Showing posts with label Eglwys Sant Mihangel. Show all posts
Showing posts with label Eglwys Sant Mihangel. Show all posts

3.1.24

Tŷ'r Wern

Er bod gweddillion yr adeilad eglwysig canoloesol oedd yn sefyll ar safle Tŷ Wern wedi eu dymchwel i wneud lle i’r adeilad presennol, mae’r adeilad ‘newydd’ yn dal i fod yn adeilad deniadol ar safle ysblennydd uwchben Dyffryn Maentwrog. 


Mae wedi hen gymryd ei le fel adeilad trawiadol i’w weld o bellter sylweddol yn sefyll uwchben yr Allt Goch sydd yn hen dramwyfa o Ffestiniog i lawr i’r dyffryn. Y mae gobaith bellach y bydd yr adeilad yn cael ei gadw diolch i’r cynlluniau fydd yn dod a'r adeilad yn ôl fel rhan o’r gymuned.

 





Codwyd yr adeilad yn 1844/5 fel eglwys newydd dan arweiniad Henry Kennedy a hwn oedd yr adeilad cyntaf a godwyd gan gomisiwn eglwysig Esgobaeth Bangor dan ei arweiniad. 

 

 

 

Gwerthwyd yr adeilad yn 2015 wedi cryn drafferthion ariannol ac adeiladol costus. Gwerthwyd gan yr esgobaeth gyda’r amodau annisgwyl canlynol!

1.    Dim cynhyrchu alcohol ar y safle, ei ddosbarthu na’i werthu
2.    Ni ellir defnyddio'r adeilad at bwrpas crefyddol
3.    Ni ellir ei ddefnyddio at bwrpas anfoesol neu bwrpas fyddai’n tramgwyddo. Nac fel clwb fyddai’n swnllyd ac yn fwrn ar y gymdeithas leol. Gwaherddir priodasau sifil.
4.    Ni ellir galw'r adeilad yn Eglwys (San Mihangel) ac ni ellid defnyddio’r adeilad at unrhyw bwrpas fyddai’n debyg i’w bwrpas blaenorol fel eglwys ac ni ellir defnyddio'r enw Michael, yn swyddogol, mewn perthynas â’r adeilad.

 

 

Gyda chefnogaeth y Cyngor Tref, gellir bod yn hyderus y bydd y cynlluniau ar gyfer troi Tŷ Wern yn adeilad cymunedol yn llwyddo i fynd drwy’r holl broses o gael caniatâd.






Ar Ddydd Sadwrn, Hydref 21ain, bu sesiwn galw i mewn yn yr hen eglwys gyda’r pensaer Rhys Llwyd Davies i gael sgwrs am y cynlluniau ac mi fu llawer iawn yno i glywed am y syniadau.

- - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn rhifyn Tachwedd 2023.

Lluniau Tecwyn V Jones, Paul W

Dolen: Y Cyngor Tref yn cefnogi


31.12.23

Senedd Stiniog -cynghorwyr a chynlluniau

Pytiau o adroddiadau David Meirion Jones, o gyfarfodydd Cyngor Tref Ffestiniog

Dymunwn ddiolch o galon i’r Cynghorydd Rory Francis am ysgrifennu’r golofn hon dros y cyfnod diweddar.  

Aelodau Newydd o’r Cyngor: Braf cael dweud, yn dilyn apêl Rory, fod dau aelod newydd wedi ymuno â’r Cyngor.  Wedi i’r Cyngor gytuno i’w cyfethol, rhoddwyd croeso swyddogol i Gareth Glynne Davies a Troy McLean.  

Siom enfawr oedd y datganiad fod Y Cyng. Glyn Daniels wedi ymddiswyddo.  Colled enfawr i’r Cyngor Tref ac i’r ardal.  Prysurdeb gwaith a bywyd oedd rhesymau Glyn am roi’r gorau iddi, job ei dal hi’n bob man tydi?!  Mae am barhau yn ei swydd fel Cynghorydd Sir.

Yn y cyfarfod dilynol cyfetholwyd tri ymgeisydd newydd arall i’r Cyngor. Peter Alan Jones (Pete Boys) a minnau, David Meirion Jones (Dei Mur) dros Rhiw a Bowydd a Dewi Prysor Williams dros Diffwys a Maenofferen. Golygai hyn fod pum aelod newydd wedi ymuno â’r Cyngor dros y ddau fis diwethaf.  

Mae seddi Rhiw a Bowydd bellach yn llawn, ond mae seddau gweigion yn dal i fod, ac os oes gennych ddiddordeb, yna cysylltwch â’r Clerc yn y swyddfa yn y Ganolfan am fwy o fanylion os gwelwch yn dda.

Cwmni Bro: Siaradodd Ceri Cunnington, a oedd yn bresennol fel cynrychiolydd Cwmni Bro, am rôl y cwmni yn yr ardal.  Rhoddodd gyflwyniad o’u hanes a’u bwriad.  Pwysleisiodd eu bod yn annibynnol ond ei fod yn bwysig i gael y Cyngor yn gefn ac i gael pawb yn cyd-dynnu fel petai.  Eglurodd eu bod yn cydlynu pymtheg menter, a bod cydweithio’n hollbwysig wrth rwydweithio a chydweithio am grantiau.  Un elfen o’r gwaith yw twristiaeth, a’u bod hefyd yn cynhyrchu pethau gan ail-fuddsoddi unrhyw elw yn ôl i’r gymuned.  Cylchdroi a datblygu’n lleol ydi’r nod a dywedodd fod Antur Stiniog bellach yn rhedeg Eifion Stores a bod cynlluniau ar gyfer yr hen Siop Effraim ar y gweill.  Diolchodd y Cyngor iddo am ei gyflwyniad a dywedodd y Cyng. Rory Francis yr hoffai weld y Cyngor yn gweithio’n agosach gyda’r mentrau ac y dylai fod gwell cyfathrebiaeth rhyngddynt.  Cytunwyd yn unfrydol ar hyn gan obeithio y bydd y Cyngor yn derbyn cofnodion gan y mentrau gwahanol o hyn ymlaen.

Tŷ’r Wern: Os ydych yn darllen y golofn hon yn rheolaidd gwyddoch fod y Cyngor, yn ddadleuol iawn, wedi pleidleisio yn erbyn cais i ddatblygu hen Eglwys San Mihangel yn Llan Ffestiniog, neu Tŷ’r Wern fel y'i gelwir heddiw.  Y rheswm a roddwyd oedd tybio y byddai adeilad cymunedol arall o’r fath yn mynd yn groes i ddidordebau Neuadd y Pentref a’r Pengwern.  

Mae’n debyg fod y penderfyniad yma, a dweud y lleiaf, wedi codi gwrychyn pentrefwyr Llan, a daeth ambell aelod o bwyllgorau’r Pengwern a’r Neuadd a'r Wern i’r cyfarfod i egluro’r sefyllfa i’r Cyngor.  

Soniodd Andrew Williams (Crym), un sy’n weithgar yn y Wern, ychydig am gefndir y datblygiad.  Dywedodd mai arian dyn o’r enw Nigel Morris, sydd a’i wreiddiau yn yr ardal, sydd tu cefn i’r fenter a’i fwriad yw defnyddio ei bres er lles yr ardal.  Prynodd yr Eglwys, gyda phres ei hun, pan yn wag a doedd gan Cadw na’r Eglwys ddim diddordeb mewn gofalu am yr adeilad a doedd dim cymorth ariannol i’w gael ganddynt.  Aiff ymlaen i egluro mae’r bwriad o’r cychwyn oedd cydweithio gyda’r Pengwern a’r Neuadd er lles y pentref.

Eglurodd fod y fenter yn fwrlwm o syniadau cyffrous fel cynnal cyrsiau i bobl ifanc ar sut i ddatblygu busnesau a dysgu rheoli arian ac yn y blaen. Hefyd cynnig gwasanaeth gosod blodau ar feddi’r fynwent i bobl sy’n byw i ffwrdd a methu dod adref ar ddyddiadau arbennig, a gwneud hyn drwy brynu blodau gan Seren, fyddai eto’n rhannu’r arian yn yr ardal.  Gobeithir cael caffi bach yno a marchnad fach bob hyn a hyn fyddai’n gwerthu nwyddau a chynnyrch lleol yn ogystal â chynnal ambell i gyngerdd. A go brin, meddai, fysa rhywun sy’n mynd i gyngerdd ddim yn piciad i’r Pengwern am beint bach yn gyntaf!

Dywedodd Meic Halliday a Dyfed Jones-Roberts, oedd yno ar ran pwyllgor Y Pengwern, eu bod yn llwyr gefnogi’r fenter, a’i fod yn ddatblygiad cyffrous fydd yn sicr o fod o les i’r pentref ac y byddai Llan yn elwa o’r herwydd.

Cynhaliwyd Cyfarfod Arbennig yn ddiweddarach a phledleiswyd o blaid y cynlluniau ar gyfer Tŷ’r Wern. Bydd llythyr arall yn cael ei yrru at bwyllgor cynllunio'r Parc Cenedlaethol yn mynegi hyn.

Mwy o wybodaeth am Dŷ'r Wern.

Iechyd: Mynegodd aelod o’r Cyngor fod pryder ymysg rhai o drigolion y dref am brinder a chysondeb meddygon teulu ym mhractis Blaenau Ffestiniog. Eiliwyd cynnig i ddanfon llythyr at y Rheolwr Practis yn gofyn iddi faint o feddygon teulu parhaol/rheolaidd sydd yn gysylltiedig â’r practis ar hyn o bryd a beth yw cynlluniau’r practis at y dyfodol.

Materion eraill ar yr agenda sydd o bwys i’r cyhoedd efallai yw bod y dref am dderbyn cyfrifoldeb dros gynnal a chadw hysbysfyrddau UNESCO yn y dref.  Bydd y rhain wedi eu lleoli yn Diffwys, ger Caffi Antur.  I’w trafod yn y dyfodol agos fydd cyflwr toiledau Diffwys a’r cyfrifoldeb amdanynt sydd rhwng y Cynghorau Tref a Sir yn bresennol, a’r posibilrwydd o gael maes parcio ychwanegol yng Nghongl y Wal.

Cynllun Hydro: Trafodwyd cynllun hydro newydd ar gyfer Cwm Cynfal. Bwriad teulu o ffermwyr lleol ydi gosod tyrbin, a all gynhyrchu trydan i oddeutu 400 o dai, yn y Cwm. Bu sôn am brosiect o’r fath yn y gorffennol ond fe'i wrthwynebwyd am resymau gwahanol ac oherwydd hyn, penderfynwyd gael nifer o adroddiadau oedd yn ymwneud â’r pryderon hynny, megis yr effaith amgylcheddol ayyb. Cafwyd cyflwyniad gan frodyr y teulu, ble’r eglurwyd y byddai cyfnod ymgynghori cyn cyflwyno’r cais cynllunio’n ffurfiol. Eglurwyd y gall trigolion lleol elwa o’r cynllun hefyd, drwy dderbyn trydan rhatach wrth ymuno mewn rhyw fath o Glwb Ynni. Byddai rhaid adeiladu cored, neu ‘weir’, i arall-gyfeirio rhywfaint o’r afon, adeiladu cwt olwyn fesur a ballu. 

Cytunodd y Cyngor ei fod yn gynllun uchelgeisiol ond fod nifer o gwestiynau dal angen cael eu hateb. Y bwriad yw trefnu ymweliad â’r safle i gael gwell golwg ar y lleoliad a thrafod mwy am y mater. (Er gwybodaeth, i unrhyw un sy’n dioddef o ddiffyg cwsg, mae’r ddogfen gais a’r cynlluniau arfaethedig i’w gweld yn eu cyfanrwydd – dros fil o dudalennau - yn Llyfrgell y Blaenau- ac mae croeso i bawb sydd â diddordeb fynd yno i bori drostynt).

Theatr Bara Caws: Cytunwyd ar gais gan Theatr Bara Caws am gymorth ariannol i berfformio yn yr ardal. Dywedwyd nad oedd hyn yn beth newydd a phwysleiswyd ar bwysigrwydd ymweliadau’r Theatr i’r ardal a chael pharhâd diwylliant Cymraeg cyfoes yma.

CCTV: Mae’r ddadl ynglyn â’r system CCTV yn y Stryd Fawr yn parhau. Mae’n bwnc llawer rhy gymhleth i’r gohebydd hwn ar hyn o bryd, ond yn frâs, fel hyn ma’i, y bwriad ar hyn o bryd yw ailosod rhyw 5 neu 6 camera cylch cyfyng. Cyn mynd ymlaen fodd bynnag, mae’r Cyngor yn awyddus i glywed beth yw’r farn am hyn yn lleol. Penderfynwyd mae’r ffordd orau o wneud hyn fyddai rhoi papur yn y siopau lleol i holi barn. 


Cynhelir y cyfarfodydd llawn ar ail ddydd Mawrth pob mis, am saith o’r gloch, yn y Ganolfan.

- - - - - - - - - - - - 


Addasiad o ddarnau hirach a ymddangosodd yn rhifynnau Tachwedd a Rhagfyr


5.10.21

Blas o Waith Cwmni Bro

Mae ‘na lwyth o newyddion da wedi dod o waith a phrosiectau y rhwydwaith cymunedol! Dyma flas o be' sydd ar y gweill.

Ymchwil Cymunedol

Ers rhai wythnosau, mae Cwmni Bro wedi bod yn cynnal ymchwil i ddarganfod barn pobl leol am y gymuned. Bydd yr atebion yn helpu i’r mentrau cymunedol ddeall beth sydd wir o bwys i’r gymuned, ac yn helpu i siapio datblygiadau cymunedol y dyfodol.

Sganiwch y côd ‘QR’ ar ein hysbyseb i lenwi’r holiadur ar y wê, neu cysylltwch â Chwmni Bro i gael copi papur!


Y camau nesaf fydd cynnal grwpiau ffocws i drafod y cwestiynau a rhannu syniadau – plîs cysylltwch os ydych chi’n aelod o gymdeithas neu grŵp sydd â diddordeb.

Hen Eglwys Llan

Ar ôl misoedd o waith adnewyddu ahnygoel, mae hen Eglwys Sant Mihangel Llan Ffestiniog bron yn barod i agor ei drysau unwaith eto fel gofod i’r gymuned.
Yn yr haf, cynhaliwyd weithdai adeiladwaith traddodiadol i ddatblygu sgiliau’r mynychwyr tra’n parhau efo’r adfer allanol. 

Mae’r perchnogion newydd yn awyddus i glywed syniadau trigolion yr ardal am sut gall yr adeilad gael ei ddefnyddio er budd y gymuned, a felly cafwyd sesiwn drafod yn y Llan. Os nad oedd modd i chi ymuno, cysylltwch â ni ar 831 111, neu drwy ebostio cwmnibro@cwmnibro.cymru i ychwanegu eich syniadau!

Blaentroed 

Mae’r cynllun Blaentroed yn rhedeg gyda mwy o stêm na thrên bach Ffestiniog. Hyd yma, mae ambell i berson ifanc wedi cychwyn eu gwaith, a llwyth o swyddi amrywiol eraill –o weithio yn y Siop Werdd i fod yn dafluniwr yn Sinema CellB- yn cael eu hysbysebu. 

Mae’r swyddi’n agored i bobl ifanc rhwng 16 a 25 mlwydd oed sydd ar gredyd cymhwysol, ac yn cael eu hysbysebu drwy’r ganolfan waith ym Mhorthmadog.



8.7.21

'Stiniog o'r Wasg Ers Talwm -Eglwysi

Wedi egwyl o rai misoedd, dyma geisio ail-gydio yn y gyfres am hanes newyddiaduriaeth sy’n cyfeirio’n benodol at ardal ’Stiniog. 

Vivian Parry Williams

Os cofiwch, roeddem wedi cyrraedd newyddion Awst 1840, a hanes gosod carreg gyntaf yn adeilad Eglwys Dewi Sant yn y Blaenau. Felly, ymlaen â ni.

Ymhen dwy flynedd, cyhoeddodd y North Wales Chronicle erthygl ar 11 Hydref 1842 ar achlysur cysegru Eglwys Dewi Sant yn y Blaenau ar y 29 o Fedi, gan gynnwys disgrifiad o'r safle, a roddwyd yn hael gan yr Arglwydd Newborough ... ‘one of the most striking that can be imagined, from the wilderness of the scenery surrounding it’ …  gan ychwanegu ei fod dros fil o droedfeddi uwch y môr, ac yn noeth o unrhyw dyfiant, oherwydd y creigiau a'r tomennydd.  Yn dilyn ei fanylder am ddaearyddiaeth yr ardal, disgrifiodd sut roedd y chwareli wedi tynnu poblogaeth sylweddol i'r ‘this otherwise barren and dreary region’ ...

Cafwyd mwy o hanes cysegru'r eglwys yn y NWC, ymysg papurau newyddion eraill, a bu adroddiad ar yr achlysur pwysig yn hanes bro Ffestiniog yn y papur ceidwadol hwnnw ar 18 Hydref 1842. 

Cyfansoddwyd cerdd arall, y tro hwn ‘supposed to be written by one of Mrs Oakeley’s School Children...’, oedd yn llawn moliant i noddwraig y fenter.

‘O Lady blessed, of undying fame,
Our tears will flow at mention of thy name;
May our dear children’s children join in praise
To HIM, who fill’d thy heart with wisdom ways,
And honor’d thee with wealth; gave thee the will
To raise this Structure; thus His work fullfil;
For when they worship in this House of Prayer,
They’ll think of thee in Heaven, and bless thee there,
Hoping to meet thee, when beneath the sod
Their bodies rest – their souls return to God.’             

Yn ddiweddarach, eto yn y NWC, ar 31 Ionawr 1843 gwelir hanes y cynlluniau i godi eglwys Anglicanaidd yn Llan ‘Stiniog. Fel yn hanes codi Eglwys Dewi Sant yn y Blaenau, yr Arglwydd Newborough roddodd y tir i ar gyfer yr adeilad, a darn helaeth arall i ehangu’r fynwent, oedd yn eitha’ llawn ar y pryd. Noddwraig yr eglwys yn y Blaenau, Mrs Oakeley, Plas Tan-y-bwlch, a arweiniodd y gad ariannol eto, gyda rhodd gychwynnol tuag at yr achos o £200. Er i’r gwaith o godi eglwys y Llan gael ei arafu gan brinder cyfalaf, roedd y gobaith o gael cychwyn ar yr adeiladu yn cryfhau, gyda’r canlynol wedi ei gyflwyno i’r coffrau: Mrs Oakeley £200; Esgob Bangor £50; Arglwydd Newborough £50; Mr Banks £50; teulu Blaen-y-ddôl £60, ynghyd â nifer o roddion ariannol eraill dan £25. Ond roedd un wraig ddylanwadol arall wedi cyfrannu hefyd, sef gweddw’r cyn-frenin, William y 4ydd, neu’r Queen Dowager, yn ôl gohebydd yr Hull Packet and East Riding Times ar 2 Mehefin 1843. Er na wyddys beth oedd ei chysylltiad â Stiniog, fe gyfrannodd hithau ugain punt tuag at yr achos.

I aros ar bwnc crefydd yr ardal, cafwyd adroddiad yng ngholofn newyddion Ffestiniog yn y NWC ar 11 Gorffennaf 1843 yn profi i'r Pabyddion gael lle i addoli yn y plwyf. Gwahoddwyd rhai o'r ffydd honno, a fyddent yn digwydd mynd drwy'r fro ar y pryd, i alw i mewn yn y lle oedd, yn ôl y gohebydd, ‘a room fitted up for Divine Worship, in the house of a respectable Catholic family’ ... Rhywbeth dieithr iawn y cyfnod hwnnw oedd gweld teulu o Gatholigion o fewn terfynnau'r plwy'; tybed ym mha le yma oedd y teulu hwnnw'n byw? 

-----------------------------------------
 
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2021


27.3.16

Trem yn ôl -Plas Tanymanod

Mae llawer o hen dai a phlasdai Bro Ffestiniog wedi diflannu bellach. Dyma bennod o'r gyfres Trem yn ôl: erthyglau o lyfr 'Pigion Llafar 1975-1999', yn trafod un ohonynt

TANYMANOD
Disgrifwyd hen blasdy Tanymanod gan y ddiweddar Mrs K. Jones-Roberts (Tai hanesyddol Blaenau Ffestiniog a’r Cylch. Cyf. 3; tud. 263-274) fel yr unig dŷ sy’n sefyll yn y Blaenau heddiw sydd o ddiddordeb hanesyddol. Bellach ‘ei le nid edwyn ddim ohono ef mwy’. Fe’i tynnwyd i lawr, ac adeiladwyd tai del yn y llecyn a elwir yn awr yn Maes y Plas.

Safodd yr hen dŷ am dair canrif. Trigai’r Fychaniaid yno yn niwedd yr ail-ganrif-ar-bymtheg – hen deulu Corsygedol, Rhug a Hengwrt. Bu John Vaughan, yr olaf i fyw yno, farw yn ddibriod yn Ebrill 1961. Gwnaeth ef ei orau i gadw’r hen dŷ’n raenus, ond ar ôl ei farw aeth yr hen adeilad ar ei waethaf, yn hanner murddyn. Prynwyd y tŷ cyn hir, yn Hydref 1971, gan Gyngor Ffestiniog a dechreuwyd ei chwalu y flwyddyn ddilynol.

Llun Gareth T Jones, tua 1970
Mae yn Archifau Amgueddfa Werin Cymru lythyr a ysgrifennwyd ym Medi 1959 gan John Vaughan Ysw., i’r  Curadur y pryd hynny, Dr. Iorwerth Peate. Ynddo ceisia olrhain hanes ei hen gartref. Mae’r llythyr, nid yn unig yn ddiddorol ond fe deifl olau ar agweddau yn hanes y teulu. Dyma yn ddiau yw’r ddogfen olaf a ysgrifennwyd ynglŷn â’r tŷ gan un o aelodau olaf hen deulu arbennig iawn. A dyma fras gyfieithiad ohono:

Tanymanod Hall,
Blaenau Ffestiniog.
Annwyl Dr. Peate,
Er pan lwyddais i gael yr hen le hwn wedi ei gofrestru fel lle o ddiddordeb hanesyddol ym Mai 1954, bûm yn ymdrechu droeon i gael gafael ar ddyddiad ei adeiladu.
Roedd yr arbenigwyr a ddaeth o Gaerdydd, i bwrpas ei gofrestru, mewn cryn ddryswch ynglŷn â’r adeiladwaith. Rwyf fi o’r farn ei fod, yn wreiddiol, yn un o’r ‘Tai Hirion’, at yr hwn yr adeiladwyd yn ddiweddarach, le croes. Yr awgrym o ddyddiad a roddais i i’r arbenigwyr oedd 1696. Wrth ymadael, eu geiriau oedd, ‘Gall fod yn hŷn nag y tybiwch chwi’ ....
Yr oedd yn wreiddiol yn dŷ fferm, a gwn i’m hendaid ei amaethu. Ar un talcen yr oedd ar un adeg olwyn ddŵr i’r corddwr.
Mor hardd oedd ei sumerydd o dderw du, ac un o’r enghreifftiau godidocaf o’r hen simdde fawr ... yr enghraifft orau a welais i .... Mae talcen y simdde fawr a’r sumerydd cloi yn debyg i’r rhai sydd yn Hafod Ysbyty.
Y mae carreg fedd ym mur un o’r ystafelloedd byw ac arni’r geiriau,
Underneath lieth the body of William
Vaughan of Tanymanod who died on the
third day of June 1763 in the 96th
year of his age ...

Also Anne Vaughan their daughter and
wife of William Richard. She was
buried July 1st 1815 aged 42 years.’
Daethpwyd â’r garreg hon o fynwent Eglwys Ffestiniog pan yn symud yr adeilad ymhellach yn ôl na’i safle wreiddiol...
Eto wedi’i hoelio yn nistyn traws y simdde fawr ceir rhimyn o dderw du a’r geiriau canlynol wedi’u cerfio arno: ‘John Vaughan, Tanymanod 1777.’
Daeth y rhimyn derw du oddi ar gefn sêt y teulu yn Eglwys Ffestiniog. Nid oes angen ychwanegu i ddarganfod y llechi beri bod yn rhaid adeiladu tai, ac i hynny gymryd y tir amaethyddol a berthynai i’r stad; ac yn ddiweddarach i’r Cyngor drwy roi gorchymyn o orfodaeth i ni i werthu tir i adeiladu beth sydd wedi troi allan yn anghenfil o ystad o dai, sydd bellach yn boenus o agos at Danymanod. Dyna pam y gwnaf bopeth yn fy ngallu i sirchau parhâd yr hen dŷ.
Carwn ddweud i’ch enw gael ei roddi i mi gan Mr John Cowper Powys sy’n byw gerllaw.
Yr eiddoch yn ddiffuant,
John Vaughan.

--------------------------------------


Tecwyn Vaughan Jones oedd yr awdur. Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 1980, ac yna yn llyfr Pigion Llafar a gyhoeddwyd i nodi'r milflwyddiant yn 2000.
Bu yn rhifyn Chwefror 2016 hefyd, yn rhan o gyfres Trem yn ôl.

22.1.16

Pobl y Cwm- addoli

Dyddiau fu yng Nghwm Cynfal.    
Pennod arall o gyfres atgofion y diweddar Ellen Williams.
 
Roedd mynd ar grefydd y pryd hynny, roedd o yn rhan o'n bywyd bob dydd ni. Byddai cyrchu cyson i'r addoldai, a fawr neb yn cwyno ar ei fyd. Roedd yn pentre Llan Ffestiniog (Llan ar lafar gwlad) y pryd hynny Eglwys a'i henw St Michael.

Eglwys Sant Mihangel. Llun Paul W, Tachwedd 2015
Capeli yr amser hynny: Bethel. Capel Wesla, Shiloh. Capel Peniel, Methodist, a Capel Engedi, Methodist. Hefyd capelau bach y wlad, Y Babell, cangen o eglwys Engedi. Horeb a Rhydsarn, canhenau o eglwys Peniel, a capel bach Pant Llwyd, yn rhanog o Peniel a Engedi.

Byddai gwasanaeth tair gwaith ar y Sul yn yr Eglwysi a ryw ddwywaith yn y capeli bach, a gwasanaeth tair gwaith pob wythnos, cyfarfod gweddi, Seiat, Gobeithlu, ac yn aml iawn cyfarfod darllen yn y Babell.

Byddai gan bob enwad un wyl arbenig bob blwyddyn. Yn Peniel, ar y Pasg, dechreu ar nos Sadwrn tan nos Lun, dwy pregeth nos Sul a nos Lun, naw o bregethau. Byddai y pentre i gyd yn uno, a neb yn blino. Bethel yn cynnal yr wyl ar yr ail Sul yn Gorphenaf, dechreu nos Sadwrn tan nos Sul. Shiloh yn cadw eu gŵyl ar y Sul cynta o Hydre, o nos Sadwrn i nos Sul, a byddent yn cael benthyg capel Peniel yn aml iawn, an fod Shiloh yn rhy fach, gan fod y pentre i gyd yn uno, a phawb yn ffyddlon a hapus o gael cyfle i glywed y newyddion da.

Hanes Cynta'r Achos yn y Babell Newydd o 1904-1946

Rwy'n cofio yn dda yr Hen Babell, a dod i'r Babell Newydd. Yn yr hen Babell y dysgais yr ABC, adnodau a'r penillion cynta a Rhodd Mam. Diwrnod mawr yn Cwm Cynfal oedd diwrnod agor y Babell newydd, Mehefin 1904.

Llun Paul W, Mai 2015
Bu paratoi brwd gan bawb yn y Cwm at yr amgylchiad, a gwawriodd y diwrnod yn heulog a braf, a bobl yn dylifo yno o bob cyfeiriad. Bu tair pregeth yno, a'r capel bach yn orlawn bob oedfa. Y cynta i bregethu yno oedd Parch Thomas Lloyd, gweinidog Engedi, cangen o eglwys Engedi oedd y Babell y pryd hynny. Yr Emyn gynta a ganwyd oedd Emyn 207:
'Dyma Babell y cyfarfod,
Dyma gymod yn y gwaed.'
Roedd digon o luniaeth wedi ei baratoi yn y ffermydd o gwmpas i'r dieithriaid, a'r croeso yn gynnes a siriol. Bu pregethu grymus ac effeithiol dan fendith Duw, a daeth pawb yn ôl i'w cartrefi wedi clywed y newyddion da yn y Babell newydd am y tro cynta.

Roedd Cymru gyfan ar dân y pryd hyny dan ddylanwad ac effeithiau y Diwygiad, pawb yn cyrchu tua'r capeli, o bob man. Bob capel yn y trefi a'r wlad yn orlawn. Roedd hyn wedi effeithio yn fawr ar y ddiadell yn y Babell.

Roedd pregeth yno bob pnawn Sul. Yr ysgol Sul yn y bore. Byddent yn cydnabod y Deg Gorchymyn a'r Gwynfydau bob yn ail y Sul cynta yn mhob mis. Cyfarfod Gweddi nos Lun, Cyfarfod darllen nos Fawrth, Seiat nos Iau, a'r gobeithlu nos Wener.

Roedd Cwm Cynfal yr adeg hono yn mynychu Y Babell fel un, pawb o bob enwad, doedd dim gwahaniaeth, y ddwy ochr i Afon Cynfal, heb fod ymhell o ryw dri dwsin o ffermydd mawr a bach. Dau deulu o Saeson oedd yn byw yn y Cwm yr adeg honno, un yn Hafod Fawr Ucha a'r llall yn y Wenallt.

Nid oedd pawb o bob man yn dod i'r Babell yn rheolaidd, eraill yn ffyddlon a chyson yn mhob cyfarfod, rhai eraill yn dod ar rhyw achlysuron neillduol fel cyfarfod Diolchgarwch, neu gyfarfod llenyddol, neu i roi help gyda'r canu at rhyw gystadleuaeth arbennig.

Roedd yn rhaid cael rhywun i lanhau ac i edrych ar ôl y capel bach, a disgynodd hynny i ran fy mam, felly cefais i a fy chwaer y fraint yn ieuanc i fynd yn ôl a blaen i'r capel gyda Mam i'w lanhau. Rhyw naw oed oeddwn ar y pryd, a fy chwaer fach ryw bedair oed.
---------------------------------------


Ymddangosodd yr uchod yn wreiddiol yn 2000.
 
Gallwch ddilyn y gyfres gyfa' trwy glicio ar y ddolen 'Pobl y Cwm' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

21.7.15

Llyfr Taith Nem- "i'r alltud, dyma baradwys"

Dyma erthygl a ymddangosodd fel rhan o'r golofn 'Ar Wasgar' gan alltudion Bro Ffestiniog, yn rhifyn Rhagfyr 1997. Datblygodd yn gyfres ei hun, a cawn eu mwynhau eto dros y misoedd nesaf. Dyma'r cyntaf, efo'r cyflwyniad gwreiddiol. 

Dyma’r bennod cyntaf allan o LYFR TAITH NEM.  Roedd Nem Roberts, (neu Nem Rhydsarn) yn gymeriad rhyfeddol, a bu'n alltud am ddegawdau cyn dychwelyd i’w filltir sgwâr.  Ar ôl gadael yr ysgol a chael mân swyddi yn y Blaenau, teithiodd i’r Unol Daleithiau ym 1907 a buan sylweddolodd mai ‘gŵr tlawd ydyw’r gŵr sydd heb ddim crefft’.  Aeth o swydd i swydd yno hefyd gan deithio miloedd o filltiroedd, a bu'n ddi-waith am gyfnodau hir yno.  Dywed mai croniclo profiadau gonest yw hanfod llenyddiaeth, ac yn achlysurol dros y misoedd nesaf cawn ddarllen am ei anturiaethau a’i sylwadau ffraeth.  Diolch i Pegi Lloyd Williams am gael benthyg ei ddogfennau.


A mi erbyn hyn yn hen ŵr, mae atgofion yn llawer melysach na gobeithion, ac wrth edrych yn ôl ar fy mywyd, teimlaf nad taith fu bywyd i mi, ond amryw deithiau.  Teithiau o’r naill le i’r llall, o’r naill waith i’r llall ac o’r naill gymdeithas i’r llall.

Fel pob teithiwr, gwelais amryw o ryfeddodau, rhai mwyn a rhai trychinebus,  a gwelais lawer olygfa hardd mewn natur ac mewn cymdeithas.  Ond fel pob alltud o Flaenau Ffestiniog, yr olygfa a erys yn fy meddwl ydyw’r olygfa a geir yn y trên wrth deithio gartref o Gyffordd Llandudno i’r Blaenau.  I’r alltud, dyma baradwys.  Gweld yr hen wlad ym mherffeithrwydd ei thlysni, y ceunentydd a’r ffriddoedd, y mynyddoedd o bob tu fel yn pe’n ceisio taflu trem yn uwch na’i gilydd.

Amryliw y coed ger afon Ledr a mawrhydi Moel Siabod fel pebai’n edrych yn oddefgar ar feibion dynion wrth ei draed, a chastell Dolwyddelan yn sefyll fel gwyliedydd ac fel pe yn cadw trefn ar fywyd.

Fel yr aiff y trên yn nes at y Blaenau mae pob peth fel petai’n mynd yn brydferthach, ond mae’n debyg mai y rheswm an hynny ydyw fod y galon yn curo’n gyflymach wrth nesu tuag adref, oherwydd wedi’r cyfan ‘Does unman yn debyg i gartref’.

Wedi rhyw dri chwarter awr o deithio dyna’r trên yn mentro i mewn i grombil y mynydd, ac yna daw golau dydd drachefn, a beth wel y teithiwr cyffredin tybed?  Tomennydd o rwbel llechi ar bob ochr.  Ond nid dyna welaf i, nage yn wir, tomennydd o aur pur, sef yr aur hwnnw a ddwed wrthyf fy mod yn nhre fy mabandod.

Dyna nhw yn hen chwareli, mangre’r hwyl, mangre diwylliant a mangre aberth.  Daw wynebau llawer o’r hen gymeriadau o flaen fy meddwl fel rhyw banorama, a’r naill adgof ar ôl y llall fel pe yn ceisio cael y blaen ar eu gilydd.

Dyna’r Moelwyn fel rhyw gawr anferth ar un ochor a’r Manod yr ochor arall, a rhwng y ddau Clogwyn Bwlch y Gwynt yn edrych i lawr ar hen eglwys Dewi Sant.

Mae Blaenau Ffestiniog fel pe mewn nyth yng nghanol y mynyddoedd, a’r mynyddoedd hynny yn taflu rhyw adain amddiffynnol dros y dre, a chredaf fod cadernid y mynyddoedd yng nghymeriadau’r ardalwyr.  Dyna aiff drwy fy meddwl wrth gerdded y brif heol tua’r Manod at y tŷ bychan yn Glasfryn, lle gwelais gyntaf olau dydd ar yr ail o Ebrill 1884.

Saer coed oedd fy nhad, ac fe adnabyddid ef fel John Roberts yr Hen Saer, yn Chwarel Lord, lle y gweithiodd am 50 mlynedd.  Efe oedd yn gofalu am yr olwynion dŵr a’r cafnau oedd yn symud y peiriannau yn y melinau hollti cerrig.  Yr oedd yn ddyn medrus gyda pheiriannau o bob math, ac felly yn weithiwr mawr ei barch.  Treuliodd beth amser yn yr Unol Daliaethau cyn priodi.  Un o ardal Abererch, ger Pwllheli, oedd fy nhaid, a geneth o Harlech oedd fy nain.  Ganed fy mam yn Rhydsarn heb fod yn bell o gartref Tanymarian.

Dechreuodd fy nhad a mam eu bywyd priodasol mewn tŷ yn dwyn yr enw hyd heddiw ‘Tŷ Pwdin’, ar dir Chwarel Lord, ac yna symudasant i Glasfryn.  Cawsanat chwech o blant ac ai’r teulu i Capel Bethesda M.C. i grefydda.  Rhyddfrydwr brwd oedd fy nhad, ond am rhyw reswm yn etholiad derfysglyd Morgan Lloyd, trodd at y Ceidwadwyr.  Yn ystod y cyfnod hwnnw, ymddengys bod yn arferiad i’r Ceidwadwyr grefydda yn yr Egwlys, a chefnodd fy nhad ar y capel a myned i grefydda i Eglwys Blwyfol St. Michael yn Llan Ffestiniog.

Pan oeddwn yn dair oed symudodd y teulu i fyw i Rhydsarn, er mwyn gofalu am fy Nain.  Ar y Sul byddem yn cerdded i fyny i’r Llan i’r Eglwys, ond rhaid i mi fod yn onest a dweud mai ychydig iawn oeddwn yn wrando ar y gwasanaeth, a fy hoff beth oedd tynnu darluniau o’r ficer yn y pwlpud.

Mae’n debyg i mi ddifetha llawer i lyfr canu a llyfr gweddi pan nad oedd papur ar gael.  Yn anffodus ychydig o ddiddordeb gymerais mewn dysgeidiaeth Feiblaidd, ond yn rhyfedd cofiaf un testun hyd y dydd heddiw, sef ‘Pa beth bynnag a heuo dyn, hynny hefyd a fed efe’.  Bwrdwn y bregeth oedd mai beth bynnag a rydd dyn i gymdeithas, hynny hefyd a gaiff o gymdeithas.  Rhyfedd bod rhyw un bregeth fel yna wedi aros yn fy meddwl.

Gan mai i’r Eglwys oeddwn yn mynd, rhaid oedd derbyn fy addysg yn ‘Ysgol Genedlaethol yr Allt Goch’.  Fel rheol myfyrwyr at y weinidogaeth oedd yr athrawon, ond credaf mai fi oedd yn ysgolhaig mwyaf annobeithiol droediodd yr ysgol honno erioed.  Nid wyf yn meddwl i mi basio unrhyw arholiad, ac yr oedd Algebra a Hen Nodiant yn ddim byd i mi ond ôl ieir yn cerdded ar y papur.

Rhywsut neu gilydd cyrhaeddais ysgol uwchraddol yn y Blaenau gan gyrraedd Dosbarth 7.   Yr oeddwn yn un mor annobeithiol yno hefyd, a llawer gwaith fe’m disgrifiwyd fel y ‘Dunce de luxe.’

12.7.14

DOD YN ÔL

Rhan o dudalen flaen rhifyn Gorffennaf, gan Nesta Evans, Llan:

Stori anhygoel jwg fedyddio!
Bu dathlu yn Eglwys Sant Mihangel.  Ddeng mlynedd yn ôl, bydd llawer ohonoch y cofio y torri i mewn a dwyn creiriau gwerthfawr a hanesyddol o’r eglwys ac ni welwyd mohonynt wedyn.  Ychydig amser yn ôl derbyniodd David Taylor e-bost gan ddyn o New Jersey, America, o’r enw Anthony Bozzuto. 


Ei neges oedd ei fod wedi prynu jwg  pres (‘ewer’ yn Saesneg) mewn ‘goodwill store’ am wyth dolar.  Sylwodd fod arysgrif ar waelod y jwg oedd yn dweud enw Eglwys Sant Mihangel, gyda’r dyddiad 1913, wedi ei gyflwyno gan Mrs Malek.  Defnyddiwyd hon yn ystod bedydd i godi dŵr o’r fedyddfaen. 

Anfonwyd yr wybodaeth i Joan Yates, warden yr eglwys, a bu hithau’n cysylltu â Mr. Bozzuto oedd am i’r jwg gael ei ddychwelyd i’r eglwys. 

Cyrhaeddodd yn ddiogel, wedi ei bostio yn ei ôl i’w gynefin a dyna pam y bu dathlu ar fore Sul, Mehefin 22ain.  Stori anhygoel ynte, a tybed a oes gobaith y daw cadair Edmwnd Prys i’r golwg rhyw ddiwrnod?