Fel llawer un arall yn y Rhiw, bu fy nhad yn cadw ieir yn rhan isaf yr ardd gefn ac un o’r pethau sydd wedi aros yn fy nghof amdanynt yw’r noson pan ymwelodd yr hen Sion Blewyn Coch a chwt y da pluog.
Roedd fy nhad druan yn yr ysbyty yn Llangwyfan ar y pryd yn dioddef o diciau ar ei sbein, ac felly, mam a ofalai am yr ieir. Beth bynnag i chi, anghofiodd a chau drws y cwt y noson honno a rhyw dro yn ystod tywyllwch y nos daeth yr hen gadno heibio a chynhyrfu yr holl drigolion ynddo.
Celf gan Lleucu Gwenllian Willliams |
Clywodd mam eu sŵn a rhedodd nerth ei thraed i lawr at y cwt gyda ffon yn ei llaw a phwy oedd yn dod ohono â’r ceiliog coch yn ei safn, ond y llwynog.
Rhedodd ar ei ôl i fyny at Benycei wrth y lein fawr ac yno penderfynodd yr hen gochyn ei ollwng neu gael curfa â’r ffon, ond roedd gwddw’r ceiliog wedi ei hambygio ganddo ac nid oedd fawr o fywyd ar ôl ynddo.
Os cofiaf yn iawn,bu’n rhaid i Mr Ellis Evans, a breswyliai tros y ffordd inni, sef tad Kathleen ac Ieuan, a thaid David Clack, un o’m ffrindiau bore oes, roi tro yn ei wddw.
Bu clo ar y cwt pob nos ar ôl hyn !
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon