Erthygl gan Glys Lasarus Jones
Mewn adroddiad yn y Daily Post ychydig yn ôl, cyhoeddwyd fod yna gynifer â 321 o dai ‘Airbnb’ ym Mlaenau Ffestiniog. Mae’n debyg fod ‘Blaenau Ffestiniog’ yn cynnwys y pentrefi cyfagos hefyd - Llan, Gellilydan a Maentwrog a Thrawsfynydd. Mewn ffordd – holl ddalgylch Llafar Bro.
Ond beth bynnag am faint yr union ardal dan sylw, mae’r nifer yn rhyfeddol o uchel, o ystyried mai dim ond 37 o lety airbnb sydd gan Feddgelert, ac mai dim ond 322 sydd yn ardal y llynnoedd gyfan yng ngogledd Lloegr.
Cwmni Americanaidd yw Airbnb a sefydlwyd gan ddau gyfaill a gafodd y syniad o roi gwely aer ar lawr eu parlwr a chynnig llety gwely a brecwast. A dyna esgor ar enw’r cwmni, ac ar y model gwreiddiol o osod lle gwag yn eich tŷ i ymwelwyr, a gwneud ychydig bres poced drwy hynny. Ac mewn ffordd, does dim byd newydd yn hynny. Bu amryw o’r hen Gymry yn ‘cadw fisitors’ yn eu cartrefi yn ystod yr haf er mwyn dod ag ychydig arian ychwanegol i’r aelwyd. Hwyrach mai ‘twristiaeth gynaliadwy’ yw’r enw modern ar hynny?
Fodd bynnag, gyda llwyddiant aruthrol cwmni Airbnb, gwelwyd twf yn nifer y bobl yn prynu tai i’w gosod allan yn unswydd i ymwelwyr. A gyda hyn daeth sgileffeithiau eraill. Mewn adroddiad a gyhoeddwyd yn 2017 er enghraifft, canfuwyd fod cynyddu niferoedd llety airbnb o 10% mewn ardal yn gyfrifol am chwyddo rhenti wrth 0.4 % a phrisiau tai wrth 0.76%. Efallai yr ymddengys y canrannau hyn yn bitw, ond i’w rhoi mewn cyd-destun – os yw nifer y tai airbnb yn codi o 4 i 8 mewn ardal, byddai tŷ yn codi 4 y cant yn ei rhent a 7.6% yn ei bris gwerthu.
Problem arall a welwyd yw diffyg cartrefi i’w rhentu wrth i fwy o bobl ddewis droi eu tai yn lleoedd gwyliau. Ac o synnwyr busnes di-gydwybod, mae’n gwneud perffaith synnwyr – pam bodloni ar £500 y mis drwy osod tŷ i drigolion hirdymor, pan ellid cael £500 yr wythnos o’i osod i ymwelwyr? Ac ar y pegwn eithaf, gwelwyd pobl yn cael eu troi o’u tai gan fod ar y landlord eisiau gosod y tŷ fel airbnb.
Gwelwyd protestiadau am effeithiau negyddol fel y rhai hyn mewn dinasoedd fel San Francisco a Barcelona, a gwelwyd y dinasoedd hynny’n ymateb drwy gyflwyno rheoliadau llym. Y llynedd, er enghraifft, bu i Barcelona wahardd gosod ystafelloedd mewn cartrefi yn llety gwyliau dros dro, a hyn yn ychwanegol at roi’r gorau i gyflwyno rhagor o drwyddedau sy’n caniatáu troi adeilad yn llety i ymwelwyr.
Yma’n benodol yn nalgylch Llafar Bro, gwelsom y newid diwylliannol sy’n dod gyda throi tai yn llety gwyliau, gyda llawer yn cael eu hailfedyddio ag enwau estronol digon cyfoglyd. Aeth Pen y Cae yn ardal Fuches Wen o’r Blaenau yn ‘Stars and Clouds Cottage’, aeth Tyddyn Cwtyn gerllaw yn ‘Waterfall Cottage’, ac aeth un o fythynnod Tan y Rhos ar y ffordd allan o’r Blaenau i gyfeiriad Llan yn ‘Under Moor’. Ceir hyd yn oed ‘Explorer’s Cottage’ yn Nhanygrisiau.
Wrth i Lafar Bro fynd i’r wasg, daeth newyddion o’r Senedd yng Nghaerdydd am fesurau newydd fydd yn rhoi grymoedd i awdurdodau lleol fynnu caniatâd cynllunio i droi cartref yn llety gwyliau, fel modd o reoli eu niferoedd. Mae ffordd bell i fynd eto, a does dim gwadu fod y broblem yn un gymhleth iawn. Serch hynny, gobeithio y bydd y mesurau newydd hyn yn fodd o gadw gwell cydbwysedd rhwng twristiaeth a’r manteision economaidd y mae’n ddiau yn eu cynnig, a galluogi cymunedau i fyw a ffynnu.
- - - - - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol ar dudalen flaen rhifyn Gorffennaf-Awst 2022.
Ail ran, o rifyn Medi.
(Lluniau: nid yw manylion hawlfraint y lluniau yn hysbys. Daeth yr ail o dudalen facebook Hawl i Fyw Adra. Os mae chi yw'r ffotograffydd ac yn anfodlon i ni rannu, neu eisiau ychwanegu eich enw, cysylltwch â ni. Diolch)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon