17.10.22

UNMAN YN DEBYG I GARTREF...

Yn ogystal â thudalen flaen ein rhifyn diwethaf [Airbnblaenau], mae’r mater o ail gartrefi a llety gwyliau wedi cael cryn sylw yn y wasg Gymraeg a Chymreig yn ddiweddar, gyda’r ymateb yn aml yn ennyn teimladau ac emosiynau cryfion. Yma yng Ngwynedd, mae 40 y cant o’r cartrefi a werthir ar y farchnad yn cael eu prynu i’r perwyl yma. 

Edrychwyd yn fras iawn yn rhifyn Gorffennaf-Awst ar un agwedd o hyn – tai ‘Airbnb’, gyda’r newid cymdeithasol sydd yn aml yn deillio o hynny. Y mis hwn dyma fwrw’r rhwyd ychydig yn ehangach. 

Isod fe geir tabl diddorol iawn o rai o ffigyrau Cyngor Gwynedd. Mae’r ochr chwith (melyn) yn dangos y newid a fu mewn ail gartrefi ers cyflwyno dwbl treth cyngor arnynt. Mae’r ochr dde (gwyrdd) yn dangos y newid a fu mewn llety gwyliau yn ystod yr un cyfnod o bymtheg mis. 


Yr hyn sy’n ddifyr yw bod niferoedd yr ail gartrefi wedi syrthio ers codi treth cyngor dwbl ar y perchnogion. Ond, yn ddadlennol iawn, mae nifer y tai gwyliau hunan arlwyo wedi codi – gyda’r cynnydd yma yn cyfateb yn aml iawn yn union i’r lleihad cyfatebol yn nifer yr ail dai. Wyth ail gartref yn llai ym Mowydd a Rhiw, ond wyth llety gwyliau yn fwy. Pump ail gartref llai yn Niffwys a Maenofferen ond pum llety gwyliau yn fwy. Wrth gwrs, heb durio ymhellach i’r ffigyrau hyn, mae’n amhosib gwybod a oes yna berthynas uniongyrchol rhwng y ffigyrau hyn – a yw’r holl ailgartrefi blaenorol hynny i gyd wedi eu troi yn llety gwyliau, neu a yw’r cynnydd mewn llety gwyliau yn deillio o droi tai eraill yn llety gwyliau. 

Ond bid a fo am hynny, mae yna duedd, a phatrwm, sy’n dangos nad yw lleihau niferoedd ail-gartrefi ynddo’i hun yn datrys rhyw lawer ar y problemau tai y mae cynifer o’n hardaloedd yn ei hwynebu. Diolch i’r drefn, mae gan awdurdodau lleol rymoedd bellach, ar ôl cryn bwysau cymdeithasol, sy’n rhoi rheidrwydd i gael caniatâd cynllunio cyn troi tŷ yn llety gwyliau. 

Gadawn inni yn awr ystyried yr honiad a glywir yn aml y byddai llai o ail gartrefi yn golygu mwy o dai i bobl leol eu prynu. Dyma haeriad y mae’r Athro Simon Brooks yn ei drafod yn ei ddogfen ragorol ‘Ail gartrefi – datblygu polisïau newydd yng Nghymru’ (2021). Mae yna elfen o wirionedd yn hyn. 

OND – ac mae hyn yn ond go fawr – byddai’r tai hyn ar y farchnad agored, yn rhydd i unrhyw un o gwbl eu prynu. Byddai pobl leol felly yn gorfod cystadlu amdanynt, a hynny yn aml yn erbyn prynwyr o ffwrdd sydd â llawer mwy o gyfalaf. Does dim dal felly y cai ail-gartrefi eu prynu gan bobl leol, a hyd yn oed os mai pobl leol fyddai’n eu prynu, pwy fydd yn prynu’r tai y maen nhw wedi symud ohonynt, ac yn y blaen ac yn y blaen ar hyd y gadwyn. A chan fod poblogaeth naturiol Cymru, yn ôl ffigyrau’r cyfrifiad, yn gostwng, a nifer y tai yn cynyddu, y gwir amdani bellach yw nad oes yna ddigon o ‘bobl leol’ i lenwi pob tŷ mewn ardal beth bynnag. 

A dyma ddod at y cwestiwn tyngedfennol. Beth sydd orau felly i barhad y gwareiddiad Cymraeg yn y cornelyn hwn o’r cread, neu o leiaf, beth sydd leiaf andwyol iddo:
> Cael ail gartrefi, y gall eu perchnogion fod yn Seisnigo’r fro am rai penwythnosau’r flwyddyn?
> Bod yr ail dai hyn yn dai gwyliau, gan hyrwyddo rhagor o or-dwrisitaeth, fel y cydnabyddir sydd yn y rhan fwyaf o orllewin Cymru bellach.
> Bod yr ail gartrefi yn cael eu gwerthu ar y farchnad agored, gan hyrwyddo mewnlifiad parhaol, a Seisnigo beunyddiol. 

Mi wn i yn wir am un dyn sydd wedi gwerthu ei gartref ‘cyntaf’ yng nghanolbarth Lloegr ac sydd wedi symud i’w ‘dŷ haf’ yn barhaol – gan frolio ei fod wedi osgoi ‘dwbl treth’ Cyngor Gwynedd. Rhaid ei oddef yn awr bob dydd o’r pedwar tymor, yn hytrach na rhyw chwe gwaith y flwyddyn. A beth am yr ail gartrefi hynny sydd yn nwylo siaradwyr Cymraeg? Pobl sydd wedi etifeddu tŷ ym mro eu mebyd ac eisiau cadw cyswllt â’r ardal? Neu sydd efallai yn rhannu eu hamser rhwng dau le efo’u gwaith? A yw hi wir yn fanteisiol gweld y tai hyn yn mynd ar y farchnad agored i’w prynu gan unrhyw un? Dyma ddangos natur amlweddog y broblem dai sy’n wynebu ein hardaloedd, a’r hyn sy’n weddill o’r cadarnleoedd Cymraeg yn arbennig.  

Yn Ardal y Llynnoedd yng ngogledd Lloegr, ac ym Mharc Cenedlaethol Dyffrynnoedd Swydd Efrog, ceir amod meddiannaeth leol, sy’n golygu y blaenoriaethir pobl leol yn y farchnad dai. Ar rai o ynysoedd y sianel, fe geir dwy farchnad dai, un ‘leol’ ac un ‘agored’. Nid Cymru mo’r ardaloedd hyn wrth gwrs, ond maent yn esiamplau o ddangos beth sy’n bosib ei wneud efo dipyn o weledigaeth a rhuddin a grym deddfwriaeth. 

Credaf, heb ymyrraeth bellach, nad yw’r mân dincran a wnaed hyd yma efo’r farchnad dai yn ddim ond dianc ar Glwyd a boddi ar Gonwy. Neu o gymhwyso’r idiom i’r fro hon – yn fater o ddianc ar Gynfal a boddi ar Goedol.  
Glyn Lasarus Jones

- - - - - - - - - - 

Ymddangososdd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2022


1 comment:

  1. Erthygl ardderchog gan Glyn, sy'n agor ein llygaid o ddifri' i'r broblem ail dau yn ein cynefinoedd.

    ReplyDelete

Diolch am eich negeseuon