Rhan o dudalen flaen rhifyn Gorffennaf, gan Nesta Evans, Llan:
Stori anhygoel jwg fedyddio!
Bu dathlu yn Eglwys Sant Mihangel. Ddeng mlynedd yn ôl, bydd llawer ohonoch y cofio y torri i mewn a dwyn creiriau gwerthfawr a hanesyddol o’r eglwys ac ni welwyd mohonynt wedyn. Ychydig amser yn ôl derbyniodd David Taylor e-bost gan ddyn o New Jersey, America, o’r enw Anthony Bozzuto.
Ei neges oedd ei fod wedi prynu jwg pres (‘ewer’ yn Saesneg) mewn ‘goodwill store’ am wyth dolar. Sylwodd fod arysgrif ar waelod y jwg oedd yn dweud enw Eglwys Sant Mihangel, gyda’r dyddiad 1913, wedi ei gyflwyno gan Mrs Malek. Defnyddiwyd hon yn ystod bedydd i godi dŵr o’r fedyddfaen.
Anfonwyd yr wybodaeth i Joan Yates, warden yr eglwys, a bu hithau’n cysylltu â Mr. Bozzuto oedd am i’r jwg gael ei ddychwelyd i’r eglwys.
Cyrhaeddodd yn ddiogel, wedi ei bostio yn ei ôl i’w gynefin a dyna pam y bu dathlu ar fore Sul, Mehefin 22ain. Stori anhygoel ynte, a tybed a oes gobaith y daw cadair Edmwnd Prys i’r golwg rhyw ddiwrnod?
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon