Showing posts with label Y Pigwr. Show all posts
Showing posts with label Y Pigwr. Show all posts

18.10.24

Y Pigwr- Tai Lleol

Daeth newyddion syfrdanol fod Menter Gymunedol Penmachno wedi sefydlu Grŵp Tai Fforddiadwy, ac am fynd ati i gyflogi swyddog i brynu tai gweigion yn y plwy’, a’u gosod ar rent i bobl leol. 

Mae’n wybodaeth gyffredinol ers tro bod Bro Machno yn ardal lle gwelir y canran uchaf o dai haf yn sir Conwy, a’r iaith Gymraeg yn y lleiafrif yn y plwy’ bellach. Er i nifer geisio darganfod modd i wyrdroi’r sefyllfa dros y blynyddoedd, dirywio wnaeth y sefyllfa, gyda phrisiau tai allan o gyrraedd y bobl leol oedd yn dymuno aros yn eu cymuned. 

Fel y gwyddoch, er i rai ohonom rybuddio, flynyddoedd yn ôl y byddai sefyllfa debyg i hynny ddatblygu yn ein hardal ni, a thai yn cael eu prynu fel tai haf ac AirBnBs gan estroniaid, anwybyddu’r rhybuddion wnaed. Erbyn hyn, fel sy’n hysbys i bob un ohonom, siawns, mae’n hen ffordd o fyw, ein hiaith a’n diwylliant mewn peryg’ mawr oherwydd y datblygiadau afiach hynny.     

Rali 'NID YW CYMRU AR WERTH' yn y Blaenau, Mai 2024

Ond daw achubiaeth atom, gyda chynlluniau arloesol ein cymdogion agos o ‘dros y mynydd’ yn cynnig ysbrydoliaeth i unigolion, mudiadau a’r cyngor lleol i ddod i’r afael â mater sydd wedi bod yn bwnc llosg ers sawl blwyddyn. Os gall criw bychan, angerddol, o bentre’ bychan cyfagos benderfynu mai digon yw digon, a chychwyn menter fydd yn achubiaeth i’n hen ffordd o fyw, siawns na fedr cynghorwyr dewr a gweithgar y fro hon wneud rhywbeth tebyg? Siawns nad oes yma ddigon o unigolion sy’n ddigon parod i sefyll ar eu traed, a mynnu sefydlu cynllun tebyg ym Mro Stiniog? 

Byddai’r di-gartref, a phobl ifainc ein hardal yn fythol ddiolchgar am gael to uwch eu pennau yn eu cynefin eu hunain. Felly, hoffwn awgrymu, yn sgil y datblygiadau cyffrous ym Mhenmachno, i gynghorwyr ac eraill sydd o’r un anian ag aelodau Menter Gymunedol a chynghorwyr blaenllaw’r pentre’, geisio mwy o wybodaeth ar sut i gychwyn menter o’r fath yma yn Mro Stiniog. 

Ewch ati bobl annwyl. Bydd cenedlaethau’r dyfodol yn eich mawrygu hyd ddydd y farn.
- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2024

Unman yn debyg i gartref. Sefyllfa Bro Stiniog, o rifyn Medi 2022

22.10.23

Barn ar Dreftadaeth Llechi

Dau ddarn o rifyn Medi 2023

Colofn y Pigwr

Daeth copi o bapur newyddion Cyngor Gwynedd drwy dwll llythyrau trigolion yr ardal hon ychydig wythnosau’n ôl. Ar y dudalen flaen gwelir pennawd a fyddai’n codi calonnau darllenwyr, yn sicr. Dyma ddywed y geiriau gobeithiol hynny:

‘Tair ardal i elwa ar hanes y chwareli’.

Dyma’r math o eiriau ddylent fod yn ysbrydoliaeth i ardalwyr canolfannau llechi’r gogledd, gan gynnwys ni, breswylwyr prifddinas llechi’r byd, Blaenau Ffestiniog. Ond arhoswch funud, a darllenwch yn fanwl yr hyn sydd gan yr ‘arbenigwyr’ honedig ar ddosbarthu arian a ddaw i goffrau cymunedau’r garreg las dan gynllun a elwir yn ‘Llewyrch o’r Llechi’.  

Llun- Paul W
Cadwch mewn cof mai ‘dan arweiniad Cyngor Gwynedd’,  wedi i’r Cyngor hwnnw dderbyn cymorth ariannol o Gronfa Ffyniant Bro y Llywodraeth, y daeth y newyddion da i olwg y cyhoedd. £26 miliwn yw’r swm a glustnodwyd ar gyfer gwaith megis, a dyfynnaf eto... ‘trawsnewid Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis; sefydlu canolfannau dehongli ac ymgysylltu ym Methesda a Blaenau Ffestiniog’... ynghyd â briwsion eraill.

Fel y gwyddom, bu’r Gymdeithas Hanes leol yn y Blaenau wrthi ers blynyddoedd yn ceisio argyhoeddi Llywodraeth Cymru ac Amgueddfa Cymru o bwysigrwydd cael Canolfan Dreftadaeth i’r dre’ – PRIF Ganolfan lechfaol y BYD!  Ond er cynnal nifer fawr o gyfarfodydd, llawn siarad gwag yn aml, gyda swyddogion dylanwadol o’r ddau sefydliad uchod, dal i aros yr ydym am gymorth tuag at gael codi adeilad haeddiannol i gofio am gyfraniad y chwareli, a’u gweithwyr, tuag at economi’r ardal, Cymru a Phrydain dros y blynyddoedd. Onid yw’r fro hon, oedd unwaith yn cyflogi bron i bum mil yn ei chwareli niferus (mwy na sy’n byw yma bellach!) yn deilwng o gael y gydnabyddiaeth y mae yn ei haeddu?

A pham rhoi blaenoriaeth i bentre’ Llanberis dros dref oedd yr ail fwyaf, ar ôl Wrecsam o ran poblogaeth, dechrau’r 20fed ganrif? Onid rhwbio halen i friw oedd datblygu’r amgueddfa yn Llanberis, ac yn waeth fyth y sarhad o chwalu rhes o dai chwarelwyr gynt yn Nhanygrisiau yn y 1990au, a’u hailgodi ar safle’r amgueddfa newydd yn Llanbêr. Onid yw’n amser i gynghorwyr, tref a sir, a chynrychiolwyr eraill i fynd ati i ofyn sawl cwestiwn perthnasol, er lles ein cymuned yma?  

Mae angen atebion i ambell ddatganiad gan ‘arweinwyr’ y Cyngor Sir, parthed datganiadau yn yr erthygl yn ‘Newyddion Gwynedd’.  Yn gyntaf, beth yw’r cynlluniau i ‘drawsnewid Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis’, a faint o gyfran o’r £26 miliwn o bunnoedd fydd hynny?  

Yn ail, a chwestiwn pwysig i ni ym mhlwy’ Ffestiniog, beth yw'r ‘canolfannau dehongli’ a fwriedir i’w codi yma ac ym Methesda, a faint o gyfran o’r arian mawr gaiff ei neilltuo ar gyfer hynny tybed? Byddai’n newyddion aruthrol o dda cael gwybod mai Canolfannau Treftadaeth, yn cael eu rhedeg dan nawdd Amgueddfa, neu Lywodraeth Cymru fyddai’r ateb. Ystyriwch hyn: Oni fyddai’r math hyn o ddatblygiad yn fendith hir-ddisgwyliedig i economi Blaenau Ffestiniog, a’i phobl, wedi gorfod diodde’ dirywiad anferthol yn ei heconomi, ar bob lefel. Nid wyf am ddechrau cofnodi ystadegau’n ymwneud a’r dirywiad a ddaeth heibio’r hen dre’ dros y blynyddoedd diweddar, ond mae’r cyfnod fel cymdeithas drefol lwyddiannus wedi mynd heibio ers tro.

Bu i aelodau o’r Gymdeithas Hanes gyfarfod â swyddogion yn cynrychioli Llywodraeth Cymru a’r Amgueddfa Lechi, Llanberis yn ddiweddar, a chael gwybod bod cymaint â thros 30 yn cael eu cyflogi yn amgueddfa Llanberis bob haf, a miloedd o ymwelwyr yn dod yn eu ceir a’u bysiau yno’n swydd bwrpas i gael hanes y diwydiant oedd mor flaenllaw yno. Na, dim sôn am gyfraniad chwarelwyr Blaenau Ffestiniog i’r diwydiant hwnnw o gwbl. Onid ydi’n hen bryd i gyfraniad y gweithwyr diwyd rheiny gael ei gydnabod deudwch?  A fyddai’n ormod disgwyl i chithau, ddarllenwyr brwd Llafar Bro i roi pin ar bapur a chysylltu â’r sefydliadau ac unigolion sy’n euog o gau llygaid i sefyllfa echrydus eich annwyl gynefin?

Mae Blaenau Ffestiniog, fu unwaith yn dref lewyrchus iawn, gyda dyfodol disglair iddi yn wirioneddol grefu ar rywun ddechrau gwrando, cyn iddi fynd yn rhy hwyr.  Pigwr

Be ydych chi’n feddwl? Ydych chi’n cytuno efo’r Pigwr? Gyrrwch air! -Gol.

- - - - - - -

Tai Fron Haul

Dair blynedd yn ôl roedd yr Amgueddfa Lechi yn ‘dathlu’ symud tai Fron Haul o Danygrisiau i Lanberis, ac fe gyhoeddwyd llawer o'u deunydd hyrwyddo yn rhifyn Medi 2020 Llafar Bro.

Roedd son bryd hynny am osod bwrdd dehongli ar safle gwreiddiol y tai, ond hyd yma, does dim golwg o unrhyw weithgaredd ar y safle, ac mae cyflwr truenus yno.

Mi holodd Llafar Bro nhw ynglŷn â'u bwriad -neu beidio- i osod bwrdd gwybodaeth ar y safle. Meddai pennaeth yr Amgueddfa:

“Yn dilyn y prosiect yr ydych yn cyfeirio ato, bu trafodaeth ynglŷn â gosod bwrdd dehongli neu blac ar safle gwreiddiol tai Fron Haul. Trefnwyd cyfarfod efo’r cynghorydd tref, lle cadarnhawyd bod y tir mewn dwylo preifat. Bu mwy nag un ymgais i gysylltu â’r perchennog er mwyn symud ymlaen, ond yn anffodus ni fuom yn llwyddiannus.
Rydym yn parhau i fod yn gefnogol i’r syniad o osod plac. Fe awn ati i edrych eto ar ddatrysiad posib.”

Cyflwr y safle yn 2023. Lluniau- Paul W


18.3.23

Y Pigwr- dyfodol Bro Stiniog

Ydych chi’n cofio’r Pigwr?  Yn dilyn anogaeth ambell ddarllenwr, daeth ychydig ysbrydoliaeth i roi ychydig eiriau ar bapur i geisio codi ymwybyddiaeth o anghyfiawnderau’r cyfnod anodd hwn. 

Da oedd darllen am gynlluniau’r cwmni llechi Welsh Slate i "ailagor dwy chwarel leol", a chreu 19 swydd newydd ynddynt. Yn anffodus, nid yw’n hollol glir ym mha ran o’r plwy’ y mae’r chwarel "Ffestiniog" dan sylw, ac mae Cwt-y-bugail, dros y ffin ym mhlwy Penmachno, wedi bod ar gau ers degawdau (ac yn yr ardal warchodedig bellach! -Gol). 

Yr Oclis a Gloddfa Ganol, o wefan Welsh Slate

Beth bynnag, mae’r arwyddion yn newyddion da, a diolch i’r cwmni am fuddsoddi yma. Ond wedi meddwl, mae tipyn o ffordd i fynd i geisio ailgodi’r hen dre ‘ma yn ei hôl i’r hyn a fu. 

Pan ystyriwch fod 4 mil o weithwyr yn gweithio’n chwareli Stiniog yn y 19eg ganrif, a phoblogaeth y plwy yn agos i 12,000 ar droad yr 20fed ganrif, i’w gymharu â’r 4,500 sydd yma ar hyn o bryd. Ia, dyna chi, yr ail boblogaeth uchaf yng ngogledd Cymru, ar ôl Wrecsam yn 1901 – yn uwch na Llandudno, Bae Colwyn, Rhyl, Bangor, a’r gweddill y cyfnod! Bu’r dirywiad yr aruthrol, a’i effaith wedi gadael sawl marc ar ein cynefin. 

Mae’r effeithiau i’w gweld y hollol glir i ni, sy’n cofio dyddiau tipyn gwell, cyn i griw Thatcher ddechrau newid y drefn o lywodraeth leol yn 1974. Mae nifer o wleidyddion wedi cau llygaid ar effeithiau’r dirywiad ar ddyfodol Blaenau Ffestiniog fel y dref ddiwydiannol, fasnachol, lwyddiannus yr oedd ar un adeg. 

Mae ambell ddamcaniaeth yn honni bod yr hyn sydd wedi digwydd yma wedi ei gynllunio’n fwriadol, gan y rhai sy’n rheoli o bell, fel rhan o’r plan i ladd cymunedau Cymraeg eu hiaith. Pan feddyliwch amdano, ystyriwch  hanes y cymunedau Cymraeg hynny i gyd dros y blynyddoedd diweddara’. Onid yr un yw tynged pob un ohonynt? Diffyg gwaith i gadw’r bobl ifainc yn eu cymunedau, a’u gorfodi i symud oddi cartre i ennill eu bara menyn. Hynny’n cyfrannu at dai gweigion yn cael eu gwerthu i estroniaid, am brisiau na fedrai’n hieuenctid fforddio’u prynu erbyn hyn.

A gwyddoch yn iawn, siawns, ganlyniadau hynny ar y fro parthed tai haf ac Air B&Bs sydd i’w gweld yn eu hugeiniau o’n cwmpas. Dim ond gobeithio y bydd y cynlluniau diweddar i greu swyddi yn ddechrau’r adfywiad. Roedd erthygl tudalen flaen Llafar Bro fis Ionawr parthed sefyllfa’r iaith Gymraeg yn ein bro yn agor ein llygaid i’r sefyllfa.  Deffrwch bobol annwyl, cyn iddi fynd yn rhy hwyr o ddifri’!

Pigwr

- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2023