Showing posts with label tai. Show all posts
Showing posts with label tai. Show all posts

18.10.24

Y Pigwr- Tai Lleol

Daeth newyddion syfrdanol fod Menter Gymunedol Penmachno wedi sefydlu Grŵp Tai Fforddiadwy, ac am fynd ati i gyflogi swyddog i brynu tai gweigion yn y plwy’, a’u gosod ar rent i bobl leol. 

Mae’n wybodaeth gyffredinol ers tro bod Bro Machno yn ardal lle gwelir y canran uchaf o dai haf yn sir Conwy, a’r iaith Gymraeg yn y lleiafrif yn y plwy’ bellach. Er i nifer geisio darganfod modd i wyrdroi’r sefyllfa dros y blynyddoedd, dirywio wnaeth y sefyllfa, gyda phrisiau tai allan o gyrraedd y bobl leol oedd yn dymuno aros yn eu cymuned. 

Fel y gwyddoch, er i rai ohonom rybuddio, flynyddoedd yn ôl y byddai sefyllfa debyg i hynny ddatblygu yn ein hardal ni, a thai yn cael eu prynu fel tai haf ac AirBnBs gan estroniaid, anwybyddu’r rhybuddion wnaed. Erbyn hyn, fel sy’n hysbys i bob un ohonom, siawns, mae’n hen ffordd o fyw, ein hiaith a’n diwylliant mewn peryg’ mawr oherwydd y datblygiadau afiach hynny.     

Rali 'NID YW CYMRU AR WERTH' yn y Blaenau, Mai 2024

Ond daw achubiaeth atom, gyda chynlluniau arloesol ein cymdogion agos o ‘dros y mynydd’ yn cynnig ysbrydoliaeth i unigolion, mudiadau a’r cyngor lleol i ddod i’r afael â mater sydd wedi bod yn bwnc llosg ers sawl blwyddyn. Os gall criw bychan, angerddol, o bentre’ bychan cyfagos benderfynu mai digon yw digon, a chychwyn menter fydd yn achubiaeth i’n hen ffordd o fyw, siawns na fedr cynghorwyr dewr a gweithgar y fro hon wneud rhywbeth tebyg? Siawns nad oes yma ddigon o unigolion sy’n ddigon parod i sefyll ar eu traed, a mynnu sefydlu cynllun tebyg ym Mro Stiniog? 

Byddai’r di-gartref, a phobl ifainc ein hardal yn fythol ddiolchgar am gael to uwch eu pennau yn eu cynefin eu hunain. Felly, hoffwn awgrymu, yn sgil y datblygiadau cyffrous ym Mhenmachno, i gynghorwyr ac eraill sydd o’r un anian ag aelodau Menter Gymunedol a chynghorwyr blaenllaw’r pentre’, geisio mwy o wybodaeth ar sut i gychwyn menter o’r fath yma yn Mro Stiniog. 

Ewch ati bobl annwyl. Bydd cenedlaethau’r dyfodol yn eich mawrygu hyd ddydd y farn.
- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2024

Unman yn debyg i gartref. Sefyllfa Bro Stiniog, o rifyn Medi 2022

9.4.24

Senedd Stiniog- Detholiad Dechrau'r Flwyddyn

Pytiau o'r Cyngor Tref

Derbyniodd y Cyngor gais cynllunio i godi naw o dai ger Y Wenllys, Llan Ffestiniog, a bu dipyn o drafodaeth am y cynllun.  Dywedwyd fod tai eisoes yn cael eu codi yn y pentref ac y byddai’r rhain yn mynd i asiantaeth dai o Glwyd!  Amhosib fyddai cefnogi’r cais ar hyn o bryd gan nad oes sicrwydd mai i bobl leol oedd y tai am fod.  Dywedodd y ddau Gynghorydd o’r Llan, sef Marc Lloyd Griffiths a Linda Ann Jones, eu bod ill dau wedi derbyn nifer o gwynion gan drigolion y pentref ac nad oedd digon o wybodaeth am y prosiect ar gael.  Gwrthodwyd y cais, ond fe benderfynwyd ar ofyn wrth y Parc Cenedlaethol am fwy o gyngor a gwybodaeth.

‘Rhybydd o Gynnig’ – Cytunwyd yn unfrydol i gefnogi cynnig y Cyng. Mark Thomas i chwifio baner Llywelyn ap Gruffudd yng nghanol y dref pob mis Rhagfyr.  Disgyn Dydd Llewelyn yr 2il, ein Llyw Olaf, ar Ragfyr yr 11fed pob blwyddyn, dyddiad ei lofruddiaeth.

Codwyd wrychyn sawl cynghorydd gyda gwaith blêr, diog ac esgeulus Cyfoeth Naturiol Cymru, o ddeall fod Ceunentydd Cynfal a Llennyrch wedi cael eu disgrifio ganddynt o fod, “ger Porthmadog”.  Penderfynwyd e-bostio i fynegi siom y Cyngor Tref am hyn ac i’w hannog i gywiro’r disgrifiad a rhoi “ger Ffestiniog” yn ei le.  Daethom i ddeall fod y Dref Werdd, Cwmni Bro a Llafar Bro am wneud hyn hefyd

Cafwyd cais am gymorth ariannol gan Fudiad yr Urdd. Toedd dim gwrthwynebiad o ran egwyddor ond fe siomwyd rhai cynghorwyr gan y cais.  Dywedwyd fod y mudiad newydd gael pres da o werthiant eu hadeilad yn y dref i Antur Stiniog.  Adeilad yw hwn a godwyd, amser maith yn ôl, o bres prin chwarelwyr ‘Stiniog.  Dywedodd yr Urdd eu bod angen y pres i helpu cynnal yr Eisteddfodau a ballu yn y cylch.  Penderfynwyd cyfrannu at y rheini drwy roi pres yn uniongyrchol i’r ysgolion ar eu cyfer.

Rhai o’r prif faterion a godwyd yn y Pwyllgor Mwynderau oedd gyrru llythyr i Network Rail i ofyn sut oedd eu trefniadau’n siapio ynglŷn â chlirio’r lein.  Cadarnhawyd fod cytundeb bellach yn bodoli ar waith arfaethedig yn y Parc i dorri gwrychoedd a phlannu planhigion a ballu; a bod mwy o holi angen ei wneud cyn parhau ar y gwaith i greu maes parcio ym Mhant yr Ynn.

Gan fod y Cyngor wedi cysylltu’n mynegi siom fod staff Plas Weunydd yn colli eu gwaith oherwydd bod y Gwesty wedi derbyn trefniant bloc; daeth Michael Bewick, un o gyfarwyddwyr y cwmni i egluro’r sefyllfa. Esboniodd nad oedd neb am, nac wedi colli eu swyddi. Roedd un aelod o’r staff
wedi gadael ei swydd ar liwt ei hun, meddai. Derbyniodd y busnes y trefniant bloc am fod yr incwm amdano yn dda, a byddai’r elw’n mynd tuag at Gynllun Ynni Gwyrdd y cwmni. Diolchodd y Cyngor iddo am fynychu’r cyfarfod ac am ateb cwestiynau’r Cynghorwyr.
Diolchwyd hefyd i Andrew Williams a ddaeth i annerch y cyfarfod ar ran Hen Eglwys Llan Ffestiniog.
Eglurodd fod y cynlluniau darpariedig i ddatblygu’r adeilad bellach wedi cael eu pasio, sef codi wal ddringo ac agor caffi, ac y disgwylir ddechrau ar y gwaith yn fuan.

Ffair Llan. Ystyriwyd gohebiaeth a dderbyniwyd gan Gyngor Gwynedd ynglŷn â phroblemau iechyd a diogelwch yn sgil lleoliad y Ffair y llynedd. Cynigodd Y Cyng. Mark Thomas ac eiliodd Y Cyng. Dafydd Dafis y dylem lythyru’n ôl i’r Cyngor Sir yn diolch am yr wybodaeth, ac yn dweud nad yw’r Cyngor Tref eisiau cymeryd y cyfrifoldeb am drefnu’r Ffair na’r costau sy’n gysylltiedig â hi. Cytunodd pawb eu bod yn awyddus i weld y Ffair yn parhau.

Soniwyd mis neu ddau’n ôl fod y Cyngor wedi cytuno i gyfrannu at gais am arian gan Theatr Bara Caws. Trafodwyd hyn eto a chytunwyd y dylid cefnogi ceisiadau sy’n hybu’r celfyddydau os yn bosib, yn enwedig rhai drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ardal. Cynigodd Y Cyng. Dafydd Dafis ac eiliodd Y Cyng. Gareth Davies bod y Cyngor yn rhoi £100 at yr achos, a chytunodd pawb ar hyn.
David Jones a Sioned Graham-Cameron
- - - - - - - - -

Detholiad o newyddion y Cyngor Tref, o rifynnau Chwefror a Mawrth 2024




17.2.24

Yr Hawl i Gartref


Ym mis Tachwedd, ymwelodd trelar ‘Deddf Eiddo’ Cymdeithas yr Iaith â’r fro, gan basio drwy storm fawr ar Fwlch y Gorddinan ar ei ffordd yma. Roedd y trelar yn teithio drwy Gymru i gynhadledd Deddf Eiddo’r Gymdeithas yng Nghaerdydd gan ymweld â chymunedau gwahanol ar hyd y ffordd. 

 


Galwyd yng nghaffi Antur Stiniog, lle clywed am ddatblygiad tai dan arweiniad y gymuned gyda Ceri a Gwenlli o Gwmni Bro. Aed wedyn i’r Pengwern, lle cafwyd cyflwyniad difyr gan Sel Williams am y fenter gymunedol hynod lwyddiannus hon, ac am swyddogaeth anhepgor mentrau cymunedol yn y frwydr i gadw’n cymunedau, a’r Gymraeg, rhag edwino ymhellach. Eglurwyd fod mentrau cymunedol yn gweithredu fel rhyw fath o ffordd ganol rhwng cyfalafiaeth reibus ar un llaw, ac ideoleg fwy sosialaidd o ganoli pethau yn nwylo’r wladwriaeth ar y llall. Mae hefyd yn fwy triw i’r traddodiad a’r ysbryd Cymreig o gydweithio cymunedol, ac yn ateb unigryw Cymreig felly i lawer o broblemau cymdeithas.

Cynhaliwyd y gynhadledd i wyntyllu syniadau ynghylch sut i fynd i’r afael â’r problemau tai niferus sy’n tanseilio hyfywedd cymunedau Cymru. Ymysg y problemau hyn mae ail dai lluosog, tai gwag, diffyg tai cymdeithasol, prinder tai fforddiadwy, tai yn cael eu prynu gan ddieithriad a’u troi yn llety gwyliau er mwyn hel arian, a datblygiadau anferthol a di-angen o dai newydd wedi eu gyrru gan y gred gyfeiliornus fod yn rhaid codi mwy a mwy o dai, waeth beth fo’r angen lleol, i hybu’r economi. Ac ar yr un pryd (ac efallai oherwydd hyn i gyd) mae digartrefedd ar gynnydd. 

Un o’r siaradwyr yn y gynhadledd dai oedd ein Haelod o’r Senedd, Mabon ap Gwynfor. Meddai yntau am y sefyllfa dai: 

“Os oedd yn argyfwng ddwy flynedd yn ôl, mae’n gatastroffi erbyn hyn.” 

Soniodd hefyd am ymweliad o’i eiddo â Fiena, ble buwyd yn datblygu tai cymdeithasol ers 1923. Mae llawer o’r tai cymdeithasol hyn yn gymunedau bychain yn eu hawl eu hunain, gyda thramiau yn pasio’n gyson, ac yn cynnwys mannau gofal iechyd a llefydd gofal plant. Mae Mabon o’r farn y dylai Cymru fod yn gweithredu o fewn  fframwaith tai digonol y Cenhedloedd Unedig, a bod angen pasio deddf sy’n ei gwneud hi’n rheidrwydd darparu tai addas. Soniodd siaradwr arall am y sefyllfa yn Nenmarc, lle mae tai wedi eu codi yn benodol ar gyfer pobl ifanc. 

Meddai Mabon eto:

“Dydy’r farchnad rydd ddim yn gweithio yn ein cymunedau ni a dydy’r farchnad rydd ddim yn gweithio dros Gymru. Dyna pam bod angen ymyrraeth.”
Mae Mabon yn un o’r rhai sy’n galw am Ddeddf Eiddo fel y bu Cymdeithas yr Iaith yn galw amdani ers degawdau, ac am ddileu deddfwriaeth Cynllunio Gwlad a Thref a luniwyd gan San Steffan, sy’n trin tai mewn cyd-destun economaidd yn hytrach nag fel angen cymdeithasol i ddarparu cartref.
Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi sylw i rai o argymhellion y gynhadledd! 

Gwych yw cyhoeddi y bydd Rali Fawr Nid yw Cymru ar Werth yn dod yma i Stiniog ar Fai y 4ydd ar Ŵyl Ryngwladol y Gweithwyr:

“Dyma'r cyfle ola am flynyddoedd i sicrhau deddfwriaeth! Dyma hefyd flwyddyn cyhoeddi Adroddiad Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Pwyswch am gynnwys cynigion Deddf Eiddo i reoli'r farchnad dai a rhoi grym i'n cymunedau.”

- - - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2024

Erthyglau am sefyllfa dai Bro Ffestiniog 

 

31.10.16

Symud Tŷ

Gohebydd Llafar Bro yn holi a gollwyd cyfle yn y nawdegau wrth symud tai Fron Haul i Lanbêr.

Mae rhywbeth rhyfedd yn digwydd i dai teras Fron Haul yn Nhanygrisiau.  Wrth gerdded heibio mi sylwch bod rhifau wedi ymddangos ar bob carreg, bob llechen bob ffenest a drws.  Y gwir yw, y bydd y gwaith yn dechrau yn fuan iawn, i symud pob darn o rifau 1-4 o’r teras o’u safle yn Nhanygrisiau a’u codi garreg wrth garreg yn eu cartref newydd yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis.


Mae tai Fron Haul yn enghreifftiau gwych o dai chwarelwyr yng nghymunedau llechi Gwynedd ar anterth y diwydiant tua 1860.  Codwyd y tai tua’r adeg honno, ac mae llawer o nodweddion tai teras o’r fath yn dal i berthyn iddyn nhw.  Yr oedd rhifau 1-4 ar fin cael eu dymchwel gan Gyngor Gwynedd a symudwyd y trigolion olaf i gartrefi mwy clyd a chyfoes.  Bellach fe’u cyflwynwyd i Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru i’w sicrhau fel rhan o dreftadaeth y fro.

“Mae gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru gryn brofiad erbyn hyn o ddiogelu tai ac adeiladau hanesyddol yn arbennig yn Sain Ffagan,” meddai Gerallt Nash, Curadur Adeiladau Hanesyddol a Masnach (gw. llun), sydd yn gyfrifol am y gwaith o nodi pob elfen ar dai Fron Haul, ac unrhyw nodweddion arbennig.

Gwaith paratoi ar rif 2

“Rydym wedi darganfod dull anghyffredin lleol o doi yma, gan blastro oddi tan y llechi.  Pwy a wyr beth arall a ddaw i’r golwg wrth inni dynnu’r waliau a’r lloriau.”

Mae Mared Sutherland, Swyddog Ymchwil yn Sain Ffagan, wedi dod o hyd i enwau pob unigolyn a theulu a fu’n byw yn y tai ers eu codi y ganrif ddiwethaf, a’r bwriad yw eu haddasu yn Llanberis i gynrychioli cyfnodau pwysig yn hanes y diwydiant llechi.

“Bydd un o’r tai yn cael ei ddodrefnu fel y byddai tŷ chwarelwr a’i deulu ym 1860,” meddai Dr Dafydd Roberts, Curadur Amgueddfa Lechi Cymru, “Mi fydd yr ail yn union fel tŷ ym Methesda ar adeg y streic fawr ym 1901, ac fe fydd y trydydd fel tŷ ym 1969.  Mi fydd y pedwerydd yn llawn o weithgareddau i alluogi plant a’u rhieni i werthfawrogi’n well fywydau y chwarelwyr, eu gwragedd a’u plant.

Tydi o’n drueni na fyddai rhywun efo gweledigaeth wedi cynnig hyn yn brosiect treftadaeth yn y Blaenau (yn arbennig rwan fod y Gloddfa wedi cau fel atyniad, efo bythynod y chwarelwyr yno bron yn union yr un syniad a chynlluniau Fron Haul).  Oni fyddai safle’r Ring Newydd wedi bod yn ddelfrydo?

Beth am inni gyd ysgrifennu at yr amgueddfa i’w llongyfarch ar eu gwaith, ond erfyn arnynt i gadw elfen o Danygrisiau yn rhai 1 a 4; i gadw enw’r stryd; ac hefyd ei wneud yn amlwg o ble daeth y rhes ar eu hysbysfyrddau.
-------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 1998.


5.8.16

Pobl y Cwm - y trigolion

Pennod olaf y gyfres.
Efo'r cyflwyniad gwreiddiol gan Vivian P Williams.

Daw atgofion y ddiweddar Ellen Williams i ben gydag ychydig o mwy o hanes y Cwm a fu mor annwyl yn ei llygaid. Cawn ganddi y tro hwn enwau'r rhai a drigai yng nghartrefi Cwm Cynfal yn y flwyddyn 1900, ac ym 1946. Fel gyda'i hysgrifau dros y misoedd blaenorol, ni wneir ymdrech gennym i newid ar arddull ei chyflwyniad mewn unrhyw fodd, rhag colli dim o'r naws gartrefol, wladaidd ynddynt. Pan yn cyfeirio at 'heddiw' yn yr ysgrifau, rhaid cofio iddynt gael eu cofnodi yn ystod y 1970au.     
- - - - - - - -
 
Rhaeadr y Cwm

Cwm Cynfal, cwm anwyl i mi, nis gwn a oes rhywun yn gwybod prun ta cwm sydd wedi gael ei enwi oddiwrth yr afon prun ta afon sydd wedi cael ei henwi oddiwrth y cwm.

Tarddle afon Cynfal yw y Mignint. Cychwyna o Gerigyreirch a daw Afon Gam yn gwmni iddi gyda'r enw Groesddwyafon, a daw Afonlas o gyfeiriad Graigwen iw huno yn afon Cynfal. Rhed drwy ganol plwyf Ffestiniog a phlwyf Maentwrog nes iddi uno yn y Ddwyryd. Weithiau rhed yn llithrig ac yn droellog, ac yn araf yn wyn risialaidd glan a chlir. Dro arall yn wyllt ac yn swnllyd gynddeiriog gan lluchio ei dyfroedd yn drochion coch ei glanau. Dyma adeg mae Rheadr y Cwm yn werth ei weld, ac amser y bydd y pysgodwyr wrth eu bodd.

Ochr dde [gogledd -gol.] i afon Cynfal, yr amaethwyr a chymdogion fel yr wyf fi yn eu cofio oedd yn byw ar ddechreu canrif 1900:

1. Ffarm y Cwm, Robert a Jane Humphreys.
2. Bontyrafongam, William Roberts a'i briod, dau fab a merch.
3. Foelgron, roedd dau dŷ yno heb fod yn mhell oddiwrth y Llyn. Yn 1 Foelgron roedd William a Dorothy Owen yn byw, a pump o blant, pedwar mab ac un ferch, Sarah Ann, mae hi yn byw yn y Blaenau heddyw, ac yn cofio ei hun yn mynd i Hafodfawrisa a chael te yno, a mynd hefo Jane Owens, merch Hafodfawrisa i lanhau yr Hen Babell.
4. Rhif 2 Foelgron, Owen ac Ann Davies, mab a pedair o ferched, Mae un or merched yn byw heddyw yn Llety Gwylym.
5. Hafod Offeiriaid, Robert ac Ellen Evans, dau fab a dwy ferch.
6. Soflmynydd, Thomas a Cathrine Jones, a merch a dau fab mabwysiedig.
7. Bryn Llech, Edward a Jane Jones a pump o feibion a phedair merch.
8. Bryncyfergid, Humphrey a Kate Evans, dau fab ac un ferch.
9. Bronerw, Robert ac Elizabeth Jones, dau fab.
10. Bron Goronwy, Dafydd ac Ann Price, tri mab a pum o ferched.
11. Tyddyngwynbach, Harry a Mary Williams a dau fab. Bu iddynt hwy fel teulu ymfudo i Australia yn 1906.
12. Tyddyngwynmawr, Owen a Sarah Williams a dau fab.
13. Bontnewydd, Price a Chathrin Jones, pedwar mab ac un ferch.
14. Cefnpanwl, Ann Richards, gwraig weddw, tri mab.
15.Bodloesygad, Barbra Roberts, gwraig weddw, un mab a merch ac wyr.
16. Tycoch, John a Margiad Morris, dau fab a dwy ferch.
17. Pantglas, Pierce a Harriet Williams, un mab dwy ferch.
18.Wenallt, Harry Parry ai briod, tair o ferched.
19.Tynffridd, Meredydd a Mary Parry, un ferch fabwysedig.
20. Tynffridd bach, John a Alice Jones.

Ochr chwith [ochr ddeheuol -gol.] i afon Cynfal, 1900:
 
1. Tyddyn bach, Jane Jones, gwraig weddw, dau fab a merch.
2.Hafodfawrucha, Thomas Weaver ai briod, a thair o ferched, Saeson. Goruchwyliwr coedwigoedd oedd T.H.Weaver., Yn Hafodfawrucha y dechreuwyd planu'r coed yn Cwm Cynfal, ryw dro tua dechreu y ganrif 1900.
3. Hafodfawrisa, William a Ellen Owen, tri mab a dwy ferch.
4. Cochgwan, Robert a Martha Jones, tri mab a dwy ferch.
5. Brynsaeth, Thomas a Betsan Williams ac un mab, mae o yn byw yn Clogwynbrith heddyw.
6. Llechgoronwy, yn feudy ar y pryd, yn perthyn i ffarm Tynfedwen.
7. Tynfedwen, Richard a Sarah Williams a saith o feibion a dwy ferch.
8. Cae Iago, Cathrine Owen, gwraig weddw, dau fab a merch ac wyr.
9. Brynmelyn,  Evan a Gwen Roberts, tri mab a dwy ferch a wyres.
10 Brynrodyn,  Evan a Sarah Jones, teulu newydd ddod yno o Patagonia.
11. Garth, Dafydd Jones, gwr gweddw, un mab a dwy ferch.
12. Cynfal Fawr, Pierce a Chathrin Jones, un mab a pedair merch, mae un ferch, Gwen yn byw yn Ne Affrica heddyw.
    -----------------------------------------

Amaethwyr a chymdogion Cwm Cynfal yn 1946. [Gogledd]:

1. Ffarm y Cwm, Gruffydd a Ellen Davies, un mab.
2. Bontyrafongam, Nid wyf yn gwybod pwy oedd yno ar y pryd, gan fod dau neu dri o deuluoedd wedi bod yn byw yno yn y cyfamser.
3. Foelgron, Y ddau dy wedi mynd yn fyrddin.
4.
5. Hafodoffeiriaid, neb yn byw yno.
6. Soflmynydd, Thomas Lewis, hen lanc yn byw ei hun.
7. Brynllech, John a Gwennie Roberts, un ferch.
8. Bryncyfergid, Evan Evans, gwr gweddw, dau fab a thair merch.
9. Bron Erw,  Robert John a Elizabeth E.Jones, dwy ferch a mab.
10. Bron Goronwy, Rolant a Jennie James.
11.Tyddyn Gwynbach, Ar yr 11fed o Tachwedd 1946, ymfudodd John a Gwennie Roberts yno ac un ferch.
12.Tyddyn Gwynmawr, Thomas a Sarah Smart, un ferch, un mab.
13. Bontnewydd, Huw a Jane Roberts, un mab.
14. Cefnpanwl, John a Laura Morris, dwy ferch a mab a dwy wyres.
15. Bodloesygad, Robert a Ann Jones, tair o ferched ac un mab.
16. Pant Glas, Saeson.
17. Ty Coch, Robert a Lina Williams ac un mab.
18. Ffarm Tynffridd, Gwynedd a Gwyneth Lloyd.
19. Tynffridd, Elizabeth Jones, gwraig weddw.
20. Wenallt, Huw John a Megan Ephraim ac un ferch fach.

[Ochr ddeheuol, 1946]:

1.Tyddyn bach, Jeffrey.
2. Hafodfawrucha, Sam a Maggie Williams, dau fab a merch.
3, Hafodfawrisa, Harry a Sarah Jones, dwy ferch a mab.
4. Cochgwan, yn wag.
5. Brynsaeth, Daniel a Ann J.Davies, pump o ferched a dau fab.
6. Llechgoronwy, Fred Williams a'i briod, un ferch.
7. Tyn y Fedwen, Ellis a Winnie Thomas, dwy ferch a mab.
8. Cae Iago, Gwen Roberts, gwraig weddw, dwy ferch a pump mab.
9, Bryn Melyn , Edward a Lowie Roberts, tair merch a dau fab.
10. Bryn Rodyn, Robert a Gladys Jones, dwy ferch.
11. Garth, Petr a Annie Jones.
12. Cynfalfawr, Pierce a Mary E. Jones, dwy ferch a mab.
------------------------------------

Ysgrifenwyd yr atgofion yn wreiddiol ym 1978; a bu'r gyfres yn rhedeg yn Llafar Bro yn ystod 1999 a 2000.
Dilynwch y gyfres gyfa' efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

27.3.16

Trem yn ôl -Plas Tanymanod

Mae llawer o hen dai a phlasdai Bro Ffestiniog wedi diflannu bellach. Dyma bennod o'r gyfres Trem yn ôl: erthyglau o lyfr 'Pigion Llafar 1975-1999', yn trafod un ohonynt

TANYMANOD
Disgrifwyd hen blasdy Tanymanod gan y ddiweddar Mrs K. Jones-Roberts (Tai hanesyddol Blaenau Ffestiniog a’r Cylch. Cyf. 3; tud. 263-274) fel yr unig dŷ sy’n sefyll yn y Blaenau heddiw sydd o ddiddordeb hanesyddol. Bellach ‘ei le nid edwyn ddim ohono ef mwy’. Fe’i tynnwyd i lawr, ac adeiladwyd tai del yn y llecyn a elwir yn awr yn Maes y Plas.

Safodd yr hen dŷ am dair canrif. Trigai’r Fychaniaid yno yn niwedd yr ail-ganrif-ar-bymtheg – hen deulu Corsygedol, Rhug a Hengwrt. Bu John Vaughan, yr olaf i fyw yno, farw yn ddibriod yn Ebrill 1961. Gwnaeth ef ei orau i gadw’r hen dŷ’n raenus, ond ar ôl ei farw aeth yr hen adeilad ar ei waethaf, yn hanner murddyn. Prynwyd y tŷ cyn hir, yn Hydref 1971, gan Gyngor Ffestiniog a dechreuwyd ei chwalu y flwyddyn ddilynol.

Llun Gareth T Jones, tua 1970
Mae yn Archifau Amgueddfa Werin Cymru lythyr a ysgrifennwyd ym Medi 1959 gan John Vaughan Ysw., i’r  Curadur y pryd hynny, Dr. Iorwerth Peate. Ynddo ceisia olrhain hanes ei hen gartref. Mae’r llythyr, nid yn unig yn ddiddorol ond fe deifl olau ar agweddau yn hanes y teulu. Dyma yn ddiau yw’r ddogfen olaf a ysgrifennwyd ynglŷn â’r tŷ gan un o aelodau olaf hen deulu arbennig iawn. A dyma fras gyfieithiad ohono:

Tanymanod Hall,
Blaenau Ffestiniog.
Annwyl Dr. Peate,
Er pan lwyddais i gael yr hen le hwn wedi ei gofrestru fel lle o ddiddordeb hanesyddol ym Mai 1954, bûm yn ymdrechu droeon i gael gafael ar ddyddiad ei adeiladu.
Roedd yr arbenigwyr a ddaeth o Gaerdydd, i bwrpas ei gofrestru, mewn cryn ddryswch ynglŷn â’r adeiladwaith. Rwyf fi o’r farn ei fod, yn wreiddiol, yn un o’r ‘Tai Hirion’, at yr hwn yr adeiladwyd yn ddiweddarach, le croes. Yr awgrym o ddyddiad a roddais i i’r arbenigwyr oedd 1696. Wrth ymadael, eu geiriau oedd, ‘Gall fod yn hŷn nag y tybiwch chwi’ ....
Yr oedd yn wreiddiol yn dŷ fferm, a gwn i’m hendaid ei amaethu. Ar un talcen yr oedd ar un adeg olwyn ddŵr i’r corddwr.
Mor hardd oedd ei sumerydd o dderw du, ac un o’r enghreifftiau godidocaf o’r hen simdde fawr ... yr enghraifft orau a welais i .... Mae talcen y simdde fawr a’r sumerydd cloi yn debyg i’r rhai sydd yn Hafod Ysbyty.
Y mae carreg fedd ym mur un o’r ystafelloedd byw ac arni’r geiriau,
Underneath lieth the body of William
Vaughan of Tanymanod who died on the
third day of June 1763 in the 96th
year of his age ...

Also Anne Vaughan their daughter and
wife of William Richard. She was
buried July 1st 1815 aged 42 years.’
Daethpwyd â’r garreg hon o fynwent Eglwys Ffestiniog pan yn symud yr adeilad ymhellach yn ôl na’i safle wreiddiol...
Eto wedi’i hoelio yn nistyn traws y simdde fawr ceir rhimyn o dderw du a’r geiriau canlynol wedi’u cerfio arno: ‘John Vaughan, Tanymanod 1777.’
Daeth y rhimyn derw du oddi ar gefn sêt y teulu yn Eglwys Ffestiniog. Nid oes angen ychwanegu i ddarganfod y llechi beri bod yn rhaid adeiladu tai, ac i hynny gymryd y tir amaethyddol a berthynai i’r stad; ac yn ddiweddarach i’r Cyngor drwy roi gorchymyn o orfodaeth i ni i werthu tir i adeiladu beth sydd wedi troi allan yn anghenfil o ystad o dai, sydd bellach yn boenus o agos at Danymanod. Dyna pam y gwnaf bopeth yn fy ngallu i sirchau parhâd yr hen dŷ.
Carwn ddweud i’ch enw gael ei roddi i mi gan Mr John Cowper Powys sy’n byw gerllaw.
Yr eiddoch yn ddiffuant,
John Vaughan.

--------------------------------------


Tecwyn Vaughan Jones oedd yr awdur. Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 1980, ac yna yn llyfr Pigion Llafar a gyhoeddwyd i nodi'r milflwyddiant yn 2000.
Bu yn rhifyn Chwefror 2016 hefyd, yn rhan o gyfres Trem yn ôl.

8.8.15

Stolpia- Hen Dai ein Bro

Pennod o golofn reolaidd Steffan ab Owain, o rifyn Rhagfyr 1997.

Prin y sylweddolais pan ddechreuais chwilota i hynafiaeth rai o hen anedd-dai ein bro fod cynifer ohonynt gyn hyned a’r unfed ganrif ar bymtheg (sef yr 1500au), ac o bosib’ yn hŷn na hynny ... wel o leiaf mewn enw, beth bynnag.  Fel y crybwyllais o’r blaen, dylid cofio y gall rai o’r tai a ddaliai’r enw gwreiddiol fod wedi cael eu hailwampio cymaint fel nad ydynt yn debyg i adeilad o’r cyfnod uchod mwyach.  Yn ogystal, gallai’r tŷ fod wedi hen ddiflannu bellach ac un arall wedi ei godi yn ei le ... a chario’r hen enw, wrth gwrs.  Yn dilyn, ceir enghreifftiau eraill o’r rhai y deuthum ar eu traws yn fy ymchwiliadau yn Archifdai Dolgellau a Chaernarfon.  Gyda llaw, mae’r dyddiadau a geir ar ddiwedd yr enw wedi eu codi o wahanol ddogfennau:

Kemere Ucha – Cymerau Uchaf (1555),
Kymere Isa – Cymerau Isaf (1574);
Tythyn y Garreg Loid – Y Garreg Lwyd (1575-80) ac eto yn (1591);
Bwlch Yockyn – Bwlch Iocyn (1585);
Havod Spithy – Hafod Ysbyty (1575-80);
Blaen Cynfel – Cwm Cynfal (1580-1590); 
Lach Du – Llech Ddu (1535).

Ceir cyfeiriad diddorol at Gwm Bwy – Cwm Bywydd hefyd yn yr unfed ganrif ar bymtheg ... yn ogystal ag enwau rhai o’r hen deulu a fu’n preswylio yno.  Yn ôl un hanesyn symudodd John Wynn o’r Gesail Gyfarch gerllaw Penmorfa i Ffestiniog yn y flwyddyn 1594 oherwydd ymosodiadau cyson arno gan ei gymydog .... ‘Neighbours from Hell’, onide?  Beth bynnag, aeth i fyw i le o’r enw Cwm Bowydd, sef eiddo a etifeddodd ar ôl ei fam, aeres y stâd.  Gyda llaw, enw ei fam oedd Catherine ferch Evan ap Griffith ap Meredydd ap Gwilym Powys o Gwm Bywydd.  Rwan, onid yw’r uchod yn awgrymu y gall y tŷ ddyddio’n ôl i’r bymthegfed ganrif ... neu’n wir i gyfnod llawer cynt?

Ymhlith y tai eraill sy’n debygol o fod yn dyddio’n ôl i’r cyfnod dan sylw (gan gynnwys rhai nad ydynt gyda ni mwyach) mae hen ffermdy Talyweunydd a dynnwyd i lawr  yn yr 1960au; Cribau sy’n adfeilion; hen amaethdy Rhiwbryfdir a gladdwyd o dan domennydd Chwarel Oakeley ers blynyddoedd; hen dai Glan y Pwll, Sarn y Llwyn, a Maenofferen, a dynnwyd i lawr yn niwedd y ganrif ddiwethaf; hefyd Tan y Manod a ddymchwelwyd gan gyngor cibddall yn yr 1970au. 

Cribau, a Gloddfa Ganol yn y cefndir. Llun PW.
Credaf hefyd yn ôl y dystiolaeth fod Llwyn y Crai, Cae Canol, Bodlosgad, Plas Meini (h.y. yr hen blas), Tyddyn Gwyn (Cwm Cynfal), Y Wenallt ac yn ddiau, amryw o rai eraill, yn dyddio’n ol i’r un cyfnod a’r rhai a enwyd gyntaf. 

Wrth chwilota drwy’r degfennau diddorol hyn deuthum ar draws enwau lleoedd, h.y. yn dyddynnod ac yn diroedd, nad oes gennyf amcan daear ymhle yr oeddynt (neu lle y maent), o bosib. 
Dyma ychydig esiamplau i chi:

Mur y Tŷ Hir (1500);
Bron y Fudda (1522);
Tyddyn Jenkin Lloyd (1539);
Y Waun Wen (1547);
Erw Eryrig (1556);
Bryn y Tŷ Du (1574);
Rhos Bryn Derwas (1587).

--------------------------------

Gallwch ddilyn holl erthyglau Stolpia trwy ddilyn y ddolen isod, neu yn y Cwmwml Geiriau ar y dde.


24.5.15

Senedd ‘Stiniog

Pytiau o gofnodion Y Cyngor Tref, o rifyn Mai...

Degau o erwau’n troi’n anialwch du ...

Yng nghyfarfod mis Ebrill, trafodwyd y tanau gwair a grug a dorrodd allan yn yr ardal. Ni wyddys, wrth gwrs, pwy oedd yn gyfrifol. Ond un peth a wyddom yw eu bod yn troi degau o erwau o dir - yn  eithin, gwair a grug, yn anialwch du, gan ladd creaduriaid prin megis madfallod a nadredd, a dinistrio nythod adar megis yr ehedydd. Mae’r dynion tân lleol wedi gorfod treulio oriau lawer yn brwydro’r tanau hyn. Y peth gwarthus yw fod hyn yn digwydd yn llawer rhy aml mewn cyfnod o sychder. Fe gytunodd y Cyngor i wneud popeth o fewn ei allu i dynnu sylw at y broblem, ac i erfyn ar unrhyw rai sy’n amau eu bod yn gwybod pwy sy’n gyfrifol i rannu’r dystiolaeth honno gyda’r heddlu.

Creithio Ebrill. Llun PW.

Dyfodol iechyd ...

Mater ymfflamychol arall a drafodwyd oedd iechyd - y bleidlais leol, gwelyau yn yr ysbyty a’r gwasanaeth meddygon teulu lleol. Pan ganhaliwyd y cyfarfod, nid oedd y Cyngor wedi derbyn ymateb o’r Bwrdd Iechyd ynglŷn â’r pynciau yma. Ond fe gyrhaeddodd llythyr rai dyddiau wedyn, ac mae cyfarfod yn cael ei drefnu i drafod ei gynnwys.

Y Cynllun Datblygu Lleol ...

Rhywbeth arall sy’n digwydd ar hyn o bryd, fydd yn effeithio ar yr ardal am flynyddoedd i ddod, yw’r ‘Cynllun Datblygu Lleol’ a gaiff ei lunio ar gyfer Gwynedd a Môn. Fe gynhaliodd y Cyngor Tref gyfarfod arbennig i drafod hyn, a gwnaed llwyth o sylwadau. Mae’r Cynghorwyr yn pryderu am gynlluniau i godi tai ar Y Ddôl yn Nhanygrisiau, - hen safle’r Clwb Rygbi. Y broblem yw fod y Cyngor wedi derbyn gwybodaeth glir oddi wrth Asiantaeth yr Amgylchedd yn y gorffennol, fod y tir yma’n dioddef gan lifogydd mewn cyfnodau o law trwm. Barn  ‘Senedd ‘Stiniog’ yw na ddylid codi tai yma, oni bai eu bod nhw wedi cael eu haddasu’n arbennig i wrthsefyll llifogydd. Golyga hynny y byddai’n rhaid iddyn nhw sefyll ar ‘stilts’!

Wedi dweud hyn, fe groesawodd y Cyngor y ffaith fod y ‘Cynllun Lleol’ yn dynodi Ffestiniog fel ‘Canolfan Gwasanaethau Trefol’ ar y un lefel â Bangor a Chaernarfon. Gallai hyn fod yn bwysig o ran cynllunio trafnidiaeth gyhoeddus, addysg a phethau eraill sydd mor hanfodol yn ein hardal.

Rory Francis