Pennod arall o gyfres atgofion y diweddar Ellen Williams.
Roedd mynd ar grefydd y pryd hynny, roedd o yn rhan o'n bywyd bob dydd ni. Byddai cyrchu cyson i'r addoldai, a fawr neb yn cwyno ar ei fyd. Roedd yn pentre Llan Ffestiniog (Llan ar lafar gwlad) y pryd hynny Eglwys a'i henw St Michael.
Eglwys Sant Mihangel. Llun Paul W, Tachwedd 2015 |
Byddai gwasanaeth tair gwaith ar y Sul yn yr Eglwysi a ryw ddwywaith yn y capeli bach, a gwasanaeth tair gwaith pob wythnos, cyfarfod gweddi, Seiat, Gobeithlu, ac yn aml iawn cyfarfod darllen yn y Babell.
Byddai gan bob enwad un wyl arbenig bob blwyddyn. Yn Peniel, ar y Pasg, dechreu ar nos Sadwrn tan nos Lun, dwy pregeth nos Sul a nos Lun, naw o bregethau. Byddai y pentre i gyd yn uno, a neb yn blino. Bethel yn cynnal yr wyl ar yr ail Sul yn Gorphenaf, dechreu nos Sadwrn tan nos Sul. Shiloh yn cadw eu gŵyl ar y Sul cynta o Hydre, o nos Sadwrn i nos Sul, a byddent yn cael benthyg capel Peniel yn aml iawn, an fod Shiloh yn rhy fach, gan fod y pentre i gyd yn uno, a phawb yn ffyddlon a hapus o gael cyfle i glywed y newyddion da.
Hanes Cynta'r Achos yn y Babell Newydd o 1904-1946
Rwy'n cofio yn dda yr Hen Babell, a dod i'r Babell Newydd. Yn yr hen Babell y dysgais yr ABC, adnodau a'r penillion cynta a Rhodd Mam. Diwrnod mawr yn Cwm Cynfal oedd diwrnod agor y Babell newydd, Mehefin 1904.
Llun Paul W, Mai 2015 |
'Dyma Babell y cyfarfod,Roedd digon o luniaeth wedi ei baratoi yn y ffermydd o gwmpas i'r dieithriaid, a'r croeso yn gynnes a siriol. Bu pregethu grymus ac effeithiol dan fendith Duw, a daeth pawb yn ôl i'w cartrefi wedi clywed y newyddion da yn y Babell newydd am y tro cynta.
Dyma gymod yn y gwaed.'
Roedd Cymru gyfan ar dân y pryd hyny dan ddylanwad ac effeithiau y Diwygiad, pawb yn cyrchu tua'r capeli, o bob man. Bob capel yn y trefi a'r wlad yn orlawn. Roedd hyn wedi effeithio yn fawr ar y ddiadell yn y Babell.
Roedd pregeth yno bob pnawn Sul. Yr ysgol Sul yn y bore. Byddent yn cydnabod y Deg Gorchymyn a'r Gwynfydau bob yn ail y Sul cynta yn mhob mis. Cyfarfod Gweddi nos Lun, Cyfarfod darllen nos Fawrth, Seiat nos Iau, a'r gobeithlu nos Wener.
Roedd Cwm Cynfal yr adeg hono yn mynychu Y Babell fel un, pawb o bob enwad, doedd dim gwahaniaeth, y ddwy ochr i Afon Cynfal, heb fod ymhell o ryw dri dwsin o ffermydd mawr a bach. Dau deulu o Saeson oedd yn byw yn y Cwm yr adeg honno, un yn Hafod Fawr Ucha a'r llall yn y Wenallt.
Nid oedd pawb o bob man yn dod i'r Babell yn rheolaidd, eraill yn ffyddlon a chyson yn mhob cyfarfod, rhai eraill yn dod ar rhyw achlysuron neillduol fel cyfarfod Diolchgarwch, neu gyfarfod llenyddol, neu i roi help gyda'r canu at rhyw gystadleuaeth arbennig.
Roedd yn rhaid cael rhywun i lanhau ac i edrych ar ôl y capel bach, a disgynodd hynny i ran fy mam, felly cefais i a fy chwaer y fraint yn ieuanc i fynd yn ôl a blaen i'r capel gyda Mam i'w lanhau. Rhyw naw oed oeddwn ar y pryd, a fy chwaer fach ryw bedair oed.
---------------------------------------
Ymddangosodd yr uchod yn wreiddiol yn 2000.
Gallwch ddilyn y gyfres gyfa' trwy glicio ar y ddolen 'Pobl y Cwm' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon