Nos Fercher, Mai 20fed cynhaliwyd cyfarfod olaf y tymor yn Ysgol Maenofferen, a daeth Cadi Dafydd atom i drafod pwnc na fu erioed cyn hyn yn destun sylw yn y Gymdeithas sef Hunanladdiadau a Salwch Meddwl ym Mro Ffestiniog rhwng 1875-1913.
Testun sensitif a phoenus i nifer ond trafododd Cadi'r testun yn gampus ac yn ysgolheigaidd ac roedd cynulleidfa dda wedi ymgasglu i wrando arni. Mae Cadi yn adnabyddus i nifer fawr yn y dref gan iddi gael ei magu yng Nghwm Teigl, mynychu Ysgol Bro Cynfal yn Llan cyn dringo Ysgol y Moelwyn ac yna ymlaen i’r Coleg.Ar ôl treulio tair blynedd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn astudio BA mewn Llenyddiaeth a Hanes Cymru, a derbyn gradd anrhydedd dosbarth cyntaf, aeth ymlaen i gwblhau MA mewn Hanes Cymru yno.
Fel rhan o’r MA bu’n gweithio ar ei hoff bwnc sef hanes, oedd yn caniatáu iddi dreulio cyfnod ar brofiad gwaith ym myd hanes a threftadaeth. Treuliodd bythefnos yn Archifdy Meirionnydd, yn Nolgellau, a thridiau gyda Pharc Cenedlaethol Eryri yn catalogio a threfnu casgliad Yr Ysgwrn.
Roedd y sgwrs heno yn deillio o’i thraethawd MA: Salwch Meddwl a Hunanladdiad yn ardal Chwarelyddol y Gogledd, 1875-1913. Mae Cadi hefyd yn adnabyddus fel gohebydd cyffredinol gyda’r cylchgrawn Cymraeg Golwg ac yn cyfrannu erthyglau yn wythnosol i’r cylchgrawn cenedlaethol hwnnw [ac yn un o dîm golygyddol Llafar Bro -gol]. Heno cyhoeddodd ei bod wedi derbyn gwaith ychwanegol gyda Chwmni Bro Ffestiniog ar y cynllun Llechi Byw fydd, gobeithio yn denu gwobr i’r dref dan gynllun Tref Ddiwylliannol y llywodraeth.
Cawsom beth o ffrwyth ei hymchwil ac enghreifftiau o achosion a hefyd y driniaeth y byddai unigolion yn ei ddisgwyl a’i dderbyn. Dechreuodd gyda hanes trist William Jones, Melin Pengwern, Cwm Teigl a fu farw yn 1896 wedi cyfnod o iselder ysbryd. Ni ddefnyddiwyd y gair hunanladdiad mewn adroddiadau papur newydd hyd tua 1911. Aeth ymlaen i nodi nifer yr achosion a sut oedd y rhain yn cael eu hadlewyrchu yn ôl oedran a gwaith. Soniodd am waith arloesol Pamela Michael yn lleol yn y maes hwn a’i llyfr dylanwadol Care of the Mentally Ill in North Wales 1800-1920. Mae’r llyfr wedi cynhyrchu portread, wedi'i ysgrifennu'n ofalus ac yn glir, o ofal a thriniaeth ar gyfer salwch meddwl sy'n gyfraniad pwysig i'r llenyddiaeth gynyddol yn y maes.Soniodd Cadi am y modd yr oedd y marwolaethau yn cael eu trin yn y wasg gan ddefnyddio tri achos o foddi yn Llyn Ffridd y Bwlch fel enghraifft.
Rhoddodd wybodaeth i esbonio pam fyddai hyn yn digwydd fel canlyniad i salwch meddwl, iselder a thlodi. Soniwyd am gyfraniad yr Ysbyty Meddwl yn Ninbych i’r maes lle'r oedd modd cael triniaeth ar gyfer salwch meddwl … triniaeth oedd yn cyd-fynd efo’r wybodaeth oedd ar gael bryd hynny. Roedd hwn yn sefydliad, ar goel llafar gwlad, oedd yn gyfystyr a seilam a bedlam. Caewyd y drysau yno yn 1995 ar ôl canrif a hanner o feindio pobl oedd yn byw efo salwch meddwl am dros ganrif a hanner.
Noson i’w chofio felly a chafwyd ymateb diddorol gan y gynulleidfa ac atgoffwyd y gynulleidfa fod cymorth i’w gael yn Gymraeg ar ben ffôn gan y Samariaid os bydd rhywun angen help: 0808 164 0123.
Tymor llwyddiannus arall. Bydd y tymor newydd yn dechrau Hydref 22ain ond ceir gwybodaeth lawn am ddarlithoedd y Gymdeithas yn rhifyn Medi, Llafar Bro. Bydd croeso i bawb wrth gwrs … mae’r gynulleidfa yn cynyddu a gwnewch chithau hefyd yn siŵr eich bod yn rhan o’r twf diddordeb sydd yma yn y dref.
Diolchodd y Cadeirydd i Gareth a Gwennan Jones am drefnu rhaglen ddifyr
dros y tymor ac ymatebodd y gynulleidfa gyda bonllef o gymeradwyaeth! A
haeddiannol iawn hefyd.
Tecwyn Vaughan Jones
- - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2026


No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon