------------------------


Ymddangosodd yr uchod yn wreiddiol yn 2000.
 
Gallwch ddilyn y gyfres gyfa' trwy glicio ar y ddolen 'Pobl y Cwm' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

16.8.15

Pobl y Cwm- Y Babell

Dyddiau fu yng Nghwm Cynfal.   Rhan 4 o gyfres atgofion y diweddar Ellen Williams.


Fel yr oedd y flwyddyn 1903 yn cyflymu yn mlaen, roedd y capel newydd [Babell] hefyd yn tyfu ar i fyny. Roedd fy nhad a fy mrawd yn cael y fraint o gario defnyddiau at yr adeilad, ac roedd rhai o'r gweithwyr yn lletya ar aelwyd Bron Goronwy am yr wythnos, felly roeddem ni fel plant yn cael bod yn hyf i fynd o cwmpas y lle i fusnesu. 


Daeth dechrau 1904, ac roedd y capel ar gael ei gwblhau. Trefnwyd fod Cyfarfod Pregethu i fod i'w agor yn gyhoeddus yn mis Mehefin 1904. Mawr fu y son a'r disgwyl a threfnu a pharatoi at amgylchiad pwysig. 

Gwawriodd y dydd penodedig yn hafaidd a chlir ac roedd pobl yn dylifo i Gwm Cynfal y dydd hwnw. Pregethwyd y bregeth cynta gan y Parch Thomas Lloyd, gweinidog Engedi, a'r Emyn cynta a ganwyd yno oedd 'Dyma Babell y Cyfarfod'. Nid wyf yn cofio pwy oedd y pregethwr arall. 


Dyna gau drws yr hen Babell, ac agor drws y Babell newydd. Roeddwn i y pryd hyny wedi mynd trwy chwe o safonau, ac wedi cael tystysgrif am ddweyd y Rhodd Mam. Roedd eisiau rhywun i ofalu an lanhau y Capel, a mam gymerodd y cyfrifoldeb hwnw. Cof da genyf fel y byddwn yn falch o cael mynd gyda hi iw helpu i lanhau y Capel. 

Yn mis Hydref a Tachwedd y flwyddyn hono y torodd y Diwygiad allan yn y De a’r Gogledd. Fe ledaenodd yn gyflym dros Gymru gyfan. Roedd gwr or De a'i enw Evan Roberts a Mrs Jones, gwraig o Egryn yn mynd o cwmpas y wlad dan cyfarwyddiadau yr Ysbryd Glan. Roeddent yn cael arwyddion mewn goleu a thân yn ymddangos iddynt, ac yr oeddynt yn cael rhyw ddylanwad rhyfeddol neillduol ar y Cynulleidfaoedd. Roedd ugeiniau yn rhoddi eu hunain o'r newydd i Iesu Grist bob nos.  


Roedd cyfarfodydd gweddiau bob nos, yn rhyw Capel neu gilydd, a rhai hyny yn llawn. Byddai dau neu dri neu bedwar yn mynd yn mlaen i weddio gyda'i gilydd, a rhai eraill yn canu Emynau mewn cornel arall o'r Capel, a hyn yn mynd ym mlaen am rhai oriau. Byddai llanciau a merched ifanc yn cadw cwrdd gweddi ar ochrau y ffyrdd. Roedd mam yn mynychu y cyfarfodydd yn rheolaidd, ac yn cymeryd rhan ynddynt yn aml.

Nid oedd fy nhad yn berthyn ir capel, a byddai mam yn poeni am hyny, ac yn gweddio am iddo fo cael ei achub. Un bore Sul daeth fy chwaer fach adre or Ysgol Sul, dywedodd wrth fy nhad fod Lewis Richards ei hathraw wedi dysgu iddi yr Emyn 'O fy enaid cod fy ngolwg', a'i hadrodd hi iddo fo i gid. Clywais fy nhad yn dweyd droion ar ol hyny wrth rhai o'i gyfeillion ei brofiad. Fel yr oedd yr Emyn yna wedi ei ddwys-bigo yn ei galon. Aeth fy nhad ir gwaith dranoeth. Roedd o yn methu gweld y dydd yn darfod digon buan, iddo gael dod adre i fynd ir Seiat ir Capel bach i roi ei hun i fyny i Iesu Grist. Derbyniwyd o yn gyflawn aelod a rhai eraill gydag o. Dyna ddiolchgar a llawen oedd fy mam. 

Rwyf yn cofio yn dda am un Cyfarfod Plant yn Peniel, a geneth fach rhyw ddeuddeg oed yn y pulpud yn arwain y canu ac yn gweddio yn neillduol o eneth mor ifanc, heb ddim papur ond o'r frest nes oedd pawb wedi cael eu sobri. Annie Groom oedd ei henw, wedi cael ei magu hefo ei thaid ai nain yn Siop Pen y Bryn. Daeth ei thaid i berthyn i'r Capel yr adeg hono. Roedd ganddo drol a merlen ac yn hel rags ac yn gwerthu potiau a dysglau pridd a phob math o lestri. Byddai Evan Evans yn ddrwg ei hwyl yn aml, ac yn chwipio’r ferlen nes byddai hi yn neidio, a'r llestri yn stymio allan o'r drol yn ddarnau mân ar y llawr. Bu Annie Groom farw cyn cyrhaedd ei phedair-ar-ddeg mlwydd oed, er mawr loes ir hen greaduriaid.

Rwyn cofio Cyfarfod Gweddi rhyfedd iawn yn y Babell un tro, hen greadur yn mynd yn mlaen i cymeryd rhan ir sêt fawr, ac wrth fynd hyd llwybr y capel yn adrodd yr emyn yma a dagrau yn llifo i lawr ei wyneb:

"Blinais, blinais ar y wlad
Lle mae pechu;
Am ddod adre i dy fy Nhad
Rwyn hiraethu."

Ac un arall ar ei liniau yn y Sêt Fawr yn gweddio 
"... I mi goleuni o'r Nef yw Diwygiad, a hwnw yn llewyrchu ar ddynion, nes eu bod yn gweld eu hunain yn y goleu yn bechaduriaid aflan a budr. Truan o ddyn ydwyf fi. Pwy am gwared oddiwrth gorff y farwolaeth hon"

--------------------------



Gallwch ddilyn y gyfres gyfa' trwy glicio ar y ddolen 'Pobl y Cwm' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

11.7.15

Pobl y Cwm- Sul, gwyl, a gwaith

Dyddiau fu yng Nghwm Cynfal.  
Rhan 3 o gyfres atgofion y diweddar Ellen Williams.


Pan aethum i standard 4 a 5 Mr Cadwaladr Morris oedd fy athraw. Byddwn bob amser yn edrych i fyny at fy athrawon, ac nid wyf yn meddwl i mi gael gwg gan yr un o honynt, ac wrth edrych yn ôl does genyf ond bod yn ddiolchgar am i mi cael y fraint o fod yn ddisgybl yn ysgol Ffestiniog.

Braf iawn oedd cael byw yn y wlad, er fod y ffordd yn bell, roedd criw o honom hefo ein gilydd yn llawen a difyr. Roedd tair ffordd genym i fynd adre o'r ysgol.

Yn y gaua, i fyny ffordd fawr Cwm Cynfal am adre. Yr adeg hono byddai dynion yn torri cerrig hefo morthwyl iw rhoi ar y ffordd, cyn son am 'Macadam'  ddod i'r ffasiwn. Bydda ni plant wrth ein bodd yn cael sgwrs hefo'r dynion torri cerrig, neu redeg tu ôl i gar James y Groser, neu gar Daniel y Baker, am y gynta i afael yn nhu ôl i'r car ar ben Rhiw Tŷ Coch a dal gafael ynddo nes cyrhaedd Bont Newydd.

Pulpud Huw Llwyd. Manylion hawlfraint isod*
Yn y gwanwyn trwy Ceunant heibio Glogwyn Brith a lawr at Bont ddu, cael golwg ar Pulpud Huw Llwyd, weithiau yr hogia yn dringo i ben y Pulpud, a ni genethod yn gweiddi mewn braw, ofn iddynt syrthio i'r dŵr. Ymlaen wedyn at Pont Llam yr Afr, hel blodau gwyllt, a chwilio am nythod adar.

Fel byddai misoedd yr haf yn dod, dros Ben Cefn yr oeddem yn mynd i chwilio am beli golff, ac os byddem mor lwcus a chael un, wel dyna obaith am ceiniog neu ddwy i ni. Dyna chi olygfa oedd i'w gael o Ben Cefn, ddim rhaid i neb fynd dros y dŵr oddi yma i gael gwell golygfa.

Roedd i bob tymor ei waith, ei chwarae ai ddifyrwch. Yn y gaua pan yn rhy oer i fynd allan byddem yn cael gêm o Ludo meu dominos, a'r Drysorfa a'r Cymru Plant i'w ddarllen a gofalu fod ni i ddysgu adnod a mynd dros y wers at y Sul. Byddai'r hogia wrth eu bodd hefo bach a pawl, top a chwip, chwara marblis, chwara pêl, os yn lwcus un go iawn. Ond y rhan amlaf pêl rags oedd ar gael neu swigan mochyn wedi ei chwythu, ac yn aml iawn un gic oedd yn ddigon i hon roi clec. A'r merched yn chware sgipio, chware London, chware hefo Doli. Dyna fydda'n doli ni - hoelbren bobi wedi rhoi dillad a siôl am dani, neu rhoi dillad am y gath, os bydda hono yn digwydd fod yn un lonydd a ffeind. Mi gefais i ddoli pren un tro; cofio yn iawn, ei phen wedi ei paentio a paent du, a'r bochau yn baent coch, mi fu yn drysor mawr gen i am amser maith.

Fel y byddai y gwanwyn yn dod, mynd i bysgota dwylo, gosod westan yn yr afon fin nos, mynd yno beth cynta yn y bore a chael sgodyn i frecwast. Mynd hefo tin i Llyn Cam i ddal brithyllod a pena byliad. Bydda un o honom yn wastad yn syrthio i'r dŵr, neu un o honom wedi colli cap neu esgid neu hosan. Yn Llyn Babell fydda ni yn mynd i ymdrochi.

Wedi chwarae, meddwl am y gwaith wedyn. Cario dŵr, hel coed tân, gwylio'r ieir yn bwyta, hel y brain i ffwrdd. Hel dail i'r moch, dail tafol a danadl poethion, ac er fod hen sana am ein dwylaw, roedd y danadl poethion yn pigo trwy popeth nes oedd gwrymau mawr dolurus ar ein dwylaw a'n coesau.

Mynd i'r ffriddoedd ar ôl hyny i roi yr eithin ar dân, gwaith wrth fodd ein calonau ni plant. Gweld y lle yn wemfflam a'r mwg yn esgyn i fyny i'r awyr yn urddasol.

Ar ddechrau y flwyddyn 1903 ddaeth si a son fod ni i gael Capel bach newydd yn y Cwm. Cangen o Eglwys Engedi y pryd hyny oedd y Babell. Mawr fu siarad a dadlau gan y swyddogion pa le i adeiladu Capel newydd. Pasiwyd i brynu peth o dir ffarm Bronerw gan perchenog y stad, a dechreuwyd ar y gwaith yn ddi-ymdroi.

Rwyn cofio cael mynd am drip y tro cynta hefo Ysgol Sul Engedi i'r Bala, cael mynd i weld y Coleg, a heibio llyn am y tro cynta. Helpu rhyw wraig i hwylio ryw eneth fach ddwy flwydd oed mewn cadar am y pnawn, a chael chwegeiniog gwyn am wneyd. We dyna chi ffortiwn i eneth o'r wlad.

Pan ddoi gwyliau y Pasc ein gwaith ni y plant oedd hel cerig oddiar y caeau. Rhyw bedwar neu bump o honom a bwced bob un, a'r cynta i hel llond ei fwced ai roi yn y ferfa, cai hwnw glap o fingceg, bullseyes du mawr a streips gwyn arno yn wobr..

Hwyl a llawenydd i ni oedd y gwaith a gweld y ddol yn wyn o flodau llygad y dydd a
"Hwnnw mewn gwisg o aur ac arian,
Hwn agorodd y drws i'r gwanwyn ddyfod allan. 
Mi wn fod blodau lu o'th ôl yn ddirgel lechu
Rhag ofn yr oerwynt cry sydd dros y maes yn chwythu.
Ti broffwyd bethau braf wyt ini Nefol Genad,
Mae euraidd ddelw haf yn wir ym myw dy lygad"
-darn o adroddiad a ddysgais i hefo Miss Hughes yn Standard 2.

Diwrnod hapus i ni oedd pan ddywedai fy mam "Mi awn am dro pnawn i hel dail a blodau gwyllt i wneud diod dail". Dyna lle byddai Hwre fawr, a bob un o honom am y cynta i fwyta ein cinio, er mwyn cael cychwyn. Rhyw naw gwahanol ddeilen fydda gan mam i wneyd y ddiod. Gallaf ei henwi i gyd, a da oedd blas y ddiod.

*Llun: Hawlfraint yn eiddo i Dewi. Defnyddir yn unol â Thrwydded Comin Creadigol 'Attribution-ShareAlike 2.0'. Manylion pellach trwy ddolenni ar dudalen Wicipedia Huw Llwyd.

----------------------------------
Gallwch ddilyn y gyfres gyfa' trwy glicio ar y ddolen 'Pobl y Cwm' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.